Agenda item

Pafiliwn Cae Hamdden Pencoed

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo i neilltuo cyllid o'r gronfa gyfalaf £1 miliwn a sefydlwyd i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, fel bo modd gwneud gwaith trwsio hanfodol ar y Pafiliwn yng Nghae Hamdden Pencoed, cyn rhoi les i Gyngor Tref Pencoed.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi hanes yr adeilad, a chadarnhaodd y Prif Weithredwr fod defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud defnydd helaeth ohono, a bod Clwb Rygbi a Phêl Droed Pencoed, Clwb Pêl Droed Athletig Pencoed, Cylch Chwarae'r Pafiliwn, Gr?p Tai Dol a Byd Bach Canol Bro Morgannwg a Halo Leisure yn llogi'r cyfleuster yn rheolaidd.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Weithredwr at baragraffau 3.3 a 3.4 yn yr adroddiad, a oedd yn cadarnhau bod y Pafiliwn wedi cael ei ddifrodi'n ddrwg oherwydd storm, ac y bu'n rhaid cau'r ystafelloedd newid i ddefnyddwyr chwaraeon, gan barhau i ddefnyddio'r ystafelloedd a oedd yn weddill yn y cyfleuster.  Ar ôl cynnal archwiliad pellach, fodd bynnag, bu'n rhaid cau'r adeilad cyfan yn ddiweddarach am resymau iechyd a diogelwch.

 

Yna cynhaliwyd Arolwg o Gyflwr y Pafiliwn, a nodwyd y byddai angen gwario £260k ar yr adeilad dros y 10 mlynedd nesaf, gyda £196k yn cael ei wario yn y 5 mlynedd cyntaf, a £115k o'r gwariant hwnnw yn y 2 flynedd gyntaf. Roedd Atodiad B yn dangos y math o waith yr oedd angen ei gyflawni ar yr adeiladwaith.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi neilltuo cyllid cyfalaf o oddeutu £1 miliwn tua 5 mlynedd yn ôl ar gyfer gwaith ar Barciau a Phafiliynau i ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC), ac esboniodd fod cwmpas y cyllid hwnnw wedi'i  ehangu'n ddiweddarach o dan Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, i gynnwys ystod ehangach o gyfleusterau cymunedol. Serch hynny, nid oedd cyllid ond wedi cael ei neilltuo ar gyfer 2 brosiect o'r ffynhonnell hon.

 

Yn adran nesaf yr adroddiad, cadarnhawyd bod Cyngor Tref Pencoed wedi mynegi diddordeb mewn trosglwyddo'r Pafiliwn fel Ased Cymunedol, er mwyn ailagor yr adeilad o dan drefniant les, gyda'r gallu i ymestyn y les honno. Roedd gwybodaeth am y gwaith yr oedd angen ei gyflawni ar yr adeilad a thelerau eraill, gan gynnwys telerau ariannol a chynnal a chadw, wedi'u hamlinellu ym mharagraffau 4.3 a 4.4 yr adroddiad.

 

Daeth y Prif Weithredwr â'i gyflwyniad i ben drwy roi crynodeb i'r aelodau o oblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod hyn yn newydd da.

 

Oherwydd yr arbedion yr oedd yn ofynnol i CBSPO eu canfod o dan ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ni allai'r Cyngor ddarparu'r un lefel o wasanaethau yr oedd yn arfer eu darparu i gynnal a chadw Pafiliynau Chwaraeon a Chanolfannau Cymuned ac ati. Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig cadw'r cyfleuster hwn ar agor, a bod llawer o resymau da iawn i gyfiawnhau hynny, gan gynnwys y ffaith bod sawl tîm o Glwb Rygbi a Phêl Droed Pencoed yn chwarae ar y caeau a wasanaethir gan y Pafiliwn, yn amrywio rhwng 7 oed a chwaraewyr h?n. Ychwanegodd y byddai defnydd parhaus o'r Pafiliwn yn cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

 

Adleisiodd yr Arweinydd ac yna'r Dirprwy Arweinydd y sylwadau uchod, a mynegodd yr Arweinydd ddiolch i Gyngor Tref Pencoed am eu cefnogaeth wrth ailagor y Pafiliwn.

 

PENDERFYNWYD:                    Y dylai'r Cabinet gymeradwyo y bydd y Cyngor yn gyfrifol am yr holl waith trwsio hanfodol y mae angen ei gyflawni ym Mhafiliwn Cae Hamdden Pencoed er mwyn sicrhau bod modd trosglwyddo'r adeilad i Gyngor Tref Pencoed mewn cyflwr sy'n cydymffurfio â'r safonau ar gyfer prydlesu o dan y rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol.  Cynigir ariannu'r gwaith adeiladu fel a ganlyn:

 

Ffynhonnell Cyllid

Swm

Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned 2019/20 (cymeradwywyd gan y Cabinet ar 16 Ebrill 2019)

£20k

Cyfraniad ariannol gan Gyngor Tref Pencoed

£20k

Gweddill yr arian o'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol

£75k

           

Dogfennau ategol: