Agenda item

Dulliau o Ymgynghori ac Ymgysylltu ag Ymadawyr Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a ddarparodd ddiweddariad i'r Pwyllgor yngl?n â'r dulliau a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol i ymgysylltu ac ymgynghori ag ymadawyr gofal. Yn ogystal, darparodd yr adroddiad ddiweddariad ar y digwyddiad Ymgysylltu â'r Arolygiaeth Gofal a gynhaliwyd gydag ymadawyr gofal ym mis Tachwedd 2018.

 

Ar y cyd â'r eitem hon, roedd cynrychiolwyr o Voices From Care Cymru (VFCC) yn bresennol yn y cyfarfod i roi cyflwyniad PowerPoint. Mae’r sefydliad hwn yn darparu digwyddiadau wedi'u trefnu i hyrwyddo ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig y rheiny sydd mewn gofal / sy’n gadael gofal. Yn ogystal, cefnogir y sefydliad gan Gr?p Cynghori sy’n weithredol mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru, ac mae nifer o aelodau’r gr?p hwn yn ymadawyr gofal.

 

Gwahoddwyd y Cadeirydd Ms Deborah Jones, Prif Weithredwr VFCC, a Chris Dunn, Rheolwr Rhaglenni VFCC, i gyflwyno eu cynnig.

 

Rhoddodd y cyflwyniad sylw i’r themâu canlynol:

 

Cyflwyniad:

 

·       Mae’r sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru;

·       Arweinir y sefydliad gan bobl ifanc;

·       Mae’r sefydliad yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau am eu bywydau, a hefyd bywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn genedlaethol;

·       Nod y sefydliad yw datblygu cymuned gref o bobl sydd â phrofiad o ofal;

·       Mae gwasanaethau’r sefydliad yn cynnwys cyfranogiad, dylanwadu a llesiant;

·       Lleolir y sefydliad yng Nghaerdydd. Cafodd ei sefydlu ym 1990 ac mae’n cyflogi 13 o staff.

 

Gwerthoedd y Sefydliad:

 

Cael ei arwain gan bobl ifanc

 

Mae popeth y mae VFCC yn ei wneud yn cael ei arwain gan blant â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr VFCC yn cynnwys pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, ac rydym yn ymgynghori yn aml â phlant â phobl ifanc ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

 

Cydraddoldeb i bawb sydd mewn gofal

 

Credwn y dylai plant â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion sydd heb unrhyw brofiad o ofal. Ni ddylent wynebu stigma, anffafriaeth a rhwystrau mewn bywyd oherwydd eu profiad o ofal.

 

Creu Teulu Gofal

 

Mae VFCC yn darparu cyfleoedd i blant â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gwrdd, tyfu, dysgu a datblygu perthnasoedd hirhoedlog.

 

Bod yn Ddyheadol

 

Mae VFCC eisiau i blant â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i fod yn bopeth y gallant fod. Rydym ni eisiau eu hysbrydoli nhw a meithrin eu potensial.

 

Dathlu’r Unigolyn 

 

Mae VFCC yn sefydliad unigryw ac rydym yn cydnabod ac yn dathlu unigolrwydd ac amrywiaeth y plant a’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Mae cefndiroedd, profiadau a safbwyntiau gwahanol y plant a’r bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ein helpu ni i ddatblygu fel sefydliad ac i gynrychioli’r boblogaeth gofal ehangach yn well.

 

Mentrau Allweddol:

 

  1. Grwpiau Rhanbarthol;

 

  1. Grwpiau Cyfranogi Lleol;

 

  1. Grwpiau Ymgynghori Cenedlaethol;

 

  1. Proud to Be Me;

 

  1. Digwyddiad CareDay;

 

  1. Dathliad yr Haf;

 

  1. Prosiect When I Am Ready;

 

  1. Côr Sing Proud.

 

Mae VFCC wedi dylanwadu ar waith ym maes Perthnasoedd Brodyr a Chwiorydd; Pasportiau (hynny yw, dogfen hunaniaeth ategol); Cefnogi Mamau Ifanc a darparu rôl Rhianta Corfforaethol.

 

Dywedodd y cynrychiolwyr wrth yr Aelodau mai’r tri phwnc mwyaf poblogaidd y mae pobl ifanc yn eu rhannu â VFCC yw:

 

·       Stigma sy’n gysylltiedig â phrofiad o ofal

·       Y cymorth sydd ar gael wrth adael gofal

·       Materion sy’n gysylltiedig â llesiant emosiynol

 

Cynorthwyodd mecanweithiau cymorth fel y rhai uchod i atal unigolion o fod angen cymorth CAHMS ac ati.

 

Dyheadau VFCC ar gyfer y System Ofal

 

  1. “Beth fyddwn i'n ei wneud pe bai hwn yn blentyn i mi?”
  2. “Dyheadol”
  3. “Ysbrydoledig”
  4. “Meithrin”
  5. “Cyfannol”
  6. “Ffocws ar Lesiant Emosiynol”
  7. “Ymagwedd Unedig”
  8. “Gobeithion a Breuddwydion”
  9. “I ddatblygu’r unigolyn, nid ystadegyn”

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr VFCC am fynychu’r cyfarfod ac am gyflwyniad mor ddiddorol ac addysgiadol. 

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth VFCC ei bod yn edrych ymlaen at weld ei thîm yn ymgysylltu â’r sefydliad yn y dyfodol. 

 

Ychwanegodd fod y timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yn gwneud llawer o waith da yn cefnogi pobl a gofalwyr ifanc, er bod lle i wella ymhellach.

 

Cadarnhaodd fod y tîm 16+ yn gweithio â phobl mewn gofal hyd at 25 oed, gan ddarparu cymorth effeithiol i unigolion yn y gr?p oed hwn er mwyn darparu cymorth i ddiwallu eu hanghenion gwahanol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bob tro’n cynnal asesiad risg o berson ifanc cyn iddynt gael eu rhoi mewn unrhyw sefyllfa ofal. Ychwanegodd fod nifer o brosiectau ar waith i atal pobl ifanc rhag cael eu rhoi mewn gofal os oedd modd osgoi hynny. Aeth ymlaen i esbonio bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi trwy Strategaeth Emosiynol a Llesiant y Cyngor, sy’n waith ar y gweill.

 

Yn ogystal, mae cyrff fel Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn monitro effeithiolrwydd y mecanweithiau cymorth sydd gan yr Awdurdod ar waith ar gyfer pobl ifanc yn rheolaidd, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed. Fe wnaeth gwaith gyda chydweithwyr iechyd hefyd helpu i ddatblygu llwybrau cymorth yn barhaus.

 

Gofynnodd Aelod sut mae’r system ofal yng Nghymru yn cymharu â’r un yn Lloegr a gwledydd eraill yn Ewrop.

 

Esboniodd Prif Weithredwr VFCC fod trefniadau gofal cynyddol ar waith yng Nghymru o gymharu â Lloegr (ar sail pro rata), oherwydd bod sefydliadau sy’n darparu gofal yng Nghymru yn gyndyn iawn i fentro. Nid oedd yn gallu gwneud cymhariaeth â gwledydd eraill yn Ewrop, tu allan i’r DU, er y gallai ddod o hyd i’r wybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Aelod(au) y tu allan i’r cyfarfod.

 

Gwnaeth Aelod y pwynt bod rhaid ystyried materion sy’n gysylltiedig ag yswiriant wrth ddelio â phobl sy’n cael eu rhoi mewn gofal preswyl. Y rheswm am hyn yw nad oes deddfwriaeth ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru na'r DU yn ehangach, sy’n caniatáu i bobl mewn gofal gael eu hatal yn gorfforol gydag unrhyw rym. O ganlyniad, roedd y bobl ifanc a'r gofalwyr hynny fel ei gilydd yn agored i lefel o risg. Yn ei barn hi, mae angen datblygu polisi a darparu arweiniad mewn cysylltiad â’r uchod.

 

Dywedodd Prif Weithredwr VFCC y byddai’n trafod yr uchod gydag ymddiriedolwyr y sefydliad, yn ogystal â chysylltu â’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y mater oherwydd roedd hi’n cytuno y gallai arwain at sefyllfa hynod ddifrifol.

 

I grynhoi’r drafodaeth ar yr eitem hon, dywedodd yr Arweinydd ei fod ef, y Prif Weithredwr a’r Aelod Cabinet – Cymunedau, wedi cwrdd â Phrif Gomander yr Heddlu yn ddiweddar i drafod sut gallai sefydliadau allweddol perthnasol gydweithio’n agosach, gyda’r nod o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau i bobl ifanc gael mwy o gyfleoedd i leisio’u barn, o gymharu â’r gorffennol, ac i ystyried eu safbwyntiau ar faterion penodol. Ychwanegodd ei fod o’r farn y byddai’n fanteisiol petai cynrychiolydd o Heddlu De Cymru ac Awdurdod Iechyd Cwm Taf (a chynrychiolwyr o bartneriaid iechyd eraill) yn cael eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod gwella bywydau pobl ifanc, yn enwedig y rheiny sy’n rhan o’r system ofal.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr VFCC am fynychu cyfarfod heddiw ac am ddarparu cyflwyniad mor ddiddorol ac addysgiadol.

 

CYTUNWYD: Y dylid nodi’r adroddiad a’r cyflwyniad cysylltiedig a, phe byddai yn unol â dymuniadau, teimladau ac anghenion pobl ifanc (Pen-y-bont ar Ogwr), dylai’r Fforwm Ymadawyr Gofal gael ei ailsefydlu ym mis Gorffennaf 2019, a dylai adroddiad gael ei gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn y dyfodol yn amlinellu cynnydd am yr uchod.  

Dogfennau ategol: