Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar gyflwyno Rhaglen Hyfforddi a Datblygu'r Cyngor i Aelodau a gweithgarwch cysylltiedig.
Eglurodd fod gan y Pwyllgor y swyddogaethau canlynol gyda chymorth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ôl yr angen:
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fanylion y sesiynau hyfforddi a datblygu a gynhaliwyd rhwng 30 Ebrill 2018 a 2 Mai 2019 i Aelodau. Eglurodd hefyd Sesiynau Hyfforddi'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfodydd y Cyngor a ddarparwyd ers y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd diwethaf ar 14 Mawrth 2019.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod am sesiwn hyfforddi arall yn yr arfaeth ar Sgiliau Cadeirio. Roedd y Pwyllgor o'r farn y byddai hwn yn bwnc gwerthfawr.
Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i'r Aelodau roi gwybod am unrhyw sesiynau hyfforddi a fyddai o fudd iddynt.
Gofynnodd Aelod a fyddai'n bosibl cael hyfforddiant ar y Systemau Lles a Budd-daliadau. Byddai hyn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i'r holl Aelodau, iddynt allu cyfeirio eu hetholwyr at y mannau cywir. Gofynnodd a fyddai'n bosibl iddo fod yn Fodiwl E-ddysgu a fyddai'n rhoi trosolwg cryno o'r hanfodion.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ddarparu fel sesiwn Datblygu Aelodau neu fel sesiwn Friffio Cyn Cyfarfodydd y Cyngor.
Gofynnodd aelod a ellid darparu gwybodaeth glir yn ystod yr hyfforddiant ar yr hyn all neu ni all Cynghorydd ei ddweud. Dylai'r hyfforddiant ymwneud mwy â chyfeirio eu hetholwyr yn hytrach na rhoi cyngor iddynt.
Gofynnodd Aelod a ellid darparu hyfforddiant ar gael sgyrsiau anodd â'r cyhoedd fel y gallant fod mewn sefyllfa well i ddelio â sefyllfaoedd ymosodol a sefyllfaoedd sensitif etc. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellid darparu hyn, gan fod hyfforddiant eisoes ar gael i Swyddogion ar y mater hwn. Eglurodd y byddai'n cysylltu ag AD i weld a ellid teilwra'r hyfforddiant hwn i Aelodau.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn ogystal â hyn, y byddai'n hapus i ddarparu adroddiad i'r pwyllgor nesaf ar Weithio'n Annibynnol a fyddai'n mynd law yn llaw â'r pwnc hwn.
Gofynnodd Aelod a ellid darparu rhagor o gyfarwyddiadau neu hyfforddiant ar sut i fewngofnodi a defnyddio'r system E-ddysgu gan fod nifer o aelodau yn cael anawsterau wrth fynd at y modiwlau E-ddysgu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n e-bostio'r holl Aelodau i'w hannog i gwblhau'r modiwlau E-ddysgu ac y gallai roi'r holl wybodaeth fewngofnodi ofynnol iddynt.
Gofynnodd Aelod a ellid darparu hyfforddiant ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) gan fod nifer o Aelodau yn ei dderbyn ond heb fod yn ymwybodol o'i fanylion. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n edrych i weld a ellid darparu hyfforddiant ar hyn i'r holl Aelodau.
PENDERFYNWYD: Y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:
(1) yn nodi cynnwys yr adroddiad;
Yn adnabod meysydd eraill ar gyfer Datblygiad Aelodau yn nhermau'r System Lles a Budd-daliadau; Delio â Sgyrsiau Anodd a Sgiliau Cadeirio gyda manylion am hyn i'w rhannu'n ddiweddarach.
Dogfennau ategol: