Agenda item

Strategaeth Toiledau Lleol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darparu Toiledau.

 

Dywedodd fod toriadau sylweddol wedi cael eu cyflwyno i gyllidebau toiledau cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Er mwyn sicrhau'r arbedion hyn, cafodd toiledau eu cau neu eu trosglwyddo fel bo modd eu cadw ar ryw ffurf.  Er mwyn sicrhau arbedion ariannol fodd bynnag, cynhaliodd y Cyngor ymgyngoriadau cyhoeddus yn 2007, 2015 a 2018, a asesai farn y cyhoedd ynghylch darpariaeth toiledau.

 

  Ailgyflwynwyd 'Cynllun Cysur' y Cyngor yn 2015 i wrthweithio effeithiau cau toiledau cyhoeddus, ond nid yw busnesau lleol wedi gwneud defnydd helaeth o'r cynllun.

 

Aeth yn ei flaen drwy gadarnhau bod Llywodraeth Cymru, yn 2018, wedi cyhoeddi Darparu Toiledau yng Nghymru: Strategaeth Toiledau Lleol, a oedd yn ei gwneud hi’n ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer eu hardal erbyn 31 Mai 2019. Nid oedd y ddyletswydd ynddi ei hun yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus ei hun, ond roedd hi'n ofynnol iddo fabwysiadu golwg strategol ar ei ardal o ran sut y gellid darparu'r cyfleusterau hyn a sut y gallai'r boblogaeth leol eu defnyddio. Bwriedir i hyn fod o gymorth er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cyfredol o ddarparu toiledau cyhoeddus mewn cymunedau. Mae'r ddarpariaeth honno'n aml wedi dibynnu ar  gyfleusterau annibynnol traddodiadol sydd wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd pwysau ariannol ar Awdurdodau Lleol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod dogfen ddrafft wedi cael ei hanfon at yr holl bartneriaid a'r busnesau sy'n darparu eu toiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd, a bod manylion eu cyfleusterau wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2019.

 

Roedd y Strategaeth Toiledau Lleol derfynol ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A. Roedd y Strategaeth honno'n cynnwys gwybodaeth a oedd yn cydweithredu a'u cyfleusterau. Roedd map a oedd hefyd wedi'i atodi i'r adroddiad yn dangos dosbarthiad y toiledau cyhoeddus hyn, ac roedd yr wybodaeth ar ffurf tabl yn dangos pa gyfleusterau oedd ar gael, a'u horiau agor.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod rhai toiledau cyhoeddus yn cael eu cynnal gan Gynghorau Tref/Cymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac/neu drwy bartneriaeth neu ddulliau cydweithredol eraill cysylltiedig, ac mai pwrpas pennaf y Strategaeth oedd hysbysu'r cyhoedd am y trefniadau a oedd ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol o ran cyfleusterau toiledau cyhoeddus, yn hytrach na hysbysu pa gyfleusterau a ddarperir gan CBSPO. Yr oedd yn falch o nodi'r gefnogaeth gan sefydliadau partner sy'n darparu cyfleusterau toiled mewn mannau yr ymwelir â hwy'n aml gan y cyhoedd, er enghraifft T? Bryngarw (gan Arwen), Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Halo), Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr (Network Rail), ymhlith eraill.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y safbwyntiau hyn, a dymunodd gofnodi ei ddiolch i'r pedwar prif Gyngor Tref, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Porthcawl a Maesteg yn arbennig, am roi cefnogaeth annibynnol i gadw cyfleusterau toiled cyhoeddus yn agored, a dywedodd fod gwobr wedi'i hennill am y cyfleuster ym Mhencoed.

 

PENDERFYNWYD:                           Bod y Cabinet yn cymeradwyo:

 

(1)  Y Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017:  Darparu Toiledau.

(2)  Cynnal adolygiadau rheolaidd, fel y nodir yn yr adroddiad.

        

Dogfennau ategol: