Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod wedi cael mis prysur a bod llawer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yn yr awyr agored.

 

Yn gynharach yn y mis, buasai ym mhencadlys Heddlu De Cymru a chael y fraint o’i gyflwyno i’w Fawrhydi y Tywysog Charles. Roedd y Tywysog Charles yn bresennol i ddadorchuddio plac yn nodi hanner can mlynedd ers ffurfio Heddlu De Cymru. Daeth yr Heddlu i fodolaeth ar y 1af o Fehefin 1969 ac mae wedi tyfu i ddod yn un o’r heddluoedd sy’n perfformio orau yn y wlad.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Porthcawl ei ras 10 cilometr gyntaf. Roedd mwy na 3,000 o redwyr yn bresennol a bu Iwan Thomas, sbrintiwr gwych Cymru, yn helpu’r cystadleuwyr i gynhesu. Daeth cannoedd o wylwyr allan yn llu i gefnogi’r digwyddiad, ac roedd ef yn bresennol ynghyd â Maer Porthcawl. Roedd hyd yn oed y Red Arrows yn hedfan heibio i nodi’r hyn y gobeithir fydd yn gychwyn rhedeg pellter yn y dref.

 

Roedd Gorffennaf fel pe bai’n fis o sioeau amaethyddol ac roedd yn falch i fod yn bresennol yn Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym Mhencoed ac, ar raddfa fwy, y Sioe Frenhinol Gymreig. Cychwynnodd Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym 1946, fel croeso’n ôl i’r rhai fu’n gwasanaethu’r wlad hon yn yr Ail Ryfel Byd. Ychwanegodd ei bod yn parhau i fod yn arddangosiad ardderchog o gydlyniad cymunedol yn ogystal â lle i ddathlu ein treftadaeth amaethyddol.

 

Dywedodd y Maer ei fod hefyd wedi cael y pleser o agor Canolfan Bryncethin yn swyddogol, yn dilyn cytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol. Roedd yr achlysur hwn yn cynnwys plant ysgol lleol yn canu, gyda chynrychiolwyr Clwb Rygbi a Phêl Droed Bryncethin hefyd yn bresennol.

 

Y penwythnos diwethaf roedd yn falch i gael gwahoddiad i fod yn bresennol yn y Sioe Geir Clasurol yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei threfnu gan Glwb Ceir Clasurol Morgannwg. Roedd y digwyddiad blynyddol hwn hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, bwyd ac adloniant ac roedd hi’n braf gweld y digwyddiad yn cael derbyniad mor dda.

 

Llongyfarchodd y Maer y Cynghorydd Bridie Sedgebeer a Chris Elmore AS oedd wedi priodi y penwythnos blaenorol. Dymunodd ddyfodol hapus iawn iddynt gyda’i gilydd.

 

Yn olaf, diolchodd y Maer i’r rheiny a gyfrannodd i gasgliad y banc bwyd yng nghyfarfod y Cyngor y mis diwethaf. Cadarnhaodd fod y banc bwyd yn Stryd Nolton yn dra diolchgar am gasgliad o’r fath.

 

Aelod y Cabinet – Cymunedau

 

Dywedodd Aelod y Cabinet, Cymunedau, y gallai Aelodau efallai gofio bod yna, yn ôl yn 2015, bryderon ynghylch dyfodol blodyn eithriadol o brin, sef Tegeirian y Fign Galchog, sy’n tyfu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, ar ôl i’w nifer syrthio i oddeutu 200. Gan mai yng Nghynffig yn unig y mae Tegeirian y Fign Galchog yn tyfu, mae’r safle yn gartref i holl boblogaeth y DU o’r blodyn bychan, tlws hwn.

 

Roedd yn falch i hysbysu’r Aelodau fod nifer Tegeirian y Fign Galchog bellach wedi cynyddu i dros 1,000, diolch i gynllun rheoli tirwedd arbennig, sy’n golygu torri glaswellt a chrafu wyneb llac twyni i annog ac ysgogi tyfiant.

 

Yn wir, bu rhaid i archwiliad diweddar gan y Cyngor ar y tegeirianau hyn a rhai eraill yn y warchodfa 1,300 acer, ddod i ben pan ganfu wardeniaid a gwirfoddolwyr fod yna ormod i’w cyfrif o fewn un diwrnod.

 

Maent yn amcangyfrif bod niferoedd y tegeirianau yn y warchodfa 1,300 acer, wedi cynyddu i dros 4,000 a bod yna gymaint â 15 rhywogaeth wahanol, yn cynnwys Caineirianau, Tegeirianau Porffor, Tegeirianau Gwenynog a mwy.

 

Roedd wrth ei fodd fod y Cyngor wedi gallu chwarae rhan ganolog yn gwarchod y llu o gynefinoedd ar y safle a sicrhau bod Tegeirianau Cynffig yn gallu ffynnu.

 

Dywedodd fod y Cyngor ar y pryd yn paratoi i drosglwyddo rheolaeth y safle pan ddeuai’r les i ben yn 2020 a’i fod, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn parhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig wrth iddynt geisio penodi corff newydd a allai barhau’r gwaith hwn.

 

Fel rhan o newyddion da pellach, roedd naw o safleoedd harddaf y Fwrdeistref Sirol wedi ennill gwobrau’r Faner Werdd gan Cadw Cymru’n Daclus.

 

Mae tri o’r safleoedd yn cael eu cynnal gan y Cyngor, sef Llyn Ardal Wyllt ym Mhorthcawl, Parc Lles Maesteg ac Amlosgfa Llangrallo ac maent yn ymuno â Pharc Gwledig Bryngarw, Ysbyty Glanrhyd, Gardd Farchnad Caerau, Coetiroedd Ysbryd Llynfi, Cymdeithas Lleiniau Gwyllt a Llain Nant y Mochyn Daear.

 

Yn achos Amlosgfa Llangrallo, hon oedd y ddegfed flwyddyn yn olynol iddi ennill statws y Faner Werdd. Roedd ef yn sicr y byddai’r Aelodau yn ymuno ag ef i longyfarch y gweithwyr a’r gwirfoddolwyr yr oedd eu hymroddiad a’u gwaith caled wedi arwain at y llwyddiant hwn.

 

Yn olaf, roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau yn falch iawn i gadarnhau bod £3.6 miliwn o gyllid wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu gwelliannau i gludiant lleol a theithio llesol.

 

Roedd y rhain yn cynnwys llwybrau diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr, llwybrau teithio llesol newydd, gwelliannau hygyrchedd wrth nifer o arosfannau bws, hyfforddiant diogelwch y ffyrdd a beicio i blant ysgol, a chyrsiau Pass Plus i yrwyr newydd.

 

Bydd peth o’r cyllid yn ariannu astudiaethau dichonoldeb i lif traffig ar bont Heol Penprysg, wrth inni edrych i weld a oes modd cyflwyno pont hollol newydd fyddai’n ei gwneud yn bosibl cau’r groesfan reilffordd, a gwella capasiti ar brif lein y rheilffordd.

 

Ymhlith y gwelliannau teithio llesol arfaethedig roedd llwybrau a rennir gan gerddwyr a beicwyr rhwng Bracla a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed a Pharc Technoleg Pencoed, Llangrallo a Stad Ddiwydiannol Waterton a hefyd Barc Manwerthu Waterton, a nifer o welliannau parhaus o gwmpas Coety.

 

Caiff cyfnod cychwynnol cynllun ‘Llwybrau Diogel i’r Ysgol’ o gwmpas Ysgol Gynradd Newton hefyd ei gwblhau, gyda’r llwybr teithio llesol yn cael ei ymestyn ar hyd y Promenâd Dwyreiniol a’r Heol Newydd i’r ysgol, a chyflwyno lle newydd i gadw beiciau a sgwteri.

 

Cafodd y gwelliannau hyn i gyd eu gwneud yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru, ac roedd ef yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth gyson.

 

Roedd hefyd yn croesawu llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr, yr oedd datblygwyr Persimmon yn ei greu ar hyn o bryd rhwng cylchfan Heol Gorllewin y Plas a’r ysbyty ar hyd yr A4061.

 

Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Roedd yr Aelod Cabinet, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, yn si?r y byddai’r Aelodau wedi croesawu’r newyddion diweddar y bydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn derbyn £22.7 miliwn o Gronfa Gweddnewid Cymru Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r arian i gael ei ddefnyddio i ehangu prosiectau peilot llwyddiannus ar draws ardal Cwm Taf sydd bellach, wrth gwrs, yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i roi mwy o ddewis ac annibyniaeth i unigolion tra’n lleihau’r pwysau ar ofal cymdeithasol, meddygfeydd meddygon teulu ac ysbytai ar yr un pryd.

 

Dylai hefyd wella profiad pobl o ofal, a hyrwyddo’r uchelgais o ddarparu mwy o ofal yn nes at y cartref.

 

Mae hyn yn rhan o gynnig uchelgeisiol i weddnewid iechyd a gofal cymdeithasol ar draws ardaloedd Bwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’n adlewyrchu anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, ac yn nodi penllanw misoedd lawer o waith caled.

 

Bydd llawer o’r hyn y mae’r cynnig yn ceisio’i wneud yn cael ei gyflawni drwy hybu rôl sefydliadau gwerth cymdeithasol sydd eisoes yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl.

 

Teimlai fod hyn yn newyddion ardderchog i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Efallai y bydd Aelodau hefyd yn dymuno atgoffa eu hetholwyr fod angen i gartrefi, sy’n defnyddio casgliadau ailgylchu’r bagiau porffor ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol, wneud cais newydd bob blwyddyn er mwyn parhau’n rhan o’r cynllun.

 

Os nad yw cartref yn rhoi bagiau allan ar dri achlysur yn olynol, dros gyfnod o chwe wythnos, cymerir yn ganiataol nad oes arnynt angen casgliad mwyach.

 

Gan fod 10,200 o gartrefi wedi ymuno â’r cynllun ar hyn o bryd, mae’n boblogaidd dros ben, ac arweiniodd hyn at ailgylchu 1,161 o dunelli o wastraff AHP yn lle ei fod yn diweddu mewn safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn cyfateb i 92 o fysiau deulawr o ran pwysau.

 

Gan y gall clytiau tafladwy gymryd hyd at 500 o flynyddoedd i bydru’n llwyr, roedd hyn yn ganlyniad gwych ac roedd yn falch bod y gwasanaeth pwysig hwn yn helpu preswylwyr tra’n lleihau’r swm yr ydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

Aelod y Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet, Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, fod ein menter boblogaidd 'Ysgolion Allan' yn awr yn fyw ac yn cynnig rhaglen lawn gweithgarwch o weithgareddau haf am ddim i blant lleol.

 

Wedi eu trefnu gan y Cyngor mewn partneriaeth gydag Awen, Halo, yr Urdd, Menter Bro Ogwr a chynghorau tref a chymuned lleol, yn ogystal â’r ystod eang o weithgareddau a gynigiwyd yr haf diwethaf, eleni, mae gwersylloedd ac academïau chwaraeon wedi cael eu trefnu i helpu plant 3 i 15 oed i ddatblygu medrau ystwythder, cydbwysedd, cydsymud a sgiliau symud sylfaenol pwysig.

 

Mae’r Urdd hefyd yn cynnal nifer o wersylloedd chwaraeon Cymraeg, tra mae Menter Bro Ogwr yn cynnal cynlluniau chwarae Cymraeg mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y sir.

 

Mae Awen yn llwyfannu theatr awyr agored ym Mharc Gwledig Bryngarw gyda pherfformiadau fel Alys yng Ngwlad Hud a Wuthering Heights, ac mae gan Sialens Ddarllen yr Haf eleni thema 'Helfa Ofod', sy’n addas am ei bod yn 50 mlynedd ers glanio ar y lleuad.

 

Mae Halo yn cynnal cyrsiau carlam nofio AM DDIM sy’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau nofio hwyliog i’r teulu, wedi eu hysbrydoli gan Disney, i helpu plant i fod yn ddiogel ac yn hyderus yn y d?r.

 

Rhaid archebu’r holl weithgareddau ymlaen llaw a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar dudalen ysgolion allan ar wefan ein Cyngor.

 

Efallai y bydd ar Aelodau hefyd eisiau helpu i hyrwyddo menter Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn eu wardiau. Cynllun yw hwn sy’n cynorthwyo pobl leol i ddod o hyd i waith drwy gynyddu eu rhagolygon gwaith.

 

Yn ddiweddar, tynnodd y Cyngor sylw at achos preswylydd yn Bracla y daeth ei yrfa fel plymwr i ben am resymau meddygol. Wedi penderfynu ailhyfforddi, cyfarfu’r preswylydd â chynghorwyr, mentoriaid a hyfforddwyr o Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe wnaethant ei helpu i sicrhau ei swydd ddelfrydol fel hyfforddwr pêl-droed, cwbl gymwysedig. Mae ei waith caled wedi arwain at swydd newydd gyda chlwb pêl-droed proffesiynol.

 

Un esiampl yw hon o’r modd y mae menter Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynorthwyo pobl leol i ddod o hyd i waith a gwella’u bywydau. Mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Roedd mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar wefan y Cyngor.

 

Aelod y Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Roedd gan Aelod y Cabinet, Addysg ac Adfywio, dri diweddariad ar gyfer yr Aelodau. Yn gyntaf, roedd yn sicr y byddai pawb oedd yn bresennol yn cytuno bod Porthcawl yn edrych yn wych yn y sylw a gafodd ras 10 cilometr ‘Healthspan’ Porthcawl ar y cyfryngau yn ddiweddar.

 

Roedd y digwyddiad yn boblogaidd dros ben, ac roedd yn gymorth gwirioneddol i arddangos y dref i’r byd ehangach. Diolchodd i bawb a helpodd i’w wneud yn gymaint o lwyddiant.

 

Mae digwyddiadau fel hyn, G?yl Elvis, twrnamaint Golff Agored Pobl H?n neu bencampwriaeth cychod p?er AquaX i gyd yn dangos potensial Porthcawl fel cyrchfan ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae gwelliannau fel amddiffynfeydd môr newydd traeth y dref, y marina ac Adeilad Jennings yn chwarae rhan bwysig yn hyn.

 

Roedd wedi cael gwybod bod yna ymgeiswyr o dramor wedi cymryd rhan eleni, ac nad oedd llawer ohonynt wedi ymweld â Phorthcawl o’r blaen. Ychwanegodd y byddai’r digwyddiad 10 cilometr yn cael ei gynnal eto y flwyddyn nesaf, ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.

 

Yn ail, efallai y byddai ar Aelodau eisiau hysbysu eu hetholwyr y gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn awr am docynnau bws ysgol uwchradd.

 

Gyda thocynnau ar gael ar gyfer tua 1,000 o blant, a fydd yn gymwys pan fyddant yn dechrau blwyddyn saith y mis Medi hwn, dylid gwneud ceisiadau erbyn dydd Gwener 9 Awst.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r Cyngor ddarparu’r broses ymgeisio ar-lein, ac mae’n ffurfio rhan o’n hymdrechion i gynnig ffyrdd mwy effeithlon a chyfleus i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau.

 

Rydym wedi cysylltu â theuluoedd disgyblion cymwys ac wedi rhoi cyngor iddynt sut y gallant wneud cais drwy gyfleuster Fy Nghyfrif ar wefan y Cyngor. Yn ogystal â chyflymu’r broses, mae’r symudiad hwn yn arbed arian drwy gwtogi ar faint o bapur a ddefnyddir, a gellir gwneud cais am docynnau newydd ar-lein hefyd.

 

Yn olaf, mae llongyfarchiadau yn ddyledus i ddisgyblion ysgol gynradd Garth sy’n deall busnes. Roedd hon yn un o’r ychydig ysgolion yr oedd eto i ymweld â hi (gydag Aelod(au) y Ward). Byddai’n trefnu i gynnal ymweliad o’r fath yn y mis Medi oedd i ddod.

 

Ar ôl i gwch gwenyn yr ysgol gael ei fandaleiddio, mae syniad sy’n seiliedig ar warchod gwenyn wedi helpu disgyblion Garth i ennill y safle cyntaf yng nghystadleuaeth flynyddol Criw Mentrus Llywodraeth Cymru.

 

Creodd y plant argraff dda ar y beirniaid gyda’u Crysau-T ‘Bee-spoke’, a ddyluniwyd ganddynt i hybu cadwraeth a chodi arian i ddarparu mwy o ddiogelwch i gwch gwenyn yr ysgol.

 

Fel roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gwybod, mae gwenyn dan fygythiad oddi wrth blaladdwyr ac yn y blaen, ac felly roedd y syniad busnes hwn yn amserol ac yn foesegol iawn.

 

Mae’r Criw Mentrus yn herio timau o blant ysgol gynradd i redeg eu busnesau eu hunain, a gwerthu nwyddau a gwasanaethau o’u dewis yn y gymuned leol.

 

Nod y gystadleuaeth yw helpu disgyblion i gymhwyso eu creadigrwydd a’u sgiliau menter mewn ffordd ymarferol iawn, ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau busnes, cyllidebu a marchnata.

 

Gorffennodd drwy ddweud bod cael ein henwi fel y gorau yng Nghymru am yr uchod yn gryn gamp.