Agenda item

Cynllun Busnes Blynyddol 2018-19 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 4

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Rhaglen yr adroddiad monitro chwarterol yn hysbysu rhanddeiliaid allweddol am gynnydd mewn perfformiad yn erbyn y Cynllun Busnes Blynyddol, ac felly’n cyflawni gofynion y Fframwaith Sicrwydd. Roedd hyn yn cynnwys diweddariad manwl ar y rhaglen, diweddariad ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, cynllun gweithredu yr Archwiliad Mewnol a diweddariad ar gyllideb y Gronfa Fuddsoddi ehangach.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y cynllun deg pwynt i esblygu’r Fargen Ddinesig wedi ei weithredu ym mis Medi 2018. Wedyn rhoddodd grynodeb o’r cynnydd a wnaed yn y saith mis ers hynny.

 

Cyfeiriodd aelod at y datganiad bod datblygiadau megis Brexit a cholli arian yr UE yn golygu mai’r Fargen Ddinesig oedd y dull allweddol i adeiladu dyfodol cynaliadwy, gwydn a mwy hunanddibynnol ar gyfer y rhanbarth. Gofynnodd pam nad oedd yna gyfeiriad yn y rhan honno o’r adroddiad at y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen mai’r pwynt pwysig oedd mai’r Fargen Ddinesig fyddai’r prif gyfrwng ac y byddai yn chwarae rhan allweddol yn y modd y byddai cronfeydd yn cael eu dyrannu. Ar ôl Brexit, roedd yn debygol y câi’r holl fuddsoddiad economaidd newydd ei ddyrannu ar sail cystadleuol ac y byddai hyn yn gofyn am ddull hollol wahanol. 

 

Gofynnodd aelod beth oedd yn cael ei wneud i ymgysylltu â chymunedau mwy anodd eu cyrraedd a pha fentrau oedd yn eu lle. Gofynnodd hefyd am amserlen, a sicrwydd o ran hybu’r ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy drwy weithgaredd wedi ei dargedu fwy gyda chyrff cyhoeddus megis Bcorps, Busnesau Cydweithredol a chyrff oedd yn eiddo i’r gweithwyr. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddent yn rhyngweithio mewn ffordd wahanol, gydag un gronfa fuddsoddi eang a dull newydd yn seiliedig ar egwyddorion gwahanol. Er mwyn cyflawni twf cynhwysol byddai’n rhaid iddynt wyro’r maes chwarae. Ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd roedd yna gyfle i adeiladu clwstwr. Gallent sicrhau fod y mecanweithiau yn eu lle nid yn unig i greu cyfoeth ond hefyd i ledaenu’r cyfoeth. Drwy ddefnyddio cyllid arloesol gallent greu marchnadoedd a chynnyrch newydd a byddent yn ystyried ceisiadau dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ychwanegodd y byddai yna gyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch cyrff cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd aelod at y cyhoeddiad diweddar gan Ford fod ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn cau, a’r golled o swyddi crefftus, a gofynnodd a oedd cynlluniau wrthi’n cael eu gweithredu i fynd i'r afael â’r broblem hon. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y gellid defnyddio’r arbenigedd yn y rhanbarth mewn cyfleoedd ehangach megis storio mewn batri, cerbydau trydan neu ganolfannau gyriad uwch. Roeddent wedi comisiynu darn o waith i edrych ar feysydd gwahanol ac roedd yn rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt y sylfaen sgiliau i annog cwmnïau i adleoli i’r rhanbarth. 

 

Gofynnodd aelod pa waith oedd wedi cael ei wneud i gyfathrebu â’r gymuned ddinesig. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y Cyngor Busnes yn cynnal sesiynau ar sgiliau ac yn y blaen ond nad oeddent eto wedi sefydlu tabl cyfathrebu. Gofynnodd yr aelod am gael gweld enghreifftiau o’r sianelau cyfathrebu clir. Eglurodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y camau hyn yn y cynllun busnes blynyddol ar gyfer ail ran y flwyddyn ac felly yn dangos yn y tabl cynnydd fel cam oedd eto i'w gymryd.

 

Cyfeiriodd aelod at gludiant o gwmpas y rhanbarth yng ngoleuni’r penderfyniad diweddar ynghylch ffordd liniaru’r M4. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod yna broblem sylweddol yn y rhanbarth oherwydd y cyfyngiad ar yr M4 yn ardal Casnewydd. Roedd Comisiwn wedi ei sefydlu i edrych ar Gynllun B. Roedd yn rhaid iddynt ystyried y canlyniadau ar y rheiny oedd yn ystyried buddsoddi, a rhoddodd esiampl ddiweddar o gr?p busnes o Taiwan wedi eu dal mewn tagfa draffig am 2 awr rhwng Llaneirwg a Chasnewydd. Eu swyddogaeth oedd cynnig dewisiadau eraill megis ffyrdd soffistigedig i reoli tagfeydd. Argymhellodd aelodau bod y Fargen Ddinesig yn cyfrannu i’r ymgynghoriad cyfredol.

 

O ran cau ffatri Ford, dywedodd aelod nad oedd rhai sgiliau’n drosglwyddadwy ac y dylid gosod cynlluniau yn eu lle i fynd i’r afael ag unrhyw brinder swyddi. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddai diwydiannau’r dyfodol yn esblygu ac yn newid a bod angen iddynt symud ymlaen yn gyflym. Roedd darn o waith wedi cael ei gwblhau oedd yn edrych ar ddadansoddiad cryfderau a meysydd lle roedd y rhanbarth yn gystadleuol ar lefel fyd-eang. Roedd NESTOR yn cyflawni gwaith o gwmpas sgiliau priodol ar gyfer diwydiannau, gan ganolbwyntio ar brentisiaethau, cynlluniau i raddedigion, marchnadoedd llafur deallus a phortffolios. Roedd yna feysydd eraill hefyd megis y system ofal, carchardai a phobl ifanc. Roedd carcharorion yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Brynbuga yn gwneud cymwysterau codio stem. Roedd dyletswydd arnynt i edrych ar bobl ifanc a chefnogi’r rheiny oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig.

 

Gofynnodd aelod faint o brosiectau oedd ar eu ffordd. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod yna 3 ffrwd, Arloesi, Isadeiledd a Her a 23 cynllun yn barod i ddod i mewn i’r Fframwaith Buddsoddi.

 

Cododd aelod y mater o fod yn rhyngwladol ac adeiladu brand a datblygu proffil. Awgrymodd aelod weithio gyda’r arweinwyr posibl nesaf megis India a China. Awgrymodd aelod arall arddangos yn EXPO yn Dubai yn 2020.

 

Cyfeiriodd aelod at y llithriad o £1,381,600 oherwydd newidiadau yn rhaglen waith y prosiect a gofynnodd a oeddem wedi dysgu unrhyw wersi oddi wrtho. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen ei fod bellach wedi lefelu allan a’i fod oherwydd problem amseru.

 

PENDERFYNWYD 

1)    Gofynnodd aelodau am gael derbyn diweddariad yn ôl i’r Cydbwyllgor ar y camau oedd yn dal heb eu gweithredu yn yr adroddiad pan fyddent yn derbyn adroddiad Perfformiad Chwarter 1.

 

Argymhellodd y Cydbwyllgor fod Cyfarwyddwr CCRCD yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru am farn dorfol oddi wrth yr Awdurdodau Lleol ynghylch y penderfyniad i beidio â symud ymlaen gyda ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd fel y gallent gymryd y rhain i ystyriaeth yn eu cynllunio yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: