Agenda item

Perfformiad Ariannol 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Dros Dro adroddiad yn darparu'r Cabinet â diweddariad ar berfformiad ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31ain Mawrth 2019. Cyfeiriodd at gyllideb refeniw net ac alldro terfynol y cyngor ar gyfer 2018-19 (Tabl 1 yn yr adroddiad) ac eglurodd bod yr alldro cyffredinol ar 31ain Mawrth 2019 yn danwariant o £429,000 a oedd wedi'i drosglwyddo i Gronfa'r Cyngor, gan dod â chyfanswm balans y Gronfa i £8.776 miliwn yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Darparodd cyllidebau'r gyfarwyddiaeth danwariant net o £1.142 miliwn, ar ôl tynnu i lawr o gronfeydd o £7.7 miliwn, a chyllidebau Ar Draws y Cyngor â thanwariant o £6.711 miliwn, ar ôl tynnu i lawr o gronfeydd o £2.3 miliwn. Roedd y rhain wedi'u gosod yn erbyn y gofyniad i ddarparu cronfeydd newydd a glustnodwyd am ystod o risgiau newydd ac ymrwymiadau gwariant y dyfodol. Roedd sefyllfa'r net hefyd yn ystyried incwm cronedig y dreth gyngor o £670,000 yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Bu i'r Pennaeth Cyllid Dros Dro adrodd bod y Cyngor wedi derbyn nifer o grantiau un tro gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys grantiau i ysgolion sydd werth cyfanswm o £1 miliwn, sydd wedi esmwytho'r pwysau ar y cyllidebau hyn i 2018-19 yn unig. Roedd hyn yn ogystal ag unrhyw gyfleoeddd eraill a gymerwyd i uchafu ffrydiau cyllid grant presennol. Heb y rhain, byddai'r tanwariant net ar gyllidebau'r Gyfarwyddiaeth ac Ar Draws y Cyngor wedi bod yn llawer is.

 

Darparodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ddiweddariad ar ostyngiadau cyllideb y flwyddyn flaenorol ac atgyfeirio aelodau at Atodiad 1, a thabl 2 sy'n darparu crynodeb fesul cyfarwyddiaeth. O'r £2.604 miliwn o gynigion cyllidebau'r flwyddyn flaenorol yn weddill, roedd £1.593 miliwn wedi'i wario, gan adael balans o £1.011 miliwn. Amlinellodd y safle gyda Gostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2018-19 a'r cam gweithredu sy'n ofynnol i'w cyflawni nhw yn 2019-20.

 

Bu i'r adroddiad ddarparu sylwebaeth ar sefyllfa ariannol bob prif faes gwasanaeth a sylwadau ar yr amrywiaethau mwyaf sylweddol. Roedd hefyd yn cynnwys cyllidebau, darpariaethau a gwasanaethau a oedd Ar Draws y Cyngor ac heb eu rheoli gan Gyfarwyddiaeth unigol.     

 

Darparodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro ddiweddariad ar raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2018-19 sydd ar hyn o bryd werth £35.474 miliwn, ac fe fodlonwyd £31.933 miliwn gan adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw gan gronfeydd wedi'u clustnodi, gyda'r £4.224 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol. Yna rhoddodd ddiweddariad i Aelodau ar y cronfeydd a glustnodwyd ac egluro bod y tynnu i lawr terfynol o gronfeydd yn £9.996 miliwn fel a fanylir yn nhabl 5 yr adroddiad.    

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro am gyflwyno'r adroddiad a diolchodd i'r Tîm Cyllid am gadw'r awdurdod yn ddiogel. Da oedd dangos arian dros ben yng ngoleuni'r heriau a phwysau ac ni ellir dibynnu ar yr "un-troeon" hyn yn y dyfodol. Roedd angen i'r awdurdod wneud arbedion sylweddol eto.

 

Cytunodd yr Arweinydd bod yr awdurdod yn wynebu dyfodol ariannol llwm. Ymgymerwyd â gwaith cychwynnol o ran cynllunio ac roedd yn amlwg na fyddant yn gallu mantoli'r cyfrifon heb wneud arbedion sylweddol, cynyddu'r Dreth Gyngor o lefel uwch na blynyddoedd blaenorol a cholli swyddi a phobl o'r sefydliad ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen. Roedd yn sicr na fyddai cyni yn dod i ben yn fuan ac roedd yn dod yn fwyfwy anodd i wneud y toriadau.

 

PENDERFYNWYD:            Y Cabinet wedi nodi sefyllfa wirioneddol y refeniw a'r alldro ar gyfer 2018-19.

 

 

 

Dogfennau ategol: