Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Ford yn bwriadu cau ei Ffatri Beiriannau y flwyddyn nesaf.  Mae cyfarfod lefel uchel rhwng arweinwyr busnes lleol a chyflogwyr yn cael ei drefnu i drafod cydweithio i helpu'r economi leol i ymateb i’w chau.  Mae'r Cyngor hefyd yn ail-lansio dwy fenter ariannu fawr a fydd yn cefnogi cwmnïau'r gadwyn gyflenwi a busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyhoeddiad.

 

Dywedodd fod Ford wedi’u hen ystyried fel cwmni angori yn economi De Cymru, a bydd y Gronfa Adfywio Arbennig yn helpu cwmnïau lleol i arallgyfeirio a buddsoddi er mwyn ffynnu a manteisio ar gyfleoedd busnes newydd.  Mae'r Gronfa Kick Start yn ceisio cefnogi busnesau newydd a chreu swyddi ffres o fewn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu drwy eu helpu i fuddsoddi mewn offer a chostau cychwyn eraill.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau cyflym a brys gyda'r newyddion bod tîm ymateb arbennig yn cael ei gynnull i gefnogi gweithwyr, busnesau a chymunedau lleol.  Bydd y Cyngor yn cynnig cymorth diswyddo i weithwyr y ffatri beiriannau, yn ogystal â mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd.  Dywedodd fod staff Ford yn weithwyr medrus o'r radd flaenaf, a lle bynnag y bo'n bosibl bydd y Cyngor yn annog busnesau eraill o fewn y fwrdeistref sirol i gynnig gwaith arall iddynt.  Mae nifer o fentrau ar waith a allai gefnogi hyn, megis Cronfa ReAct sy'n helpu cyflogwyr newydd i gwrdd â chostau recriwtio a hyfforddi, neu raglen cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr sy'n helpu pobl i addasu, i ailhyfforddi, i ennill sgiliau newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

 

Dywedodd, os bydd y cau yn digwydd, y bydd angen buddsoddiad sylweddol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o'r effaith enfawr a gaiff hyn ar yr economi leol, ar yr ardal, ac ar y gymuned.  Cyhoeddodd yr Arweinydd y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater pryderus hwn. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod mynediad cyhoeddus llawn at Town Beach, Porthcawl ar ei newydd wedd wedi'i adfer yn ddiweddar.  Mae cwblhau'r amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m wedi gweddnewid yr ardal, a elwid gynt yn draeth tarmac, yn llwyr.  Mae dyluniad y terasau yn golygu eu bod yn dargyfeirio grym y tonnau i'r naill ochr a'r llall, yn hytrach na thua’r lan yn uniongyrchol.  Bydd hyn yn sicrhau bod 260 o adeiladau, gan gynnwys y Pafiliwn mawr, ar lan y môr yn cael eu gwarchod rhag llifogydd ac erydu arfordirol.  Diolchodd i bawb a fu'n gysylltiedig â chwblhau’r prosiect. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd ei longyfarchion i Ysgol yr Archesgob McGrath a gafodd gydnabyddiaeth hyn yng ngwobrau Young Enterprise Waled yn ddiweddar, a hynny wedi i ddisgyblion sefydlu prosiect o'r enw ‘Archways' sy'n hyrwyddo aromatherapi fel cymorth adolygu.  Mae'r gwobrau yn helpu i adeiladu sgiliau trosglwyddadwy ac annog dyfeisgarwch, a chan iddynt ddod i’r brif, yr ysgol fydd bellach yn cynrychioli Cymru yng Ngwobrau Cenedlaethol y DU.  Mae Ysgol Bryn Castell wedi derbyn adroddiad clodwiw a gradd 'da' gan Estyn, gyda'r arolygwyr yn cydnabod safon uchel yr addysgu a chynnydd cadarn y disgyblion yn yr ysgol.   

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z