Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar y cyd â'r Prif Weithredwr yn gofyn i'r Cabinet nodi canlyniadau'r ymgynghoriadau ar greu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, a nodi bod y seiliau wedi'u bodloni a bod 4 PSPO newydd yn cael eu creu.

 

Eglurodd y gallai Awdurdod Lleol greu PSPO os byddai'n fodlon ar seiliau rhesymol ei bod yn debygol y byddai gweithgareddau yn parhau mewn man cyhoeddus yn yr ardal honno ac y byddant yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd y rheiny yn y gymdogaeth a oedd yn debygol o fod o natur barhaus neu barhaol megis i wneud y gweithgareddau yn afresymol a chyfiawnhau'r cyfyngiadau a achoswyd gan yr hysbyseb. Ychwanegodd y cafodd PSPO eu dylunio i sicrhau y gallai'r rhan fwyaf sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ddefnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus, heb fygythiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd torri amod PSPO yn drosedd a gallai swyddogion gorfodi'r gyfraith roi rhybudd o dâl cosb penodedig o hyd at £100 neu yn dilyn euogfarn, dirwy o hyd at £1000.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y 5 Gorchymyn Mannau Cyhoeddus Dynonedig a'r 2 Orchymyn Gatio sydd eisoes wedi'u sefydlu. Ym mis Hydref 2017 ymfudodd y DPPO a'r Gorchmynion Gatio dan y Ddeddf 2014 i ddod yn PSPO. Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet ar 24ain Mehefin 2017 yn gofyn am gymeradwyaeth ar y PSPO newydd ac i ystyried a ellir gwneud unrhyw PSPO eraill ai peidio. Daeth yr ymgynghoriad deuddeg wythnos cyntaf dod i ben fis Tachwedd 2017. Amlinellodd y broses ymgynghori a chrynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd. Yna cytunwyd i oedi adroddiad i'r Cabinet i ymgymryd ag ymgynghoriad pellach ar faw c?n. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ym mis Chwefror 2019 ac fe gynhwyswyd manylion y broses ymgynghori yn yr adroddiad, yn cynnwys yr ymateb gan The Kennel Club.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y goblygiadau ariannol am weithredu'r pedwar gorchymyn ac ychwanegodd yr anfonir cais at bartneriaid yn gofyn am gyfraniad ariannol at y costau.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau mai fel yr adroddwyd i'r Cabinet ym mis Ebrill, dyma ail ran y broses a oedd yn mynd i'r afael â materion baw c?n. Ychwanegodd bod y gorchmynion wedi'u cymhwyso i'r holl ardaloedd lle'r oedd gan y cyhoedd fynediad atynt. Cyfeiriodd at bwynt 4.35a a phleser oedd nodi bod un o'r amodau yn gysylltiedig â symud a chael gwared ar ysgarthion c?n mewn bag neu fodd addas arall i'w gasglu ac y dylai wedyn gael ei adael mewn bin gwastraff neu fin pwrpasol neu fynd ag o adref. Dylai hyn fynd i'r afael â'r mater o fagiau yn cael eu gadael mewn llwyni neu'n hongian oddi ar goed.          

 

Gofynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a oedd gan yr awdurdod ddigon o finiau yn y mannau dynodedig. Atebodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol gan ddweud bod detholiad dda o finiau yn y fwrdeistref a bod y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer dau ddefnydd. Petai preswyliwr mewn ardal lle nad oedd biniau yn gyfagos, yna byddai disgwyl iddo fynd â'r bag adref gydag ef. Roedd hwn yn fater gydag ymddygiad cyhoeddus yn hytrach na hygyrchedd. 

 

Bu i'r Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol gyfeirio at bwynt 3.3 yr adroddiad sy'n ymwneud â gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn man cyhoeddus sy'n debygol o fod yn negyddol i ansawdd bywyd y gymuned leol, a gofynnodd a ddefnyddiwyd data gan yr Heddlu i gefnogi gwaith cyflwyno'r PSPO.  Roedd yn falch o weld y cafwyd ymgynghoriad â'r RSPCA a'r gynulleidfa'n ehangach yn hytrach na'r preswylwyr yn unig. Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bod yr heddlu yn rhan o'r ymgynghoriad a bu iddynt ddarparu tystiolaeth hanesyddol at yr ardaloedd hyn a oedd yn ychwanegu at y cyfiawnhad. Ychwanegodd bod yr RSPCA a The Kennel Club yn gwylio canlyniadau'r ymgynghoriadau o gwmpas y wlad yn arbennig mewn perthynas â gwaharddiad llwyr ar gaeau chwarae. Roedd The Kennel Club yn dadlau yn erbyn gwaharddiad llwyr ar gaeau chwarae ac ar wahân i hynny yn glynu'n eang at yr hyn yr oedd yr awdurdod ei eisiau. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol i egluro'r ardaloedd a ymdrinnir gan y PSPO mewn perthynas â Baw C?n. Eglurodd nad oedd yn gymwys i ardaloedd megis gerddi cefn neu dir preifat ond gall swyddogion weithredu ar ardal agored cyhoeddus.   

 

Bu i'r Arweinydd groesawu'r adroddiad a'r cynigion. Dywedodd ei bod hi'n bwysig gwneud y cyhoedd yn ymwybodol y gallant gael dirwy petaent yn methu â glanhau ar ôl eu c?n ac roeddent yn ceisio helpu perchnogion c?n drwy fewnosod mwy na 17 gorsaf lle gallant gael mynediad at fagiau a thros 100 o finiau ar draws y fwrdeistref, yn arbennig ym Mhorthcawl. Roedd hi hefyd yn bwysig rhybuddio preswylwyr bod rhai pobl yn personadu swyddogion gorfodi'r gyfraith ac y dylent wirio bathodynnau hunaniaeth ac na fyddai swyddogion gorfodi'r gyfraith byth yn gofyn am arian ymlaen llaw.  

 

PENDERFYNWYD:           Y Cabinet:

i.               wedi nodi canlyniadau'r ymgynghoriadau wrth greu pedwar Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus (PSPO);

ii.             wedi nodi bod y seiliau, fel a sefydlwyd ym mharagraff 3.3 o'r adroddiad, wedi'u bodloni; ac,

yng ngoleuni'r ymgynghoriad a'r seiliau yn cael eu bodloni, cytuniwyd i greu 4 PSPO newydd fel a sefydlwyd ym mharagraff 4.10 a 4.35 yr adroddiad ac yn Atodiad 1 (Gwahardd Alcohol a Mewnosod Giatiau) ac Atodiad 7 (Rheoli C?n) yr adroddiad.    

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z