Agenda item

Plant y Gofelir Amdanynt – Grŵp Technegol Cenedlaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad er mwyn rhoi gwybod i’r Pwyllgor Cabinet am y gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau lleihau disgwyliadau gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru.

 

Yn ogystal, disgrifiodd yr adroddiad y broses sydd ar waith i fwrw ymlaen â hyn a'r gweithgarwch lleol sydd ar y gweill.

 

Cafwyd cyflwyniad ar y prif ddata lleol / canfyddiadau allweddol a gynhwysir yn y dogfennau fframwaith paratoadol a oedd yn Atodiad i'r adroddiad. Rhannwyd hyn â Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad, ym mis Mawrth 2018, fod 6,407 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru. Roedd hyn yn gynnydd o 8% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu 34%; ni ellir cysylltu’r cynnydd hwn â chyni ariannol yn unig.

 

Yn 2018, gostyngodd nifer y plant sy’n dechrau derbyn gofal 2%. Fodd bynnag, gostyngodd nifer y plant sy’n gadael y system ofal 10% yn ogystal.

 

Mae data cenedlaethol hefyd yn tynnu sylw at rai patrymau nodedig eraill. Er enghraifft, mae 24.6% o blant sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir (1,575) a 5% yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru (320). Bydd rhesymau da pam mae rhai o'r plant hyn yn cael eu lleoli y tu allan i'r ardal (e.e. lleoliad gyda theulu neu ffrindiau neu ddatblygu dulliau rhanbarthol o ddarparu darpariaeth arbenigol), ond cydnabyddir bod eraill yn cael eu lleoli ymhellach i ffwrdd oherwydd nad oes darpariaeth addas yn lleol. Dechreuwyd mynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol trwy'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol, y Gr?p Gorchwyl a Gorffen Gofal Preswyl Plant a llinynnau gwaith eraill sy’n rhan o’r rhaglen Gwella Deilliannau i Blant. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau manteisio ar y cyfle hwn i archwilio gydag awdurdodau lleol y ffactorau sy'n dylanwadu ar wneud penderfyniadau o amgylch lleoli plant a phobl ifanc y tu allan i'r sir ac yn drawsffiniol, er mwyn sicrhau y gellir gosod mwy o blant yn agosach i'w cartref lle mae hynny er eu lles nhw. Cadarnhawyd bod mwy o blant yn derbyn gofal yng Nghymru nag yn Lloegr, fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bendant a allai gadarnhau hyn yn llawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddeall y cyd-destun y mae sefydliadau'n gweithio ynddo yn well ac i gyd-gynhyrchu cynlluniau lleihau disgwyliadau realistig a phwrpasol sy'n canolbwyntio ar leihau nifer y plant sydd mewn gofal, gan barhau i wella deilliannau’r rheini sydd eisoes mewn gofal neu sy'n gadael gofal. Bydd hyn yn galw am ddadansoddiad manwl o'r data presennol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn helpu i ddeall yn well y pwysau sydd o fewn y system a sut y gellir ei leddfu.

 

Cynhaliwyd ymweliad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 10 Mai 2019 lle cyfarfu swyddogion o Lywodraeth Cymru â'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, a chydweithwyr o’r adran gyfreithiol.

 

Datblygwyd fframwaith sgwrsio o’r uchod a roddodd sylw i’r themâu canlynol:

 

  • Lleihau’r galw am ofal a nifer y plant sy’n mynd i ofal;
  • Darparu lleoliadau cadarnhaol a sefydlog (gan gynnwys manylion y cwestiynau allweddol ar y mater hwn);
  • Gwella strategaethau gadael sy’n hwyluso gadael gofal;
  • Rheoli’r busnes;
  • Cyd-gynhyrchu targedau sydd wedi’u teilwra.

 

Pan fydd yr holl ymweliadau wedi'u cwblhau, bydd adroddiad cyffredinol yn cael ei goladu a'i rannu gyda gr?p technegol cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Prif Weinidog. Bydd yr adroddiad cyffredinol yn tynnu sylw at y negeseuon allweddol a hefyd yn nodi rhai camau i'w cymryd yn genedlaethol. Yn ogystal, bydd y gr?p technegol yn ystyried monitro ac adolygu.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 62 yr adroddiad ac achosion o feichiogi ailadroddus. Gofynnodd sut y gellir atal achosion o feichiogi ailadroddus ymysg menywod ifanc.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod prosiect o'r enw Reflect wedi bod ar waith am oddeutu'r 12 mis diwethaf, ar ôl iddo gael ei gychwyn gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar fodel o Loegr. Nod y fenter hon yw annog menywod ifanc i oedi a meddwl am y canlyniadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â beichiogi, er enghraifft os ydynt yn rhy ifanc i allu gofalu am blentyn yn ddigonol, oherwydd rhesymau megis bod yn ddi-waith a pheidio â chael eu cartref eu hunain ac ati. Yn ogystal, pwysleisiodd y prosiect fesurau ataliol y gallent droi atynt i atal beichiogrwydd, fel dulliau atal genhedlu. Gellid cyflwyno adroddiad ar y prosiect hwn i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Roedd y Cadeirydd o'r farn ei bod yn bwysig monitro nifer y PDG yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y sefyllfa o ran PDG wedi bod yn sefydlog ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers cryn amser, a bod y niferoedd mewn gwirionedd yn dechrau gostwng yn araf. Roedd lleoliadau y tu allan i'r sir / y tu allan i Gymru hefyd yn lleihau, ychwanegodd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau Achosion PDG Gorchymyn Llys.

 

Gofynnodd yr Arweinydd pam roedd cynnydd yng nghanran y PDG yn y gr?p 5-9 oed, yn enwedig o ystyried y gwaith da sydd wedi cael ei wneud ac sydd wedi arwain at draean yn llai o bobl ifanc yn ymuno â’r system ofal yn ystod blynyddoedd diweddar.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai hi a'r Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ystyried hyn, gan nad oedd unrhyw reswm amlwg yn cadarnhau'r cynnydd uchod.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd os oedd unrhyw ddata sy’n cadarnhau nid yn unig nifer y plant sydd wedi ymuno â’r system ofal, ond hefyd os oedd eu rhieni / gofalwyr yn rhan o’r system.

 

Dywedodd swyddogion y byddent yn ymchwilio i hyn ac yn coladu'r data priodol yn unol â hynny, ac yn darparu’r wybodaeth i'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.

 

CYTUNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet wedi nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad.     

Dogfennau ategol: