Agenda item

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddedigion

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell – Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i'r Aelodau Craffu, ac esbonio nad oedd yn mynd i ddarllen drwy'r holl adroddiad, gan ei fod eisoes wedi'i gyflwyno i'r aelodau ym mis Mehefin. Fodd bynnag, adroddodd fod Estyn wedi cynnal yr arolygiad ym mis Mawrth 2019, o dan y Fframwaith Arolygiadau Addysg Llywodraeth Leol newydd.  Roedd Arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac o Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhan o'r tîm o arolygwyr.  Yr oedd ystod eang o randdeiliaid wedi cymryd rhan yn yr arolygiad, gan gynnwys Aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid, dysgwyr ac aelodau o'r cyhoedd.  Ychwanegodd ei bod hi'n galondid gwybod bod yr gwaith yr ydym yn ei wneud yn effeithiol.  Aeth rhagddo wedyn i gadarnhau bod yr awdurdod i fod i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygi ar erbyn 31 Awst. Cydnabu'r mewnbwn gan y swyddogaeth Graffu er mwyn llywio'r Cynllun hwnnw, ac roedd yn awyddus i ateb unrhyw gwestiynau. Nododd y pwyllgor fod Estyn wedi cyflwyno 4 prif argymhelliad ac, ynghyd â Chonsortiwm Canolbarth y De, roeddent wedi nodi 14 ohonynt yn yr is-gynllun.

 

Holodd aelod ynghylch amseroldeb y Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygiad, gan amlygu bod hyn yn gyfle i'r swyddogaeth graffu fod â rhan yn y cynllun hwnnw.

 

Dywedodd un o'r aelodau fod yr adroddiad yn dda, ond tynnodd sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn nodi sefyllfaoedd lle'r oedd hi'n cymryd yn rhy hir i wella enghreifftiau o addysgu gwael.  Gofynnodd yr aelod am eglurhad ynghylch ystyr addysgu gwael, beth oedd y gwahaniaeth rhwng addysgu a oedd yn is na'r safon ac addysgu gwael, a faint o amser y dylai athro gwael ei gael cyn i hynny effeithio ar ddosbarth neu gohort. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod wedi bod yn rhagweithiol iawn, yn cynnal ymweliadau rheolaidd, ond ei bod hi'n cymryd rhai misoedd i wneud hynny. Fodd bynnag, ni ddylai dysgwyr fod o dan unrhyw anfantais, ac roedd angen trefnu cefnogaeth ar y cyfle cyntaf.  Mewn sefyllfaoedd lle rydym wedi beirniadu athrawon, nododd fod yr athrawon hynny wedi derbyn y feirniadaeth honno ac wedi gwneud cynnydd boddhaol. Gwelwyd bod yr addysgu wedi gwella, ond nad oedd amser penodedig ar gyfer gwella o reidrwydd. Roedd Uwch Gynghorydd Herio Consortiwm y Canolbarth a'r De yn ymwybodol o ddatblygiad y staff, a bod dyletswydd gofal i sicrhau cynnydd ar ôl arolygiad, ond bod angen gwneud hynny mewn modd cefnogol drwy bartneriaeth rhwng yr ALl a'r Consortiwm.

 

Holodd aelod ar ba bryd y byddai'r Consortiwm yn mynd i mewn i'r ysgol, a pha waith sy'n cael ei wneud er mwyn atal ysgolion gwyrdd rhag llithro.  Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm fod ysgolion gwyrdd yn cael 4 diwrnod o gefnogaeth, ond bod hynny wedi cael ei newid i dull mwy ystwyth, fel bo modd nodi problemau ac ymdrin â hwy o'r cychwyn cyntaf. Dywedodd Uwch Gynghorydd Herio y Consortiwm ei bod hi'n bwysig cynnal taith ddysgu, a thynnodd sylw at yr enghraifft yn adroddiad Estyn lle canfuwyd bod angen gwella addysgu'r cyfnod sylfaen yn sgil taith ddysgu a gynhaliwyd gan gynghorydd herio. O ganlyniad i hyn, canolbwyntiodd arweinwyr ysgol ar y maes hwn, a chyflwyno gwelliannau'n brydlon. Hysbysodd yr Aelod Cabinet Addysg y pwyllgor ei fod wedi cwblhau tua 50 o deithiau dysgu, ac nad oedd addysgu gwael yn thema a welwyd yn gyffredinol mewn addysg. Roedd y Cadeirydd yn gwerthfawrogi gwaith y Consortiwm.

 

Nododd yr Aelodau fod plant ysgol gynradd yn aml yn ailadrodd yr hyn y maent yn ei glywed, boed hynny ar y teledu, gan athrawon neu rieni, ac os ceir camgymeriadau, ee gwallau gramadegol, mae'n hollbwysig cywiro'r rheiny. Yn ogystal â hynny, nodwyd bod gwallau gramadegol neu sillafu mewn adroddiadau gan sefydliadau addysg yn destun pryder.

 

Nododd aelod, ar dudalen 18 yr adroddiad, fod gan 20.2% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, a gofynnodd sut y cafodd yr angen hwnnw ei nodi, a sut yr oedd yn cymharu â gweddill y DU. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn frwd o blaid safonau llythrennedd uchel, a'i bod yn holl bwysig cywiro geiriau ar lefel gynradd. Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion fod ymateb graddedig da ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bod hynny wedi'i gefnogi gan Estyn. Yr oedd llawer o dimau o fewn y gwasanaeth cynhwysiant yn cydweithio'n agos ag ysgolion i edrych ar gofrestrau ADY, ee anghenion sgiliau sylfaenol, ac yn symud ymlaen â chynlluniau unigol yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â chanolfannau Adnoddau Dysgu. Esboniodd fod y Panel Mynediad at Addysg yn dda iawn am ystyried anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed. Gofynnwyd i'r Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion a yw parhad y gwaith yn dda, ac a oes unrhyw rwystrau, ac esboniodd fod y broses yn gweithio fel is-banel o gydweithwyr allweddol, gan gynnwys rhieni. Ceir presenoldeb da gan Benaethiaid Cynradd ac Uwchradd ar baneli, sy'n eu hystyried yn berthnasol iawn, a bod cylch gorchwyl wedi'i sefydlu ar eu cyfer.

 

Gofynnodd un o'r aelodau pa waith sy'n cael ei gyflawni i gefnogi cyrff llywodraethu a darparu hyfforddiant yn lleol, gan fod rhai ohonynt yn gwneud gwaith rhagorol ac eraill yn llai cydwybodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal â Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr, ond bod y gynrychiolaeth yn brin ar adegau, a'i fod wedi cynnal trafodaethau hir i wella hynny. Cafwyd cyfraniadau gan y Cyfarwyddwr ei hun a'r Consortiwm fel arbenigwyr.  Yr oedd yn cydnabod yr adborth a gafwyd yn ddiweddar gan y Consortiwm ynghylch darparu hyfforddiant lleol, gan gydnabod yr hyfforddiant a ddarparwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, ac annog mwy o lywodraethwyr i fod yn bresennol yn y digwyddiadau hynny. Pan fo materion yn dod i'r amlwg byddant yn ceisio cyflwyno'r hyfforddiant yn gyflym iawn, ee GDPR.

Roedd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm yn cydnabod bod angen hyfforddiant parhaus i lywodraethwyr, a bod llywodraethu ysgolion yn fater cenedlaethol.  Esboniodd fod y gofynion yn mynnu bod llywodraethwyr newydd yn derbyn hyfforddiant, ond dim hyfforddiant pellach ar ôl hynny.  Trafododd yr aelodau sut i gynyddu sgiliau a hyfforddi Llywodraethwyr, a datblygu hyfforddiant parhaus, gan gynnwys modiwlau eDdysgu.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y broblem bod swyddi llywodraethwyr yn parhau fod yn wag. Cydnabu Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm fod y mater hwn yn anodd ei ddatrys.

 

Gofynnodd un o'r aelodau pa gymorth y mae ysgolion yn ei gael i reoli'r gyllideb. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y sylw yn adroddiad Estyn a gyfeiriai at ddull yr awdurdod lleol o ddyrannu adnoddau i'w wasanaethau addysg, a'r farn fod y trefniadau monitro ariannol yn effeithiol. Nododd fod her wirioneddol mewn rhai meysydd, ac esboniodd y gellid ymestyn cynlluniau diffyg cyllideb hyd at 3 blynedd i ddechrau, ac wedyn o bosib hyd at 5 mlynedd gyda chytundeb y swyddog A151. Cadarnhaodd fod diffyg yng nghyllidebau 20 o ysgolion, ond mai ond ychydig o'r cyllidebau hynny a oedd yn cynnwys diffyg mawr. Roedd hi'n bwysig rheoli cyllidebau llym gan barhau i wella safonau ar yr un pryd. Gofynnodd yr aelod hefyd faint o gymorth ychwanegol y gellid ei roi i'r ysgolion, er mwyn cynnal safonau. Esboniodd Uwch Gynghorydd Herio y Consortiwm fod gan bob ysgol yn y rhanbarth fynediad at raglen ddysgu a datblygu gynhwysfawr. Darparodd wybodaeth am arweinwyr cynnydd cyflym a oedd yn gweithio'n dda, ac roedd y bwrdd adnoddau yn gallu cynnig darnau penodol o waith i ysgolion coch/ambr, ee datblygu dysgu ac addysgu.

 

Gofynnodd un o'r aelodau a oeddem yn disgwyl gormod wrth ofyn i ysgolion reoli eu cyllidebau eu hunain, oherwydd roedd hi'n ymddangos fel pe bai achosion o wrthdaro rhwng addysgwyr a chyfrifwyr. Er ei bod hi'n well cadw rhai agweddau yn ganolog, cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyllidebau ysgol wedi'u dirprwyo, a bod yr awdurdod yn cynorthwyo ysgolion i'w rheoli. Esboniodd hefyd fod yr awdurdod yn darparu amrywiaeth eang o gytundebau lefel gwasanaeth i ysgolion, er mwyn sicrhau cost-effeithiolrwydd a chynnig gwerth am arian. Roedd cefnogaeth ychwanegol ar gael gan Swyddogion Cyllid, Uwch Swyddogion, a chefnogaeth gyffredinol hefyd. Dylai'r ysgolion sy'n destun pryder fod â chynllun wedi'i sefydlu.  Cydnabu'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio Ddeddf Diwygio Addysg 1988, a phwysleisiodd nad oedd modd cyflwyno newidiadau yn sgil y Ddeddf honno, hyd yn oed pe bai dymuniad i wneud hynny. Ni theimlai fod unrhyw gydberthynas rhwng ysgolion a wynebai ddiffyg a safonau. Ailadroddodd un o'r aelodau fod blaenoriaethau'n cystadlu â'i gilydd yn yr ysgolion hynny lle'r oedd diffyg cyllidebol, a bod yn rhaid iddynt reoli adnoddau'n ofalus iawn.

 

Gofynnodd un o'r aelodau ynghylch nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg a oedd ar gael yn y fwrdeistref. Er bod capasiti o oddeutu 5% mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod 13.5% o gapasiti mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg  a 20% mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cadarnhaodd hefyd gefnogaeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Tynnodd sylw at y gwaith ardderchog yn Ysgol Gynradd Betws ac Ysgol Calon y Cymoedd, sydd yn rhannu'r un safle, ac sy'n cydweithio'n agos ac yn rhannu adnoddau.

 

Nododd un o'r aelodau fod nifer y gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu, a gofyn beth oeddem yn ei wneud i newid hynny. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ffigurau'r llynedd yn adroddiad Estyn yn dangos bod gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu a gwaharddiadau byrdymor wedi gostwng.  Roedd hyn yn groes i ffigurau eleni, a ddangosai fod gwaharddiadau parhaol wedi gostwng ond gwaharddiadau byrdymor wedi cynyddu. Esboniodd y Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion y gwaith ad-drefnu cynhwysiant, a dywedodd fod mwy o gysondeb ar draws yr awdurdod bellach. Roedd arweinydd newydd wedi'i sefydlu, ynghyd ag ymateb cydweithredol yn unol â'r ymateb ADY.  Bydd tîm o amgylch yr ysgol, gan gynnwys gwasanaethau teulu integredig, yn cyfarfod ac yn rhoi sylw i achosion yn fuan.  Mae sawl dull wedi'i sefydlu, ee Ffynnu, Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, yn hytrach na'r dulliau traddodiadol.  Ceir cefnogaeth ddwys gan Ddarpariaeth Amgen y Bont a'r Uned Cyfeirio Disgyblion.

 

Gofynnodd yr aelodau pa strategaeth sydd gennym i gefnogi disgyblion yn y chweched dosbarth, yn enwedig disgyblion mwy abl neu dalentog. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd at yr adolygiad sydd ar ddod i lywio'r tirlun Ôl 16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ceir pryder bod dysgwyr yn cyflawni'n dda iawn yn 16 oed, ond nad yw'r cyflawniad hwnnw'n parhau hyd at Safon Uwch. Nododd fod rhai ysgolion yn llwyddo'n dda iawn yn hynny o beth, ond bod eraill heb wneud cystal.  Roedd angen canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu Ôl 16.  Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Addysg a Chymorth Cynnar at yr angen i gynnwys y pryder hwn yn yr adolygiad Ôl 16, er mwyn bwydo hynny i'r gwasanaeth addysg.  Esboniodd fod bwlch yn ein darpariaeth ers colli'r Gwasanaeth Cynghori Ysgolion. Amlinellodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm fod angen cael ymarferwyr cyfredol mewn meysydd arbenigol penodol. Dywedodd fod ymarferwyr arweiniol enghreifftiol wedi'u nodi fel arweinwyr allweddol i rannu arbenigedd a sicrhau bod ymarferwyr yn ymarfer ar y cyd. Gofynnodd un o'r aelodau a oedd prinder Gwasanaethau Ieuenctid yn y sir i gynnig cyfleoedd datblygu i'r dysgwyr hyn. O ran gwaith ieuenctid, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ein bod yn cynnal gr?p bychan ym Mhen-y-bont ar Ogwr o oddeutu 330, sy'n cynnwys gwobrau Dug Caeredin ac Ysbrydoli i Gyflawni. Darperir cefnogaeth gan yr ysgolion drwy weithwyr ieuenctid, yn hytrach na chlybiau ieuenctid.

 

Dywedodd un o'r aelodau y dylid llongyfarch yr awdurdod am yr adroddiad, ond nododd fod Estyn wedi cyffredinoli, yn debyg i lawer o adroddiadau, a bod hynny wedi tynnu'r sglein oddi arno. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod wrth ei fodd â'r adroddiad. Cydnabu fod Estyn wedi gofyn i'r awdurdod gyflwyno astudiaeth achos i ddangos sut y caiff pobl ifanc eu cynnwys mewn prosesau penderfynu mewn ysgolion ac yn yr awdurdod lleol.

 

Gofynnodd aelod am gynnydd gofalwyr ifanc, fel y crybwyllir yn yr adroddiad. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gwaith gwirioneddol dda yn cael ei gyflawni i gefnogi hyn, a chyfeirio at y cerdyn gofalwr ifanc. Fodd bynnag, yr oedd yn cydnabod bod cael gofalwyr ifanc i'w cyflwyno eu hunain yn her, gan na ellir eu gorfodi i wneud hynny. Mae'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn cyflwyno nifer o sesiynau a hyfforddiant mewn ysgolion er mwyn canfod yr unigolion hynny. Dywedodd y Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion eu bod yn derbyn cefnogaeth effeithiol iawn ar ôl iddynt gael eu canfod, ond ei bod hi'n broblem bod llawer ohonynt am aros yn anhysbys.

 

Dywedodd un o'r aelodau y dylem ein hatgoffa ein hunain wrth edrych ar Gyflawniad Corfforaethol: dyma adroddiad da iawn, ac ystyried y cyfyngiadau ariannol. Yr hyn sy'n cael ei gyfleu yw'r egni a'r bwriad i gyflawni mwy eto. Gan gadw hyn mewn cof, a oes unrhyw gyllid allanol arall i gefnogi'r cynllun hwn a'r argymhellion ynddo? Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol i'w chyfrannu i'r argymhellion, gan gydnabod bod y gefnogaeth gan y Consortiwm yn llawer uwch na'r disgwyl. O ran argymhelliad 1, gofynnodd un o'r aelodau a ellid rhoi sicrwydd i'r aelodau fod y trefniadau safoni mewn ysgolion cynradd yn gyson.  Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gwaith a gyflawnwyd gyda'r Consortiwm, a bod y trefniadau safoni yn aml-haenog, gan weithio mewn clystyrau. Lle gwelir arferion llythrennedd ardderchog mewn ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, caiff hynny ei rannu. Ychwanegodd Uwch Gynghorydd Herio y Consortiwm fod ymrwymiad ers tro i sicrhau llafaredd, gan gyfeirio at brosiect Voice 21, a phwysleisio bod arfer rhagorol mewn ysgolion yn cael ei rannu. Cydnabu fod y cynnydd yn dda yn y blynyddoedd cynnar, ond bod angen gwneud cynnydd eto.

 

Cyfeiriodd un o'r aelodau at gyfarfod diweddar lle amlygwyd problemau yn dilyn arolwg o les staff, a holodd pam nad oedd yr un arolwg yn cael ei gynnal o les staff addysg.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cydnabod y sefyllfa, ac ychwanegodd ei fod wedi sôn am hyn gyda'r Prif Weithredwr, a'i fod yn fodlon cyflwyno'r arolwg mewn ysgolion.

 

Daeth hyn â'r ddadl ar yr eitem i ben. Mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i'r pwyllgor, gan gydnabod mewnbwn y swyddogaeth Graffu i'r Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygiad. Diolchodd y Cadeirydd i'r gwahoddedigion a oedd wedi dod i'r cyfarfod heddiw, a adawodd y cyfarfod wedi hynny.

 

Casgliadau:-

 

Argymhellodd yr aelodau y canlynol: -

 

  • Wrth drafod Hyfforddiant Llywodraethwyr, argymhellodd yr aelodau y dylid darparu modiwlau eDdysgu a oedd yn cynnwys enghreifftiau o broblemau i'w datrys yn y byd go iawn, a fyddai o fudd i lywodraethwyr profiadol.

 

  • Nododd yr aelodau nad oedd arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar o les y staff yn cynnwys staff ysgol, ac argymhellwyd y dylai arolygon gynnwys yr holl staff o hyn allan, gan gynnwys staff ysgol.

 

  • Argymhellodd yr aelodau y dylid trefnu i gyflwyno'r Rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc, a nodwyd ar dudalen 5 o Adroddiad ALl Estyn, gerbron y Cyngor.

 

  • Argymhellodd yr aelodau y dylid trefnu cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pynciau 1 ar gyfer mis Awst 2019, er mwyn adrodd yn ôl i'r Cynllun Gweithredu ar ôl Arolygiad.

 

Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth bellach ynghylch y canlynol:-

  • Nododd yr aelodau fod ffigur o 20.2% wedi'i gynnwys ar dudalen 1 o Adroddiad ALl Estyn ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Gofynnwyd sut mae hyn yn cymharu â gweddill y DU.

 

Dogfennau ategol: