Cofnodion:
Gofynnodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar gymeradwyaeth i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau i Bolisi Trafnidiaeth o Adref i'r Ysgol / Coleg yr awdurdod.
Bu i'r Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar roi gwybod i'r Cabinet bod gan yr awdurdod ddyletswydd statudol dan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i wneud trefniadau trafnidiaeth addas i hwyluso presenoldeb plant bob dydd yn y llefydd perthnasol lle maent yn cael eu haddysg neu hyfforddiant. Caiff hyn ei gyflawni'n bennaf drwy gontractio gwasanaethau trafnidiaeth o'r sector preifat. Caiff cymhwysedd disgyblion i dderbyn trafnidiaeth o adref i'r ysgol am ddim ei reoli gan Bolisi o Adref i'r Ysgol/coleg yr awdurdod lleol.
Bu i'r Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar adrodd ar arbedion a thwf cyllideb y MTFS a wnaed yn erbyn y gyllideb trafnidiaeth dysgwyr ers 2014-15. Er bod arbedion sylweddol wedi'u gwneud, mae newidiadau yn nemograffeg a galw wedi golygu bod twf cyllideb ychwanegol wedi bod yn angenrheidiol i gefnogi'r gyllideb trafnidiaeth dysgwyr. Cynigiwyd y dylid ymgymryd ag ymgynghoriad 12 wythnos llawn am ragor o welliannau i Bolisi Trafnidiaeth o Adref i'r Ysgol/Coleg yr awdurdod lleol i ddechrau fis Medi 2019. Bu iddi nodi'r cyd-destun deddfwriaethol a fyddai'n cael ei ystyried yn ystod yr ymgynghoriad.
Adroddodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar bod y trefniadau dewisol yn y polisi cyfredol yn anghynaliadwy ac er bod gostyngiad sylweddol yn y gyllideb o £1.7794M wedi'i wneud i'r gyllideb trafnidiaeth dysgwyr i gefnogi'r MTFS, nid oedd y newid yn y polisi a gymeradwywyd gan y Cabinet yn 2015 wedi cyflawni digon o arbedion i gefnogi'r gostyngiad mawr hwn yn y gyllideb. Argymhelliwyd y dylai'r Cabinet ystyried ailymweld ag elfennau dewisol y Polisi Trafnidiaeth o Adref i'r Ysgol / Coleg i gefnogi'r tros wariant rhagweledig o £761,000 fel yn Chwarter 1 2019-20 ac i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau parhaus yn erbyn y gyllideb trafnidiaeth dysgwyr o gymhwysedd statudol cynyddol. Prif nod yr ymgynghoriad fydd ymgysylltu â'r cyhoedd, yn bennaf, disgyblion a'u teuluoedd agos i ganfod eu safbwyntiau ar y newidiadau arfaethedig. Adnabu'r elfennau dewisol a'r arbedion posibl a oedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer teithio myfyrwyr.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad eu bod yn gofyn caniatâd i ymgynghori ar y cynigion a dynnir sylw atynt yn yr adroddiad ac roedd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyllido trafnidiaeth ôl 16 oed.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd y Cabinet ymgynghoriad 12 wythnos ar y cynigion canlynol:
· cael gwared â hebryngwyr o bob tacsi a bws mini (ac eithrio'r rheiny sy'n cludo disgyblion ag anghenion addysgol arbennig) sydd â llai nag 8 o deithwyr.
· tynnu trafnidiaeth yn ôl ar gyfer holl ddysgwyr sy'n elwa o lwybrau (diogel) sydd wedi eu nodi ac sydd ar gael yn unol â phellteroedd statudol o 2 filltir ar gyfer disgyblion oed cynradd a 3 milltir ar gyfer disgyblion oed uwchradd.
· cael gwared â diogelwch disgyblion 'brawd/chwaer' ac 'yn derbyn';
· cael gwared â Pholisi Trafnidiaeth rhwng y Cartref a'r Ysgol/Coleg yr awdurdod lleol o enghreifftiau penodol o amgylchiadau arbennig lle bydd yr awdurdod lleol yn cynnig trafnidiaeth disgresiwn.
· cael gwared â'r holl drafnidiaeth ar gyfer disgyblion meithrin; a
· chael gwared â holl drafnidiaeth ôl-16.
Dogfennau ategol: