Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn y Gweithlu (2018/19)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu adroddiad, er mwyn rhoi crynodeb o broffil cydraddoldeb gweithlu’r cyngor, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, yn ogystal â diweddariad ar adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Cyfeiriodd at Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn rhoi’r proffil cydraddoldeb uchod ar gyfer y cyfnod a nodwyd.

 

Dywedodd nad oedd yn orfodol i weithwyr ddatgelu eu gwybodaeth bersonol sensitif at ddibenion monitro cydraddoldeb. Fodd bynnag, anogwyd gweithwyr i ddarparu a/neu ddiweddaru eu gwybodaeth bersonol drwy’r system ‘hunanwasanaeth gweithwyr’.

 

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur o’r gwahaniaeth yng nghyflog cyfartalog dynion a menywod, ni waeth beth yw eu rôl, ledled y cyngor. Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod hyn yn wahanol i gyflog cyfartal, a oedd yn cymharu sut mae dynion a menywod yn cael eu talu am gyflawni’r un rolau neu rolau tebyg.

 

Esboniodd, gan fod ysgolion yn sefydliadau unigol, nad oeddent wedi’u cynnwys yn nata’r cyngor ar gyflogau menywod a dynion yn Nhabl 1 a ddangosir ym mharagraff 4.2.3 yr adroddiad, a oedd yn darparu crynodeb o’r bwlch cyflog ar gyfer 2017 a 2018.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau, er ei fod yn cydnabod bod amrywiaeth o ffactorau’n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bod y cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar gyflogaeth, a ddisgrifir ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.2.4 yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad yr adroddiad, a gofynnodd a oedd rheolwyr wedi tynnu sylw staff yn eu hadran at yr arolwg Holiadur Cydraddoldeb.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu fod yr holiadur cydraddoldeb wedi’i gynnwys fel cwestiwn ar bob ffurflen arfarnu gweithwyr a bod cwblhau arfarniadau yn cael ei fonitro. Hefyd, anogwyd rheolwyr, yn ystod cyfarfodydd 1:1 â’u staff, i ofyn i weithwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bersonol ar-lein.

 

Wedyn, gofynnodd sut oedd data’n cael ei gyfrifo mewn perthynas â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Gweinyddu’r Gweithlu yn gyntaf nad oedd staff ysgolion yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo data o’r fath, a bod cyfrifiadau cyflogau menywod a dynion yn berthnasol i staff corfforaethol. Y ffactorau i’w hystyried mewn perthynas â data a luniwyd trwy edrych ar gyflogau menywod a dynion, oedd bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nifer uwch o fenywod nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Ychwanegodd fod gan y cyngor nifer o feysydd gwasanaeth lle’r oedd gweithlu mawr benywaidd, ac i’r gwrthwyneb, meysydd gwasanaeth sydd â gweithlu gwrywaidd i raddau helaeth, megis casglwyr sbwriel (sydd ar gontract allanol). Ychwanegodd ymhellach mai staff benywaidd sydd â 92% o swyddi rhan-amser o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, felly roedd hyn yn effeithio’n gyffredinol ar gipio data.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr pe bai staff ysgolion yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo’r data, byddai hyn yn adlewyrchu canran uwch o fenywod mewn swyddi â chyflog uwch. Ychwanegodd fod tri o bum aelod y Bwrdd Rheoli Corfforaethol presennol yn fenywod, a bod chwech o’r deg Prif Swyddog yn fenywod.

 

PENDERFYNWYD:           Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi nodi’r wybodaeth a oedd yn yr adroddiad a’r wybodaeth ategol.    

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z