Cofnodion:
Bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn hysbysu'r Cyngor am ganlyniadau arolygiad diweddar Estyn o wasanaethau addysg llywodraeth leol y Cyngor.
Adroddodd fod yr arolygiad wedi cael ei gynnal gan Estyn ym mis Mawrth 2019, o dan y Fframwaith Arolygu Addysg Llywodraeth Leol newydd. Roedd arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o'r tîm arolygu. Roedd ystod eang o randdeiliaid yn rhan o'r arolygiad hefyd, gan gynnwys Aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid, dysgwyr, ac aelodau o'r cyhoedd.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at y cryfderau a'r meysydd i'w datblygu mewn perthynas ag Ardaloedd Arolygu (IA) 1 – Canlyniadau; IA2 – Gwasanaethau Addysg, ac IA3 – Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Tynnodd sylw hefyd at yr argymhellion a wnaed gan Estyn. Dywedodd fod Estyn, er mwyn cydnabod arferion nodedig yr awdurdod, wedi gwneud cais iddynt ddarparu astudiaeth achos ar eu gwaith yn ymwneud â chyfranogiad pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac o fewn awdurdod lleol, a hynny er mwyn ei ledaenu ar wefan Estyn.
Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r awdurdod yn sicrhau bod yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn cael eu gweithredu mewn modd amserol yn y cynllun ôl-arolygiad. Roedd yn falch o weld bod Estyn wedi cydnabod gwaith y Cyngor o ran cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, gan gynnal cyfarfodydd misol gyda'r Maer Ieuenctid ac roedd yn gwerthfawrogi mewnbwn y Cyngor Ieuenctid wrth wneud polisi. Diolchodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, i’r Swyddogion, i holl Aelodau'r Cyngor, ac i’r rhanddeiliaid am wneud gwahaniaeth i bobl ifanc.
Gofynnodd Aelod o'r Cyngor am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda'r cynllun ôl-arolygiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cyngor bod cynllun manwl wedi'i lunio er mwyn edrych ar y blaenoriaethau allweddol ac roedd yn croesawu'r elfen o graffu yn hynny o beth.
Holodd Aelod o'r Cyngor beth oedd yn cael ei wneud i nodi a darparu cymorth i ofalwyr ifanc. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a chymorth i deuluoedd fod gwaith ar y gweill i gefnogi gofalwyr ifanc, ond bod angen i ofalwyr ifanc gynnig eu hunain er mwyn iddynt allu derbyn cymorth.
Holodd Aelod o'r Cyngor am y cymorth a roddir i grwpiau sy’n agored i niwed lle gallai apwyntiadau ysbyty gael effaith andwyol ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd a phartneriaid i gynorthwyo grwpiau agored i niwed. Roedd Tîm Grwpiau Agored i Niwed wedi'i sefydlu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid.
Mynegwyd pryder gan Aelod yngl?n â safon llythrennedd mewn ysgolion cynradd, gyda dibyniaeth ar y Consortiwm a ph'un a oedd y Cyngor yn cael gwerth am arian gan y Consortiwm. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod y profion darllen yn unol â'r disgwyliadau. Dywedodd fod 3 ysgol gynradd yn peri pryder a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Consortiwm i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Dywedodd hefyd fod y Consortiwm yn cael gwerth am arian gan wasanaethau'r Consortiwm. Dywedodd wrth y Cyngor y byddai'n ofynnol iddo gyflwyno'r cynllun ôl-arolygiad i Estyn i'w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD: Nododd y cyngor gynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: