Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

CynghoryddA Hussain I’r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

 

All yr Aelod Cabinet mewn gofal o dwristiaeth roi gwybod i'r Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ogystal â rhoi gwybod i ni am y bylchau mewn darpariaeth a data, a hefyd ddangos sut y gallai’r Cyngor wneud ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Cynghorydd M Voisey I’r Arweinydd

 

O ganlyniad i’r ffaith fod y Prif Weinidog Llafur wedi peidio â chymeradwyo ffordd liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd, sut  bydd prosiect Bargen y Ddinas yn dod dros y penderfyniad hwn sy’n drychinebus i economi De Cymru, ac a ddylai'r Cyngor hwn gael ail bleidlais p'un a ydym yn dymuno aros yn rhan o Fargen y Ddinas neu beidio, yn awr a’r ffeithiau wedi newid mewn ffordd mor ddramatig?

 

Cynghorydd T Thomas I’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet amlinellu unrhyw gynlluniau ar sut y bydd y cyngor hwn yn lleihau allyriadau carbon gyda'r bwriad o sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn ddi-garbon net erbyn 2030?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd A Hussain i Aelod y Cabinet Addysg ac Adfywio:

 

A allai’r Aelod o’r Cabinet oedd yn gyfrifol am dwristiaeth ddweud wrth y Cyngor am ei gynlluniau i gefnogi sgiliau yn y sector twristiaeth yn ychwanegol at adael inni wybod am y bylchau yn y ddarpariaeth a’r data a nodi beth y gallai’r Cyngor ei wneud i beri bod ein cyrchfannau glan y môr yn boblogaidd?

 

Ymateb

 

Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC), 2018-2022, a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2018, yn nodi’r fframwaith ar gyfer rheoli’r weledigaeth dwristiaeth hyd 2022. Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau yn cael ei gefnogi gan y Cynllun Gweithredu Cyrchfan (CGC) sy’n manylu ar weithgareddau penodol. Mae’r camau gweithredu sydd wedi eu cynnwys yn y CGC yn canolbwyntio ar gyfleoedd strategol allweddol ar gyfer datblygu, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ariannu allanol a, lle bo’n bosibl, darparu mewn partneriaeth. Mae’r CRhC yn cynnig y weledigaeth ganlynol:

 

Datblygu economi ymwelwyr ffyniannus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dathlu cryfderau’r lle, yn cefnogi swyddi, yn creu cyfleoedd busnes ac yn gwella’r amrywiaeth o amwynderau sydd ar gael i ymwelwyr a phobl leol. 

 

Mae’r CGC yn cefnogi cyflawni’r weledigaeth hon drwy ganolbwyntio camau gweithredu yn erbyn y blaenoriaethau canlynol:

 

(a)  Cefnogi datblygiad y cynnyrch twristiaeth

(b)  Cefnogi’r broses o ddatblygu seilwaith twristiaeth

(c)  Codi proffil a denu mwy o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Mae’r CRhC yn nodi’n benodol bod datblygu adnoddau dynol twristiaeth yn flaenoriaeth. Yn fwy penodol, mae gan y CGC y blaenoriaethau canlynol; 

 

2.5.1 Annog pobl i fanteisio ar hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid a gwybodaeth am gynnyrch:

Bydd busnesau’n cael eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu pan fyddant ar gael, yn enwedig drwy gyflwyno dulliau sydd eisoes wedi’u treialu.

 

2.5.2 Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddi ym maes rheoli twristiaeth:

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i helpu i nodi anghenion hyfforddiant lleol, ar y cyd â mentrau datblygu economaidd, ochr yn ochr ag ymgyrch ymwybyddiaeth i annog gweithredwyr i ymgymryd â gwaith datblygu rheolwyr a hyfforddi staff. 

 

2.5.3 Annog busnesau newydd i gychwyn ym maes twristiaeth: 

Darperir cymorth a chyngor i helpu pobl i gychwyn busnesau twristiaeth newydd drwy’r mecanweithiau sydd ar gael i CBS Pen-y-bont ar Ogwr a lle bo angen, cyfeirir at Busnes Cymru.

 

Yn 2018, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad ynghylch llinellau cyfathrebu yn y dyfodol a chynrychiolaeth ar gyfer yr economi ymwelwyr yn y gyrchfan, yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Dwristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr i roi’r gorau i’w gweithgareddau. Argymhellwyd bod Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr (BBF) mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fecanwaith cyfathrebu, rhwydweithio, eiriol ac ymgynghori ar gyfer y sector twristiaeth. Mae aelodaeth Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys busnesau sefydledig a rhai sydd newydd gychwyn, o fewn amrywiaeth eang o sectorau busnes. Mae masnachwyr unigol, microfusnesau, busnesau bychain a chanolig yn ogystal â chwmnïau mawr rhyngwladol i gyd yn bresennol o fewn yr aelodaeth. Mae’n rhoi cyfle i bobl fusnes leol gyfarfod â chwsmeriaid a chyflenwyr newydd, dysgu sgiliau newydd, rhannu arferion gorau, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ffactorau a allai effeithio ar eu busnes. Yn bwysig, mae’r fforwm hefyd yn rhoi cyfle i bobl fusnes leisio’u barn. Mae’r BBF yn darparu gweithdai sgiliau busnes mewn pynciau fel marchnata, y cyfryngau cymdeithasol, codi arian a rheoli adnoddau dynol. Caiff pobl eu hannog i rwydweithio â rhai eraill sy’n bresennol, yn ogystal â dysgu oddi wrth lu o hwyluswyr arbenigol. Achlysur Gwobrau Blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yw pinacl calendr busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ganddo gategori Busnes Twristiaeth pwrpasol. Ym mis Mawrth, cynhaliodd y BBF ddigwyddiad oedd yn targedu busnesau twristiaeth yn benodol ac fe’i cynhaliwyd yng Nghlwb Golff y Grove ym Mhorthcawl.

 

Mae grant cychwynnol Pen-y-bont ar Ogwr yn gynllun grant hyblyg a ddarperir drwy bartneriaeth â Menter Dur y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n darparu cymorth ariannol i ficro-fusnesau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes sydd wedi’u lleoli, neu sy’n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Diffinnir micro-fusnes fel un sydd â llai na deg o gyflogeion a chyfanswm trosiant neu fantolen o lai na €2 filiwn. Yn y sector twristiaeth micro-fusnesau a busnesau bychain a chanolig sydd amlycaf, ac mae nifer o fusnesau twristiaeth wedi elwa o’r grant yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Adran yr economi a chyfoeth naturiol sy’n gyfrifol am dwristiaeth. Lledaenir cyfleoedd ar gyfer cymorth sgiliau i bob sector, gan gynnwys twristiaeth, gan staff o fewn yr adran, drwy’r sianelau cyfathrebu arferol megis yr e-newyddion busnes.

 

Ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd CBS Pen-y-bont ar Ogwr Ysgol Fusnes Dros dro am ddim, sy’n rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i gyfranogwyr ddechrau eu busnes eu hunain. Mae hon yn agored i bobl sy’n ystyried unrhyw fath o fusnes, gan gynnwys twristiaeth.

 

Cymerir pob cyfle i ddeall yn well sut i ddatblygu economi ymwelwyr ffyniannus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n dathlu cryfderau’r lle, yn cefnogi swyddi, yn creu cyfleoedd busnes ac yn gwella’r ystod o amwynderau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr a phobl leol. Fe wnaethom gymryd rhan mewn rhaglen ymchwil dan arweiniad Croeso Cymru oedd yn cynnwys casglu gwybodaeth am lefelau meddiannaeth, tueddiadau twristiaeth, boddhad ymwelwyr a mwy. Yn ogystal, rydym yn cynnal ein hymchwil annibynnol ein hunain. Mae’r wybodaeth hon yn llywio’r dull a defnyddiwn ac yn dangos i ba raddau rydym yn cyflawni ein gweledigaeth.

 

Yn ôl data Model Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough (STEAM), mae twristiaeth eisoes yn chwistrellu refeniw y mae ei wir angen i mewn i’r economi leol (£347.30 miliwn) ac yn cynnal 4,041 o swyddi. Ers 2013 bu cynnydd cyson yn effaith economaidd twristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda gwerth economaidd twristiaeth yn cynyddu o £289.86 miliwn yn 2013 i £347,30 miliwn yn 2018. Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer yr ymwelwyr a nifer dyddiau ymwelwyr wedi cynyddu’n debyg gyda nifer yr ymwelwyr wedi codi o 3.55 miliwn yn 2013 i 3.72 miliwn yn 2018 a dyddiau ymwelwyr wedi cynyddu o 5.25 miliwn yn 2013 i 5.61 miliwn yn 2018. Roedd y twf hwn yn rhagori ar y targedau a osodwyd yn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2018-2022 ac yn gosod y fwrdeistref sirol ymhlith llwyddiannau Prifddinas-ranbarth Caerdydd o ran twristiaeth.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd A Hussain

 

Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2018-22 yn weledigaeth wych ac yn eich Cynllun Gweithredu Cyrchfan (CGC) sut ydych chi’n codi’r proffil ac yn denu mwy o ymwelwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf?

 

Ymateb

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet, Addysg ac Adfywio, sylw’r Aelod at y paragraff olaf o’i ymateb uchod. Ychwanegodd fod nifer yr ymwelwyr yn cael ei fesur hefyd, er mwyn cyfrif faint o bobl oedd yn mynd i drefi o fewn y Fwrdeistref, yn enwedig Porthcawl, fel un o’n prif gyrchfannau glan y môr. Hefyd, gellid monitro faint o bobl sy’n aros mewn gwestai a thai llety ac yn y blaen i fesur faint o bobl sy’n ymweld â lleoedd fel Porthcawl ar eu gwyliau. Gellid cyflawni pethau fel hyn ac roedd STEAM o gymorth o ran mesur data perthnasol penodol (fel y manylwyd yn yr ymateb gwreiddiol), yn ogystal ag adlewyrchu tueddiadau a chymharu data yn gywir o’r gorffennol i’r presennol. Ychwanegodd Aelod y Cabinet, Addysg ac Adfywio, fod prosiectau a digwyddiadau adfywio yn mynd ymlaen, nid yn unig o fewn y prif atyniadau twristaidd fel Porthcawl ond ledled y Fwrdeistref Sirol gyfan.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd N Burnett 

 

Ar wahân i Borthcawl, beth sy’n cael ei wneud i ddenu twristiaid mewn rhannau eraill o’r Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Er bod yna ddata i fesur hyn i raddau, fel gyda’r data a gasglwyd ynghylch nifer yr ymwelwyr â Phorthcawl, roedd hyn yn dibynnu i raddau ar lefel y diddordeb a ddangoswyd ganddynt, wrth gwblhau arolygon a oedd ar gael i aelodau o’r cyhoedd, a fyddai, pe caent eu cwblhau, yn rhoi darlun cywirach o nifer y bobl a ymwelodd â Phorthcawl a lleoedd eraill, a ph’un a oedd yr ymwelwyr hyn yn ymweld â lle arbennig am y dydd ynteu am gyfnod hwy, h.y. am wyliau. Roedd yn y fwrdeistref sirol 5 neu 6 o westai â brand cenedlaethol, ac nid oedd yr un ohonynt ym Mhorthcawl. Roedd nifer o leoedd o ddiddordeb hefyd i ymweld â hwy ar draws y fwrdeistref y tu allan i Borthcawl, er enghraifft, Neuadd y Dref Maesteg, twyni Merthyr Mawr, T? a Pharc Gwledig Bryngarw, Castell Coety, T? Carnegie, Canolfan Siopa Dylunwyr Pen-y-bont ar Ogwr, y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ymhlith eraill ar-lein, y gellid edrych arnynt ar wefannau fel 'Bridgend Bites'. Ychwanegodd hefyd fod yna nifer o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu’n aml gan ddarparwyr allanol, yn enwedig yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ddarparu nifer o wahanol stondinau, fel arfer dros gyfnod y penwythnos, yn gwerthu bwydydd a chynnyrch delicatessen.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Stirman

 

Pa gamau sy’n cael eu cymryd i gyfeirio twristiaid at fannau o ddiddordeb yn y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Ar-lein drwy wahanol wefannau, boed y rhain yn rhai’r Cyngor (e.e. Bridgend Bites) neu eraill, drwy hyfforddiant ‘Llysgenhadon’ Twristiaeth, a ariennir gan Gronfa Datblygu Gwledig yr UE, (y mae’r Aelod a ofynnodd y cwestiwn yn un ohonynt), neu drwy sefydliadau eraill sy’n ymwneud â threfnu rhyw ddigwyddiad penodol. Hefyd drwy hysbysebu digwyddiadau, drwy arddangos hysbysiadau cyhoeddus mewn mannau y mae’r Cyngor yn ymweld â hwy’n rheolaidd. Roedd hysbysiadau a chyhoeddiadau ar gael mewn canolfannau croeso. Gorffennodd drwy ddweud bod arwyddion ffordd parhaol hefyd yn cyfeirio twristiaid i leoedd fel T? Bryngarw, y Pafiliwn Mawreddog a mannau eraill o ddiddordeb ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.

 

Y Cynghorydd M Voisey i’r Arweinydd

 

O ganlyniad i'r ffaith nad yw Prif Weinidog Llafur Cymru wedi cymeradwyo ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd, sut bydd prosiect y Fargen Ddinesig yn ymadfer ar ôl y penderfyniad hwn sy’n drychinebus i economi De Cymru, ac a ddylai’r Cyngor hwn gael ail bleidlais ynghylch a ydym am barhau i fod yn bleidiol i Fargen y Ddinas, yn awr a’r ffeithiau wedi newid mor ddramatig? 

 

Ymateb

 

Mae mater ffordd liniaru’r M4 wedi bod yn destun cryn ddadlau, er y bydd y cynllun Metro Plus o gymorth. Mae hwn i gael ei ariannu ar y cyd gan brosiect y Fargen Ddinesig/Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn cynnwys cynnig ar gyfer parcio a theithio. Roedd yna ymdrech yn mynd ymlaen i ddod o hyd i gyllid ar gyfer Cysylltedd Digidol a, gyda hyn mewn golwg, roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal i edrych ar ffyrdd o sicrhau cyllid cenedlaethol y tu allan i arian y Fargen Ddinesig, i wella cysylltedd Band Eang.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M C Voisey  

 

A fyddai’r arweinydd gystal â rhoi gwybod sut y bydd Rhanbarth Caerdydd, a’r Awdurdod hwn yn neilltuol, yn elwa ac yn manteisio ar fuddion rhwydwaith symudol 5G a’r defnydd uchaf a ragwelir o geir trydan, er budd refeniw’r Awdurdod hwn.

 

Ymateb

Dywedodd yr Arweinydd fod gwelliannau mewn perthynas â ffordd liniaru'r M4 a thagfeydd traffig o gwmpas twnnel Casnewydd yn brosiect nad oedd erioed wedi bod yn rhan o gynigion prosiect y Fargen Ddinesig, felly nid oedd yn gweld yr angen i gynnal ail bleidlais yngl?n ag a ddylai Pen-y-bont ar Ogwr aros yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ai peidio, fel yr oedd yr Aelod wedi'i awgrymu yn ei gwestiwn gwreiddiol. Rhoddodd sicrwydd hefyd bod Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y mae'n gwasanaethu fel Cadeirydd iddo, wedi cynnig gweithio'n agosach â Llywodraeth Cymru, i adnabod ffyrdd y gellid lleihau neu liniaru tagfeydd traffig yn y rhwydwaith briffyrdd uchod ac o'i gwmpas. Byddai'r gost o adeiladu ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd oddeutu £1.6biliwn ac roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad oedd hyn yn fforddiadwy. Roedd yna fwriad i gyfrannu cyllid, fodd bynnag, tuag at becyn cynllun gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny, a oedd yn fwy fforddiadwy ac a fyddai'n gwella'r sefyllfa bresennol yn ardal Casnewydd, ac o bosibl yn cyflwyno gwelliannau ledled De Ddwyrain Cymru, yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai ymdrechion hefyd yn cael eu gwneud trwy gyflwyno ymgyrch briodol, i berswadio'r cyhoedd i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth sector cyhoeddus, (yn hytrach na'u cerbyd(au) eu hunain), megis bysiau, rheilffyrdd a seiclo. Byddai hyn yn helpu i leihau tagfeydd cerbydol a llygredd o allyriadau.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

Ysgrifennais at yr Arweinydd yn ddiweddar yngl?n â Th?’r Great Western Power, sy’n fargen economaidd rhwng De-ddwyrain Cymru a Swindon a Bryste. Nododd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi’r polisi hwn a’i fod yn ategu’r Fargen Ddinesig.

 

Un o bryderon y Fargen Ddinesig yw bod swm mawr o arian yn cael ei ail-ddosbarthu i Gaerdydd. Sut y gallwn fod yn dawel ein meddwl na fydd y polisi hwn yn ail-ddosbarthu rhagor o arian lleol ar draws coridor yr M4 i Dde-orllewin Lloegr?

 

Ymateb

Mae Cytundeb Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys 10 awdurdod lleol a'i fwriad yw ymdrin â phrosiectau am y 15 mlynedd nesaf. O ran Pwerdy Economaidd Mawr y Gorllewin, nid oes ymrwymiad wedi'i roi i hwn fel rhan o'r Fargen Ddinesig. Adroddiad a syniad yn unig ydoedd ar y cam hwn, er bod y ddau ranbarth yn rhannu rhai buddiannau cyffredin. Roedd hyn oherwydd bod buddiannau i'r naill ochr a'r llall, gan gynnwys cynyddu opsiynau ar gyfer trafnidiaeth reilffordd rhwng y lleoliadau y manylir arnynt ym mharagraff cyntaf y cwestiwn atodol uchod a thu hwnt, h.y. teithio ar reilffyrdd o Dde Orllewin Cymru i orsaf Paddington Llundain. Yn ogystal, roedd buddiannau cyffredin sylweddol mewn perthynas â chynyddu'r cysylltedd presennol rhwng economïau a sectorau addysg uwch ac ymchwil De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr. Bydd manteisio ar botensial llawn ynni adnewyddadwy Môr Hafren hefyd yn gofyn gweithio ar y cyd rhwng awdurdodau lleol ar ddwy ochr Môr Hafren. Nodau ac amcanion Pwerdy Economaidd Mawr y Gorllewin oedd cysylltu rhanbarthau yng Nghymru a Lloegr yn well, er mwyn hybu twf economaidd mwy cynhwysol ar gryn raddfa, trwy gysylltu dulliau cydweithredu allweddol. Byddai hyn o bosibl yn cynnwys cyflwyno Strategaeth Ddiwydiannol a fyddai'n arwain at isadeiledd cynyddol, a dulliau twf arloesol rhwng gwahanol ardaloedd. Roedd y rhain yn debyg iawn i rai o nodau ac amcanion prosiect y Fargen Ddinesig. Fodd bynnag, pwysleisiodd fod y ddwy fenter hyn yn dal i fod yn y camau cynnar ar hyn o bryd.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd J P Blundell

 

A fyddai’r Arweinydd yn cytuno, bod angen i’r Cyngor weithio gydag awdurdodau cyfagos, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd, fel bod trigolion sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol addas yn gallu anelu at a llwyddo i gael swyddi â chyflog uchel o fewn y rhanbarth maent yn byw ynddo.

 

Ymateb

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod a chytuno â'r pwynt hwn. Nododd fod cysylltedd sylweddol rhwng economi Pen-y-bont ar Ogwr a rhanbarth Dinas Abertawe ac felly Bargen Abertawe yn y gorllewin. Roedd yr awdurdod lleol yn rhan o Weithlu a sefydlwyd ac a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, er mwyn edrych ar opsiynau cyflogaeth ar y safle hwnnw petai ffatri injans Ford yn cau, sy'n ymddangos yn debygol o ddigwydd. Gyda'i gilydd, roedd partneriaid yn anelu at ddenu buddsoddiad mewnol i sicrhau swyddi yn lle'r rhain mewn busnesau newydd a busnesau presennol, i wrthbwyso'r 1,700 swydd a fyddai'n cael eu colli petai Ford yn cau'r ffatri injans. Gallai hyn fod yn brosiectau naill ai ar y safle Ford presennol, neu mewn lleoliad priodol arall yn rhywle arall yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Y Cynghorydd T Thomas i Aelod y Cabinet - Cymunedau

 

A wnaiff Aelod y Cabinet amlinellu unrhyw gynlluniau sut y bydd y Cyngor hwn yn lleihau allyriadau carbon gyda’r bwriad o sicrhau bod gweithgareddau’r Cyngor yn ddi-garbon net erbyn 2030?

 

Ymateb

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar flaen y gad o ran datrysiadau a phrosiectau ynni carbon isel arloesol. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ymwneud â Rhaglen Gwres System Smart ers 2013 pan gyflwynodd holiadur cyn-gymhwyso i’r Sefydliad Technolegau Ynni (ETI) ac fe’i dewiswyd o blith dros 70 o awdurdodau lleol ledled y DU i fod yn un o’r 3 awdurdod ar y rhestr fer a gafodd flaenoriaeth yn y rhaglen. Cymeradwyodd y Cabinet Strategaeth Ynni Ardal Leol a Chynllun Ynni Clyfar ar 19 Chwefror 2019. Mae’r rhain yn cynnig llwybr tuag at ddatgarboneiddio gwres o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Strategaeth Ynni Ardal Leol yn cynnig llwybr tuag at gyflawni targedau datgarboneiddio ac mae’r Cynllun Ynni Clyfar yn darparu’r manylion am sut y bydd technolegau, modelau busnes a chynigion defnyddwyr yn cael eu defnyddio a’u profi er mwyn gallu cynyddu’r raddfa a chyflawni’r targedau datgarboneiddio.

 

Mae’r Cynllun Ynni Clyfar yn mapio’n ffurfiol y ddarpariaeth yn y tymor agos ar gyfer cam cyntaf y Strategaeth Ynni Ardal Leol. Mae’r Cynllun Ynni Clyfar wedi’i alinio â chyfnodau amser Cyllideb Carbon Llywodraeth Cymru ac mae’n nodi’r prosiectau a’r gweithgareddau i’w cyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Nod y Cynllun Ynni Clyfar yw sicrhau’r manteision canlynol:

 

   Datgarboneiddio gwres o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

   Ysgogi twf economaidd

   Darparu cyfleoedd newydd am swyddi

   Denu busnesau newydd a rhai presennol i dreialu mentrau a thyfu o fewn y fwrdeistref sirol

 

Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod Datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru ar 29 Ebrill 2019 a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i sicrhau sector cyhoeddus niwtral o ran carbon erbyn 2030. 

 

Bydd Pen-y-bont ar Ogwr ar flaen y gad yn y trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch nodi adnoddau ac arian y bydd angen eu darparu, i alluogi’r Cyngor i gyflawni amcan niwtraliaeth garbon ar gyfer ei weithgareddau ei hun (gwasanaethau a daliadau eiddo). 

 

Bydd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio tuag at senario di-garbon net ac i sicrhau’r gostyngiad mwyaf posibl yn yr allyriadau carbon a gynhyrchir gan weithgareddau ac asedau’r Cyngor ei hun. Er mwyn cyrraedd y nod hon, bydd y Cyngor yn parhau i wneud y canlynol:

Gwella perfformiad ynni asedau ym mhortffolio adeiladu’r Cyngor i’r eithaf;

Cynorthwyo pob ysgol i leihau ynni, costau ac allyriadau;

Gwella’r ymgysylltu, y cyfathrebu a’r hyfforddiant sy’n gysylltiedig ag arbed ynni a charbon ym mhob adran o fewn y Cyngor;

Ymgysylltu â staff i fynd ati i wella ymwybyddiaeth o arbed ynni a chostau;

Sicrhau y gosodir mesuryddion effeithiol a monitro er mwyn lleihau gwastraff ynni y gellir ei osgoi yn effeithiol;

Cynnal archwiliadau ynni i nodi, mesur a blaenoriaethu cyfleoedd i arbed ynni o fewn ein hadeiladau a chynyddu cyfranogiad technolegau ynni adnewyddadwy i leihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad bod yn rhaid i bob cartref newydd fod mor agos ag sydd modd at fod yn ddi-garbon erbyn 2021.

 

A derbyn bod llawer o gartrefi wedi mynd drwy’r broses gynllunio’n ddiweddar neu wrthi’n cael eu hystyried ar gyfer eu hadeiladu o gwmpas 2021, sut gwnawn ni sicrhau bod y cartrefi hyn yn ddi-garbon?

 

Ymateb

 

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Polisi o’r fath, mae’r broses lle mae Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried ceisiadau cynllunio yn dod dan y gyfraith cynllunio a gyflwynwyd drwy ddeddfwriaeth ganolog, sef Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac mae awdurdodau lleol yn gaeth i’r ddeddfwriaeth hon. Pe bai Llywodraeth Cymru’n penderfynu gorfodi’r uchod, byddai’n rhaid i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru newid eu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) priodol,  fel y gallai’r Pwyllgor Rheoli Datblygu alw datblygwyr safle i gyfrif, h.y. drwy osod amod arnynt i gyflwyno agweddau di-garbon i adeiladau fyddai’n cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiadau tai newydd. Oni châi hyn ei wneud a bod newid yn y ddeddfwriaeth uchod, ni fyddai gan awdurdodau lleol, yn anffodus, y grym i orfodi Datblygwyr i adeiladu anheddau di-garbon.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd P A Davies   

 

Sut mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn dod ymlaen gyda lleihau allyriadau carbon drwy oleuadau stryd (lanternau)?

 

Ymateb

 

Rhaglen waith oedd yn parhau i fynd ymlaen oedd hon. Roedd gwaith wedi cael ei gwblhau ar dir Amlosgfa Llangrallo, lle y gosodwyd goleuadau ynni isel yn y maes parcio. Roedd y rhain yn rhatach i’w rhedeg na goleuadau ynni arferol. Roedd y Cyngor yn edrych drwy’r amser am ffyrdd o leihau’r ôl-troed carbon ym mhob peth yr oedd yn ymwneud ag ef, lle roedd cyfle i wneud hynny. O ran goleuadau stryd fel y cyfryw, a’r newid sy’n mynd ymlaen, roedd y Cyngor yn edrych ar ddarparu colofnau, oedd yn gollwng allyriadau carbon is, yn ogystal ag edrych ar ddulliau arloesol eraill, gan gynnwys cysylltedd WiFi, fel bod modd i aelodau’r cyhoedd gael mynediad at WiFi drwy’r math newydd hwn o golofnau.