Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018/19 i’w gymeradwyo, gan ofyn i’r Aelodau nodi’r dyfarniadau a gyrhaeddwyd yn lleol ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rhoddai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir, ac yn dilyn hynny, esboniai fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi pwyslais cryf ar hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth, yn ogystal â gofalwyr sydd hefyd angen yr un peth.

 

Eglurodd mai prif nod ac amcan yr adroddiad (a’r cyflwyniad cysylltiedig) oedd rhoi trosolwg ar ofal cymdeithasol i’r Cyngor a phobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn anelu at amlygu’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â nodi blaenoriaethau ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriai paragraff 4 o’r adroddiad at y canllawiau ar gyfer yr adroddiad, oedd yn nodi’r gwahanol adrannau oedd yn ymwneud â’r chwe safon ansawdd cenedlaethol ar gyfer llesiant, oedd wedi eu nodi yn fformat pwyntiau bwled yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

Dangosai’r adroddiad a’r wybodaeth ategol fod gwasanaethau’n effeithiol ar y cyfan, o’u hasesu yn erbyn diwallu anghenion unigolion y mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Er bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r cyflwyniad yn cadarnhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gwella ar y cyfan, roeddent hefyd yn nodi meysydd lle roedd angen gwella a dangoswyd y rhain yn y blaenoriaethau ar gyfer 2019/20.

 

Roedd yr Adroddiad drafft wedi ei atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad eglurhaol, ac roedd llythyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru, yn amlinellu adolygiad o berfformiad yr awdurdod lleol yn y maes hwn, wedi ei gynnwys yn Atodiad 2.

 

Rhoddai paragraff 4.11 o’r adroddiad rai nodau a chamau gweithredu allweddol oedd yn cael eu gweithredu/cynnig, mewn perthynas â blaenoriaethau gwasanaeth cyfan a hefyd rai blaenoriaethau ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol i Blant fel y cyfryw. Yna rhoddai’r cyflwyniad fanylion am Adroddiad Blynyddol 2018/19, fel a ganlyn:-

 

Oedolion - Ffeithiau a Ffigurau allweddol                2017/18   2018/19

 

Cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau ac ail atgyfeiriadau        7604         7469

ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion

 

Nifer yr oedolion a gynorthwyir yn y gymuned                 5177         5198

 

Nifer y bobl a dderbyniodd becyn teleofal                        3162         3451

 

Nifer yr atgyfeiriadau i gymorth adfer yn y gymuned        1010         1043

(ARC)

Nifer y bobl a ddargyfeiriwyd o wasanaethau prif ffrwd      116           122

i’w helpu i aros yn annibynnol gyhyd ag sydd modd          857         1162

                                                                                   (yn ARC)  (yn ARC)

 

Nifer y bobl a gynhelir mewn gofal preswyl/nyrsio             676         700

 

Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am      1.52        4.79

resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth

75 oed a throsodd

 

Plant – Ffeithiau a ffigurau allweddol

 

Nifer y cysylltiadau yn ystod y flwyddyn                            6677        7945

 

Nifer y plant oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth                384         381

 

Y ganran o’r holl rhai sy’n gadael gofal sydd mewn          61%        64%

addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl

gadael gofal

 

Canran y plant 7-17 oed sy’n fodlon ar y gofal                   84%        86%

a’r cymorth a gawsant

 

Nifer y rhai sydd wedi gadael gofal oedd yn derbyn          116         153

Cymorth gan yr Awdurdod Lleol a’i bartneriaid ar 31 Mawrth

 

Canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant              86%      72%

o fewn amserlenni statudol

 

Y nifer ar y Gofrestr Amddiffyn Plant                                   161        191  

 

Oedolion – ein taith mewn rhifau

 

Drwy wneud y peth iawn…

 

        Cynorthwyo unigolion i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, trwy ddatblygu a buddsoddi yn ein gwasanaethau gofal yn y cartref a thechnoleg gynorthwyol (nodwch y perfformiad yn yr adran ffeithiau & ffigurau); a

        Cynyddu ein capasiti Gofal Ychwanegol (gan ddyblu o 39 o welyau yn 17-18 i 79 o welyau yn 18-19) sy’n rhoi sicrwydd i unigolion fod yna leoliad lle y gellir cael gafael ar ofal ar sail 24/7, ond gan cadw’r annibyniaeth o gael eich drws ffrynt eich hun.

 

Mae arbedion wedi dilyn....

 

           Gan fod lleoliad Cynllun Gofal Ychwanegol yn costio tua £115-120 yr wythnos i’r Cyngor, o'i gymharu â chostau o tua £600 yr wythnos am leoliad mewn cartref gofal – mae’n arwain at arbedion o dros £600 mil.

 

Plant - ein taith mewn rhifau

 

Drwy wneud y peth iawn…

 

Datblygu a buddsoddi mewn lleoliadau arbenigol a dewisiadau llety â chymorth/annibynnol o fewn y fwrdeistref sirol, a gwella ein gwasanaethau maethu mewnol, sy’n mynd i’r afael â’r cydbwysedd rhwng ein defnydd o asiantaethau maethu annibynnol (IFA) a’n tîm maethu mewnol.

 

Canran yn ôl Math o Leoliad:

2014

2019

Preswyl Annibynnol

3.16%

2.1%

Preswyl Mewnol

1.70%

2.1%

Maethu annibynnol

26.21%

16.80%

Maethu teuluol

15.78%

16.80%

Maethu Mewnol

39.08%

39.37%

Cyn Mabwysiadu

4.61%

4.99%

Lleoliad gyda Rhiant

7.28%

14.96%

Byw Annibynnol/â Chymorth

0.97%

2.36%

 

Canran y ôl Ardal Lleoliad:

2014

2019

O fewn Awdurdod Lleol CBS Pen-y-bont ar Ogwr

68.93%

69.82%

Yng Nghymru (awdurdod gerllaw)

16.02%

16.27%

Yng Nghymru (heb fod yn awdurdod gerllaw)

8.01%

7.09%

Yn Lloegr

2.43%

1.84%

 

 

 

Mae arbedion wedi dilyn....

 

Gyda chyfanswm gwirioneddol y gwariant ar leoliadau maethu a lletya LAC yn gostwng rhwng 17-18 a 18-19 – er gwaethaf pwysau chwyddiant

 

Blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2019/20

 

Mae’r nodau a’r camau allweddol fel a ganlyn:

 

·       Rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl dros y cymorth y maent yn ei dderbyn drwy ddarparu mynediad cynnar at gyngor a gwybodaeth;

·       Parhau i wella’r ffyrdd y mae’r Cyngor yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth da i’r cyhoedd, gan gynnwys cynyddu’r cymorth sydd ar gael drwy gydgysylltwyr cymunedol lleol;

·       Parhau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chymunedau yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau comisiynu;

·       Lleihau’r galw drwy raglenni ymyrraeth a chymorth cynnar wedi’u targedu;

·       Cefnogi’r gwaith o ddatblygu cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a lles cymunedol ar gyfer ein trigolion gyda phartneriaid ym maes iechyd;

·       Sefydlu model newydd o ddarpariaeth breswyl ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac edrych am y ffyrdd gorau o gwrdd â’u hanghenion fel unigolion, gan gynnwys cymorth y tu hwnt i 18 oed drwy gynnig llety arbenigol;

·       Cwblhau model gwasanaeth trosglwyddo i helpu plant anabl i symud yn esmwyth i fyd oedolion;

·       Cynorthwyo’r rhai sy’n gadael gofal i sicrhau llety priodol;

·       Gweithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector, cynghorau tref a chymuned a grwpiau cymunedol i ddiwallu anghenion lleol;

·       Gweithio gyda phartneriaid a’r trydydd sector i gryfhau cymunedau a nodi’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau yn lleol;

·       Galluogi grwpiau cymunedol a’r trydydd sector i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros asedau cymunedol;

·       Sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ardal Bwrdd Iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg i sicrhau na fydd y newid yn cael effaith anffafriol ar unrhyw ddinesydd;

·       Cefnogi gofalwyr wrth iddynt gyflawni eu rolau;

·       Recriwtio a chadw gofalwyr ar draws yr ystod o wasanaethau maethu;

·       Sicrhau bod Diogelu yn fusnes craidd ar draws y Cyngor;

·       Sicrhau’r gostyngiadau yn y gyllideb a nodwyd yn y strategaeth ariannol tymor canolig;

·       Datblygu’r diwylliant a’r sgiliau sydd eu hangen i gwrdd ag anghenion sefydliad sy’n newid;

·       Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i’r staff i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Roedd blaenoriaethau penodol ychwanegol wedi eu nodi ar ddiwedd pob adran yng nghorff yr adroddiad.

 

Nododd Aelod fod Absenoldeb oherwydd Salwch wedi cynyddu yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o 8.8%, a gofynnodd a oedd rheswm hysbys dros hyn a beth oedd yn cael ei wneud i geisio lleihau’r cynnydd hwn mewn absenoldeb. Gofynnodd hefyd beth oedd canran y salwch yn gyffredinol yn y Gyfarwyddiaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, er y bu cynnydd mewn absenoldeb oherwydd salwch ar draws y Gyfarwyddiaeth, fod y Rheolwyr Gr?p yn dilyn y canllawiau a amlinellwyd ym Mholisi Salwch ac Absenoldeb y Cyngor, a bod y sefyllfa yn cael ei monitro’n fanwl gyda chymorth Adnoddau Dynol er mwyn gostwng y lefelau presennol. Nodwyd bod lefelau wedi codi mewn meysydd/adrannau o’r Gyfarwyddiaeth lle cafwyd trawsnewid a newid sylweddol, h.y. drwy ailstrwythuro a rhesymoli staff ac yn y blaen.

 

Nododd Aelod yr arbedion, yr oedd yn rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu gwneud fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC), gan gadw mewn cof hefyd fod Cynllun Gweithredu yn ei le i ad-dalu gorwariant blaenorol yn y Gyfarwyddiaeth. Gofynnodd sut y gellid cyflawni hyn heb i’r lefelau uchel o wasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd lithro.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, drwy ddatgan y bydd yn rhaid cynnal safonau uchel o wasanaeth i’r henoed a’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, er y byddai hyn yn her, yn enwedig gan fod angen gwneud arbedion pellach, flwyddyn ar ôl blwyddyn fel rhan o Gyllideb y Cyngor.

 

Roedd a wnelo â gwneud pethau’n wahanol ac yn fwy arloesol na chynt, a gweithio’n gynyddol gyda rhanddeiliaid allweddol a darparwyr allanol fel ein cydweithwyr Iechyd. Cyfaddefodd, fodd bynnag, ei bod yn mynd i fod yn anodd ac yn heriol iawn i gyrraedd y safonau uchel a gyflawnwyd yn y blynyddoedd blaenorol o ran lefelau’r cymorth, a oedd yn edwino’n fewnol o flwyddyn i flwyddyn, o dan y cyfyngiadau a osodwyd gan y SATC.

 

Dywedodd un Aelod fod Adrannau Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, yn benodol, yn darparu gwasanaethau statudol hanfodol ar gyfer yr ifanc, yr henoed a’r mwyaf agored i niwed, a’u bod yn cael eu llywodraethu gan reoliadau a’u harolygu ar lefelau gwasanaeth a pherfformiad. Roedd hi’n bwysig felly fod y safonau uchel yr oedd pobl Pen-y-bont ar Ogwr wedi arfer â’u derbyn, o ran y gwahanol systemau cymorth oedd yn eu lle, yn cael eu cynnal a’u cadw.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, fod Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac yntau yn cael trafodaethau gonest a didwyll ynghylch lefel yr arbedion yr oedd yn rhaid eu gwneud yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a beth fyddai effaith hyn, yn enwedig o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r SATC gyfredol yn cwmpasu’r 4 blynedd nesaf ac mae’r arbedion y mae’n rhaid i’r Awdurdod eu gwneud yn ystod y cyfnod hwn yn ddigynsail, yn enwedig wrth ystyried bod angen £10 miliwn yn 2020/21 ac yna £8 miliwn pellach yn 2021/22. Ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, sicrhaodd yr Aelodau y byddai’r safonau uchel yr oedd y gwasanaeth yn eu darparu ar hyn o bryd yn cael eu cynnal. Yr hyn na allai ei warantu, fodd bynnag, oedd cynnal amrywiaeth eang y gwasanaethau ar y lefel a gynigir ar hyn o bryd.

 

Gwyddai Aelod drwy ymchwil, fod ystadegau yn arfer bod ar gael ledled Cymru o dan y ddeddfwriaeth briodol, yn amlinellu nifer y bobl a oedd wedi manteisio ar Ofal Seibiant a’r cynnig o Seibiannau Byr ac yn y blaen am gyfnod, fel rhan o’u cyfnod o ymadfer ar ôl salwch neu lawdriniaeth. Gofynnodd a oedd y data hwn yn dal i fod ar gael.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod fframwaith perfformiad wedi’i gyflwyno o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym yn 2016, drwy holl awdurdodau lleol Cymru, a fyddai’n adlewyrchu allbynnau o’r math y cyfeiriai’r Aelod atynt. Fodd bynnag, wrthi’n cael ei wneud yr oedd y gwaith hwn, ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y Gyfarwyddiaeth newydd ymgymryd â phrosiect mewn perthynas â Gofal Seibiant hefyd, er mwyn ceisio gwella a chael dewisiadau mwy hyblyg i gleientiaid, a byddai hi’n rhannu gwybodaeth am hyn gyda’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod.

 

Daeth Aelod â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy gymeradwyo’r System Rotâu ac anogodd bob Aelod i gymryd rhan yn y gwaith hwn wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018/19

Dogfennau ategol: