Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i’r Aelodau, er mwyn hysbysu Pwyllgor y Cabinet am y cynnwys a’r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer pedwerydd Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg y cyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb bod Safonau’r Gymraeg yn rhoi hawliau gwell, y gellir eu gorfodi, i siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg. Derbyniodd y cyngor ei hysbysiad cydymffurfio terfynol ar 30 Medi 2015, a oedd yn amlinellu 171 o safonau y mae’n ofynnol i’r cyngor gydymffurfio â nhw.

 

Ychwanegodd fod Safonau rhifau 158, 164 a 170 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi adroddiad Blynyddol, yn Gymraeg, erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod adroddiad blynyddol Safonau’r Gymraeg 2018/19 y cyngor yn cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 ac fe’i cyhoeddwyd, fel sy’n ofynnol, erbyn 30 Mehefin 2019. Atodwyd yr adroddiad fel atodiad 1 i’r prif adroddiad.

 

Amlinellodd yr adroddiad y ffordd y mae’r cyngor wedi cydymffurfio â’r safonau o dan ddyletswydd i gydymffurfio yn ystod y cyfnod, a hefyd mae’n dogfennu unrhyw gynnydd a datblygiadau newydd o ran ein cydymffurfiad.

 

Aeth ymlaen gan nodi, fel rhan o’r adroddiad blynyddol, bod dyletswydd ar y cyngor i adrodd yn benodol ar y wybodaeth a ddangosir ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb ymhellach, nad yw’r safonau sy’n ymwneud â chyhoeddi adroddiad blynyddol yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad gael ei gymeradwyo gan y cyngor neu Gomisiynydd y Gymraeg cyn ei gyhoeddi, fel y bu’n ofynnol yn flaenorol o dan y Cynllun Iaith Gymraeg.

 

Gofynnodd Aelod pam roedd cyrsiau hyfforddiant gweithwyr (h.y. modelau e-ddysgu) wedi’u cwblhau yn Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod gweithwyr yn gallu cwblhau modiwlau e-ddysgu yn Gymraeg pe byddent yn dymuno gwneud hynny, ond yn 2018/19, cafodd pob un ei gwblhau yn Saesneg.

 

Cyfeiriodd Aelod at 2.2 yn yr Atodiad, pwynt bwled 7, a gofynnodd pwy oedd yn penderfynu p’un ai oedd yn briodol i gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg, ac a oedd y cyfarfodydd hyn yn gyfarfodydd Pwyllgor ffurfiol neu a oedd hyn yn ymestyn hefyd i gyrff a Gweithgorau eraill.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyngor yn gofyn am rybudd ymlaen llaw gan aelod o’r cyhoedd, os oeddent yn gofyn i drafodion a thrafodaeth Pwyllgor ffurfiol gael eu cynnal yn Gymraeg. Roedd yr un peth yn wir hefyd o ran gweddarlledu cyfarfodydd. Fodd bynnag, cynhaliwyd cyfarfodydd mewnol, lle nad oedd cofnodion neu nodiadau’r cyrff hyn ar gael i’r cyhoedd trwy wefan y Cyngor, yn Saesneg gan nad oedd Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r cyfarfodydd/gweithgorau mwy mewnol ac ati.

 

Yn yr un modd, roedd yn rhaid i’r Cyngor roi rhybudd os oedd bwriad i gynnal cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor yn Gymraeg.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 24 yr Atodiad i’r adroddiad, lle nodwyd fod 10 swydd newydd/wag wedi’u hysbysebu yn ystod 2018/19, lle nodwyd yn benodol yn yr hysbyseb swydd fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn. Gofynnodd pa swyddi oedd y rhain.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod 8 o’r swyddi hyn mewn ysgolion, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynhwysiant Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Ychwanegodd mai Prentisiaid Adnoddau Dynol oedd y ddwy swydd arall.

 

PENDERFYNWYD:         Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol ac adroddiad blynyddol Safonau’r Gymraeg 2018/19.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z