Gwahoddedigion:
Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion;
Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant;
Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth,
Elizabeth Walton James, Rheolwr Grwp, Diogelu
Terri Warrilow, Rheolwr Ansawdd a Diogelu Oedolion;
DCI Richie Weber, Heddlu De Cymru
Louise Mann, Pennaeth Diogelu a Gwarchod y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Katie Davies, Rheolwr Gwasanaeth Ardal Pen-Y-Bont - Calan DVS
Cofnodion:
Yn gyntaf, estynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant groeso i'r cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Calan DVS a diolchodd iddynt am eu presenoldeb a chyfraniad yn y cyfarfod. Yna, cyflwynodd yn fras yr adroddiad Diogelu i'r Pwyllgor, a'i bwrpas oedd diweddaru Aelodau gyda gwybodaeth y gofynnwyd amdani yngl?n â:
· Diogelu (Oedolion a Phlant);
· Byrddau Diogelu Rhanbarthol;
· Polisi Diogelu Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr;
· Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE);
· Safonau Amddifadu o Ryddid (DOLS);
· Cam-drin Domestig;
· Masnachu Pobl a Gwrth-Gaethwasiaeth;
· Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amlinellu'r angen i sefydlu Byrddau Diogelu Rhanbarthol ar gyfer plant ac oedolion, a bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr newydd gwblhau'r symudiad o Fae'r Gorllewin i Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.
Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei blaen i ddisgrifio Aelodaeth a llywodraethiant y Bwrdd Diogelu a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Aelodaeth y Bwrdd, yn yr ystyr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei dangynrychioli o'i gymharu â'r Cynghorau eraill, yn enwedig gyda Merthyr, gan fod y cynrychiolwyr a ddyrannwyd yn anghymesur â phoblogaeth y Fwrdeistref. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai drafft yw'r strwythur o fewn y Cynllun Blynyddol a bod yr Aelodaeth yn cynnwys cynrychiolydd o'r maes Addysg ond cytunodd i ystyried ymestyn y gwahoddiad i gynnwys swyddog cyfreithiol.
Cwestiynodd Aelod y ffigyrau o fewn y Gofrestr Amddiffyn Plant a holodd a oedd yr holl achosion a gofnodwyd yn newydd neu a oedd plant wedi symud o gr?p oedran i gr?p oedran. Dilynwyd hyn gydag Aelod yn nodi y dylai'r categorïau ar y gofrestr gynnwys plant rhieni sy'n camddefnyddio alcohol neu sylweddau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y categorïau a ddefnyddir ar y gofrestr yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru, ond y gellid cyflwyno'r sylwadau a wnaed fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r Fframwaith Perfformiad.
Wrth gyfeirio at y cynnydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn i'r atgyfeiriadau DoLS a'r tebygolrwydd o'r tuedd yn parhau o ganlyniad i boblogaeth gynyddol h?n a chyffredinrwydd dementia, cododd y Pwyllgor bryderon gyda sicrhau arian ac adnoddau ar gyfer y broses yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Ansawdd a Diogelu Oedolion drwy ddarparu manylion Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod gwanwyn 2020, a fydd gobeithio yn symleiddio'r broses, ac o ganlyniad, yn fwy cost-effeithiol i'r Cyngor. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i'r casgliad, ers cyflwyno DoLS ei fod wedi bod yn faes dan bwysau ariannol a bod y Gyfarwyddiaeth, ar hyn o bryd, yn monitro'r broses ar gyfer ffyrdd mwy effeithlon o weithio.
Ar y pwnc o Adolygiadau Ymarfer Oedolion, gofynnodd y Pwyllgor pa wersi a ddysgwyd o'r adolygiad, y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, a holwyd pa broses gadarn a oedd yn ei lle erbyn hyn o'i gymharu ag o'r blaen, i sicrhau nad yw'r digwyddiadau hyn yn digwydd yn y dyfodol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod yr ymarferwyr yn sicrhau'n barhaus fod cyfathrebu'n wydn ar gyfer gweithio effeithiol rhwng asiantaethau.
Nododd Aelodau o'r adroddiad fod rhaglen o'r enw Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chynnig i'r holl blant oed cynradd ac uwchradd, ond mai 405 o blant yn unig sydd wedi elwa ohoni. Felly, gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth yngl?n â pham mai dim ond nifer cymharol isel o blant sydd wedi derbyn yr hyfforddiant a gofynnwyd hefyd i'r ymateb gynnwys gwybodaeth yngl?n ag a yw'r rheswm am y niferoedd isel yn ymwneud â'r ysgol yn dewis darparu rhaglen debyg.
I gloi'r cyfarfod, gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd yngl?n â'r mewnbwn sydd gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i Gynllun Blynyddol 2019/20 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod gweithdy a sawl gweithgor wedi cael eu cynnal â Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i gefnogi pontio'n esmwyth o Fae'r Gorllewin a sicrhau na anghofiwyd am flaenoriaethau ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn y broses.
Penderfynwyd:
Nododd y Pwyllgor fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei dangynrychioli ar Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ac felly, awgrymodd fod y Swyddogion yn ceisio penodi cynrychiolwyr tebyg i Awdurdodau Lleol eraill ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft - Pennaeth Cyfreithiol.
Pan fydd yr adroddiad nesaf ar Ddiogelu yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor, awgrymodd Aelodau y dylai'r tabl sy'n manylu ar y nifer o blant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant gynnwys data yngl?n ag am ba mor hir mae pob plentyn wedi bod ar y gofrestr ac a ydynt wedi symud o un gr?p oedran i'r nesaf.
Tynnodd Aelodau sylw at yr adolygiad parhaus o'r Fframwaith Perfformiad ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol ac awgrymwyd y dylai'r categorïau ar y Gofrestr Amddiffyn Plant gynnwys plant y mae gan eu rhieni broblemau ag alcohol neu sylweddau, ac y dylid adrodd hynny yn ôl fel rhan o'r adroddiad.
Amlygodd aelodau bwysigrwydd hyfforddi staff sy'n cynnal asesiadau i wahaniaethu rhwng niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a dementia i sicrhau diagnosis pendant a gwell prognosis.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mewn perthynas â'r Adolygiad Ymarfer Oedolion a gyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor am fanylion y broses a oedd yn ei lle cyn yr adolygiad a pha broses sy'n ei lle ar hyn o bryd.
Dogfennau ategol: