(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
(iv) Swyddog Monitro
Cofnodion:
Y Maer
Derbyniodd y Cyngor hysbysiad gan y Maer yn ymwneud â’r ymgysylltiadau yr oedd wedi'u cynnal ers ei Urddo, gan gynnwys mynychu G?yl Maesteg a mynychu YMCA Porthcawl i nodi pen-blwydd y Sefydliad Cenedlaethol yn 175 oed. Hyd yma, y mae fwyaf balch o gwrdd â disgyblion Ysgol Gyfun yr Archesgob McGrath yn Rowndiau Terfynol Cwmniau Young Enterprise ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd, a dysgu am eu busnes 'Archways', offer adolygu sy’n defnyddio olewau persawrus. Enillodd y disgyblion rownd derfynol Cymru a byddant yn parhau i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol DU Young Enterprise. Dymunodd y Maer bob lwc i’r disgyblion.
Dirprwy Arweinydd
Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor heddiw yn nodi National Refill Day, sef ymgyrch i leihau'r defnydd o blastig untro drwy annog bwytai, caffis, a busnesau i ail-lenwi poteli d?r cwsmeriaid am ddim. Gall busnesau gofrestru ar-lein yn refill.org.uk, tra gall pobl lawrlwytho ap sy'n dangos iddynt lle gallant lenwi eu poteli.
Rhoddodd wybod i'r Aelodau hefyd am adroddiadau'n ymwneud â dau ddyn sy'n ffugio bod yn swyddogion sbwriel 3GS newydd, ac sy’n mynnu taliadau arian parod ar unwaith ar gyfer troseddau taflu sbwriel. Anogodd y cyhoedd i gadw llygad am y sgam a dywedodd fod y swyddogion gorfodaeth bob amser yn gwisgo bathodynnau a chardiau adnabod swyddogol a byth yn gofyn am daliad arian parod. Bydd swyddogion gorfodaeth yn rhoi tocyn sydd arno fanylion y drosedd ac sy’n cynnig dulliau o dalu.
Soniodd y Dirprwy Arweinydd am ddau brosiect Trosglwyddo Asedau hefyd. Yn gyntaf, y parc sglefrfyrddio newydd ym Mhencoed, sy’n denu llawer o ymwelwyr. Mae’r prosiect £59,000 wedi dod yn sgil partneriaeth rhwng yr Awdurdod â Chyngor Tref Pencoed. Yn ail, mae £550,000 wedi’i wario ar Glwb Rygbi Bryncethin er mwyn ei drawsffurfio’n ganolfan gymunedol newydd, dyma ffrwyth llafur caled gan y Clwb a wnaed gyda chefnogaeth y tîm Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Cafodd y ddau brosiect eu cwblhau er budd eu cymunedau lleol.
Aelod Cabinet Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth yr Aelodau fod y côr gofalwyr, Off Duty, wedi dathlu wythnos gofalyddion drwy ryddhau sengl a fideo elusen am y tro cyntaf. Dywedodd fod y côr wedi'i ffurfio er mwyn rhoi cyfle i ofalwyddion lleol gael amser i'w hunain ac i gymdeithasu. Mae'r côr wedi cael ei sefydlu gyda chefnogaeth y Cyngor, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a Chanolfan Gofalyddion Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd wrth ei fodd yn gweld fod menter newydd o'r enw 'Super-Agers' ar gyfer gwella iechyd meddyliol a chorfforol oedolion h?n am derbyn cyfran o gyllid o £5.4m. Nod y cynllun yw sefydlu rhaglen gweithgarwch corfforol ranbarthol ar gyfer oedolion 50 oed a throsodd i'w helpu i fyw'n iach ac yn egnïol gan leihau'r pwysau ar wasanaethau cymorth. Mae’r cynllun yn un o 17 o brosiectau sy'n elwa o’r Gronfa Iach ac Egnïol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol
Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenhedlaethau’r Dyfodol y bydd yr hen siop Spar a'r lle uwchben y ganolfan waith yn Commercial Street ym Maesteg yn cael ei thrawsnewid drwy ddatblygu 12 o unedau llety, a hynny oherwydd grant eiddo gwag o £105k. Bydd y llety'n creu mwy o gyfleoedd i bobl fyw yng nghanol trefi ac maent wedi'u hanelu at bobl o bob oed sy'n gyflogedig, sydd heb unrhyw anghenion cymorth sylweddol, a heb agweddau gwrthgymdeithasol hysbys na hanes o gyffuriau ac alcohol. Mae'r arian grant yn golygu fod rhaid i’r prosiect fodloni holl ofynion Rhentu Doeth Cymru ac maent i gael eu gosod a'u rheoli gan landlord cyfrifol.
Prif Weithredwr
Cyhoeddodd y Prif Weithredwr y byddai'r canfasio etholiadol blynyddol yn cychwyn yr wythnos nesaf, gyda negeseuon testun yn cael eu hanfon at ddeiliaid tai i’w hysbysu am y canfasio ac i’w hannog i ymateb gyda'u manylion. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau y bydd y negeseuon testun yn cael eu hanfon gan sefydliad o'r enw i-Dox, ac y byddai’r cam cyntaf yn dod i ben ar 7 Gorffennaf. Bydd ffurflenni canfasio yn cael eu danfon gan staff rhwng 7 Gorffennaf a 4 Awst, gyda'r ail gam yn cael ei anfon drwy'r post ar 27 Awst. Bydd y trydydd cam, sef y cam olaf, yn rhedeg o 28 Medi i 1 Tachwedd.
Hefyd, dywedodd wrth yr Aelodau fod Kier wedi cyhoeddi y bydd y cwmni yn canolbwyntio ei ymdrechion ar adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd. Mae swyddogion yn cydweithio'n agos gyda Kier yn ceisio eglurhad pellach yn sgil y cyhoeddiad. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymateb i geisiadau'r BBC a’r cyfryngau cymdeithasol gan ddweud mai'r gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff yw'r un sy'n perfformio orau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac er mwyn tawelu ofnau trigolion na fydd unrhyw newidiadau dirybudd i’w gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau fod contract saith mlynedd wedi'i sefydlu gyda Kier, un sy'n cynnwys camau diogelu megis bondiau y gellid eu defnyddio i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau, ac y byddai unrhyw newid yn y pen draw gyda chyfnod arweiniol priodol, ac y byddai rhybudd digonol yn cael ei roi ar unrhyw faterion o bwys.
Swyddog Monitro
Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r Aelodau nodi newid i aelodaeth y Pwyllgor Safonau gan y bydd y Cynghorydd P Davies yn cymryd lle'r cynghorydd DRW Lewis.