Agenda item

Galw Penderfyniad y Cabinet i mewn. Rhesymoli Gwasanaethau Bysiau â Chymorth 2019/2020

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard – Prif Weithredwr

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Gill Lewis – Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro

Cllr Richard Young – Aelod Cabinet - Cymunedau

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth y Pwyllgor fod penderfyniad arfaethedig y Cabinet i resymoli gwasanaethau Bysiau â Chymorth wedi cael ei alw i mewn gan 4 Aelod. Dywedodd fod gan bob Aelod hawl i’w farn, ond bod penderfynu ymlaen llaw yn torri’r Cod Ymddygiad.

 

Cofnododd aelod o'r Pwyllgor ei bod hi’n credu na ddylai’r Cynghorydd Webster gadeirio’r cyfarfod am ei bod hi’n un o’r Aelodau oedd wedi galw’r penderfyniad i mewn ac y dylai hi ildio’r gadair am y cyfarfod hwn. Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd mai mater i’r Aelodau oedd penderfynu a oeddent wedi penderfynu’r mater ymlaen llaw. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd hi wedi penderfynu ymlaen llaw ond cadarnhaodd ei bod hi wedi galw’r mater i mewn.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau o’r cyhoedd ac aelodau’r Cyngor oedd wedi cofrestru i siarad ymlaen llaw i annerch y Pwyllgor.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Gordon Adamson a ddywedodd nad oedd ganddo ddull arall o ddod i Ben-y-bont ar Ogwr ac i archfarchnadoedd ac y byddai’n teimlo wedi ei gau i ffwrdd, yn enwedig ar ddyddiau Sul. Mynegodd bryder hefyd ynghylch colli gwasanaethau cysylltiedig er mwyn gallu teithio i Gaerdydd ac Abertawe. Hoffai weld bysiau yn dod heibio’n amlach a mynegodd bryder ynghylch cyflwr y bysiau. Anerchwyd y Pwyllgor wedyn gan Mrs Chris Lloyd a ddywedodd fod bysiau yn hanfodol i’r oedrannus ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol. Roeddent hefyd yn dra phwysig i bobl iau er mwyn mynd i’r coleg a chael mynediad at gyfleoedd gwaith a chael cychwyn da mewn bywyd. Byddai colli gwasanaethau bysiau yn peryglu’r cyfleoedd hyn. Hysbysodd Mrs Morfydd O’Keefe y Pwyllgor ei bod hi’n gyfrifol am ei g?r a’i h?yr a’i bod yn defnyddio gwasanaethau bws bob dydd. Dywedodd fod llawer o aelodau cymunedau Llangynwyd a Pharc Maesteg yn dibynnu ar wasanaethau bws ar gyfer teithio i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr. Hysbysodd Mr Rowland Pittard y Pwyllgor y dylai fod cydraddoldeb i bob trethdalwr o ran cael mynediad i gludiant bws. Mynegodd ef bryder fod un gwasanaeth bws wedi cael ei ddargyfeirio o Ben-y-fai a bod hyn wedi cael effaith ar y gymuned. Dywedodd nad oedd yna gynllun cludiant cydlynol a Theithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd yn cyd-fynd ag anghenion y bobl ac ar gyfer symud o gwmpas y Fwrdeistref, a bod costau tacsi’n uchel a bod diffyg tacsis ar gael yn ystod y dydd.  

 

Siaradodd y Cynghorydd A Hussain ar ran trigolion Pen-y-fai gan fynegi pryder bod y llwybrau cerdded yn y pentref mewn cyflwr gwael a bod mynediad at wasanaethau trên yn wael. Un llwybr bws sy’n gwasanaethu’r pentref, gyda’r llwybrau blaenorol wedi cael eu dargyfeirio i ffwrdd oddi wrth y pentref ac mae datblygiadau Teithio Llesol wedi anwybyddu’r pentref. Dywedodd fod trigolion yn y pentref wedi dod yn ynysig oherwydd diffyg gwasanaethau bws a bod gwasanaeth bws yn hanfodol i fywyd y pentref. Gofynnodd i’r Pwyllgor ddal y Cabinet i gyfrif ac ymweld â safleoedd er mwyn casglu gwybodaeth gan drigolion. Anerchodd y Cynghorydd R Penhale-Thomas y Pwyllgor ar fater gwasanaeth rhif 37 drwy Barc Maesteg sy’n cael ei ddefnyddio gan drigolion hen ac ifanc fel ei gilydd mewn ardal lle mae llai o bobl yn berchen ceir. Mae gwasanaeth rhif 37 yn brif wasanaeth o Barc Maesteg i Langynwyd i gysylltu â gwasanaethau eraill. Mae lleoliad Parc Maesteg ar ben allt serth iawn sy’n anodd dros ben i’w gyrraedd heb gludiant. Byddai llwybrau cerdded o Ganol y Dref yn gofyn am ymdrech sylweddol gan y bobl fwyaf ffit gan eu bod i gyd yn serth. Ymysg ystadegau allweddol o ddata cyfrifiad 2011 mae Parc Maesteg yn syrthio o fewn tair ardal cyfrifiad hyper lleol. Yn un o’r ardaloedd hyn adroddai 40% o’r cartrefi nad oedd ganddynt fynediad at gar, adroddai 75% o’r ardaloedd hyn ar gyfartaledd dri neu fwy o ddimensiynau o dlodi. Yn yr ardaloedd hyn roedd un mewn pedwar wedi eu cyfyngu o ran eu gweithgareddau dyddiol, i raddau bychan neu i raddau helaeth, o ganlyniad i’w hanabledd. Adroddai 10% fod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn er y gellid ystyried y data allan o ddyddiad o ryw 8 mlynedd. Ar ôl 9 mlynedd o lymder a dyfodiad polisïau diwygio lles draconaidd ni ellid disgwyl y byddai'r sefyllfa wedi gwella ym Mharc Maesteg. Mae pobl wirioneddol y tu ôl i’r ffigurau hyn, yn wynebu brwydrau personol yn ddyddiol, boed hynny drwy chwilio am waith a gorfod delio â chyflog isel a thlodi, dioddef iechyd meddwl gwael neu iechyd corfforol gwael. Mae hyn i gyd gyda’i gilydd yn tystio i’r gwerth y mae’r gymuned leol yn ei osod ar y gwasanaeth bws hwn ac nid gor-ddweud oedd ystyried y gwasanaeth yn un hanfodol i fywyd. Ni allai bwysleisio’n ddigon cryf y rhan y mae daearyddiaeth a thopograffeg, lleoliad ac iechyd economaidd a ffactorau cymdeithasol yn ei chwarae ardal Parc Maesteg, gan ei wneud yn lle unigryw iawn yn enwedig lle mae’r gwasanaeth bws yn edau gwirioneddol yn y bywyd cymunedol dan Gynllun Corfforaethol yr Awdurdod. Mae’r Sir yn wynebu adnoddau sy’n lleihau ac mae effaith hyn i’w gweld ar y cymunedau sydd â’r angen mwyaf. Dywedodd fod egwyddorion meddwl cydgysylltiedig neu strategol fel pe bai wedi mynd heibio’r broses yn llwyr a’r egwyddorion sylfaenol y byddai Bargen y Ddinas yn gwella cysylltedd wrth fynd ymlaen. Credai ef fod y penderfyniad yn un gwrthgynhyrchiol ac mewn perygl o ddatgysylltu pobl a chymunedau yn rhy aml ac mewn cymunedau fel Parc Maesteg, ac anogodd y Pwyllgor i aros yn ffyddlon i’r Egwyddorion Corfforaethol.

 

Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad oedd wedi cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd J Radcliffe ar ran Cymdeithas Gymunedol Tondu ac Abercynffig. Credai trigolion Tondu ac Abercynffig na fyddai’r symiau o arian, y cynigiai’r Cyngor eu harbed drwy ddileu cymhorthdal bysiau, yn fawr, pan gaent eu mynegi fel canran o’r gyllideb gyfan, o gymharu â’r incwm y byddai’n ei gynhyrchu drwy’r Dreth Gyngor o’r nifer o gartrefi newydd oedd yn cael eu hadeiladu ar draws y Fwrdeistref Sirol. Credai’r trigolion hefyd nad oedd gwybodaeth am yr arbedion a awgrymwyd yn adroddiad y Cabinet, y costau posibl fyddai’n codi o ostyngiad mewn costau gadael o’r orsaf bysiau ganolog, costau dymchwel cysgodfannau bws diangen, a’r gostyngiadau posibl yn y Grant Cefnogi Gwasanaethau Bws. Ni ellid esgusodi dymchwel yr orsaf bysiau, ar ôl penderfyniad blaenorol i fuddsoddi yn ei hadeiladu, o fod yn fethiant mewn cynllunio tref. Byddai pwysau ar ofal cymdeithasol yn cael eu creu drwy unigrwydd ac ynysu cynyddol ymhlith poblogaeth sy’n tyfu o bobl sy’n ddibynnol ar ddefnyddio bysiau. Y costau, o ran addysg a datblygiad plant, a allai godi drwy beri bod Canolfan Iechyd Sarn ar gyfer ‘ardal y Porth i’r Cwm’ allan o gyrraedd rhieni a phlant oedd yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus. Gallai fod costau Iechyd a Gofal Cymdeithasol mwy cyffredinol o ganlyniad i fethiant i wella cludiant cyhoeddus amgylcheddol ac annog llai o ddefnyddio ceir. Y costau cymdeithasol-economaidd o leihau mynediad i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr o lwybrau bysiau oedd yn gwasanaethu cymunedau’r cymoedd. Gallai costau ehangach godi o atal mynediad i ganolfannau gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym Maesteg hefyd. Gwasanaethau addysgol a diwylliannol gan gynnwys llyfrgell Abercynffig, Canolfan Adloniant Halo /Llyfrgell Awen. Mae mynediad i lyfrgelloedd yn anghenraid gyda chofrestru am Gredyd Cyffredinol, gyda llawer o bobl agored i niwed heb fynediad digidol a’r tebygolrwydd o gosbau cynyddol o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â gorchmynion y budd-dal. Credai’r trigolion fod llawer o'r rhesymau hyn yn darlunio’r graddau y mae llwybrau bws yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol gan awdurdod lleol gofalgar i bobl ar gyflogau isel neu ag anableddau. Mae oddeutu chwarter yr holl ferched, y drydedd ran o bobl h?n a bron i bedwar o bob deg ar incwm isel yn dibynnu ar wasanaethau bws. Mae’r gostyngiadau arfaethedig i wasanaethau yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd y cymoedd i’r gogledd o’r M4. Gyda’r gwasanaethau trên ychwanegol arfaethedig i Faesteg heb ddod i fod, a dim buddsoddiad yn y Cwm o’r Fargen Ddinesig, roedd hi’n anodd gweld sut y gallai’r Awdurdod argyhoeddi’r etholwyr ynghylch toriad arall eto yn y gwasanaethau sy’n gwasanaethu’r ardaloedd tlotaf. Nid yw goblygiadau’r toriad arfaethedig yn llwybr 67 yn sôn am y graddau y mae Meddygfa Ty’n y Coed yn Sarn yn darparu gwasanaethau iechyd i Abercynffig, Tondu a Phen-y-fai. Practis bychan yw’r feddygfa yn New Street Abercynffig, sy’n cael trafferth i gwrdd â’r galw, ac felly mae trigolion o’r ardaloedd hyn yn aml yn mynd i Sarn. Aeth dros ddegawd heibio ers i feddygfa Meddygon Teulu newydd gael ei haddo fel rhan o ddatblygiad tai Pentrefelin. Yn y diwedd, aeth y feddygfa newydd arfaethedig yn barc manwerthu. Yn benodol, mae meddygfa Ty’n y Coed yn rhedeg clinig rheolaidd i fabanod, y mae rhieni yn ardal Abercynffig a Tondu yn ei ddefnyddio. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ymwelwyr iechyd yn cynnig gwasanaeth hygyrch i rieni plant bach fel rhan o ddatblygiad plentyn. Eto, mae’r awdurdod yn dymuno dileu mynediad i’r cyfleuster hwn drwy gyfrwng llwybr 67 i’r rhieni tlotaf yn Abercynffig a’r wardiau o’i chwmpas. Pe bai dileu llwybr 67 yn mynd rhagddo heb wneud trefniadau rhesymol gwahanol ar gyfer rhieni ar incwm isel i gael mynediad i’r clinig babanod, byddai hyn yn mynd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cael effaith negyddol ar fynediad i’r ddeintyddfa yn Sarn, Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr a, nes y ceir hyd i drefniant newydd, y Swyddfa Bost agosaf i Abercynffig.

 

Mynegodd y trigolion bryder nad oedd asesiad effaith cydraddoldeb wedi cael ei gynnal. Bydd y cynigion ehangach hefyd yn lleihau mynediad i Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Glanrhyd. 

 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 450 o gartrefi ychwanegol yn ardal Pentrefelin o Tondu, ar y sail mai ychydig iawn o effaith fyddai yna ar lif trafnidiaeth oherwydd bod cynllun y stad yn cael ei wneud yn unol ag egwyddorion teithio llesol, ac y byddai mynediad at rwydweithiau cludiant cyhoeddus da yn digwydd ac yn annog pobl allan o’u ceir. Ers y penderfyniad cynllunio hwnnw, derbyniwyd cadarnhad na fydd y buddsoddiad yn y rheilffordd yn digwydd, ond yn awr derbyniwyd cynnig i ddileu llwybrau bws allweddol o’r ardal. Mae’r cynnig yn nodi nad oedd tynnu cymhorthdal yn ôl o’r blaen wedi arwain at gau 5 allan o’r 6 llwybr, sy’n awgrymu bod yr awdurdod yn meddwl y bydd yr un peth yn digwydd eto. Eto, mae’r adroddiad i’r Cabinet yn datgan y gallai gostyngiadau pellach yng nghyllideb y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws â chymorth gael effaith ar y gwasanaethau bws sy’n cael eu rhedeg yn fasnachol gan fod y gwasanaethau bws â chymorth yn help i gadw’r rhwydwaith bysiau masnachol yn hyfyw. Byddai effaith gronnus ar y rhwydwaith cyfan yn dilyn y naill benderfyniad ar ôl y llall i ddileu cymorthdaliadau. Roedd yn bosibl y gallai’r gwasanaeth bws amsugno un rownd o doriadau ond roedd yn annhebygol y gallai amsugno nifer o doriadau ac yn annhebygol yr effeithid ar yr 8 gwasanaeth. Caiff y £3 miliwn a fwriadwyd ar gyfer yr ardal dan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eu gwario ar y cyfleuster Parcio a Theithio yn y Pîl fel rhan o “ddatblygu canolbwynt cludiant integredig sy’n gwasanaethu’r gymuned leol ac aneddiadau gerllaw, sef Porthcawl, Bryn Cynffig, Cefn Cribwr a Chorneli, gyda dim ar gyfer Cwm Llynfi. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r siaradwyr am gymryd rhan yn y cyfarfod. Hysbysodd y Pwyllgor am y pwysau yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu o ran cyflawni’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) gan fod y Cyngor eisoes wedi arbed £70 miliwn a bod gofyn iddo arbed £36 miliwn pellach dros gyfnod y SATC. Dywedodd nad oedd y Cyngor yn cynnig dileu llwybrau bws, ond dileu’r cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws. Roedd y cymhorthdal wedi cael ei ddileu oddi ar rai eisoes, gyda’r llwybrau hynny’n dal i gael eu rhedeg gan mwyaf gan y gweithredwyr bysiau. Hysbysodd y Pwyllgor fod awdurdodau eraill yng Nghymru eisoes wedi dileu cymorthdaliadau i wasanaethau bws. 

 

Holodd y Pwyllgor ynghylch grantiau oedd ar gael neu arian cyfatebol i gefnogi Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Hysbysodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y Pwyllgor nad oedd y Cyngor yn cyllido Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd Rheolwr Gr?p Priffyrdd fod Cludiant Cymunedol yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cymorth i Wasanaethau Bws (BSSG). Disgwylid ateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ariannu cyfatebol ar gyfer dyraniad BSSG. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y penderfyniad arfaethedig a wnaed gan y Cabinet pan nad oedd y sefyllfa wedi ei deall yn llawn a holodd ynghylch yr effaith ar y gwasanaethau bws, pe câi’r cymhorthdal ei ddileu. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau nad oedd yn hysbys beth fyddai gweithredwyr bysiau yn ei wneud pe câi’r cymhorthdal ei ddileu. Dywedodd hefyd fod Cludiant Cymunedol yn endid ar wahân a’i fod yn sefydliad dim er elw. Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Priffyrdd nad oedd neb yn gwybod ar hyn o bryd beth fyddai sefyllfa gweithredwyr bysiau pe câi’r cymhorthdal ei ddileu. 

 

Gwnaeth aelod o’r Pwyllgor y sylw fod y Cyngor yn y sefyllfa o orfod arbed arian a’i fod yn gwybod mai ychydig iawn o deithwyr oedd yn teithio’n gynnar yn y bore ac yn hwyr y nos ar rai llwybrau oedd yn derbyn cymhorthdal. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd cyfyngiadau yn cael eu gosod ar y defnydd o gludiant cymunedol. Gwnaeth Rheolwr Gr?p Priffyrdd y sylw bod cludiant cymunedol yn cael ei addasu ac mai gwirfoddolwyr oedd y gyrwyr. Dywedodd y gallai cludiant cymunedol gynorthwyo pan fyddent yn gwybod beth fyddai effaith dileu cymhorthdal. Gwnaeth Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y sylw bod cludiant cymunedol yn ddibynnol ar ganiatâd a thrwyddedu. 

 

Mynegodd aelodau bryder ynghylch y rhybudd 48 awr oedd ei angen ar hyn o bryd i archebu cludiant cymunedol ac a fyddai modd newid hyn pe bai ei angen ar frys. Gwnaeth Rheolwr Gr?p Priffyrdd y sylw nad y Cyngor oedd yn rheoli’r defnydd o gludiant cymunedol, ond ei fod yn gweithio gydag ef.

 

Credai aelod o’r Pwyllgor nad oedd galw i mewn y penderfyniad arfaethedig a wnaed gan y Cabinet yn ddefnydd priodol o arian cyhoeddus ac y dylai’r aelodau fod wedi cymryd y cyfle i wneud awgrymiadau ynghylch y cynnig i ddileu cymhorthdal bysiau pan oedd proses y gyllideb yn cael ei hystyried gan y Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb ac yn y Gyngor. Roedd angen i'r Cyngor fod yn realistig ac amddiffyn cymunedau a gwneud defnydd doethach o’i adnoddau. Roedd gwasanaeth rhif 73 yr oedd ei gymhorthdal wedi cael ei ddileu o’r blaen yn dal i fynd. Holwyd ynghylch cost galw i mewn. Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth yr aelodau na allai’r Pwyllgor ganolbwyntio ond ar y 3 rheswm am alw’r penderfyniad i mewn. 

 

Dywedodd aelod o’r Pwyllgor fod y cymhorthdal ar gyfer llawer o lwybrau wedi cael eu dileu, ond bod y gwasanaeth yn parhau a mynegwyd pryder bod y cwmnïau bws yn cymryd arian cyhoeddus yn ddidwyll. Roedd penderfyniad arfaethedig y Cabinet yn ymwneud â thorri cymorthdaliadau ac nid â thorri gwasanaethau bws. Gwnaeth y Prif Weithredwr y sylw mai nod cwmnïau bysiau yw cynyddu eu helw i’r eithaf ac mai penderfyniad y cwmnïau hynny fyddai a fyddent yn cadw’r llwybrau hynny yr oeddent yn eu gweithredu yn dilyn dileu’r cymhorthdal. Dywedodd fod y rhan fwyaf o gwmnïau bysiau wedi parhau i redeg gwasanaethau bws er gwaethaf dileu’r cymorthdaliadau cynt. 

 

Mynegodd aelod o’r Pwyllgor bryder y byddai dileu cymhorthdal ar lwybr 61 yn effeithio ar allu trigolion i fynychu Meddygfa Portway ym Mhorthcawl ac y gallai'r llwybr ddiflannu. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau nad oedd yn hysbys beth fyddai gweithredwyr bysiau yn ei wneud pe câi’r cymhorthdal ei ddileu. Dywedodd mai’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet oedd realiti’r toriadau cyllidebol oedd yn wynebu'r Awdurdod. Dywedodd hefyd fod y toriadau yn y gyllideb a wnaed i Gyfarwyddiaeth y Cymunedau yn anghymesur o gymharu â’r rhai a wnaed i Gyfarwyddiaethau eraill, oherwydd natur anstatudol ei gwasanaethau. Byddai’n rhaid gwneud toriadau o £2 filiwn pellach i’r Gyfarwyddiaeth hon yn y flwyddyn nesaf ac roedd yn rhaid i’r Cyngor fyw o fewn ei gyllideb. Roedd yn rhaid i’r Cyngor wneud toriadau i’w wasanaethau a byddai’n rhaid darganfod £148 mil o doriadau mewn lleoedd eraill pe na bai yn dileu’r cymorthdaliadau i wasanaethau bws. Dywedodd y cynhelid trafodaethau gyda’r cwmnïau bysiau ynghylch dileu cymhorthdal. 

 

Gwnaeth aelod o’r Pwyllgor y sylw bod gan y Cyngor ddyletswydd i’r cyhoedd a bod angen i’r Cabinet gymryd y cyhoedd i ystyriaeth a’r angen i wario arian yn ddoeth. Nid oedd tystiolaeth o’r hyn y gallai’r cwmnïau bysiau ei fforddio ac roedd angen edrych i mewn i hyn ac a oedd modd rhoi’r gwasanaethau allan i dendr ac a oedd y cwmnïau bysiau yn codi gormod. Hysbysodd Rheolwr Gr?p Priffyrdd y Pwyllgor fod y llwybrau wedi eu rhoi ar dendr eisoes ac yn derbyn cymhorthdal. Byddai’n rhaid i weithredwyr ystyried nifer o ffactorau pe câi’r cymorthdaliadau eu dileu. Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor am eglurder ynghylch y trefniadau amserlennu ac a oedd modd eu newid. Dywedodd Rheolwr Gr?p Priffyrdd mai’r Cyngor sy’n datblygu’r amserlen a’i bod yn cael ei hanfon allan i weithredwyr; mae llawer o’r amserlenni’n hanesyddol ac yn seiliedig ar deithwyr yn teithio i leoedd addysg a gwaith. Hysbysodd Swyddog Cludiant Cyhoeddus y Pwyllgor fod yr amserlenni wedi cael eu datblygu gyda’r gweithredwyr a bod yr hynaf yn dod o 2005 a’r amserlen fwyaf newydd yn dod o 2009. Hysbysodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y Pwyllgor eu bod yn edrych ar 10% o arbedion oherwydd lefel yr arbedion yr oedd angen eu gwneud i’r gyllideb.  

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a oedd y llwybrau a nodwyd ar gyfer dileu cymhorthdal yn rhai economaidd i’w rhedeg. Hysbysodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod yr holl lwybrau bysiau yn destun tendr a phan oedd cymorthdaliadau wedi eu dileu yn y gorffennol, bod y gwasanaethau wedi parhau, oedd yn codi’r cwestiwn a oedd angen y cymorthdaliadau hynny mewn gwirionedd. Hysbysodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau y Pwyllgor eu bod wedi gofyn i weithredwyr bysiau roi gwybodaeth am niferoedd teithwyr ond roeddent wedi gwrthod gwneud hynny am resymau sensitifrwydd masnachol. Dywedodd aelod o’r Pwyllgor fod 5 o’r 6 llwybr oedd yn derbyn cymhorthdal o’r blaen wedi eu cadw ar sail masnachol gydag addasiadau neu eu bod yn rhedeg yn llai aml. Hysbysodd aelod o’r Pwyllgor y Pwyllgor fod First Cymru yn rhan o’r First Group gydag elw cyn treth yn y miliynau, y gellid ei briodoli’n rhannol i gymhorthdal cyhoeddus a bod angen gwneud apêl i First Cymru i ddarparu gwasanaethau am lai o elw gan mai’r bobl fyddai’n colli allan fyddai eu cwsmeriaid. Gwnaeth aelod o’r Pwyllgor sylw ar realiti toriadau’r gyllideb yr oedd yn rhaid i’r Cyngor eu gwneud a phe na châi cymorthdaliadau eu dileu, y byddai’n rhaid gwneud toriadau yn adrannau eraill y Cyngor. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau y sylw fod angen canfod £2 filiwn o doriadau yng Nghyfarwyddiaeth Cymunedau a phe na chaent eu canfod yno y byddai’n rhaid eu gwneud mewn mannau eraill yn y Cyngor. Wrth edrych am £150 miliwn o doriadau drwy ddileu cymorthdaliadau bysiau, ni allai’r Cyngor gynnal y cymorthdaliadau hynny oherwydd y mesurau llymder yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu. Dywedodd fod y cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad ar y gyllideb gyda’r cyhoedd, proses Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb a’r Cyngor ac nid oedd dim pryderon wedi eu mynegi na dewisiadau gwahanol wedi eu rhoi gerbron. Esboniodd aelod o’r Cyngor ei bod hi wedi mynegi’r pryderon hynny ynghylch nifer y gwasanaethau yr oedd eu statws wedi eu dangos mewn coch pan oedd y Cyngor yn ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Cydnabu’r Aelod o'r Cabinet dros Gymunedau fod y pryderon hynny wedi eu gwneud yn y Cyngor pan oedd yn ystyried y SATC. Gwnaeth y sylw, os na châi’r toriadau eu gweithredu eleni, y byddai’n rhaid dod o hyd iddynt yn y flwyddyn wedyn a’i fod ef yn deall yr effaith galed y byddai hyn yn ei chael ar ddinasyddion. 

 

Roedd aelod o’r Pwyllgor yn ystyried bod penderfyniad arfaethedig y Cyngor angen ei egluro ymhellach a chredai fod cyfiawnhad dros y penderfyniad a wnaed ac y gellid cefnogi penderfyniad y Cabinet a bod y dadleuon ynghylch yr hyn y byddai’n rhaid i’r Cyngor ei wneud fel arall o ran gwneud toriadau mewn mannau eraill wedi cael eu cyfleu. Ystyriai aelod o’r Pwyllgor fod galw’r penderfyniad i mewn wedi rhoi’r cyfle i drigolion gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac roedd ef yn fwy cyfforddus gyda’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet. Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor am i wasanaethau bws gael eu hystyried yng ngoleuni datblygiadau newydd sy’n cael eu cynllunio ac y gallai llwybrau bysiau fod yn fwy proffidiol ped edrychid eto ar amserlenni fel y gallai pobl gymudo i’r gwaith ar y bws. Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddai ymgysylltu’n digwydd gyda gweithredwyr bysiau ar ailedrych ar amserlenni, ond na fyddai’r awdurdod yn eu rhoi yn ôl allan i dendr. Dywedodd fod y tîm Cludiant Cyhoeddus yn ymgysylltu â gweithredwyr bysiau ynghylch datblygu stadau newydd. 

 

Gwnaeth aelod o’r Pwyllgor sylw eu bod wedi gwrando ar bryderon y cyhoedd a’r atebion iddynt ac y gellid cefnogi penderfyniad y Cabinet. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai yna effaith ar wasanaethau trawsffiniol o ganlyniad i ffin newydd y bwrdd iechyd. Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y mater hwn wedi cael ei ystyried, ond cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru yn cyllido llwybrau trawsffiniol.

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a oedd unrhyw osodiadau wedi cael eu derbyn gan Gyfarwyddiaethau eraill gan y byddai dileu cymhorthdal yn effeithio ar fynediad at ofal iechyd ac ysgolion. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau y sylw bod pryderon wedi eu mynegi gan feysydd eraill yn y Cyngor a bod effeithiau arfaethedig ac effaith ymlaen wedi cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Dywedodd na ellid dal i wneud toriadau a chadw’r gwasanaethau hynny i redeg. Sicrhaodd y Prif Weithredwr fod yr holl doriadau wedi eu gwneud ar sail dull un Cyngor a bod y toriadau wedi eu gwneud yn anghymesur i Gyfarwyddiaeth y Cymunedau. Gwnaeth aelod o'r Pwyllgor y sylw bod angen i Gyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddeall y galw am wasanaethau yng Nghyfarwyddiaeth y Cymunedau a deall yr effaith ar benderfyniadau’r Cyngor. Esboniodd y Prif Weithredwr eu bod yn mabwysiadu agwedd dymor hir at broses y gyllideb ac o’r £25miliwn o gyllideb i Gyfarwyddiaeth y Cymunedau, y gellid defnyddio £12 miliwn. Hysbysodd y Pwyllgor fod angen gwneud arbedion o hyd at 65% yn y 4 blynedd nesaf ac na fyddai’r Cyngor bellach yn gallu darparu gwasanaethau yn y ffordd y mae’n eu darparu ar hyn o bryd. 

 

Holodd aelod o’r Pwyllgor sut y gallai’r Cyngor reoli effaith colled bosibl gwasanaethau bws ar drigolion gan fod y trigolion yn dibynnu ar y bysiau i gael i mewn i’w gwaith a mynd i'r ysbytai. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau sylw bod 5 allan o’r 6 llwybr oedd wedi cael cymhorthdal o’r blaen wedi parhau i redeg. Dywedodd fod deialog rhwng swyddogion a gweithredwyr bysiau yn parhau. Ni wyddai neb ar hyn o bryd beth fyddai gweithredwyr bysiau yn ei wneud. Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mai’r hyn sy’n gwneud llwybrau’n hyfyw yw’r defnydd a wneir ohonynt. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau y sylw bod y wybodaeth a geid gan weithredwyr ynghylch y defnydd o fysiau yn brin. 

 

Gwnaeth aelod o’r Pwyllgor y sylw mai’r cynnig yw tynnu cymhorthdal yn ôl ac a fyddai menter gymdeithasol yn gweithredu'r llwybrau er budd y cyhoedd. 

 

Ystyriai aelod o’r Pwyllgor fod y pwynt bwled cyntaf yn yr adroddiad i’r Cabinet yn niwlog. Gwnaeth Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y sylw bod swyddogion yn fodlon ar yr argymhelliad hwnnw oedd wedi cael ei wneud i’r Cabinet. Gwnaeth Aelod y Cabinet dros Gymunedau y sylw bod penderfyniad i ddileu cymhorthdal wedi cael ei wneud gan y Cyngor pan osododd y gyllideb a bod y Cabinet yn cael ei wahodd i gymryd camau i gadarnhau hynny. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd am eu cyfraniadau.

 

 

Casgliadau    

 

Clywodd aelodau o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc gan aelodau o’r cyhoedd am y modd y gallai dileu cymorthdaliadau bysiau o bosibl effeithio arnynt. Clywodd Aelodau y canlynol gan y siaradwyr cyhoeddus:

          Materion Cydraddoldeb – mae llawer o bobl oedrannus yn dibynnu ar wasanaethau bws i fynd o gwmpas gan fod hyn yn rhoi annibyniaeth iddynt. Mae llawer hefyd yn defnyddio’r gwasanaethau i’w cynorthwyo gyda’u hymrwymiad i ofalu am eu perthnasau.

          Pryderon ynghylch diffyg llwybrau cerdded diogel.

          Does gan canran fawr o bobl yn y cymunedau gwledig ddim mynediad at geir ac felly maent yn dibynnu ar y gwasanaethau bws i ymweld â theulu a theithio i’w gwaith ac adref.

          Effaith bosibl ar iechyd meddwl a llesiant o ganlyniad i gynnydd mewn unigrwydd.

          Mae rhai pobl yn dibynnu’n drwm ar wasanaethau bws ac yn eu hystyried yn hanfodol i’w hannibyniaeth. 

          Risgiau o gwmpas datgysylltu pobl oddi wrth eu cymunedau ehangach.

 

Cododd yr Aelodau y pryderon canlynol:

          Colli cyllid Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol o bosibl pe bai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn dileu’r cymorthdaliadau.

          Cysylltiadau cludiant cymunedol.

          Pryderon ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i ychwanegu at elw cwmni preifat.

          Pryderon nad oedd amserlenni bws wedi cael eu hadolygu na’u diweddaru, yn rhai achosion ers dros 14 mlynedd, a’i bod felly’n anodd deall a oedd y llwybrau yn hyfyw, yn enwedig a derbyn y swm mawr o dai newydd yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn y 5 mlynedd ddiwethaf.

          Mae angen gwneud mwy o waith gyda’r cwmnïau bysiau i sicrhau gweithio allan yr amseroedd a’r llwybrau gorau er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf posibl a chynyddu incwm.

          Ni fyddai Aelodau a’r cyhoedd yn gallu deall yn llawn y toriad yn y cymorthdaliadau gan nad oedd modd dweud ar hyn o bryd a fyddai dileu’r cymhorthdal yn golygu dileu’r gwasanaeth gan mai penderfyniad i’r cwmni bysiau oedd hyn, sef a fyddai’r gwasanaeth yn dal yn ddewis hyfyw iddynt hwy.   

 

Clywodd y Pwyllgor y canlynol gan swyddogion:

   Dywedodd aelod o’r Cabinet, os na wnawn y toriad hwn, y bydd angen llenwi’r bwlch ariannol o rywle arall o fewn y SATC ac y gallai unrhyw ddewis arall posibl droi allan i fod yr un mor amhoblogaidd, os nad mwy felly.

   Nid oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn dileu’r gwasanaethau bws. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig dileu’r cymhorthdal a delir i gwmnïau bws preifat sy’n rhedeg y llwybrau. Mater i’r cwmnïau bws preifat i benderfynu fyddai a oedd y llwybrau yn dal yn hyfyw heb y cymhorthdal gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr. 

   Roedd angen sicrhau gostyngiad o 65% yng nghyllideb y Cymunedau dros y 4 blynedd nesaf ac felly pe na bai’r cynnig i ddileu’r cymhorthdal yn mynd rhagddo eleni roedd yn dra thebygol y byddai’r cymhorthdal yn cael ei ddileu yn y blynyddoedd i ddod.  

 

Yn dilyn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt gan Swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, nid oedd Aelodau’r Pwyllgor yn dymuno cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet ac felly, byddai penderfyniad y Cabinet yn dod i rym o ddyddiad y pwyllgor craffu sef y 4ydd o Fehefin 2019.                       

Dogfennau ategol: