Agenda item

Rhesymoli Gwasanaethau Bws a Gymorthdelir 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynnig i gyflwyno gostyngiad o £148,000 yng nghymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws, fel y cytunwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) a Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol drwy roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau teithio nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol. Mae'r ddarpariaeth hon yn gwasanaethu llwybrau teithio sy'n galluogi preswylwyr sy'n byw ar eu hyd i gyrchu swyddi, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.

Dywedodd mai cyllideb graidd CBSPO ar gyfer gwasanaethau bws a gymorthdelir oedd £202,600 yn 2018/19.  Roedd hyn yn cynnwys cymhorthdal untro a gytunwyd yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus 2018/19 ar fysus a gymorthdelir, lle cytunwyd y byddai tri llwybr teithio lleol  poblogaidd yn cael eu cynnal drwy gydol 2018/19.

£386,825 oedd y swm a ddyrannwyd i CBSPO gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bws (GCSB). Dyfarnwyd £84,394 o'r arian hwnnw i Drafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a'r gweddill, £302,431 i'w wario ar rwydwaith bysus strategol craidd y rhanbarth, a gwasanaethau cysylltiedig.

 

Oherwydd gostyngiad mewn cyllid sylfaenol a'r cyni ariannol parhaus, mae'r Cyngor wedi gorfod adolygu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu yn erbyn y blaenoriaethau a ddatganwyd ganddo. Mae cymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws yn cyfrannu'n sylweddol at sicrhau bod modd cynnal rhai gwasanaethau bws nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol. Serch hynny, mae'r maes gwariant hwn wedi'i nodi'n swyddogaeth nad oes rhaid ei chyflawni'n statudol, felly nodwyd targed arbedion o £148,000 yn y SATC ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.  Mae hyn y golygu nad oes unrhyw gyllideb gan y Cyngor i gymorthdalu gwasanaethau bws lleol yn 2019/20.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet ar 18 Medi 2018 yn nodi cynigion ar gyfer rhesymoli'r gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau bws ledled y fwrdeistref sirol, i gyd-fynd â'r trefniadau i ddileu'r gyllideb. Cymeradwyodd y Cabinet y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, ynghyd ag Asesiad Effaith Cydraddoldeb cyn cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet yn amlinellu canlyniadau'r ymgynghoriad, a chyn ystyried y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad a gwneud penderfyniad terfynol yn eu cylch. 

 

Wrth weithredu toriadau mewn cymhorthdal yn y gorffennol, roedd rhai cwmnïau wedi gweld hynny fel cyfle i ddiwygio proffil ariannol y llwybrau a gweithredu gwasanaethau a oedd gynt yn cael eu cymorthdalu ar sail fasnachol. Er enghraifft, yn sgil arbedion SATC 2018/19, cafodd pump o'r chwe llwybr teithio a oedd yn derbyn cymhorthdal cyn hynny eu cadw ar sail fasnachol, gan addasu neu leihau amlder y gwasanaeth. Yn yr un modd â'r gorffennol, nid yw'n glir a fydd gweithredwyr yn ymateb mewn modd tebyg eleni nes gweithredu'r cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl.

Roedd paragraff 3.8 yr adroddiad yn nodi'r llwybrau bws a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad.

Aeth y Prif Weithredwr yn ei flaen i ddweud bod ymgynghoriad wedi'i gynnal ar y cynnig i ddileu'r gwasanaeth er mwyn casglu safbwyntiau a barn pobl ynghylch effaith bosibl y gostyngiadau yr oedd angen eu gweithredu i gyd-fynd â gostyngiad o £148,000 i'r gyllideb yn 2019/20, yn rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

Roedd manylion llawn yr ymgynghoriad wedi'u hatodi i'r adroddiad, gyda rhai o brif bwyntiau'r adborth wedi'u trafod ym mharagraff 4.3 yr adroddiad cyflwyno.

Pwysleisiodd fod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn cynnig dull teithio arall i drigolion oedrannus ac anabl mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bws wedi'u tynnu'n ôl. Mae'r gweithredwr trafnidiaeth gymunedol leol (Trafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr) yn darparu ystod o wasanaethau i gyd-fynd ag amgylchiadau amrywiol, ond mae'r gwasanaeth yn llawn ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid cydnabod nad yw'n gallu ymateb i effaith tynnu'r cymhorthdal yn ôl yn y tymor byr.

Eglurodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd unrhyw Gynghorydd yn dymuno gwneud penderfyniad o'r fath, ond mai dyma oedd y realiti wedi i 10 mlynedd o gyni ariannol cenedlaethol a thoriadau enfawr effeithio ar gyllid y Cyngor.

Ymhell o gael gwared â bysiau neu lwybrau teithio bysiau, yr oedd yn dymuno cyfleu'n glir mai'r hyn yr oedd y cynnig yn ei olygu oedd bod y Cyngor yn rhoi'r gorau i ddarparu cyllid i gwmnïau preifat sy'n creu elw, fel eu bod yn cynnal gwasanaethau na fyddent yn bosibl fel arall gan fod cyn lleied o deithwyr yn defnyddio'r gwasanaethau hynny.

Ychwanegodd fod pump o'r chwe gwasanaeth a oedd eisoes wedi colli eu cymhorthdal yn parhau i gael eu gweithredu gan y cwmnïau bws, felly roedd tystiolaeth gref i awgrymu na fyddai'r cwmnïau'n tynnu'r holl wasanaethau'n ôl ar ôl i'r Cyngor roi'r gorau i ddarparu cymhorthdal ar eu cyfer.

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod hyn yn fater a drafodir ymhellach â gweithredwyr y bysiau, yn rhan o ymarfer monitro a gynhelir yn y dyfodol.

Anogodd drigolion y Fwrdeistref Sirol i barhau i ddefnyddio gwasanaethau bws, oherwydd byddai'r incwm a gynhyrchir yn sgil hynny o gymorth mawr i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau yn hytrach na chael eu cwtogi.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod rhesymoli gwasanaethau bws yn rhan o gynigion i leihau cyllidebau a oedd yn cyd-fynd â SATC y Cyngor. Ychwanegodd nad oedd ond angen 10 teithiwr sy'n talu ar wasanaeth, er mwyn iddo barhau i fod yn hyfyw.

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddweud nad oedd y Cyngor eto wedi sicrhau swm sylweddol o'r arbedion yr oedd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Er bod y cynigion Metro a oedd yn gysylltiedig ag un o brosiectau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn canolbwyntio yn y cam hwn ar gysylltiadau trên, gobeithiai y byddai hyn yn cael ei ehangu yn y camau nesaf i gynnwys cynnydd mewn gwasanaethau bws cyswllt.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro mai'r arbedion y cyfeiriwyd atynt uchod oedd oddeutu £10 miliwn ar gyfer 2020/21 ac £8 miliwn ar gyfer 2021/22. Roedd y rhain yn symiau sylweddol, felly roedd hi'n anochel y byddai'r gostyngiadau yn effeithio ar wasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet:-

(1)   Wedi ystyried cynnwys yr adroddiad ar yr ymgynghoriad a'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb.

      (2) Wedi penderfynu y dylid dileu'r gyllideb sy'n cefnogi gwasanaethau bws lleol  ar gyfer y llwybrau a nodir yn y tabl ym mharagraff 3.8 yr adroddiad.

      (3) Yn trefnu i fonitro Gwasanaethau Bws a Gymorthdelir o hyn allan.

 

Dogfennau ategol: