Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033, y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol.

Gwahoddedigion:

Mark Shephard – Prif Weithredwr;

Jonathan Parsons – Rheolwr Gr?p Datblygu;

Richard MatthamsArweinydd Tîm Cynllunio Datblygiadau;

Gareth Denning – Arweinydd Tîm Polisi

Craige Wilson – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Plant a Gwasanaethau Cymunedol

Nerys Edmonds – Cynrychiolydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio Datblygu adroddiad Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol, a phwrpas hwn oedd rhoi gwybodaeth gefndir o ran y weledigaeth ddrafft a’r amcanion, y dewisiadau twf a’r dewisiadau strategaeth ofodol a gynigiwyd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddogfen strategaeth lefel uchel, y mae’n rhaid i’r Cyngor ei pharatoi. Er mwyn mynd i’r afael â materion allweddol ac arwain a rheoli datblygiad yn y dyfodol, roedd angen ailymweld â gweledigaeth ac amcanion y CDLl er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol i anghenion ac uchelgais lleol.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Datblygu 3 dewis Twf Strategol, - Isel, Canolig ac Uchel - pob dewis yn amlinellu gofynion anheddau, pa ddarpariaeth cyflogaeth y gallai o bosibl ei chreu, ynghyd â’r graddau yr oedd modd cyflawni pob un o’r dewisiadau. Dywedodd fod y dystiolaeth yn awgrymu mai’r dewis twf mwyaf priodol oedd yr un canolig, a fyddai’n golygu parhad o’r mathau o gyfraddau adeiladu a welwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

 

Ar bwnc tai holai’r Pwyllgor sut yr oedd maint a math o annedd yn cael ei ystyried cyn datblygu, a sylwyd nad oedd cyfeiriad at Strategaeth Tai Gweigion Pen-y-bont ar Ogwr yn y CDLl ac awgrymwyd y dylid gweithio ar y Strategaeth a’r Cynllun gyda’i gilydd ochr yn ochr. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Strategaeth Tai Gweigion yn cael ei chymryd i ystyriaeth ac y byddai maint yr annedd yn cael ei gyfrifo ar sail tystiolaeth.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yn rhaid i’r CDLl Newydd, yn ogystal â nodi’r lefel o dwf sydd ei angen dros gyfnod y cynllun, gyflwyno strategaeth ofodol glir ynghylch y lle y dylai’r datblygiad hwn ddigwydd o fewn y Fwrdeistref Sirol. Hysbyswyd yr Aelodau, oherwydd cyfyngiad sylweddol wrth yr M4, Cyffordd 36, nad ystyrid Parc Derwen a Phorth y Cymoedd fel ardaloedd ar gyfer twf newydd sylweddol.

 

Ar bwnc safleoedd posibl ar gyfer datblygu, daliai’r Pwyllgor fod angen i ddatblygiad cynaliadwy fod yn gynaliadwy i’r gymuned. Felly, tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i ymgysylltu mwy â’r cyhoedd er mwyn asesu gofynion cymunedau cyn cynllunio i ddatblygu. Wrth ymateb dywedwyd wrth yr Aelodau y trefnir addysg ac ymgynghoriad wedi ei dargedu gyda chynghorau Tref a Chymuned lle y bydd yn debygol y ceir datblygiad.

 

Pwysleisiodd Aelod duedd oedd yn peri pryder gyda datblygu dros y blynyddoedd, sef y diffyg adfywio mewn mannau diarffordd ledled y Fwrdeistref. I fod o gymorth i gywiro’r diffyg hwn, awgrymwyd y dylid hybu polisi ar gyfer mentrau bychain, megis cynlluniau lle, ac y dylid rhoi’r manylion am y rhain yn y CDLl.

 

Mae’r Pwyllgor yn gwybod ac yn deall bod angen i ddatblygu ddigwydd o fewn y Fwrdeistref ond dywedai Aelodau ei bod yn bwysig i’r Cyngor gadw mewn cof yr effaith bosibl a gâi datblygiad ar ein cyfarwyddiaethau eraill megis Addysg a Phriffyrdd a hefyd ein partneriaid yn y sector Iechyd a’r Heddlu.

 

Penderfynwyd:

Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd ymgysylltu’n effeithiol ag aelodau o’r cyhoedd a dywedent y dylai’r holl gymunedau gael eu haddysgu ynghylch prosesau’r Cynllun Datblygu Lleol ac wedyn gael eu hannog i gyfrannu i’r ddogfen. Felly argymhellodd yr Aelodau edrych ar y cyfleoedd canlynol i fod o gymorth i hybu’r prosesau a’r Cynllun:

 

  • Defnyddio Aelodau Etholedig;
  • Cynnwys yr adran Gyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu;
  • Ceisio ymgysylltu’n benodol â Chynghorau Tref a Chymuned lle mae datblygiad yn debyg o ddigwydd;
  • Dyrannu adnoddau ychwanegol ar gyfer ymgynghorydd i hwyluso ymgysylltu ag Aelodau Etholedig ac aelodau o’r cyhoedd.

 

Mae’r aelodau’n argymell polisi ar gyfer rhoi manylion mentrau bychain, seiliedig yn y gymuned, megis cynlluniau lle, yn y Cynllun Datblygu Lleol, er mwyn cynorthwyo cymunedau i greu cynlluniau y maent hwy’n teimlo fyddai o fudd i’r gymuned gyfan.

 

Mae’r Aelodau’n gofyn am gael derbyn ac ystyried Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol ar adeg briodol yn ystod y broses ymgynghori er mwyn cael gwybodaeth ddiweddar ar y cynnydd a wnaed.

Dogfennau ategol: