Cofnodion:
Gofynnodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am ganiatâd i weithredu argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) sydd wedi eu dylunio i sicrhau gall trosglwyddiadau asedau Blaenoriaeth 1 CAR eu symud ymlaen yn fwy effeithlon ac effeithiol a hefyd i gymeradwyo’r newidiadau cysylltiedig i'r polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol; a'r rhestr o Asedau Blaenoriaeth 1 CAT sydd ar fael ar gyfer prydles hir dymor neu gytundeb rheoli tymor byr.
Hysbysodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y Cabinet bod trosglwyddo asedau cymunedol yn draddodiadol wedi eu gwneud yn unol â Chynllun Rheoli Asedau 2021: Roedd Dogfen Gyfarwyddyd Trosglwyddo Asedau Cymunedol a 3 blaenoriaeth wedi'u pennu. Cyhoeddodd y Cyngor yn 2015, ganllaw wedi ei ddiweddaru ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, yn seiliedig ar y Canllaw Arferion Gorau wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, sy'n sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer proses pedwar cam. Mae gan Gr?p Llywio Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo datganiadau o ddiddordebau, achosion busnes, cymorth a chyllid drwy sicrhau bod unrhyw drosglwyddo ased cymunedol arfaethedig yn bodloni blaenoriaethau strategol, gofynion gweithredol a chyfeiriad dyfodol y Cyngor. Mae cymeradwyo i gael gwared ag asedau'r Cyngor, gan gynnwys trosglwyddiadau asedau cymunedol wedi ei ddirprwyo i'r Rheolwr Buddsoddi a Rheoli Asedau Strategol, gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn ymgymryd â chymeradwyo materion mwy cymhleth a chynhennus, neu maent yn cael eu hadrodd i'r Cabinet i'w cymeradwyo. Hyd yn hyn, dyrannwyd cyllid i dri phrosiect o Gronfa'r CAT.
Adroddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bod Gr?p Gorchwyl a Gorffen CAT sydd wedi ei sefydlu wedi ystyried dulliau sydd wedi eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol eraill i drosglwyddo cymunedol, yn benodol y dulliau Cynghorau Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot. Argymhellodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen bod y flaenoriaeth o asedau ar gyfer trosglwyddo ased cymunedol yn cael ei fireinio fel bod arbedion o dan y MTFS yn cael eu blaenoriaethu'n gywir. Mae newidiadau hefyd wedi eu hargymell i'r Polisi trosglwyddo ased Cymunedol i ystyried y newidiadau canlynol y mae'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn eu hargymell:
Bu i’r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol grynhoi argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
· Dylai rhestr o Asedau sydd ar gael ar gyfer trosglwyddo ased cymunedol gael ei gynnal a'i adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd;
· Dylai data ased (cydymffurfiaeth, arolygu cyflwr a chostau gweithredu) gael eu cyhoeddi i'r grwpiau cymunedol mor fuan â phosibl;
· Dylai modelau o Benawdau Telerau a thempled o Brydlesi ar gyfer grwpiau ased penodol eu defnyddio pryd bynnag fo'n bosibl gyda dull mabwysiedig o "Cymerwch o neu beidio";
· Dylai cyflwyno rhagamcanion incwm a gwariant am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf fod yn ddigonol ar gyfer y rhan fwyaf o drosglwyddiadau asedau cymunedol ond dylid gofyn am gynlluniau busnes manwl ar gyfer prosiectau cymhleth o hyd;
· Dylai dull seiliedig ar risg ei fabwysiadu ar gyfer yr Asesiad Diagnostig Busnes sy'n cael eu gwneud ar grwpiau gymunedau a'r asedau sy'n cael eu trosglwyddo;
· Dylai fod ceisiadau T&CCau a grwpiau cymunedol sefydledig yn cael eu rhoi ar lwybr cyflym yn enwedig pan fo'r ased sy'n cael ei drosglwyddo mewn amod cydymffurfio. Bydd y dull sy'n seiliedig ar risg yn galluogi matrics risg i'w gael ei gynhyrchu a nodi addasrwydd ar gyfer llwybr cyflym.
· Bydd y dull sy'n seiliedig ar risg hefyd yn sicrhau ni fydd disgwyl i'r rhan helaeth o grwpiau cymunedol gynhyrchu achos busnes manwl llawn.
· Mae angen gwerthuso adnoddau staff sydd eu hangen i symud ymlaen gyda throsglwyddiadau asedau cymunedol fel bod terfynau amser cytunedig yn cael eu bodloni a dull "tîm" yn cael e fabwysiadu.
Wrth gymeradwyo'r cynigion, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau mai'r catalydd ar gyfer newidiadau i'r broses yw bod gofynion presennol y Cyngor yn rhy anhyblyg a bod angen dull llwybr cyflym newydd er mwyn hwyluso mathau penodol o drosglwyddiadau. Dywedodd bod y trosglwyddiad diweddar o Gaeau Chwarae Bryncethin i Fryncethin RFC ar gyfer y datblygiad o ganolfan gymunedol wedi cymryd peth amser i gael ei wireddu. Roedd yn credu bod y cynnig yn cynnwys diogelwch integredig i'r awdurdod ac i'r sefydliad a oedd yn ceisio'r trosglwyddiad a bod cytundebau llywodraethu da wedi'u gosod. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod wedi mynychu agoriad diweddar y Ganolfan Gymunedol ym Mryncethin, ac roedd yr aelodau yn ddiolchgar iawn o ran y Cyngor yn y broses drosglwyddo.
Roedd yr Arweinydd yn falch o weld argymhellion y broses Craffu a Throsolwg yn cael eu hadlewyrchu yn y cynigion a'r dull llwybr cyflym ar gyfer partneriaid dibynadwy.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a fyddai'r swyddogion yn ystyried dull ar gyfer trosglwyddo ased o flaenoriaeth 2 neu 3. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bydd swyddogion yn ystyried dull felly ond bydd pryderon ynghylch clymu amser ac adnoddau swyddog, yn enwedig os fydd y mater yn gymhleth ac ond ychydig o adenillion i'r Cyngor.
PENDERFYNWYD: Y Cabinet:
(1) Cymeradwyo argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen CAT;
(2) Cymeradwyo'r ddogfen Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol diwygiedig;
Cymeradwyo'r rhestr o Asedau Blaenoriaeth 1 CAT sydd ar gael i drosglwyddo o dan brydles hir dymor, cytundeb rheoli tymor byr neu drwydded.
Dogfennau ategol: