Agenda item

Diweddariad Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 1 2019 - 20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad mewn cydymffurfiad â gofyniad Cod Cyllid Cyfalaf Darbodus 2018 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, darparu diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf o 1 Ebrill hyd at 30 Mehefin 2019; cael caniatâd i adrodd i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 hyd at 2028-29 ac i nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill arfaethedig ar gyfer 2019-20.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro bod y Cyngor ar 20 Chwefror 2018 wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 2019-20 hyd at 2028-29 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Ers hynny, mae cynlluniau sydd heb eu cyflawni yn 2018-19 a chynlluniau ychwanegol sy'n gofyn cymeradwyaeth o ganlyniad i gronfa ychwanegol o gyllid.  Mae monitro gwariant cyfalaf yn flaenorol wedi'i gynnwys yn yr Adroddiadau Monitro Perfformiad Ariannol yn Chwarterol i'r Cabinet ac roedd monitro Dangosyddion Darbodus wedi'i gynnwys yn yr Adroddiadau Monitro Rheolaeth Trysorlys Chwarterol i'r Cabinet.  Gyda datblygiad y Strategaeth Gyfalaf 2019-20, roedd y Rhaglen Gyfalaf a'r Strategaeth Gyfalaf a'r Dangosyddion Darbodus wedi'u hymgorffori yn un adroddiad. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ar fonitro'r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 a oedd yn cyfansymio i £54.471M. Caiff £36.665M o'r cyllid hwnnw ei fodloni yn adnoddau'r Cyngor, gyda'r £17.806M sy'n weddill yn dod gan adnoddau allanol.  Darparodd fanylion o'r cynlluniau unigol yn y rhaglen gyfalaf, a oedd yn dangos y gyllideb sydd ar gael o'i gymharu â'r gwariant disgwyliedig.  Bydd un cynllun, sef gwelliannau i gyffordd Heol Mostyn, y Pîl, yn mynd i 2020-21 a bydd hefyd ail-broffilio Neuadd y Dref Maesteg.  Yn ogystal, roedd cynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol wedi'u hymgorffori i'r rhaglen gyfalaf, sef, Darpariaeth Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg; Grant Cynhaliaeth Ysgolion a Grant TGCh; Grant Trafnidiaeth a Grant Adnewyddu Priffyrdd ac Amlosgfa Llangrallo.  Rhoddodd fanylion y cynlluniau newydd a ariennir gan y Cyngor i'w cynnwys yn y rhaglen gyfalaf, ers cymeradwyo'r rhaglen ym mis Chwefror, sef, Canolfan Ddata; Cyffordd Heol Mostyn, y Pîl; Neuadd Bytholrwydd a Buddsoddi yng Nghymunedau.  Nododd bod nifer o gynlluniau yn y Rhaglen Gyfalaf yn disgwyl cadarnhad o gyllid allanol ac unwaith y bydd hwnnw'n hysbys, gallai arwain at rai cynlluniau yn cael eu hail-broffilio.       

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro bod y Cyngor wedi cymeradwyo ym mis Chwefror 2019 y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019-20, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus, ynghyd â rhai dangosyddion lleol.  Nododd mai bwriad y strategaeth gyfalaf yw rhoi trosolwg o sut mae strategaeth gyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgareddau rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau ynghyd â throsolwg o sut caiff y risgiau cysylltiedig eu rheoli a goblygiadau cynaliadwyedd y dyfodol.  I'r perwyl hwn, cafodd nifer o ddangosyddion darbodus eu cynnwys a'u cymeradwyo gan y Cyngor.  Mae gofyn i'r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion darbodus y dyfodol a'r gofyniad a nodir. 

 

Yn ogystal, adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ar fonitro'r Strategaeth Gyfalaf sy'n gofyn monitro buddsoddiadau nad ydynt yn rhai rheoli trysorlys ac atebolrwydd hirdymor arall. 

 

Cymeradwyodd yr Arweinydd y cynigion yn y rhaglen gyfalaf ac roedd yn falch o weld Amlosgfa Llangrallo yn cael buddsoddiad a oedd wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor ar y Cyd.

 

PENDERFYNWYD:               Y Cabinet :

·     nodi rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer cyfnod 1 Ebrill 2019 i 30 Mehefin 2019;

·     cytuno i gyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig i'r Cyngor i'w gymeradwyo;

nodi rhagamcanion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.       

Dogfennau ategol: