Agenda item

Datganiad o Gyfrifon 2018/19 (Heb eu harchwilio)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Ariannol a Chau y datganiad nas archwiliwyd o gyfrifon ar gyfer 2018-19 er gwybodaeth a datganiad blynyddol yr Awdurdod Harbwr ar gyfer 2018-19 i'w gymeradwyo.

 

Esboniodd fod datganiad o gyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi'i atodi fel Atodiad A i’r adroddiad a’i fod yn cynnwys amrywiaeth o ddatganiadau gwahanol sy'n ymwneud â’r perfformiad ariannol a chronfeydd, yn ogystal â datganiad ar y trefniadau llywodraethu corfforaethol.  Roedd y datganiad blynyddol ar gyfer yr Awdurdod Harbwr wedi'i atodi i'r adroddiad hefyd i’w gymeradwyo.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Ariannol a Chau y cafodd y datganiad o gyfrifon ar gyfer 2018/19 ei gymeradwyo gan y Swyddog Adran 151 a'i roi i Swyddfa Archwilio Cymru ar 28 Mai 2019, bythefnos ymlaen llaw i'r dyddiad y gofynnwyd amdano. Roedd hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gau’r cyfrifon yn gynharach, fel a wnaed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Amlinellodd y Datganiadau Ariannol Craidd a oedd wedi'u cynnwys yn y cyfrifon, a gynhyrchwyd yn unol â Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol a dangosyddion eraill o ddiddordeb.

 

Cyfeiriodd un aelod at y nifer fawr o ysgolion a oedd â diffyg yn eu cyllideb, gan holi a oedd y fformiwla ariannu yn gywir. Atebodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod hynny'n gwestiwn diddorol a bod dogfen newydd wedi’i chyflwyno i'r Cyngor yn ddiweddar a oedd yn dangos yr hyn a oedd yn cael eu wneud i reoli'r diffyg. Roedd rhai cynghorau wedi newid y fformiwla ond roedd y cyfanswm wedi aros yr un fath, felly, yn yr achosion hyn, byddai rhai ysgolion a fyddai ar eu hennill a rhai ar eu colled. Fforwm Cyllidebau Ysgolion oedd y corff a fyddai'n ystyried manteision/anfanteision unrhyw newidiadau i'r fformiwla ariannu.

 

Nododd yr aelod, o ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, y byddai'r ysgolion hynny a oedd eisoes â diffyg yn ei chael yn anodd mantoli eu cyllideb. Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 eu bod eisoes yn gweithio'n agos gydag ysgolion i helpu i leihau'r diffygion ac, yn gyffredinol, roedd ysgolion yn y sefyllfa hon am bob math o resymau. Roedd lefel y cymorth wedi'i gynyddu i roi cyfle i ysgolion greu cynllun yn nodi sut byddent yn lleihau'r diffyg ac roedd hi'n bendant eu bod wedi achub y blaen ar y sefyllfa.  Gofynnodd yr aelod sut roedd diffyg mewn cyllideb yn cyd-fynd â chanlyniadau arolygiadau Estyn a sut y gallai'r ysgolion hyn wneud cynnydd.     Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y duedd yr un peth ledled Cymru. Roedd y sefyllfa wedi gwella rhywfaint eleni ond dim ond oherwydd grant munud olaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn anodd i ysgolion ymdopi pan oedd gwybodaeth am grantiau ar gael ar y funud olaf. Nid oedd grant mawr gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gytuno eto ar gyfer y flwyddyn bresennol ac roedd hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ysgolion reoli eu cyllidebau.  Eglurodd y byddai arolygwyr yn edrych ar y trefniadau rheoli ariannol sydd ar waith i gefnogi ysgolion yn ystod arolygiad. Roedd yr adroddiad diweddar gan Estyn yn galonogol ac roeddent yn gallu gweld bod cymorth da yn cael ei ddarparu. Byddent hefyd yn edrych ar y balansau dros nifer o flynyddoedd a niferoedd y disgyblion. Roedd yn anodd gwneud cynlluniau, ond roeddent yn cefnogi’r ysgolion gymaint â phosibl.

 

Cyfeiriodd un aelod at leihad mewn costau gwasanaethau o tua £10 miliwn yn ystod y flwyddyn, gan ofyn a oedd hynny yn unol â'r disgwyliadau o gofio’r cynllun cynilo am y flwyddyn. Ychwanegodd hi mai’r lleihad mwyaf, yn ôl pob tebyg, oedd o fewn Addysg a Chymorth i Deuluoedd a gofynnodd a oedd yr arbedion yn unol â'r disgwyl.     

Esboniodd y Rheolwr Cyllid – Rheoli Ariannol a Chau mai oherwydd addasiad technegol yn rhannol oedd y lleihad o fewn Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn dilyn y broses ailbrisio ysgolion ac roedd hyn wedi arwain at lai o wariant o un flwyddyn i’r llall. Gofynnodd yr aelod a lwyddwyd i wneud arbedion eraill ac a oedd y ffigurau yn dangos hyn. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y ffigur yn adlewyrchu'n rhannol yr addasiadau technegol y cyfeiriwyd atynt yn ddiweddar ac yn adlewyrchu’n rhannol arbedion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a throsglwyddiadau i’r setliad gan Lywodraeth Cymru. Nid oedd cyfanswm gwirioneddol cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgyn dros y blynyddoedd diweddar. Yn wir, roedd yn bosibl ei fod wedi cynyddu diolch i grantiau yn cael eu trosglwyddo i'r setliad, ond mae’n ymddangos yn is eleni oherwydd addasiadau technegol.

 

Holodd y Cadeirydd pam fod y tabl ynghylch gorwariant a thanwariant gan gyfarwyddiaethau, a oedd wedi’i gynnwys yn y cyflwyniad, wedi'i gynnwys yn y cyfrifon y llynedd ond nid eleni, a gofynnodd a oedd y gorwariant ar y Gyfarwyddiaeth Cymunedau o ganlyniad i arbedion heb eu cyflawni neu gostau annisgwyl. Esboniodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro nad oedd ganddi'r manylion wrth law ond y byddai adroddiad ar berfformiad ariannol ar gyfer 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos ganlynol. Roedd rhan o'r gorwariant yn ymwneud ag arbedion cyllideb heb eu cyflawni’n llawn ac roedd rhan yn sgil gorwariant ar wasanaethau. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 nad oedd dau gynllun penodol wedi’u gweithredu, sef llwybrau bysiau â chymhorthdal a chyfleusterau cyhoeddus, ac y byddai'r rhain yn ymddangos fel gorwariant.  Roedd oedi wedi bod ynghylch y ddau beth o ganlyniad i ymarfer ymgynghori ond byddent yn cael eu cyflenwi ymhen amser.

   

PENDERFYNWYD:      Bod y Pwyllgor wedi nodi’r datganiad nas archwiliwyd o gyfrifon ar gyfer 2018-19 ac wedi cymeradwyo datganiad blynyddol yr Awdurdod Harbwr ar gyfer 2018-19.

Dogfennau ategol: