Agenda item

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau Dyfodol  

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu’r prif argymhellion ar adroddiad diweddar Arolygiad Prawf EM ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid ym Mae’r Gorllewin?

 

Cynghorydd R Stirman i’r Aelod Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

A allai’r aelod Cabinet perthnasol roi gwybod beth yw’r gost ychwanegol i BCBC am gyflenwi gofal a chymorth i aelodau’r ystâd ddiogel am fod y grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i rannu ar draws y 22 Awdurdod Lleol i gyd yn hytrach na thrwy grant uniongyrchol i’r ALlau hynny a oedd â charchar o fewn eu ffiniau?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd

All yr Aelod Cabinet mewn gofal o dwristiaeth roi gwybod i'r Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ogystal â rhoi gwybod i ni am y bylchau mewn darpariaeth a data, a hefyd ddangos sut y gallai’r Cyngor wneud ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Cynghorydd M Voisey i’r Dirprwy Arweinydd

A wnaiff y dirprwy arweinydd ddweud wrth y cyngor pa sancsiynau, os oes sancsiynau o gwbl, sydd wedi’u gosod ar Kier, yngl?n â’r contract gwastraff, ers eu penodi?

 

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn Gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu prif argymhellion yr adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn y Bae Gorllewinol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet

 

Gellir gweld argymhellion Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar dudalen 7 yr adroddiad arolygu llawn.

 

Gwnaed 14 o argymhellion mewn perthynas â nifer o bartneriaid ac fe'u nodir isod:

 

Dylai Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:

 

1.          Adolygu ac egluro ei rôl a'i swyddogaeth, gan gynnwys yr holl bartneriaid statudol, a gweithio mewn ffordd effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu i safon ddigonol.

 

2.          Sicrhau bod asiantaethau partneriaeth yn darparu cymorth a gwasanaethau priodol.

 

3.          Datblygu goruchwyliaeth effeithiol o waith y gwasanaeth a her effeithiol i bartneriaid.

 

4.          Datblygu cynllun clir i reoli'r gwaith o ddadgyfuno timau troseddau ieuenctid unigol o'r gwasanaeth, a hynny er mwyn cyfyngu ar unrhyw effaith andwyol ar y rhannau sy'n weddill o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin.

 

5.          Darparu'r adnoddau a'r gefnogaeth i'r tîm rheoli allu rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

 

6.          Adolygu rôl a swyddogaeth y gwasanaeth atal.

 

Dylai Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin:

 

7.          Sicrhau bod yr holl staff yn cael goruchwyliaeth briodol a goruchwyliaeth gan reolwyr.

 

8.          Adolygu'r strwythur rheoli a'r llinellau atebolrwydd.

 

Dylai Cyfarwyddwyr y gwasanaethau plant:

 

9.          Monitro ac adolygu'r holl achosion lle ceir problemau diogelwch a lles, gan sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud a bod gwaith ar y cyd yn digwydd yn ôl yr angen.

 

10.        Gwella ansawdd (ac ymwybyddiaeth staff) o'r systemau atgyfeirio fel bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gwasanaethau y maent eu hangen.

 

Dylai gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol:

 

11.        Adolygu effeithiolrwydd protocolau rhannu gwybodaeth i sicrhau bod yr holl ysgolion a’r gweithwyr sy'n gysylltiedig gyda’r wybodaeth y maent eu hangen i ddarparu cymorth wedi'i deilwra at anghenion unigol plant a phobl ifanc.

 

12.        Datblygu strategaethau effeithiol i annog plant a phobl ifanc sy ' n siarad Cymraeg i fanteisio ar wasanaethau yn eu hiaith ddewisol, ac i ddefnyddio, datblygu, a chydnabod gwerth yr iaith fel sgìl cyflogaeth

 

13.        Datblygu strategaeth llythrennedd a rhifedd i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau hyn.

 

Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:

 

14.        Darparu gwasanaethau iechyd corfforol, iechyd rhywiol, iechyd emosiynol, a iechyd meddwl perthnasol ac amserol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc er mwyn lleihau niwed pellach ac er mwyn hybu lles.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas pa gynlluniau sydd gan yr Aelod Cabinet i weithredu argymhellion yr Arolygiaeth Prawf.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod cynllun gweithredu ôl-arolygiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill 2019.  Caiff y cynllun gweithredu ôl-arolygiad ei fonitro gan bartneriaid, gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fodlon gyda’r cynnydd da a wnaed hyd yma.  Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor bod gwaith helaeth yn cael ei wneud gyda staff a phartneriaid, a fod y cynllun ôl-arolygu yn cael ei fonitro gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid bob pythefnos.  Dywedodd wrth Aelodau hefyd fod strwythur y gwasanaeth wedi'i adolygu.  Adolygiadau o achosion statudol yn cael eu cwblhau, cyn i adolygiadau anstatudol gychwyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd J-P Blundell pa fodd yr oedd yr Arolygwyr yn ei ddefnyddio i asesu'r gwasanaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr Arolygwyr wedi ymgymryd â'r arolygiad dros gyfnod o 2 wythnos.  Fel rhan o'r arolygiad, cynhaliwyd cyfweliadau gyda 12 o Reolwyr Achos, Cyfarwyddwyr a Phrif Weithredwyr, ac archwiliwyd 31 o achosion.  Dywedodd un Aelod eu bod wedi'u bodloni bod yr holl asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd wedi iddynt fynychu cyfarfod diweddar o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd R Stirman i'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A allai'r Aelod perthnasol o’r Cabinet roi gwybod am y gost ychwanegol i BCBS o ddarparu gofal a chymorth i aelodau o sefydliadau diogel ers i'r grant gan LlC gael ei rannu rhwng pob un o'r 22 awdurdod lleol yn hytrach na thrwy grant uniongyrchol i'r ALlau hynny a oedd â charchar o fewn eu ffiniau?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet

 

Roedd y grant sefydliadau diogel 2017/18 gan Lywodraeth Cymru werth £217,500; cafodd ei drosglwyddo i'r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2018/19; Cafodd ei rhannu rhwng pob un o'r 22 awdurdod ac mae'n anodd mesur yr union swm gan ei fod wedi'i seilio ar wahanol fformiwlâu.  Amcangyfrifir bod y Cyngor yn derbyn tua £18,000 o fewn yr RSG ar gyfer sefydliadau diogel.  Felly oddeutu £200K o ddiffyg cyllid a'r amcangyfrif o’r gost ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn seiliedig ar y gyllideb ar gyfer 2017/18.  Pennwyd y gyllideb hon dair blynedd yn ôl ac mae’r costau gwirioneddol yn destun adolygiad blynyddol.

 

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru a'r Is-Gr?p Dosbarthu (DSG) yngl?n â'r newid hwn yn y dyraniad. Trafododd yr Is-Gr?p Dosbarthu'r mater ar ôl derbyn cynrychiolaethau ond ni wnaed unrhyw newid i'r fethodoleg ddosbarthu. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Stirman a fyddai hawl gan garcharorion i gael budd-daliadau gan yr awdurdod hwn ar ôl eu rhyddhau?  Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar mai dim ond os ydynt yn breswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol y byddai hawl gan garcharorion i gael budd-daliadau gan yr awdurdod ar ôl cael eu rhyddhau. 

 

Holodd Aelod a oedd yr awdurdod hwn yn cael ei drin yn anffafriol oherwydd bod yno garchar.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y sefyllfa'n wahanol i awdurdodau lleol eraill sydd â charchardai, gan mai Carchar y Parc yw'r unig un preifat yng Nghymru.  Hefyd, o gymharu â charchardai Caerdydd ac Abertawe, sy’n garchardai ar remand, mae yno garcharorion â dedfryd hirach, tra bo Brynbuga yn garchar agored, a charchar Wrecsam yn fwy na Parc.  Mae gan Garchar y Parc lawer o garcharorion h?n â dedfrydau hir, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, ac yn dioddef o ddementia.  Dywedodd fod y gofynion i gefnogi'r sefydliadau diogel yn anos i'w bodloni o'u cymharu â charchardai eraill.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd 

 

I ba raddau y mae'r Dirprwy Arweinydd wedi cysylltu â busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddweud wrthynt y gallai rhyddhad ardrethi dewisol fod ar gael iddynt, gan mai dim ond traean o’r rhai sy'n gymwys i gael y rhyddhad hwn sy'n ei dderbyn?

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd

 

Mae'r Cyngor wedi bpd yn rhagweithiol iawn wrth ymdrin â'r amrywiol gynlluniau rhyddhad ardrethi a nodir isod. Anfonwyd ffurflenni cais ar gyfer y cynllun diweddaraf yn fuan ar ôl penderfyniad y Cabinet i fabwysiadu'r cynllun a disgwylir i ddatganiad i'r wasg gael ei ryddhau yr wythnos hon.

 

Mae'r ffurflen gais bellach ar gael ar lein a bydd nodiadau atgoffa'n cael eu hanfon ddiwedd mis Mehefin.

 

Ar hyn o bryd mae 3 math o gynlluniau rhyddhad ardrethi ar waith ar gyfer talwyr ardrethi busnes:

Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBBR)

Cafodd ei gyflwyno yn 2007.  Caiff ei weithredu’n awtomatig.

 

Rhyddhad Trosiannol

Yn dilyn ailbrisiad ardrethi annomestig 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gweithredwyd rhyddhad trosiannol i gefnogi’r talwyr ardrethi a fyddai wedi’u heffeithio o ran eu cymhwyster i dderbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBBR).

Cynllun 3 blynedd ydyw, sy'n gorffen yn 2019/20, lle mae'r trethdalwr yn talu 25% o'r cynnydd yn y flwyddyn 1af, 50% yn yr 2il flwyddyn a 75% yn y 3edd flwyddyn. Rhaid i’r cynnydd fod o £100 neu fwy. Caiff y rhyddhad ei ddyfarnu'n awtomatig drwy ein system ardrethi busnes.

 

Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu (HSRR) Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ar weinyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Manwerthu ar gyfer pob un o'r 5 mlynedd y bu’n gweithredu 2014/15, 2015/16, 2017/18, 2018/19, a 2019/20. Nid oedd unrhyw gynllun yn 2016/17. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi mai lle pob awdurdod lleol yw penderfynu sut y maent am weinyddu'r cynllun er mwyn cynyddu’r defnydd ohono ac i leihau'r baich gweinyddol i'r trethdalwyr a staff yr awdurdod lleol.

 

Yn wir, bu 3 gwahanol Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr ar waith ar gyfer y blynyddoedd 2014/15 a 2015/16, 2017/18 a 2018/19, a'r cynllun presennol ar gyfer 2019/20. Roedd gan bob cynllun feini prawf gwahanol yn seiliedig ar y gwerth ardrethol a hawl busnesau i Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach a/neu Ryddhad Trosiannol.

 

Bob blwyddyn, mae'r Dirprwy Arweinydd wedi cyflwyno adroddiad i'r Cabinet cyni'r cynllun gael ei fabwysiadu, a chyn y gellir dyfarnu unrhyw ryddhad. Bob blwyddyn, cymeradwywyd yr adroddiad gan ganiatáu i'r rhyddhad gael ei ddyfarnu ar sail cais yn unig.  Gall ceisiadau am y rhyddhad hwn gael eu gwneud hyd at, a chan gynnwys, 31 Mawrth yn y flwyddyn y mae'r rhyddhad ardrethi'n berthnasol.

 

2017/18

 

·        Aeth yr adroddiad gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo ar 27/06/17

·        ar 25/07/17 a 04/08/17, anfonwyd 97 a 309 o lythyrau a ffurflenni pwrpasol at bob busnes cymwys

·        ar 21/2/18 anfonwyd 115 o lythyrau a ffurflenni dilynol i atgoffa busnesau i wneud cais cyn diwedd y flwyddyn ariannol

·        ar gyfer y flwyddyn 2017/18, derbyniwyd 289 o geisiadau a dyfarnwyd rhyddhad.

 

2018/19

 

  *    aeth yr adroddiad gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo ar 19/06/18

  *     ar 27/07/18 a 12/07/18, anfonwyd 80 a 298 o lythyrau a ffurflenni cais pwrpasol at bob busnes cymwys

  *      ar 12/11/18 anfonwyd llythyrau a ffurflenni dilynol i atgoffa busnesau i wneud cais cyn diwedd y flwyddyn ariannol

  ·        ar gyfer y flwyddyn 2018/19, derbyniwyd 275 o geisiadau a dyfarnwyd rhyddhad.

 

2019/20

 

Ar gyfer y flwyddyn gyfredol cyhoeddodd LlC yng nghyllideb mis Rhagfyr, y byddai cynllun yn cael ei gynnal eleni. Derbyniwyd y canllawiau ar gyfer y cynllun ddiwedd Ionawr 2019. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu llythyr derbyn wedi'i lofnodi ar gyfer yr arian hwn erbyn 03/05/19, ac mae hynny wedi’i wneud.

 

Aethpwyd â'r adroddiad ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer 2019/20 i'r Cabinet ar 16/04/19.

 

Unwaith y cafodd y cynllun ei gymeradwyo, ail-archwiliwyd y data a oedd yn ymwneud â threthdalwyr cymwys er mwyn cadarnhau bod y busnesau'n dal yn gymwys, ac yna anfonwyd llythyrau a ffurflenni cais pwrpasol at drethdalwyr cymwys ar 02/05/19. Caiff llythyr pwrpasol a ffurflen gais eu hanfon i gynorthwyo'r trethdalwr cywir i wneud cais am y rhyddhad cymwys. Hefyd, gan fod rhif y cyfrif ar y ffurflen gais amgaeëdig, pan gaiff ei ddychwelyd i'r Swyddfa ddigidol gellir ei sganio a'i fynegeio i'r cyfrif cywir fel y bydd y trethdalwr cymwys yn derbyn eu rhyddhad yn gynt.

 

Hyd yn hyn, ar 5/6/2019, mae 706 o lythyrau a ffurflenni cais pwrpasol wedi'u hanfon, 373 wedi'u dychwelyd atom, a 340 o gyfrifon eisoes wedi derbyn rhyddhad. Bydd y ffurflenni sy'n weddill yn cael eu prosesu erbyn diwedd mis Mehefin a bydd llythyr a ffurflen gais arall yn cael eu hanfon at y busnesau hynny nad ydynt wedi dychwelyd y ffurflen wreiddiol. O ganlyniad i'r rhyddhad hwn, mae rhandaliadau wedi'u hail-gyfrifo os oes balans dyledus, ac os yw'r cyfrif wedi mynd i gredyd, mae ad-daliad wedi'i roi. O ran y flwyddyn gyfredol, bydd ail lythyr a ffurflen gais yn cael eu hanfon at y rhai nad ydynt wedi dychwelyd eu ffurflenni erbyn diwedd mis Mehefin.

 

Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi dewis dyfarnu'r rhyddhad hwn ar sail ceisiadau bob tro. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir i'r graddau bod yr eiddo yn dal i gael ei ddefnyddio, a’n cael ei ddefnyddio gan y busnes sydd ar ein system. Wrth gymharu faint o fusnesau a gymhwysodd y llynedd â'r ffurflenni a anfonwyd eleni, hyd yn oed os dyfarnwyd y rhyddhad yn awtomatig i'r busnesau hynny a oedd yn gymwys y llynedd, byddai angen anfon 428 o lythyrau a ffurflenni cais pwrpasol.

 

Eleni, mabwysiadwyd y cynllun gan y Cyngor yn llawer cynt nag yn y blynyddoedd blaenorol, ac anfonwyd y ffurflenni cais yn fuan wedyn. Hefyd, yr uchafswm rhyddhad y gellir ei ddyfarnu yw'r swm uchaf hyd yn hyn. Rhoddwyd blaenoriaeth i'r ceisiadau a dderbyniwyd ac sy’n cael eu trin ar y funud ac i ddyfarnu’r rhyddhad i'r cyfrifon. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddi biliau diwygiedig ac ad-dalu unrhyw ordaliadau.

 

Pan gyfhoeddwyd y ffurflenni cais, roedd gwybodaeth am y rhyddhad ar gael ar wefan BCBS. Roedd ffurflenni cais ar-lein hefyd ar gael o 07/06/19. Bydd y ffurflenni cais hyn yn cael eu cyfeirio'n awtomatig at yr adran drethi y mae angen gweithio arni.

 

Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu parhau â chynllun rhyddhad y stryd fawr yn y dyfodol, yna byddwn yn parhau i adolygu'r opsiynau ar gyfer gweinyddu'r cynllun. Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod y dull gweithredu gorau posibl er mwyn sicrhau'r defnydd gorau posibl a lleihau'r baich gweinyddol i'r trethdalwyr ac i staff yr awdurdod lleol. Ar hyn o bryd, mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu gan bob awdurdod yng Nghymru.        

 

Holodd y Cynghorydd Hussain pam fod Cynghorau eraill yn fwy rhagweithiol a’n gyflymach o’r hanner wrth weinyddu'r broses hon, tra’n bod ni’n araf iawn, gan arwain at fusnesau ar eu colled (a chaledi ariannol yn sgil hynny), a holodd a yw'r Arweinydd wedi cael unrhyw drafodaeth gyda y Gweinidog yn ei gylch, ac os ydyw, a fyddai'r Arweinydd cystal â rhannu’r wybodaeth?  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod 3 chynllun ar gael i fusnesau.  Mae busnesau bach yn gallu cael rhyddhad stryd fawr, a byddant yn derbyn llythyr i'w lofnodi a'i ddychwelyd i'r Cyngor.  Roedd yn credu bod y broses bresennol yn effeithlon ac yn sicrhau bod cyllid yn mynd i'r lle iawn, gyda 300 o fusnesau wedi dychwelyd y ffurflenni, a 200 o fusnesau wedi derbyn arian.  Bydd llythyr atgoffa yn cael ei ddanfon at fusnesau yn gofyn iddynt lenwi a dychwelyd y ffurflen.  Roedd y Dirprwy Arweinydd yn ymwybodol bod rhai awdurdodau'n cynnig gwahanol gynlluniau i gefnogi talwyr ardrethi busnes. 

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro wrth y Cyngor fod pob awdurdod yng Nghymru yn gweinyddu'r cynllun yn wahanol.  Cadarnhaodd fod llythyrau wedi'u hanfon at fusnesau ym mis Mai, ac nad oedd rhai Cynghorau wedi gwneud hynny eto.  Ni fyddai busnesau mwy o faint yn gymwys i dderbyn cymorth, a byddai rhai busnesau yn torri rheolau cymorth gwladwriaethol pe baent yn cefnogi.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro nad oedd busnesau wedi bod ar eu colled, gyda ffurflenni'n cael eu gweithredu ar unwaith.  Mae’r ffurflenni perthnasol i’w cael ar y rhyngrwyd. 

 

Aeth yr Arweinydd ati i annog busnesau sy'n gymwys i gael cyllid i gysylltu â'r Cyngor.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd M Voisey i’r Dirprwy Arweinydd 

 

A wnaiff y dirprwy arweinydd ddweud wrth y cyngor pa gosbau, os o gwbl, a osodwyd ar Kier mewn perthynas â'r contract gwastraff, ers ei benodi?

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd

 

Ers penodi Kier fel contractwr gwastraff y Cyngor am gyfnod o saith mlynedd yn dechrau ym mis Ebrill 2017, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi 482,814 o bwyntiau diffyg cytundebol, ac £87,500 mewn cosbau ariannol (hyd at ddiwedd Ebrill 2019).  Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â misoedd cynnar y contract a'r materion a gafodd gyhoeddusrwydd da ar y pryd, er bod y ffigurau ddiffyg ychydig yn ddiystyr heb ddealltwriaeth fanwl o'r contract.  Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro a rheoli'r contract yn ddiwyd, ac mae'n darparu diffygion yn fisol, ond yn bennaf, mae'r contract bellach yn cael ei weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol ac mae wedi sicrhau bod y Cyngor wedi cyflwyno'r ail ffigurau ailgylchu uchaf yng Nghymru, sef ychydig o dan 69%, ymhell dros darged statudol presennol Llywodraeth Cymru o 64%.

 

Gofynnodd un aelod am wybodaeth am natur y rhagosodiadau a gofynnodd am sicrwydd bod cosbau'n cael eu gorfodi.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod llawer o'r cosbau wedi'u rhoi yn nyddiau cynnar y contract a bod eu gwerth yn isel o'i gymharu â gwerth y contract cyffredinol.  Nododd hefyd fod yr amcangyfrif am y galw am gyfarpar ailgylchu, yn enwedig biniau bwyd cegin, yn rhy isel.  Os bydd diffygion, nid yw Kier yn talu'r Cyngor, byddai'r Cyngor yn atal taliad i Kier.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod diffygion yn cael eu gweithredu ar bob elfen o'r contract, a bod y rhan fwyaf o'r diffygion wedi’u gweithredu yn 3 mis cyntaf y contract.

 

Gofynnodd un Aelod pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith yn y contract.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod y contract yn cynnwys bond sylweddol.  Dywedodd fod Kier wedi nodi na fyddent yn gwneud cais am gontractau gwastraff eto ac nid oedd unrhyw arwydd na fyddent yn anrhydeddu eu contract â'r Cyngor.