Agenda item

Cyfleusterau Cwrt Blodau

Cofnodion:

Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y Cydbwyllgor i ystyried yr eitem hon cyn yr eitem ar y Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2018-29.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i’r Cydbwyllgor am ddarparu estyniad i gyfleuster y cwrt blodau yn Amlosgfa Llangrallo ac yn gofyn am i’r dyluniad gael ei gymeradwyo.

 

Rhoddodd wybodaeth am gefndir yr Amlosgfa i’r Cydbwyllgor a dywedodd, gan ei fod yn adeilad Cofrestredig Gradd 2, y dylid ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus. Rhoddodd hefyd gefndir pellach i Gyfleusterau’r Cwrt Blodau, y rhoddwyd manylion amdano yn adran 3 yr adroddiad. 

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth yr Aelodau am y sefyllfa bresennol fel yr amlinellwyd yn adran 4 yr adroddiad. Dywedodd hi wrth yr Aelodau fod Mr Jonathan Adams, y pensaer, yn bresennol heddiw i gyflwyno ei ddyluniad i’r Cydbwyllgor am eu cymeradwyaeth.

 

Arweiniodd Mr Adams yr Aelodau drwy’r cyflwyniad. Dangosodd lun o’r Amlosgfa fel yr oedd pan agorodd am y tro cyntaf a dangosodd y cyrtiau blodau (y cloestr gwasgaru). Esboniodd fod y dyluniad presennol yn hen-ffasiwn ac nad oedd yn addas bellach ar gyfer y mwyafrif o wasanaethau.

 

Esboniodd Mr Adams fod y colofnau gwreiddiol oedd yn eu lle yn 15x15 troedfedd ar wahân a’u bod yn bwriadu ymestyn y rhain ar draws yr ardd, a dangosodd ddyluniadau cyfrifiadurol i’r Aelodau o sut y byddai’n edrych.

 

Eglurodd Mr Adams pa ddefnyddiau a gâi eu defnyddio i adeiladu’r waliau, y lloriau ac adeiladwaith y bwa. Roedd rhagor o fanylion ynghylch hyn yn y cyflwyniad.

 

Dangosodd Mr Adams Animeiddiad Pensaernïol i’r Aelodau, sef fideo byr yn dangos sut y byddai’r adeiladwaith gorffenedig yn edrych.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd hyd oes ddisgwyliedig y defnyddiau a ddefnyddid a pha waith cynnal a chadw fyddai’n ei olygu.

 

Eglurodd Mr Adams fod yna oes hir iawn i'r math o bren a ddefnyddid.  Disgwylid iddo bara am 25 mlynedd o leiaf dan amodau tywydd eithafol ond y byddai’n para am 50 mlynedd o dan amodau arferol.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai glanhau yn achosi i rai o'r deunyddiau ddirywio.

 

Esboniodd Mr Adams na fyddai glanhau rheolaidd, fel amodau tywydd arferol, yn effeithio ar y deunyddiau yn unrhyw ffordd.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd i wynt godi’r to rywfaint.

 

Esboniodd Mr Adams fod hyn wedi ei gymryd i ystyriaeth yn y dyluniad ac felly na fyddent yn disgwyl i hyn fod yn broblem.

 

Dywedodd  Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth yr Aelodau y byddai pobl broffesiynol yn ymgymryd â’r gwaith ar bob cam er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y dyluniad a’r datblygiad wedi cael eu hystyried yn drwyadl.

 

Gofynnodd Aelod am yr amserlen oedd ganddynt mewn golwg a phryd y disgwylient fod wedi cwblhau’r adeiladwaith.

 

Eglurodd Mr Adams fod yna rai tasgau fyddai’n cymryd peth amser i’w cwblhau cyn y gellid dechrau ar y gwaith adeiladu ond eu bod yn anelu at orffen y gwaith erbyn diwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor:

 

(1)  yn cymeradwyo dyluniad arfaethedig yr estyniad i Gyfleuster y Cwrt Blodau;

(2)  yn awdurdodi’r swyddog technegol i ofyn am ganiatâd cynllunio a gwahodd tendrau o ran y gwaith oedd i gael ei gyflawni, yn amodol ar y manylion llai fyddai yn yr adroddiad terfynol, a ddygid gerbron y Pwyllgor ym mlwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dogfennau ategol: