Gwahoddedigion:
Cyng Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd (yn cynrychioli Cyng Young);
Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth;
Michael Jenkins – Arweinydd Tim Datblygu Cynaliadwy
Ieuan Sherwood – Rheolwr Grwp - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd
Denis Richard, Pennaeth Rhaglenni Mawr- Energy Systems Catapult
Paul Smith, Rheolwr Datblygu RhanbartholCymru - Energy Systems Catapult
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y gwahoddedigion i'r cyfarfod a diolchodd i'r gwahoddedigion allanol am deithio i fynychu'r Pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad i'r Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflawni Strategaeth Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynllun Ynni Clyfar. Atgoffodd yr Aelodau fod y Cabinet wedi cymeradwyo bod yn rhan o’r rhaglen SSH ar 3 Chwefror 2015 a bod Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r tri Awdurdod Lleol a gymerodd ran yn y prosiect peilot.
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i gynrychiolwyr yr Energy Systems Catapult am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniad amhrisiadwy i'r prosiect hyd yma. Dywedodd mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr unig Awdurdod Lleol i gynhyrchu Strategaeth Ynni Ardal Leol. Ychwanegodd y byddai gwaith yn y dyfodol gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn datblygu rhaglenni prentisiaethau ac y byddai cydweithio hefyd yn y dyfodol gydag Awdurdodau Lleol Bury a Newcastle, a oedd hefyd yn rhan o’r rhaglen beilot
Mewn ymateb i bryderon yr Aelodau bod y cynllun yn rhy uchelgeisiol, atebodd y swyddogion y byddai angen i'r cyhoedd brynu'r cynllun ond y rhoddid dewis i ddefnyddwyr, ac na fyddai'r cyhoedd yn cael eu gorfodi i wneud newidiadau i'w systemau gwresogi, a bod nifer o ffyrdd eraill na fyddai'n gostus y gallent wneud gwahaniaeth.
Nododd un aelod y mater y gallai Cynllun Gwres D?r Cloddfeydd Caerau fod yn anodd ei werthu i'r cyhoedd gan fod rhai trigolion yng Nghaerau yn dal i ddioddef canlyniadau inswleiddio eu heiddo, pan fu llawer o broblemau gydag ansawdd y gwaith a lleithder yn yr eiddo yn sgil hynny. Cafodd y contractwr a oedd yn gwneud y gwaith ei ddiddymu heb wneud iawn am yr eiddo yr effeithiwyd arno. Ymatebodd y swyddog gan ddweud bod gwersi wedi'u dysgu ac y byddai dull gwahanol yn cael ei ddefnyddio y tro hwn o ran rheoli ansawdd.
Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau ei bod yn hanfodol fod pawb a oedd yn gallu lleihau eu hôl troed carbon yn gwneud hynny. Fel corff cyhoeddus mawr, roedd CBSP mewn sefyllfa i arwain y ffordd ac annog y cyhoedd i gyfrannu hefyd.
Mynegodd rhai Aelodau bryder mai nad hyn oedd y defnydd gorau o arian ar adeg pan oedd yr Awdurdod yn gorfod gwneud toriadau anffafriol mewn cyfnod o galedi.
Atebodd yr Aelodau Cabinet dros Gymunedau fod angen i'r Awdurdod fuddsoddi mewn storio trydan a diogelu'r ffordd y mae pobl yn cynhesu eu cartrefi yn y dyfodol. Ychwanegodd fod pobl yn agored i newid os ydynt yn deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac os ydynt yn ymwybodol o sut maent yn diogelu'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gofynnodd Aelod a oedd yr Awdurdod yn rhannu arferion gorau gyda'r 2 Awdurdod lleol arall a oedd yn rhan o'r cynllun peilot. Ymatebodd y Swyddog drwy ddweud bod adolygiadau misol yn cael eu cynnal gyda phob un o'r Awdurdodau Lleol dan sylw.
Argymhellion:
Argymhellodd yr Aelodau y dylid cyflwyno papur briffio i bob aelod o'r Cyngor, a hynny cyn i’r Cyngor gychwyn, gan fod y mater hwn yn effeithio ar bob aelod a'u hetholwyr.
Dogfennau ategol: