Agenda item

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 1, 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151 adroddiad, a’i ddiben oedd:-

 

    Cydymffurfio â gofynion Cod Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf 2018

     Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf o 1 Ebrill hyd 30 Mehefin 2019 (Atodiad A)

     Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 i 2028-29 (Atodiad B)

     Nodi’r dangosyddion darbodus ac eraill a ragwelir ar gyfer 2019-20 (Atodiad C)

  Cymeradwyo trosglwyddiad cyllideb refeniw o £2,349,797 o gyllidebau dirprwyedig ysgolion i gyllidebau ar draws y Cyngor, ar ôl derbyn arian grant o’r un gwerth â hynny gan Lywodraeth Cymru, i gyfrannu at wariant cyfalaf fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.7.

 

 Fel cefndir, dywedodd fod CIPFA, ym mis Rhagfyr 2017, wedi cyhoeddi argraffiad newydd o’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn awdurdodau lleol. Roedd y Cod diwygiedig yn gosod gofyniad newydd ar awdurdodau lleol i bennu Strategaeth Gyfalaf, i gael ei chymeradwyo gan y Cyngor, yn dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn cymryd i ystyriaeth briodol stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaladwyedd a fforddiadwyedd. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy’n nodi’r cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a’r effaith ar gyflawni’r canlyniadau pwysicaf.

 

O ran monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2019-20, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a Swyddog Adran 151 fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod uchod, yn dod i gyfanswm o £54.471 miliwn ar hyn o bryd, yr oedd £36.665 miliwn ohono yn dod o adnoddau’r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda’r £17.806 miliwn oedd yn weddill yn dod o adnoddau allanol. Rhoddwyd dadansoddiad o hyn yn Nhabl 1 yn yr adran hon o’r adroddiad fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad wedyn yn crynhoi’r tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20. Caiff yr adnoddau cyfalaf eu rheoli er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cael y budd ariannol mwyaf posibl. Gall hyn gynnwys ad-drefnu cyllid er mwyn gwneud y gorau o grantiau’r Llywodraeth.

 

Rhoddai Atodiad A i’r adroddiad fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y cyllid oedd ar gael yn 2019-20 (yn ogystal â pheth sylwebaeth yn gysylltiedig â’r rhaglen), o’i gymharu â’r gwariant a ddisgwylid. Cafodd £8.286 miliwn o gyllid ei dreiglo ymlaen i 2019-20 ar gyfer cynlluniau nas cwblhawyd yn 2018-19, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet ar Berfformiad Ariannol 2018-19, a oedd yn cynnwys y cynlluniau a ddangosid ym mharagraff 4.3 o’r adroddiad.

 

Yna cyfeiriai’r adroddiad at gynllun a lithrodd i 2020-21, fel y manylir ym mharagraff 4.4 o’r adroddiad, yn ogystal ag ail-broffilio cynllun Neuadd y Dref Maesteg.

 

Roedd y rhan nesaf o’r adroddiad yn amlinellu nifer o gynlluniau newydd, a ariennir yn allanol, oedd wedi eu cymeradwyo ac a ymgorfforwyd hefyd yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.

 

Yna amlinellai paragraff 4.7 o’r adroddiad nifer o gynlluniau newydd, a ariennid gan y Cyngor, i’w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. Y rhain oedd:-

 

·        Canolfan Ddata TGCh;

·        Cyffordd Heol Mostyn, y Pîl;

·        Y Neuadd Fytholwyrdd;

·        Buddsoddi mewn Cymunedau

 

 

Dywedai paragraff 4.8 fod y Cyngor, ym mis Mawrth 2019, wedi cymeradwyo newid i’r amlen ariannu ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ac i hyn gael ei ymgorffori yn y Rhaglen Gyfalaf. Ymhelaethwyd ar y rhesymau am hyn yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid dros dro a’r Swyddog Adran 151 fod nifer o gynlluniau eraill o fewn y rhaglen uchod a oedd yn aros am gadarnhad o gyllid allanol dros gyfnod yr haf.


Byddai’r rhain yn llunio adroddiadau pellach i’r Cabinet a’r Cyngor maes o law. Roedd y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig wedi ei chynnwys yn Atodiad B i’r adroddiad.

 

Yna, eglurodd fod y Cyngor, ym mis Chwefror 2019, wedi cymeradwyo’r Rheolau diwygiedig ar gyfer Gweithdrefnau Ariannol, gan bennu’r Cabinet fel y corff i dderbyn yr adroddiad monitro ar y Strategaeth Gyfalaf a’r Dangosyddion Darbodus. Rhoddai Atodiad C i’r adroddiad fanylion y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2018-19, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2019-20, a nodwyd yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a’r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2019-20, yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig.

 

Cyfeiriai adran olaf naratif yr adroddiad at bwnc Monitro’r Strategaeth Gyfalaf.

 

Roedd hyn hefyd yn gofyn am fonitro buddsoddiadau nad ydynt yn rhai sy’n cael eu rheoli gan y Trysorlys a rhwymedigaethau hirdymor eraill.

 

O’r blaen, cymeradwyodd y Cyngor £1 filiwn yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer prynu asedau buddsoddi a gwariodd £520 mil ar gaffael adeilad swyddfa, oedd yn cynhyrchu incwm rhent o £56 mil y flwyddyn neu ychydig dros 9% o elw ar y buddsoddiad. Roedd £480 mil pellach ar gael o fewn y Rhaglen Gyfalaf, ond hyd yn hyn nid oedd opsiynau addas wedi’u nodi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a fyddai’n arwain at enillion rhesymol ac ar lefelau risg derbyniol. Yn y dyfodol, gallai’r Cyngor ystyried ehangu ei bortffolio buddsoddi mewn eiddo ac, os felly, byddai angen adolygu’r meini prawf a’r strategaeth fuddsoddi a gwneid hyn ar sail risg.

 

Daeth â’i chyflwyniad i ben drwy ddweud bod gan y Cyngor nifer o rwymedigaethau hirdymor eraill a oedd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf, a dangoswyd enghreifftiau o’r rhain ym mharagraff 4.15 o’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd un o’r Aelodau at baragraff 4.7 o’r adroddiad oedd yn dwyn y pennawd ‘Rhaglen Gyfalaf 2019-20 ymlaen’, a’r ffaith fod yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wedi mynegi ei bryder yn gynharach yn y drafodaeth ynghylch y gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg. Dywedai’r rhan hon o’r adroddiad fod adroddiad monitro’r gyllideb Chwarter 1 i’r Cabinet, yn gynharach y mis hwn, yn amlinellu’r arian refeniw, a ryddhawyd o ganlyniad i hysbysiad hwyr am arian grant untro gan LlC tuag at gyflog a phensiynau athrawon a diffoddwyr tân. Âi’r paragraff hwn o’r adroddiad ymlaen i ddweud bod y Cabinet wedi cynnig sefydlu 'Cronfa Buddsoddi mewn Cymunedau' gyda £2 filiwn o’r arian hwn er mwyn cefnogi’r rhaglen gyfalaf ar gyfer mân waith, drwy ei gwneud yn bosibl cyflawni mwy o welliannau cyfalaf ar Asedau’r Cyngor yng nghymunedau lleol Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Gan wybod am y pwysau parhaus ar gyllid Ysgolion, gofynnodd a oedd yn beth doeth i roi’r arian hwn yn y Rhaglen Gwaith Cyfalaf (yn hytrach na’i roi i ysgolion).

 

Dywedodd yr Arweinydd mai bychan fyddai effaith hyn o ran dyrannu arian yn y dyfodol ar gyfer pensiynau athrawon ac yn y blaen, oherwydd, os nad yw Llywodraeth Cymru yn neilltuo arian grant o 2020/21 ar gyfer hyn ar sail gylchol, yna bydd y cyllid y mae’r Cyngor wedi’i ddyrannu yn cael ei basbortio’n ôl i gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion fel nad ydynt dan unrhyw anfantais. 

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyngor:-

 

(1)        Yn nodi’r Rhaglen Gyfalaf am y cyfnod o 1 Ebrill 2019 hyd 30 Mehefin 2019 (Atodiad A).

(2)        Yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B).

(3)        Yn nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2019-20 (Atodiad C).

Yn cymeradwyo trosglwyddiad cyllideb refeniw o £2,349,797 o gyllidebau dirprwyedig ysgolion i gyllidebau ar draws y Cyngor, i gyfrannu at Wariant Cyfalaf, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.7 o’r adroddiad.   

Dogfennau ategol: