Agenda item

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Atal a Llesiant adroddiad i'r Cabinet a ddangosai beth oedd perfformiad y Cyngor yn erbyn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) ar gyfer y cyfnod 2017-18.

 

Dywedodd fod darparu gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig wedi'i wneud yn wasanaeth statudol i lywodraeth leol yn sgil Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.  Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu "gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i bobl sy'n dymuno gwneud defnydd ohono".

 

I'w cynorthwyo i gyflawni'r cyfrifoldeb hwn, sefydlodd Llywodraeth Cymru fframwaith o safonau er mwyn rheoli gwasanaethau llyfrgell awdurdod lleol, gan awdurdodau lleol, CLlLC a chyrff eraill perthnasol. Yn rhan o'r fframwaith hwn, caiff targedau newydd yn gysylltiedig â darpariaeth a pherfformiad llyfrgelloedd eu hadolygu a'u pennu bob tair blynedd.  Un o amcanion cyffredinol y safonau yw bod llyfrgelloedd yn cynnig yr holl wasanaethau a chyfleusterau a restrir fel hawliadau craidd o fewn y fframwaith, gan fesur ansawdd hefyd drwy ystod o ddangosyddion perfformiad a mesuriadau effaith.

 

Ar sail flynyddol, mae'n ofynnol i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fel awdurdod llyfrgelloedd cyhoeddus, gyflwyno ffurflen flynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) i'w hystyried gan aseswyr.  Cyhoeddir adroddiad yn ei dro gan yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (IAALl) yn Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu'r fframwaith.  Mae'r adroddiad a lunnir yn cyflwyno barn gytbwys yr aseswyr ynghylch perfformiad y Cyngor yn y flwyddyn dan sylw.

 

Roedd adroddiad 2017-18 gan IAALl mewn ymateb i'r ffurflen hunanasesu llyfrgelloedd yn erbyn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (2017-20) ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd adroddiad 2017-18 yn amlygu bod y gwasanaeth wedi parhau i berfformio'n dda. Nodwyd effeithiolrwydd pwyntiau gwasanaeth a chyfraniad y gwasanaeth at lesiant, cynnydd mewn hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, twf mewn presenoldeb mewn digwyddiadau a chynnydd hefyd mewn aelodaeth a benthycwyr gweithredol.

 

Mae adroddiad IAALl yn esbonio bod gwasanaeth llyfrgelloedd Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn bodloni 11 o'r 12 o hawliadau craidd i ddinasyddion yn llawn, ac yn bodloni 1 o'r hawliadau hynny'n rhannol. Yn ystod 2017-18, roedd y mesuriadau atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru wedi newid o amcangyfrifon o ymweliadau â llyfrgelloedd i lefelau cyflawniad yn gysylltiedig â'r 10 dangosydd ansawdd, gyda thargedau mesuradwy.

 

Yn ôl gwerthusiad IAALl, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflawni 7 dangosydd ansawdd yn llawn ac 1 dangosydd ansawdd yn rhannol, ac wedi methu cyflawni 2 o'r dangosyddion. Roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn cymharu perfformiad Pen-y-bont ar Ogwr ag awdurdodau lleol eraill.

 

Mae a wnelo'r dangosyddion ansawdd nas cyrhaeddwyd â chaffaeliadau fesul pen neu wariant ar ddeunyddiau fesul pen (DA9), a hefyd swm y gyllideb faterol neu'r gwariant ar adnoddau Cymraeg fesul pen (DA10).

 

Er bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio data i lunio ei asesiad, mae'r astudiaethau achos a ddarparwyd gan Awen yr un mor bwysig ac yn cynnwys her darllen yr haf er mwyn cynnal llythrennedd plant yn ystod gwyliau'r ysgol, cefnogi cyflogadwyedd, gweithgareddau cefnogi dementia mewn cyfleusterau hamdden a digwyddiadau diwylliannol "live and loud" mewn lleoliadau llyfrgell a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Daeth y Rheolwr Gr?p â'i gyflwyniad i ben drwy hysbysu'r aelodau ynghylch goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r adroddiad, a'r goblygiadau ariannol. Cadarnhawyd bod angen sicrhau arbedion ychwanegol o £150,000 (a fyddai'n effeithio ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd) rhwng 2019 a 2021, ac y gallai hynny effeithio ar y gwasanaeth yn gyffredinol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod pobl yn cyrchu mwy o lyfrau ar-lein a bod hynny'n gwrthbwyso unrhyw brinder llyfrau mewn llyfrgelloedd, ac mai dewis personol oedd wrth wraidd hyn gan amlaf beth bynnag.

 

Ychwanegodd y Dirprwy arweinydd fod gan Ben-y-bont ar Ogwr fodel effeithiol ar waith i gefnogi ei darpariaeth llyfrgelloedd, er gwaethaf y gostyngiad diweddar yn y gwariant ar lyfrau. Yr oedd yn ymwybodol o'r galw ymhlith y cyhoedd am lyfrau Cymraeg mewn llyfrgelloedd, ond nid oedd y duedd hon i'w gweld ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddweud ei fod yn falch o weld bod CBSPO yn cyrraedd mwy o safonau na'r rhan fwyaf o awdurdodau cyfagos, ac mai toriadau cyllidebol y bu'n rhaid i'r Awdurdod eu cyflwyno oedd wrth wraidd yr ychydig safonau nad oeddem yn eu cyrraedd.

 

Yr oedd hefyd yn falch o weld bod ein prif lyfrgelloedd bellach yn debycach i Ganolfannau Cymuned, am eu bod yn darparu gwasanaethau eraill yn ogystal â darparu llyfrau, er enghraifft cyfleusterau TG er mwyn galluogi pobl ifanc i barhau i ddysgu yn ystod y gwyliau; yn cynorthwyo pobl drwy roi mynediad iddynt at gyfleoedd cyflogaeth, a gweithgareddau cefnogi dementia.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad a'r Atodiadau, gan gydnabod ei bod hi wedi bod yn flwyddyn gadarnhaol o gynnydd yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ategol: