Agenda item

Adolygiad Ymarfer Plant

I'w gefnogi gan Gyflwyniad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad, a ddarparodd wybodaeth i'r Pwyllgor yngl?n ag Adolygiad Ymarfer Plant diweddaraf Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn dilyn y cyflwyniad hwn, rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Diogelu a Sicrwydd Ansawdd gyflwyniad PowerPoint er budd yr Aelodau, a oedd yn ymdrin â meysydd allweddol canlynol yr adroddiad eglurhaol.

 

Yn 2013, disodlodd Adolygiadau Ymarfer Plant yr hyn a elwid yn Adolygiadau Achos Difrifol (AAD). Mae'r broses newydd hon yn deillio o adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2009 - Gwella Arfer i Amddiffyn Plant yng Nghymru: Archwiliad o Rôl Adolygiadau Achos Difrifol. Roedd y gwaith hwn yn ganolog i ble'r ydym ni heddiw, gan ddod i'r casgliad bod angen gweithredu i ddisodli'r broses AAD a oedd wedi mynd yn aneffeithiol o ran gwella arfer a gweithio rhyngasiantaethol.

 

Mae'r canllawiau'n nodi’r trefniadau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant aml-asiantaeth pan fydd digwyddiad difrifol wedi digwydd lle mae cam-drin neu esgeuluso plentyn yn hysbys neu'n cael ei amau.

 

Pwrpas cyffredinol diwygio'r system adolygu yw hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ddysgu ac adolygu amddiffyn plant aml-asiantaeth mewn ardaloedd lleol. Mae'r Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant yn gyfrifol am sicrhau bod adolygiadau'n cael eu cynnal yn effeithiol. Bydd adolygiadau yn y dyfodol am unrhyw blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dod o dan Fwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg.

 

Adolygiadau Cryno: cynhelir Adolygiad Ymarfer Plant 'cryno' mewn achosion lle mae cam-drin neu esgeuluso plentyn yn hysbys neu'n cael ei amau ac mae'r plentyn:

 

  • wedi marw; neu
  • wedi dioddef anaf a allai fygwth ei fywyd; neu
  • nid oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn y gofelir amdano ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato uchod.

 

 

Adolygiadau Estynedig: cynhelir Adolygiad Ymarfer Plant 'estynedig ' mewn achosion lle mae cam-drin neu esgeuluso plentyn yn hysbys neu'n cael ei amau ac mae'r plentyn:

 

  • wedi marw; neu
  • wedi dioddef anaf a allai fygwth ei fywyd; neu
  • wedi dioddef niwed difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad; ac
  • roedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant ac / neu yn blentyn y gofelir amdano (gan gynnwys unigolion o dan 18 oed sy’n ymadawyr gofal) ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad a gyfeirir ato uchod.

 

Esboniodd ymhellach fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant ar 17 Ebrill 2019. Dechreuodd yr adolygiad ym mis Ionawr 2018 ac fe’i comisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Plant Bae’r Gorllewin yn dilyn nodi pryderon lle bodlonwyd y meini prawf uchod ar gyfer ‘adolygiad cryno’. Mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â phlentyn 9 wythnos oed a fu farw yn ystod y nos wrth gyd-gysgu â'i rieni.

 

Testun yr adolygiad hwn oedd plentyn 9 wythnos oed a fu farw ym mis Tachwedd 2017 wrth gyd-gysgu â'i rieni. Yn dilyn archwiliad post mortem amhendant a chwest crwner a ddaeth i gasgliad ‘dyfarniad agored’, ystyriwyd bod y farwolaeth o ganlyniad i Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS).

 

Rhwng 2008 a 2017, derbyniwyd 10 atgyfeiriad o ran mam y plentyn a oedd o dan 18 oed ar adeg genedigaeth y plentyn oherwydd ansefydlogrwydd teuluol, digartrefedd, camddefnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl. Nododd yr adolygiad nad oedd gwybodaeth sylweddol yngl?n â'r materion hyn yn cael ei rhannu rhwng gweithwyr proffesiynol, yn enwedig rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol.

 

Derbyniwyd 9 atgyfeiriad hanesyddol yngl?n â thad y plentyn pan oedd yn blentyn. Roedd y tad hefyd “mewn gofal” am gyfnodau byr oherwydd iechyd meddwl gwael ei fam a cham-drin domestig yn y teulu.

 

Er nad oedd unrhyw beth i awgrymu y gallai marwolaeth y baban fod wedi'i hatal, roedd tystiolaeth o fewn y cyfnod amser y gallai'r teulu ifanc fod wedi elwa o asesiad cyn-enedigaeth a gwasanaethau cymorth targedig.

 

Ar adeg marwolaeth y baban, roedd y teulu ifanc yn byw mewn llety rhent preifat ac roedd eu strwythur cymorth teuluol yn aneglur. Nid oeddent yn derbyn unrhyw ymyrraeth gan yr awdurdod lleol a nodwyd bod amodau'r cartref wedi dirywio.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mai'r themâu a amlygwyd gan yr adolygiad oedd:

 

  • Nid oedd y meddyg teulu yn rhannu gwybodaeth berthnasol am iechyd meddwl y fam gyda’i gydweithwyr iechyd ac ni archwiliwyd yn ddigonol faint o gefnogaeth deuluol oedd ar gael i'r rhieni.
  • Ni chafodd y fam ei hasesu yn ei rhinwedd ei hun fel plentyn ac nid oedd asesiad y plentyn yn ystyried y ffactorau risg ehangach am brofiadau'r rhiant, e.e. cam-drin domestig gan rieni, iechyd meddwl, diffyg cefnogaeth deuluol.
  • Ni chynhaliwyd asesiad risg penodol er mwyn ystyried y materion uchod.
  • Deliwyd ag atgyfeiriadau ar eu pennau eu hunain, ac roeddent yn canolbwyntio ar dai yn bennaf.
  • Ni chyflwynwyd adroddiadau i’r Heddlu gan asiantaethau am y fam yn cael rhyw o dan oed.

 

Bydd gweithrediad y camau a argymhellir yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd i Grwpiau Rheoli ac Adolygu Ymarfer Plant Bae'r Gorllewin a Chwm Taf. Yn ogystal, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu digwyddiadau dysgu tîm ar gyfer ymarferwyr a bydd y canfyddiadau’n cael eu hymgorffori mewn hyfforddiant diogelu craidd ar gyfer gweithwyr.

 

Gwnaeth Aelod y pwynt y gallai gwell llinellau cyfathrebu rhwng partneriaid atal sefyllfaoedd fel yr uchod rhag codi.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a'r Arweinydd yn ei dro, fod partneriaid allweddol yn gweithio'n agos a bod gwell ymgysylltiad wedi digwydd rhwng rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig ers i’r gwahanol asiantaethau osod System TG Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru. Roedd hyn wedi arwain at welliant amlwg o ran y dulliau ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i ofalu am y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel yr ifanc a'r henoed, gan gynnwys y rhai sydd wedi profi problemau yn ystod eu bywydau.

 

CYTUNWYD: Bod y Pwyllgor Cabinet wedi nodi’r adroddiad a’r cyflwyniad cysylltiedig.

 

Dogfennau ategol: