Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi bod yn bresennol yn Nh?’r Cyffredin yn ddiweddar i annerch y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ynghylch yr effaith ddigyffelyb y byddai cau ffatri injan Ford yn ei chael ar ein Bwrdeistref Sirol.

 

Mae ffatri injan Ford wedi cynhyrchu £1.3 biliwn yn uniongyrchol ar gyfer economi Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’n gwmni angori, nid yn unig ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, nid yn unig i Gymru, ond i’r DU i gyd. Ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur y ffatri, fe wnaethom annog Ford i aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aros yng Nghymru i gadw rhai, o leiaf, o’r 1,700 o swyddi tra chrefftus yma.

 

Mae Ford wedi cyhoeddi cronfa o £1 filiwn ar gyfer y gymuned. Os yw Ford, sydd wedi derbyn dros £140 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf, yn cau’r ffatri, yna mae eu hetifeddiaeth i’r gymuned ehangach ac i’r gweithwyr, sydd wedi adeiladu miliynau o geir i Ford ers dros 40 o flynyddoedd, yn gorfod bod yn llawer mwy nag £1 filiwn yn unig. Byddwn yn cyfarfod â Chyfarwyddwr Ford UK y mis nesaf ac yn cyflwyno’r ddadl honno.

 

Mae nifer y swyddi a gollir yn ddigynsail, ac felly, mae angen ateb digynsail gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd. Pwysleisiodd y byddwn yn colli £250 miliwn y flwyddyn o’r economi, a’i bod yn hanfodol  buddsoddi ar frys a gweithredu’n gyflym.

 

Soniodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor am rai o’r prosiectau seilwaith y gellid eu cyflwyno i greu swyddi newydd a rhoi rhywfaint o hyder i’r busnesau, y cymunedau, y teuluoedd a’r trigolion. 

 

Roedd y Cyngor wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Dddiwydiannol yn Llywodraeth y DU, yn amlinellu’r cynigion. Rydym hefyd yn cyflwyno’r achos mewn cyfarfodydd tasglu a chyda swyddogion.

 

Mae Swyddfa Bargen Ddinesig Caerdydd, wrth gwrs, yn blaenoriaethu Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer buddsoddiad posibl.

 

Byddai cyd-Aelodau’n cofio iddo gyhoeddi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ein bod yn ail-lansio’n Cronfa Adfywio Arbennig ac yn ymestyn ein cronfa ‘Kick Start’ i gefnogi busnesau bychain a newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y prynhawn yma, rydym yn cynnig y dylem roi o’r neilltu yn y rhaglen gyfalaf Gronfa Buddsoddi mewn Cymunedau o £2 filiwn, y gallwn ei defnyddio’n hyblyg o bosibl i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer cyfleoedd buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn cynnig, yn y rhaglen gyfalaf, gwella Cyffordd Heol Mostyn ar yr A48 yn y Pîl. Mae hyn wedi dod yn hanfodol gan y bydd yn ein galluogi i ddatblygu Stad Ddiwydiannol Village Farm ymhellach, lle mae gennym brinder lle ar gyfer busnesau bychain a chanolig. Dim ond rhai yw’r rhain o’r camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i’r cau arfaethedig.

 

Dywedodd yr arweinydd fod y penwythnos diwethaf wedi gweld agor Canolfan Gymunedol newydd Bryncethin.

 

Mae’r hen bafiliwn chwaraeon wedi cael ei droi yn adeilad deulawr newydd sy’n edrych dros y cae rygbi.

 

Mae’n cynnwys ystafelloedd newid modern, ceginau, ystafelloedd TG, ystafell gyfarfod, neuadd fawr, rhan patio a balconi, a maes parcio pwrpasol.

 

Clwb Rygbi a Phêl-droed Bryncethin oedd y clwb chwaraeon cyntaf yn y fwrdeistref sirol i gwblhau bargen 'Trosglwyddo Asedau Cymunedol' a chymryd meddiant o’u cae chwarae a’u pafiliwn.

 

Yn ogystal â chytuno ar les o 35 mlynedd, sicrhaodd y clwb rygbi fwy na £500 mil o gyllid o’n Cronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol, y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, Rhaglen y Cyfleusterau Cymunedol, Undeb Rygbi Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac arian Adran 106.

 

Mae hyn wedi eu galluogi i drawsnewid y Pafiliwn yn llwyr yn gyfleuster i’r gymuned leol gyfan ei drysori, ac mae’n cynnig model gwych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy’r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

Gall trefniadau fel hyn roi bywyd newydd i asedau cymunedol, ac roedd yr Arweinydd yn falch iawn fod y Cyngor wedi cefnogi Clwb Rygbi a Phêl-droed Bryncethin gyda’r prosiect trawsnewidiol hwn.