Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Hynt y rhaglen Teithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth adroddiad. Diben hwn oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Fforwm am Deithio Llesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rhoddwyd y wybodaeth hon i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned ar 28 Mehefin 2019.

 

Esboniodd y cefndir drwy ddweud bod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi dod i rym ym mis Medi 2014 ac, ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi arian grant i Gynghorau Cymru i’w helpu i weithredu’r rhaglenni teithio llesol a nodwyd ym Mapiau Rhwydwaith Integredig y cynghorau unigol. Bob blwyddyn, caiff cynghorau eu gwahodd i gyflwyno cynigion i hyrwyddo teithio llesol gan gynnwys llwybrau sy’n cyd-fynd â’r cynllun llwybrau diogel mewn cymunedau/i ysgolion. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun hwn hefyd. Pan fo hynny’n briodol ac yn berthnasol, mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu rhannau o’r rhwydwaith teithio llesol drwy gyfraniadau gan ddatblygwyr.

 

Yna, aeth Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth rhagddo i roi cyflwyniad, a’r prif ddiben oedd rhoi gwybod i’r Cynghorwyr am hynt y gwaith ac esbonio’r prosesau mae Swyddogion y Cyngor yn eu dilyn wrth benderfynau ar y cynlluniau a’u hasesu. 

 

Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â’r prif bwyntiau a’r themâu a ganlyn:-

 

Prif ddiben y Ddeddf oedd sicrhau bod pobl yn dewis cerdded a  beicio o le i le dros  bellteroedd byr/byrrach.

 

Cyflwyno map rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ym mis Hydref 2017. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys:-

 

·       Y mapiau rhwydwaith presennol (ERM)

·       Map Rhwydwaith Integredig (INM)

·       Map a fydd ar gael i’r cyhoedd

 

Hynt y gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr

 

Mae Teithio Llesol yn integreiddio â pholisïau trafnidiaeth ehangach:-

 

  1. Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
  2. Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl)

 

Gwella ac ariannu cynlluniau i wella’r seilwaith teithio llesol

 

  • Cynlluniau i’w cynnwys yn y Map Rhwydwaith Integredig a’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol
  • Cynlluniau sy’n gysylltiedig ac yn cyd-fynd â llwybrau diogel mewn cymunedau/ i ysgolion
  • Cynlluniau i’w cynnwys yn y cynlluniau teithio i ysgolion neu gynlluniau mynediad cymunedol
  • Cynlluniau i’w datblygu a’u hariannu drwy’r broses defnyddio tir fel rhan o :-

 

1.     Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

2.     Datblygiadau preswyl

3.     Datblygiadau’r GIG/Ymddiriedolaeth

4.     Adfywio Canol Trefi

5.     Datblygu seilwaith trafnidiaeth.

 

Yna, cafwyd gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17 – 2018/19, a’r cyllid ar gyfer 2019/20:-

 

 

 

Nodau llesiant Teithio Llesol yw creu Cymru:

 

  • lewyrchus
  • cydnerth
  • iach
  • mwy cydradd
  • cydlynol
  • sydd â diwylliant bywiog a
  • chyfrifoldeb byd-eang

 

Hyrwyddo llwybrau Teithio Llesol drwy:-

 

Gynlluniau hirdymor e.e. datblygu defnydd tir;

Atal e.e. lleihau dibyniaeth ar geir, gwersi beicio mewn ysgolion, cynlluniau beicio i’r gwaith yn y gweithle;

Integreiddio e.e. defnydd tir a defnyddio mwy nag un dull o deithio;

Cydweithredu e.e. cymunedau, ysgolion etc;

Cyfranogiad e.e. defnyddwyr trafnidiaeth, cerddwyr, beicwyr etc

 

Teithio Llesol a’r broses gynllunio

 

Nod y  broses o gynllunio datblygiadau yw:

 

1.     Integreiddio a chydlynu cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth

2.     Hygyrchedd i bawb (dewis ehangach)

3.     Lleihau’r angen i deithio

4.     Blaenoriaethu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus

5.     Cefnogi cerbydau ag allyriadau eithriadol o isel (cerbydau ULEV)

 

Mae’r broses rheoli datblygiadau’n gyfrifol am:

 

  • Ddyluniad a chynllun strydoedd

(Llawlyfr strydoedd)

(Canllaw ar ddylunio teithio llesol)

      (Egwyddorion dylunio trefol eraill)

  • Asesiadau trafnidiaeth
  • Lleihau effaith trafnidiaeth
  • Yr egwyddor mai’r ‘llygrwr sy’n talu’

 

Yna, soniodd Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth am y datblygiadau defnydd tir sydd wedi elwa ar gyfraniadau gan ddatblygwyr ar gyfer cynlluniau teithio llesol rhwng 2014 a 2018.

 

Gan mai hwn oedd diwedd y cyflwyniad, diolchodd yr Arweinydd (a’r Cadeirydd) i’r Swyddog am ei gyflwyniad.

 

Dywedodd Aelod o Gyngor Cymuned Coety Uchaf ei fod wedi’i siomi yngl?n â chais Cyngor Cymuned Coety Uchaf. Cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod a phan gyflwynwyd cais arall am gynllun Llwybrau Diogel i’r Ysgol, ni chaswant yr holl arian grant roeddent yn credu roedd ganddynt hawl iddo. Ychwanegodd Aelod o Gyngor Cymuned Llangrallo i’w cais hwythau am lwybr beicio o Heol-y-Cyw i ardaloedd cyfagos fel Pencoed gael ei wrthod. Roedd yn arbennig o siomedig gan nad oedd fawr ddim siopau yn ardal Heol-y-Cyw.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Polisi, Datblygu a Thrafnidiaeth fod yn rhaid i’r ceisiadau fodloni rhai meini prawf penodol i fod yn llwyddiannus. Roedd hyn yn dibynnu at  gynllun datblygiadau tai; meini prawf defnyddio tir (yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol). Roedd hefyd angen sicrhau mynediad i draffig at ddibenion gwasanaethu datblygiadau. Byddai Gr?p Rhwydwaith wedyn yn ystyried ffiniau anheddiadau a oedd yn gwahanu ac yn uno cymunedau, er mwyn gweld a fyddai’n bosibl cyflwyno llwybrau beiciau a Llwybrau Diogel i’r Ysgol yn yr ardal. Cyn rhyddhau’r cyllid llawn, roedd angen cyflwyno Achos Busnes i sicrhau Llywodraeth Cymru y byddai’r cyhoedd a phlant ysgol etc. yn defnyddio llwybrau tebyg i’r rhai a nodir uchod.      

 

Wrth ymateb i ymholiadau’r ddau Aelod uchod, ychwanegodd bod ceisiadau’r ddau Gyngor Cymuned wedi’u llesteirio gan broblemau’n ymwneud â pherchnogaeth/defnydd tir mewn perthynas â’r darnau o dir roedd y llwybrau swyddogol yn mynd drostynt neu drwyddynt.

 

At hyn, dywedodd fod nifer fawr o gynigion wedi dod i law yn ardal Coety Uchaf ar gyfer cynlluniau mannau croesi. Gofynnodd i Gyngor Cymuned Coety Uchaf restru’r rhain yn nhrefn blaenoriaeth a’i hanfon at y Pwyllgor gan nad oedd digon o arian i fwrw ymlaen â rhestr hirfaith mewn un ardal benodol o’r Fwrdeistref Sirol.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth i ben ar ôl yr eitem hon gan ddweud y byddai 500 o dai ychwanegol, yn ôl yr amcangyfrifon,  yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn mewn ardaloedd gwahanol o’r Fwrdeistref Sirol, a hynny o ganlyniad i’r datblygiadau tai newydd a fyddai’n cael eu codi. Bydd cynlluniau Teithio Llesol, felly, yn sicr o barhau cyhyd ag y bo’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn parhau. Byddai’r dull hwn o deithio hefyd yn helpu i leihau’r defnydd o gerbydau modur a’r llygredd a gaiff ei ryddhau i’r atmosffer oherwydd y dull hwn o deithio.

 

PENDERFYNWYD:          Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cyflwyniad cysylltiedig.    

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z