Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19

Gwahoddedigion:

Cyng Phil White, Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar;

Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles;

Jacqueline Davies – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion;

Laura Kinsey – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn fyr Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor, a phwrpas hwn oedd amlinellu sut yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi darparu gwasanaethau yn ystod 2018/19.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor beth oedd yr amcanion ar gyfer 2018/19 a rhoddwyd gwybodaeth iddynt a fu’r Gyfarwyddiaeth yn llwyddiannus yn ei nodau ac yn yr un modd yr hyn y gobeithiai’r Gyfarwyddiaeth ei gyflawni yn y flwyddyn ddilynol. Roedd y newidiadau arfaethedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys:

  • Rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl dros ba gymorth yr oeddent yn ei dderbyn;
  • Datblygu cynlluniau gyda golwg ar redeg gwasanaethau dydd a chyfleoedd dydd yn y dyfodol;
  • Gweithredu cynlluniau ynghylch plant sy’n derbyn gofal;
  • Cwblhau model trosglwyddo i gynorthwyo plant anabl i drosglwyddo i fywyd oedolion yn effeithiol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor dderbyniad da i’r adroddiad blynyddol ac roeddent yn canmol y cynnwys yn fawr, ac yn enwedig mor dda yr oedd yr adroddiad wedi ei ysgrifennu oherwydd yr iaith blaen a ddefnyddiwyd o’r dechrau i’r diwedd, fyddai o gymorth i’r cyhoedd i ddilyn a deall y wybodaeth yn y ddogfen yn rhwydd.

 

Roedd yr aelodau hefyd yn canmol Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am y newid amlwg mewn diwylliant y mae’r Gyfarwyddiaeth wedi ymgymryd ag ef a’r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi eu sefydlu.

 

Holodd y Pwyllgor am berthynas waith ag adrannau eraill, yn benodol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a holent ymhellach a oedd yna fylchau oedd angen gwaith. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y berthynas waith bresennol ar draws yr holl Gyfarwyddiaethau y gorau y mae wedi bod erioed. Eglurodd mai tîm bychan oedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol oedd i gyd yn eistedd mewn un ystafell, a bod hynny’n rhoi mwy o gyfle i drafod pynciau wrth iddynt godi. 

 

Rhoddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant enghraifft o weithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth rhwng y ddwy Gyfarwyddiaeth, lle roedd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chynnwys mewn trafodaethau yn y camau cynnar ynghylch dyraniadau’r Gronfa Gofal Integredig a ddarperir yn uniongyrchol i’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gyfer gwaith atal.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddangosyddion perfformiad a roddwyd mewn cyfarfod Asesu Perfformiad Corfforaethol (APC) lle y cydnabuwyd nad oedd lefelau salwch o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gwella, yn ogystal â bod cynnydd yn yr achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol a gofynnodd am i’r ystadegau hyn gael eu rhoi yn yr adroddiad ynghyd ag esboniad sut yr ymdrinnir â’r rhain.

 

Aeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ymlaen i roi diweddariad i’r Pwyllgor am y trosglwyddiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn ogystal â’r dewisiadau posibl ar gyfer y gwasanaethau mabwysiadu.

 

Penderfynwyd:

Roedd y Pwyllgor yn canmol y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynhyrchu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 am y rheswm bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg plaen fydd yn galluogi’r cyhoedd i ddeall yn rhwydd y ffordd y mae’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu darparu dros y flwyddyn ddiwethaf a sut y byddant yn y dyfodol.

 

Roedd y Pwyllgor yn llongyfarch y Gyfarwyddiaeth ar reoli newid a gynhaliwyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd yn argymell bod y Gyfarwyddiaeth yn rhannu arfer gorau gyda Chyfarwyddiaethau eraill ynghylch newid ffyrdd o feddwl a diwylliannau gwaith.

 

Nododd Aelodau fod lefelau salwch yn y Gyfarwyddiaeth yn cynyddu a bod y Gyfarwyddiaeth yn wynebu achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol ac felly roeddent yn argymell cyfeirio at y ddau faes yma yn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â pha ffactorau lliniaru a gaiff eu sefydlu i wella perfformiad yn y dyfodol.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z