Agenda item

Cyflwyniad gan y Prif Uwcharolygydd Alun Morgan o Heddlu De Cymru ar Blismona yn y Fwrdeistref Sirol.

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd yr eitem hon drwy gyflwyno’r Prif Uwcharolygydd Alun Morgan i’r Aelodau. Roedd y Prif Uwcharolygydd yn ymddangos gerbron y Fforwm heddiw i roi cyflwyniad llafar ar faterion plismona.

 

Dywedodd y byddai’n trafod rhai o’r materion a oedd yn wynebu Heddlu’r De a sut roeddent yn bwriadu ymdrin â rhai o’r problemau a byddai’n eu hamlinellu.

 

Rhoddodd drosolwg o’r materion dan sylw gan ddweud bod yr heddlu’n dymuno gweithio mor effeithlon â phosibl yn yr hinsawdd bresennol. Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig i’r heddlu ddefnyddio’r adnoddau mwyaf priodol yn yr ardaloedd iawn, gan ddefnyddio data a thechnoleg i’w helpu i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

 

Aeth rhagddo i ganmol y Cyngor am fod mor awyddus i weithio gyda’r heddlu i ddatrys problemau lleol fel digartrefedd, cyflenwi/camddefnyddio cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yna nododd y pum blaenoriaeth roedd yr heddlu wedi’u mabwysiadu’n ffurfiol yng nghyd-destun plismona, sef cam-drin domestig, troseddu â chyllyll, llinellau cyffuriau, trais a throseddau rhywiol difrifol eraill, yn ogystal â’r angen i atal ac ymateb i fygythiadau terfysgol ac ymosodiadau posibl gan eithafwyr.

 

Yna rhoddodd y Prif Uwcharolygydd esboniad manylach o’r hyn yw ‘llinell gyffuriau’, sef sefyllfa sy’n codi pan fydd gangiau cyffuriau o’r dinasoedd mawr yn ehangu eu busnes i drefi llai, gan ddefnyddio trais i yrru’r delwyr cyffuriau llai o’r dref a manteisio ar bobl agored i niwed i werthu cyffuriau. Bydd y delwyr hyn hefyd yn defnyddio llinellau ffonau symudol penodol, y ‘llinellau cyffuriau’, i brynu a gwerthu cyffuriau.  

 

Drwy ganolbwyntio mwy ar y pum blaenoriaeth hyn, gallai’r heddlu weithio’n fwy cydlynol nag erioed o’r blaen, gan ddefnyddio adnoddau mwy arbenigol i frwydro yn erbyn y problemau dan sylw.

 

Ychwanegodd fod proses ar waith yn awr yn yr heddlu i greu mwy o gyfleoedd i benodi swyddogion prawf newydd ac i swyddogion drosglwyddo o un heddlu i’r llall, ac mae cynllun mynediad uniongyrchol hefyd ar waith ar gyfer ymchwilwyr.  

 

Nod yr holl newidiadau hyn yw galluogi’r heddlu i ymateb yn fwy effeithiol i’r galw cynyddol i ymdrin ag achosion mwy difrifol. Byddai’r swyddogion ychwanegol yn cael eu defnyddio i ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros fisoedd yr haf, sy’n cynyddu pan fydd y tywydd yn cynhesu. 

 

Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd unrhyw gynigion i leihau nifer y gorsafoedd heddlu ac, yn benodol, gorsaf Heddlu Porthcawl.

 

Cadarnhaodd y Prif Uwcharolygydd fod ystâd yr heddlu’n cael ei hadolygu’n barhaus ond nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr orsaf hon ar hyn o bryd. Ychwanegodd y gallai’r syniad o uno gorsafoedd, a fydd yn digwydd yn fuan yn Llanilltud Fawr, apelio at Borthcawl, ond byddai’n rhaid sicrhau na fyddai adolygiad o’r fath yn gwanhau’r gwasanaeth plismona yn yr ardal. Dywedodd hefyd fod y model ar gyfer Llanilltud Fawr yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng yr heddlu, y gwasanaeth tân, ambiwlans a gwylwyr y glannau.

 

Yna, trafododd y Prif Uwcharolygydd Morgan Ymgyrch y Ddraig Goch yn erbyn cyffuriau Dosbarth A. Trefnwyd i aelod o’r heddlu cudd fod ar strydoedd y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2018  er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth ac arestio’r drwgweithredwyr. Bu’n ymgyrch lwyddiannus iawn; cafodd 70 eu harestio ac mae nifer fawr o’r rhain wedi’u carcharu. 

 

Lleihau’r broblem, yn hytrach na’i datrys mae ymgyrchoedd o’r fath, fodd bynnag, ac anogodd pawb a oedd yn bresennol, ac etholwyr y Fwrdeistref Sirol, i roi gwybod i’r heddlu os oedd ganddynt unrhyw amheuaeth o gwbl fod rhywun yn cyflenwi/defnyddio cyffuriau yn eu hardal. 

 

Yna, rhoddodd y Prif Uwcharolydydd drosolwg o’r Adran Plismona Ffyrdd gan ddweud y byddai beiciau modur yr heddlu, yn ogystal â cheir, yn cael eu defnyddio’n amlach, a byddai system rota fwy modern yn cael ei datblygu i ateb y galw.

 

Ychwanegodd fod yr heddiw hefyd yn ymwneud yn gynyddol â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i helpu’r rhai a oedd â phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â phlant sy’n derbyn gofal. Gallai’r problemau’n ymwneud â’r rhain fod yn ddifrifol ac roedd elfen o risg ynghlwm wrthynt a oedd wedi symud dros amser o’r asiantaeth a oedd yn ymdrin â’r achosion yn wreiddiol, i’r heddlu. Byddai angen adolygu hyn ymhellach hefyd.

 

Gan droi at broblemau tymhorol mwy cyffredinol, roedd cynlluniau ar waith i ddileu, neu leihau, ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mae Trecco, y ffair a Newton Green a lleoedd trafferthus o’r fath dros yr haf.

 

Sicrhaodd y rhai a oedd yn bresennol, fod yr heddlu eisoes yn cynllunio ar gyfer cyngerdd Elvis eleni, ac i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â’r digwyddiad. Roedd yn pryderu nad oedd yr heddlu’n cael eu talu am wasanaethau plismona cysylltiedig â’r digwyddiad, a oedd yn costio degau o filoedd o bunnoedd. Roedd un lleoliad, fodd bynnag, wedi cynnig cymorth ariannol i roi cynlluniau partneriaeth ar waith, fel cynlluniau brysbennu’r gwasanaeth ambiwlans a phlant coll. 

 

Soniodd hefyd am y Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg Digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r oedd pobl agored i niwed yn cael cymorth, yn enwedig yn ystod y misoedd oeraf pan oeddent ar drugaredd y tywydd gwael. Ychwanegodd, fodd bynnag, y dylai partneriaethau sefydlu mwy o gyfleusterau a allai gynnig lle mwy diogel i’r digartref gysgodi yn hytrach na chysgu ar y stryd.

 

Rhoddodd drosolwg o broblemau mwy lleol, fel camddefnyddio cyffuriau a pharcio yng nghanol y dref Porthcawl, cyn iddo gael ei herio ymhellach am b?er Swyddogion Gorfodi’r Cyngor i gynorthwyo â phroblemau lleol fel parcio a baw c?n. Esboniwyd bod gan Swyddogion y Cyngor y p?er i ddirwyo pobl am barcio’n anghyfreithlon drwy roi Hysbysiadau Cosb iddynt, a byddai hynny o gymorth yn lleol. Roedd yn anoddach, fodd bynnag, dirwyo perchnogion c?n am beidio â chlirio baw ci gan fod yn rhaid i rywun fod yn dyst i’r drosedd cyn y gellir rhoi Hysbysiad a dirwyo’r perchennog. 

 

Yna, cyfeiriodd y Prif Uwcharolydd Morgan at Ymgyrch Sceptre. Roedd yn mynd rhagddo ers cryn amser ac, ar y dechrau, y nod oedd lleihau troseddau cysylltiedig â chyllyll. Roedd yn bwysig, meddai, cydnabod nad oedd modd datrys y broblem dim ond drwy arestio pobl. Roedd yn well ganddo ef weithio ar raglen ymgysylltu lawn, mewn partneriaeth â’r ysgolion, y gwasanaeth ieuenctid ac unrhyw asiantaeth arall i atgyfnerthu’r neges ‘nad yw cario’n c?l.’

 

Gofynnodd un o’r Aelodau i’r Swyddog a oedd yn teimlo bod gwasanaeth 101 yr Heddlu’n annigonol o ran gallu’r heddlu i ymateb yn ystyrlon, ac yn gyflym, i alwadau o’r fath gan y cyhoedd. 

 

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Morgan fod De Cymru yn parhau i berfformio’n well na’r cyfartaledd a bod tua 86% o’r galwadau’n cael eu hateb o fewn yr amseroedd gofynnol. Ychwanegodd fod y mater hwn braidd yn niwlog oherwydd bod rhai’n ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng galwadau 101 a 999, a rhoddodd enghreifftiau o’r modd roedd pobl yn camddefnyddio’r system.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau a allai Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig.

 

Atebodd y Prif Uwcharolygydd Morgan fod pwerau PSCO yn gyfyngedig ac nid oeddent yn cynnwys y p?er i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig am wahanol droseddau, gan nad oedd ganddynt bwerau i gadw’r cyhoedd yn gaeth. 

 

Daeth y cyflwyniad gan yr heddlu i ben a diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Uwcharolygydd gan ddweud bod yr Aelodau wedi cael cyflwyniad diddorol ac addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD:      Y byddai Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi’r cyflwyniad llafar uchod.