Agenda item

Adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Ôl-16

Invitees:

Lindsay Harvey - CyfarwyddwrCorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cllr Phil White – Aelod Cabinet   Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Nicola Echanis, PennaethAddysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell, UwchYmgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De

John Fabes,  SwyddogArbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant

Kathryn Morgan, Prif Seicolegydd Addysg

Robin Davies, RheolwrGr?p Strategaeth Fusnes a Pherfformiad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant yr adroddiad gan roi diweddariad ar yr adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Ôl-16 ar draws yr awdurdod. Yn 2016, sefydlwyd bwrdd adolygu strategol (SRB) ac yn ei dro, sefydlodd yr SRB, Fwrdd Gweithredol Ôl-16 i adolygu darpariaeth ôl-16 ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Mae'r Byrddau hyn wedi cyflwyno cyfres o adroddiadau i'r Cabinet.  Drwy gydol y daith, roedd yna feysydd hanfodol a oedd yn gofyn am ddatrysiadau unigryw penodol. O ganlyniad i'r cymhlethdodau sylweddol o amgylch darpariaeth ADY, law yn llaw â'r ddarpariaeth ôl-16 brif ffrwd cafodd darn penodol o waith ei gynnal. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (Cydlynwyr ADY) mewn ysgolion ac ysgolion arbennig, ar y cyd ag uwch dimau rheoli, Gyrfa Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ac uwch reolwyr yn y Gwasanaeth Cynhwysiant, y cyfeirir atynt yn y canfyddiadau.  Arweiniodd y Gwasanaeth Cynhwysiant ddarn o waith a ariannwyd gan y Gronfa Arloesi ADY i ddatblygu dadansoddiad 'mapio a llenwi'r bylchau', y mae disgwyl iddo ddod yn set o Brotocolau. Mae llawer o waith yn cael ei yrru ar lefel ranbarthol, ac mae swyddogion awdurdod lleol yn parhau i ymgysylltu â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu a chefnogi darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd dros oed addysg orfodol.

 

Mae llwybrau dilyniant cyfredol yn bennaf mewn tri lleoliad. Mae dysgwyr Heronsbridge yn symud i fyny drwy'r ysgol hyd nes eu bod yn 19 oed, ceir carfan sy'n mynychu Ysgol Bryn Castell (YBC), gyda'r nifer uchaf o ddysgwyr yn mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. Amlygodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant yr angen i ganolbwyntio ar y berthynas gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a'r darpariaethau ar gyfer dysgwyr gydag ADY. O ran pwysau gan Lywodraeth Cymru (LlC) a'r mathau o gymwysterau y mae'r Sector Addysg Bellach (AB) angen canolbwyntio arnynt, caiff hyn ei fonitro. Mae darpariaeth yn YBC yn dda gyda rhai dysgwyr yn mynd am ddiwrnod i'r Coleg fel darpariaeth. Mae darpariaeth yn Ysgol Heronsbrigde wedi ei theilwra i bob carfan ac yn canolbwyntio ar ddysgu yn seiliedig ar waith/sgiliau galwedigaethol. O ganlyniad i eglurdeb gwell o ran meini prawf lleoliad ar gyfer mynediad i Ysgol Heronsbrigde, mae gan ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 anghenion dysgu fwy cymhleth, a bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r darpariaethau Ôl-16 gael eu haddasu i fodloni anghenion y carfannau hyn.

 

Amlygodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant y gwaith o ymweld ag ysgolion i adnabod y nodweddion sy'n gweithio'n dda o ran trosglwyddiadau llwyddiannus gan gynnwys cysylltiadau gyda Chydlynwyr ADY, cysylltiadau â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a'r gwaith gyda chynghorwyr Gyrfa Cymru.  Maent hefyd yn cefnogi dysgwyr i wneud ceisiadau, mewn ymweliadau a thrwy siarad â rhieni a chydlynwyr yn y coleg, er bod hwn yn adnodd sydd dan gryn dipyn o bwysau. Mae angen deall yn glir safbwyntiau'r myfyrwyr a'u rhieni, a'r dyheadau sydd ganddynt ar gyfer trosglwyddo. Mae cael y cwrs yn iawn yn hanfodol wrth symud ymlaen ac ystyrir eu cael i uwchsgilio eu hunain yn rhan werthfawr o drosglwyddo. 

Amlygodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant awgrymiadau ar gyfer gwella cymorth i ddysgwyr ADY sy'n trosglwyddo gan gynnwys cynllunio'n gynnar ar gyfer trosglwyddo i Gyfnod Allweddol 4, gwell a'r pwysigrwydd o sesiynau trosglwyddo a blasu, yn enwedig i ddysgwyr sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.  Yn ogystal, byddai mwy o ymweliadau â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y flwyddyn, nid ar y diwedd yn unig, yn fuddiol.

 

Er mwyn cefnogi trosglwyddo'n llwyddiannus, adnabuwyd nifer o faterion. Amlygwyd materion o ran cyllid penodol annigonol gan LlC, fel bod ystod addas o ddewisiadau/cyrsiau ar gyfer dysgwyr ag ADY ar y lefel iawn.   Roedd LlC wedi annog colegau AB i ganolbwyntio eu hadnoddau ar Lefel 3, Lefel 4 a Phrentisiaethau, felly nid oedd ffocws yn cael ei roi ar gyrsiau Mynediad a Lefel 1, fodd bynnag mae'r cydbwysedd yn dechrau cael ei adfer.

 

Yn y blynyddoedd diweddar, mae eglurdeb gwell wedi bod o ran meini prawf lleoliad ar gyfer mynediad i Ysgol Heronsbridge. Mae hyn, yn ei dro, yn cael effaith ar natur y dysgwyr sy'n cael mynediad i Ysgolion Heronsbridge. Mae angen cynllunio'n ofalus a strategol anghenion i'r dyfodol y dysgwyr hyn rhwng 16-18 oed, gyda phartneriaid allweddol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cychwynnwyd adolygiad o ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr gydag ADY gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, a fydd yn dod i ben yn Hydref 2019.

 

Nododd aelodau fod gan ddisgyblion o Ysgol Bryn Castell (YBC) anghenion dysgu ychwanegol cymhleth iawn, a gofynnwyd am astudiaeth achos o ddisgybl ôl-16 yn YBC, gan amlygu'r buddion a geir o'r darpariaethau ar gael.  Aeth yr Aelod ymlaen i ofyn pa gymorth sydd ar gael i'r garfan rhwng 19 a 25 oed? Eglurodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar, eu bod yn gweithio'n agos â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.  Gyda datblygiad y ddeddf, mae staff allweddol penodol yn gweithio â'r rhai hynny hyd at 25 oed, ond cydnabuwyd bod angen dealltwriaeth well yn y maes.  Gwnaeth y Prif Seicolegydd Addysgol gydnabod ymhellach ein bod yn dal yn y camau cynnar o ran sut ydym yn symud ymlaen o'r cylch gorchwyl cyfredol.  Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gydnabod yr adolygiad o'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr gydag ADY sy'n cael ei gynnal gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, a dywedodd wrth Aelodau y byddai'n disgwyl gweld hwn yn rhan o'r adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref.  Amlygodd Aelod y rhyngweithio sy'n ofynnol â Gwasanaethau Oedolion wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod hefyd am astudiaeth achos i ddangos sut mae dysgwr ADY ôl-16 wedi ymgymryd â phrofiad gwaith ac elwa o'r broses. Aeth yr aelod ymlaen i ofyn pa hyfforddiant sy'n cael ei roi i'r rhai hynny sy'n cynnig profiadau gwaith i ddysgwyr ag ADY?  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant gydnabod nad oes hyfforddiant yn cael ei gynnig gan yr ysgolion, ond ei fod yn cael ei ddarparu gan sefydliadau'r Trydydd Sector sy'n cynnig profiad gwaith ac interniaethau ac yn eu paratoi ar gyfer gwaith yn y sector penodol hwnnw. Cydnabuwyd bod rhai dysgwyr yn yr ysgolion yn ei chael hi'n anodd dygymod â sefyllfaoedd prif ffrwd, ac yn aml, mae'r ysgol yn ymgysylltu â'r sail un-i-un â'r cyflogwr i greu pecyn wedi ei deilwra.  Bydd sgwrs yn cael ei chynnal â'r cyflogwr i ganfod gwerth yn y lleoliad. Agwedd arall yw datblygu rhaglenni interniaeth.  Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant gydnabod ei bod hi'n cymryd amser hir i baratoi'r seiliau ar gyfer dod o hyd i gyflogwr, ac mai Ysbyty Tywysog Cymru yw'r cyflogwr a ffafrir gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd wrth Aelodau ei fod wedi cymryd 18 mis i baratoi pecyn cyn ei lansio ym mis Medi 2018, gyda charfan o 9 o ddysgwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, a ddymunai ennill cymhwyster Lefel 1 mewn tri lleoliad gwahanol ar draws yr Ysbyty.

 

Holodd Aelod a oes yna unrhyw berthynas â sefydliadau lleol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer dysgwyr ag ADY, yn enwedig y rhai hynny ag ADHD neu Tourrette's, a allai beri rhwystrau sylweddol?  Yn ogystal, gofynnodd Aelod am leoliadau penodol yn y Diwydiant Twristiaeth. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant nad yw perthnasoedd yn cael eu sefydlu gan yr Awdurdod Lleol, ond gan yr ysgolion eu hunain, ond ar gyfer y dysgwyr hynny ag anghenion cymhleth, byddai ymarfer yn cael ei wneud drwy Gydlynwyr ADY.

 

Cododd Aelod bryderon am hyblygrwydd y broses ADY, a sut beth fyddai ei natur ar ôl 10 i 15 mlynedd. Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gydnabod yr angen i gynllunio ar gyfer 10 i 15 mlynedd, ond amlygodd y bydd newidiadau yn cael eu gwneud, a'i fod yn anodd cynllunio wrth symud ymlaen. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio darparu pob cyfle, ac amlygwyd stori lwyddiant YBC a'r angen i weithio'n agos ag awdurdodau lleol eraill.

Gofynnodd Aelod beth yn nhermau Gwasanaethau Cymdeithasol, beth yw natur trosglwyddo ar hyn o bryd, beth fydd ei natur ar ôl yr adolygiad ôl-16 a sut beth fydd ei natur wrth symud ymlaen i'r yr ystod oedran hyd at 25 oed.  Eglurodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar nad yw'r ddeddf yn newid y cyfrifoldeb, ond yr hyn a wna'r ddeddf yw rhoi mwy o gyfrifoldeb ar addysg.  Bydd angen i ni gynnal y cysylltiad hwnnw â'n cydweithwyr gwasanaethau cymdeithasol a datblygu ein perthynas â gwasanaethau oedolion.  Aeth yr Aelod ymlaen i ofyn a oes yna her gyda staffio.  Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod hynny'n wir.  Wrth i'r gofyniad i wneud arbedion o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (MTFS) barhau, mae popeth newydd yn her, ac mae'r ddeddf ADY yn rhoi mwy o bwyslais ar hynny. Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant gydnabod bod hyn yn gyfle gwych i feysydd ddod ynghyd i ddiffinio elfennau sy'n dod i rym ac edrych yn iawn ar y protocolau pan fyddant ar gael.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn edrych ar flaenoriaethau Consortiwm Canolbarth y De (CSC) wrth ein paratoi ar gyfer y ddeddf. Rhan o hyn fydd edrych ar sut ydym yn edrych ar weithio mewn partneriaeth a sut ydym yn rhyngweithio â gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Mae'r ddeddf yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gydweithio, sydd wedi cael ei drafod ar lefel cyfarwyddwr.

 

Amlygodd Aelod fod Pen-y-bont ar Ogwr yn y gorffennol wedi bod yn awdurdod â nifer isel o ddatganiadau, a godai'r pryder y gallai hyn fod yn rhoi pobl ifanc dan anfantais. Eglurodd y Prif Seicolegydd Addysg ei fod yn ymwneud, yn hanesyddol, â bod yn arweinydd anghenion a chymryd safbwynt rhagweithiol.  Ar hyn o bryd, mae ein datganiadau'n cyrraedd y lefel, ond rydym yn cydnabod bod angen i ni edrych ar yr anghenion, yn hytrach na'r broses statudol.  Mae'r broses statudol wedi cynyddu'r angen i edrych ar symleiddio ein proses statudol ledled Cymru.  Yn hytrach na chategoreiddio myfyrwyr, bydd gan fyfyrwyr gynllun unigol.  Rydym yn gobeithio cael gwared ar rai o'r materion a fyddai, yn y gorffennol wedi rhoi ein dysgwyr dan anfantais.  Eglurodd y Rheolwr Gr?p Busnes a Strategaeth fod yr Awdurdod Lleol (ALl) wedi cyflawni'n gyson ar 100% o ddatganiadau o fewn y 26 wythnos, gydag eithriadau i'r oedi yn cael eu gyrru gan ffactorau allanol, a chaiff y dangosydd perfformiad hwn ei fesur bob chwarter.

 

Amlygodd Aelod fod rhieni yn teimlo ei fod yn frwydr o ran gwaith papur, a bod angen cymorth arnynt i fynd heibio'r pwynt hwn.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cwrdd â Theuluoedd Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr i drafod yr heriau.  Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gydnabod yr anhawster i rieni a'r angen i weithredu arno, ac eglurodd fod yr awdurdod wedi darparu ymateb i Deuluoedd Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr, ac y byddai'n hapus i roi hwn i'r Pwyllgor Craffu. Eglurodd y Prif Seicolegydd Addysg, er ein bod yn symud ymlaen gyda'r diwygiad a chynlluniau unigol, rhan o'i chylch gorchwyl, fel un sy'n newydd i'r swydd, yw edrych ar y broses statudol a sut allwn ni wneud y broses yn haws i deuluoedd.

 

Gofynnod Aelod am effaith y lleihad yn y lwfans Cynhaliaeth Addysg, a holodd p'un a oes yna unrhyw gyllid tebyg ar gael. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd i edrych ar y mater hwn ac adrodd yn ôl.

 

Gofynnodd Aelod am eglurdeb yn nhermau trafnidiaeth gyhoeddus a chasgliadau'r adolygiad o drafnidiaeth gyhoeddus, a gofynnodd am sicrwydd ynghylch y rhai hynny na all ddefnyddio'r drafnidiaeth.   Eglurodd y Rheolwr Gr?p Busnes a Strategaeth nad oes unrhyw ddyletswydd statudol y tu hwnt i oed 16, hyd yn oed i'r rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi dysgwyr ôl-16 sy'n dymuno mynd i'r coleg, ac maent wedi llunio pecynnau unigryw o drafnidiaeth ar gyfer y rhai hynny ag anghenion cymhleth.  Mae angen ystyried y disgresiwn hwnnw wrth symud ymlaen a'r effaith ar sut maent yn parhau â'u haddysg heb y ddarpariaeth benodol honno. Mae angen i ni fod yn glir drwy gydol y broses gwneud penderfyniadau, sicrhau yr edrychir ar yr angen arbennig a'r safbwynt o gydraddoldeb yn erbyn yr effaith o gefnogi'r bobl ifanc hynny. Mae'r newid i'r trefniant disgresiwn yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn fanwl.

 

Gofynnodd Aelod a allai'r prosiect Ysbrydoli i Gyflawni Cronfa Gymdeithasol Ewrop gael ei effeithio.  Cadarnhaodd y Swyddog Arbenigol: Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant y bydd y prosiect yn rhedeg tan 2021.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad yngl?n â phwy fyddai'n cwblhau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) a amlinellir yn eitem 6.2.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai swyddogion yn gwneud hynny.

 

Casgliadau

 

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am adroddiad yn y dyfodol yn amlinellu cynigion datblygu ar gyfer cynyddu darpariaethau Ôl-16 i ddysgwyr ADY rhwng 19-25 oed.

 

Tynnodd Aelodau sylw at y ffaith nad yw Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu sefydliadau lleol yn lleoliadau gwaith i ddysgwr ADY, ond argymhellwyd, lle bo'n briodol, y dylid gwneud pob ymdrech i ehangu lleoliadau o fewn y sector twristiaeth.

 

Wrth drafod toriadau posibl i'r gyllideb ar gyfer trafnidiaeth ôl-16, argymhellodd y Pwyllgor y dylid dilyn ar arfer gorau Awdurdodau Lleol eraill sydd eisoes wedi gwneud arbedion effeithlon yn y maes hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Er mwyn arddangos buddion darpariaethau ADY ôl-16, mae Aelodau wedi gofyn am astudiaethau achos gan:

·      Ddysgwr o Ysgol Bryn Castell (YBC), gan fod aelodau yn ymwybodol bod YBC yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymdeithasol ac ymddygiadol ychwanegol ac anghenion dysgu ychwanegol;

·      Dysgwr sydd wedi ymgymryd â phrofiad gwaith ac wedi elwa o'r profiad hwnnw.

 

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud cais am gopi o'r ymateb a roddwyd i Deuluoedd Arbennig Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â'r cymorth i rieni sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar waith papur a ddarperir gan Gyngor Pen-y-bont yr Ogwr, a chwblhau'r gwaith papur hwnnw.

 

Tynnodd Aelodau sylw at y lleihad yn y lwfans cynhaliaeth addysg, a gwnaethant ofyn am fanylion yr effaith y mae hyn wedi ei gael ar y ddarpariaeth addysg neu a oes yna gyllid tebyg ar gael.

Dogfennau ategol: