Agenda item

Perfformiad Ariannol 18-19

Gwahoddedigion:

Pob Cabinet a CMB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Perfformiad Ariannol 2018-19 i’r pwyllgor, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad ar berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar yr 31ain o Fawrth 2019. Esboniodd fod yna dros 600 o wasanaethau yn cael eu darparu gan y Cyngor a bod y rhain i gyd yn wynebu heriau gwahanol ynghyd ag amrywiadau o droswariant a thanwariant. Gorffennodd ei gyflwyniad drwy ddiolch i gydweithwyr ac Aelodau am ddod â chyllideb fantoledig i mewn yn 2018-19.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Swyddogion am yr adroddiad manwl a nododd fod yna, drwy’r ddogfen i gyd, ddefnydd mynych o ‘swyddi gweigion staff’ a holodd a oedd y Cyngor yn gweithio i’w lawn botensial ac a oedd y Cyngor yn cael trafferth i lenwi swyddi gweigion. Esboniodd y Prif Weithredwr fod rhai Cyfarwyddiaethau yn cael trafferth i lenwi swyddi a rhoddodd wasanaeth y Landlord Corfforaethol fel enghraifft. Dywedodd ymhellach wrth yr Aelodau, er bod swyddi gweigion staff yn gymorth i wneud arbedion, eu bod yn cael effaith ar berfformiad, gyda gwasanaethau yn cael eu darparu’n arafach ac yn llai effeithlon. Gorffennodd drwy ddweud bod gan y Cyngor broses gaeth yn ei lle ar gyfer rheoli swyddi gweigion, sy’n sicrhau na chaiff swyddi gwag eu llenwi heb fod yna achos busnes dros ailbenodi.   

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ei Chyfarwyddiaeth hithau wedi profi oedi o ran recriwtio ar gyfer swyddi gofal uniongyrchol, o fewn y gwasanaeth Gofal yn y Cartref i Bobl H?n, a bod ganddynt nifer o swyddi gweigion o fewn y gwasanaeth Asesu a Rheoli Gofal. Wedyn hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod y ddau wasanaeth ar hyn o bryd yn mynd drwy adolygiad strwythurol, fydd yn datrys y problemau hyn.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod cyllid Llywodraeth Cymru a’r anawsterau posibl a osodir ar broses gosod cyllideb y Cyngor gan gyllid heb ei rwymo, grantiau untro ac arian a ddyrennir yn rhy hwyr yn y flwyddyn. Er mwyn lliniaru’r ffactorau hyn, dywedodd Aelodau y dylai fod gweithdrefnau caeth yn eu lle y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru lynu wrthynt.

 

Cyfeiriodd Aelodau at y cynigion i leihau’r gyllideb na lwyddwyd i’w cyflawni oherwydd oedi, a holent ai’r rhesymau am hyn oedd swyddi gweigion a salwch staff drwy’r Cyngor i gyd. Dywedodd Dirprwy Bennaeth Cyllid wrth y Pwyllgor fod yna resymeg y tu ôl i bob oedi, megis gohiriadau gyda phroses gymeradwyo Llywodraeth Cymru.

 

Holodd y Pwyllgor pa effaith yr oedd salwch a swyddi gweigion staff yn ei chael ar alwadau gwaith ac ysbryd y staff. Wrth ymateb, dyfynnodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Llesiant ystadegau a dynnwyd allan o Arolwg Llesiant y Staff, lle roedd 72% o atebwyr yn dweud eu bod yn gyfforddus gyda’r galwadau a osodid arnynt drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser yn ogystal â 71% yn gallu cyflawni galwadau eu swydd naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser.

 

Yn ystod trafodaethau ynghylch methiant i gyflawni’r gostyngiad yng nghyllideb Cludiant Dysgwyr, holodd aelodau a oedd diffyg uned Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ym Mhorthcawl yn effeithio ar y gyllideb o gludo plant o Borthcawl i’r uned agosaf. Atebodd yr Arweinydd drwy egluro bod y Cyngor wedi ystyried darparu CAD ym Mhorthcawl yn y gorffennol a heb ei ddiystyru ar gyfer y dyfodol, er y byddai’r ddarpariaeth angen cefnogaeth gan ysgol oedd â lle ar gyfer uned.

 

Casgliadau

Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch diffyg ymrwymiad cyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am y cynnydd yng nghyfraniad y cyflogwr i bensiynau athrawon. Felly, mae’r Aelodau yn argymell bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ysgrifennu llythyr at Weinidog Llywodraeth Cymru ac yn anfon copi yr un pryd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn amlinellu’r effeithiau dinistriol a gâi’r diffyg cyllid ar y Cyngor.

 

Yn ystod trafodaethau ynghylch y gorwariant ar Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol, nododd yr Aelodau nad oes gan Borthcawl Ganolfan Adnoddau Dysgu a phwysleisio goblygiadau cost debygol cludo plant o Borthcawl i’r uned agosaf. Gyda hynny mewn golwg, mae’r Pwyllgor yn argymell bod ystyriaeth yn cael ei rhoi yn y dyfodol i ychwanegu’r ddarpariaeth i ardal Porthcawl, fyddai hefyd yn sicrhau bod plant yn agos i deulu a brodyr a chwiorydd.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

           Gyda golwg ar y data a roddwyd o Arolwg Llesiant y Staff:

dywedodd 72% o atebwyr eu bod yn gyfforddus gyda’r galwadau a osodid arnynt drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser yn ogystal â 71% yn gallu cyflawni galwadau eu swydd naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser’, holodd Aelodau beth oedd cyfradd yr ymateb i’r arolwg er mwyn cael darlun mwy cywir o’r Cyngor cyfan

Dogfennau ategol: