Agenda item

Prosiect Gwres Dŵr Pwll Glo Caerau

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bod y Cyngor wedi ei dderbyn fel arddangosydd ar gyfer y Rhaglen Gwres Systemau Clyfar (SSH) ym mis Hydref 2014, gyda'r prosiect Gwres D?r Pwll Glo Caerau wedi ei gynnig fel un o brosiectau arddangos y rhaglen.  Dywedodd bod y prosiect yn hynod o arloesol ac yn cynnig echdynnu gwres o dd?r o fewn yr hen weithfeydd glo sydd wedi gorlifo i gynnig adnodd ar gyfer eiddo o fewn Caerau.  Bydd gwres o dd?r y pwll glo yn cael ei echdynnu a'i drosglwyddo i gylched dd?r glân.  Bydd y d?r hwn yn cael ei gario drwy rwydwaith o bibelli i ganolfannau egni lleol lle bydd y tymheredd yn cael ei godi i'r tymheredd gofynnol gan bympiau gwres o'r ddaear ac yna yn cael ei gylchredeg i dai'r preswylwyr.

 

Dywedodd bod cais llwyddiannus wedi ei wneud i WEFO am gyllid grant, gyda chynnig grant ffurfiol o £6,498,943 yn cael ei wneud.  Fodd bynnag, yn dilyn canfyddiadau gwaith holiadur a newidiadau strwythurol o fewn y Cyngor, roedd angen cyflwyno cynnig diwygiedig i WEFO ym mis Gorffennaf 2019, yn amodol ar gymeradwyaeth Swyddog Adran 151.  Bydd WEFO yn mynd i'r afael ag asesiad y cynnig diwygiedig ac os yn gymeradwy, yn cyhoeddi llythyr cyllid diwygiedig.  Dywedodd os ystyrir unrhyw un o'r newidiadau arfaethedig neu delerau ac amodau diwygiedig yn annerbyniol, bydd swyddogion yn ystyried goblygiadau a'r risg sy'n gysylltiedig ac uwchgyfeirio yn ôl yr angen.  Gofynnir am gymeradwyaeth gyfreithiol ac ariannol hefyd.  Bydd derbyn y diwygiadau uchod a'r cynnig cyllid diwygiedig yn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r prosiect yn seiliedig ar wybodaeth bresennol rhwng Cyngor, WEFO a rhanddeiliaid allweddol.  Amlinellodd dyddiadau'r penderfyniadau ynghyd â'r dyddiadau maent yn eu disgwyl iddynt ddigwydd, ynghyd ag allbynnau a chanlyniadau'r prosiect arfaethedig. 

 

Hysbysodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y Cabinet bod y prosiect yn cael ei oruchwylio'n fewnol gan Fwrdd Llywodraethu Mewnol Prosiect, wedi ei gefnogi fan Gr?p Rhanddeiliaid allanol.  Amlinellodd broffil cyllid gwreiddiol y prosiect, ynghyd â'r arian cyfatebol ar gyfer y proffil diwygiedig a gynigwyd, a fydd yn cynyddu'r cynnig ariannol o £6,498,943 i £7,287,000.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yn cynnig a oedd yn rhan annatod o'r Strategaeth Ynni Ardal Leol a Chynllun Ynni Clyfar ac yn brosiect esiampl yng Nghymru.  Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ar yr angen i sicrhau bod nifer o gartrefi yn cymryd rhan a bod yno ymgysylltiad cymunedol.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y bydd adnodd dynodedig ar gyfer ymgysylltiad cymunedol a bydd y prosiect yn cael ei ariannu'n rhannol gan y nifer o gartrefi sy'n cymryd rhan.  Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Maesteg.  Roedd yr Arweinydd yn calonogi wrth weld y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion cynradd er mwyn bod y genhedlaeth nesaf yn profi buddiannau gwres cynaliadwy a bod defnydd newydd wedi ei ddarganfod i hen byllau glo.

 

PENDERFYNWYD:               Y Cabinet:                                      

                 

(1)   Nodi'r cynnydd hyd yn hyn i Brosiect Gwres D?r Pwll Glo Caerau;

 

(2) Wedi dirprwyo awdurdod i Swyddog Adran 151, yn amodol ar gymeradwyaeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i dderbyn cynnig cyllid diwygiedig gan WEFO; a

 

(3) Wedi dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gweithrediadau, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i drefnu a dechrau cytundebau cyllid a chyfreithiol yn ofynnol o achos derbyn y cynnig cyllid diwygiedig gan WEFO.   

Dogfennau ategol: