Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Newidiadau arfaethedig i Wasanaethau Llyfrgell ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gynigion i ail-leoli'r gwasanaeth Llyfrgell o safle T?'r Ardd a hefyd yr angen gynllunio am y tymor hir o ran gwasanaethau Llyfrgell symudol a datblygu dull newydd i gynnal darpariaeth gwasanaethau Llyfrgell gan gynnwys opsiynau cyd-leoliad fel y cydnabuwyd o fewn strategaeth ariannol y tymor canolig.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet bod MTFS yn cydnabod arbedion pellach o gyfleusterau llyfrgell a diwylliannol ac yn berthnasol i wasanaethau, gan gynnwys adolygu’r nifer o gyfleusterau (llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol) a hefyd lleihau oriau agor gwasanaethau.  Dywedodd fod rhai o'r £150,000 o arbedion a nodwyd rhwng 2019–2021 wedi eu canfod, ond bod diffyg o £70,000 a oedd angen ei nodi. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod angen gwneud nifer o benderfyniadau yn fuan er mwyn cynnal dull effeithiol ac effeithlon tuag at weithredu gwasanaethau Llyfrgell.  Roedd angen ail-leoli'r ganolfan Hanes Lleol a Theuluol dros dro oherwydd y bwriad i gau adeilad T?'r Ardd i gyhoeddi derbynneb cyfalaf.  Dywedodd bod y cyfleuster yn denu 6,000 o ymwelwyr y flwyddyn a bod 3,500 o sesiynau TGCh wedi eu trefnu ar y safle yn 2018.  Roedd trafodaethau wedi eu cynnal gydag Awen er mwyn nodi lleoliad addas a chost effeithiol, a nodwyd "Llyfrgell y Llyfni" yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg.  Roedd gan y cyfleuster ddigon o le i gefnogi gwasanaeth dros do ac ystafell TGCh hefyd ar gael.  Yn dilyn ailddatblygiad neuadd y Dref Maesteg, cynlluniwyd i ail-leoli'r gwasanaeth hanes lleol a theuluol o fewn y cyfleusterau newydd er mwyn cefnogi cynaliadwyedd hir dymor y gwasanaethau llyfrgell a diwylliannol. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd ar gynigion i gefnogi cynaliadwyedd hir dymor o wasanaethau llyfrgell symudol.  Nododd bod Awen yn gweithredu dau ddull o ddarparu gwasanaeth Llyfrgell symudol yn bresennol, sef y cerbyd Llyfrgell symudol mawr sy'n ymgymryd â 10 llwybr, a'n cefnogi 361 o unigolion pob 3 wythnos, a'r gwasanaeth 'Booklink', sy'n cefnogi 282 o gwsmeriaid sydd yn gaeth i'w cartrefi gydag ymweliadau pob 5 wythnos.  Mae'r cerbyd llyfgrell symudol mwyaf yn 11 mlwydd oed erbyn hyn, yn profi methiannau'n rheolaidd a byddai cerbyd newydd yn costio tua £120,000.  Mae Awen wedi nodi gorgyffwrdd o ddefnyddwyr a chyfleoedd ar gyfer dull mwy hyblyg ac arloesol ac yn cynnig cynnydd yn nifer ac ystod y gwasanaethau llyfrgell symudol gyda cherbydau llai.  Awen fyddai'n gyfrifol am y gost.  Byddai'r cynnig yn golygu sefydlu amserlen safonol o 5 wythnos fel y cynllun Booklink presennol gyda defnyddwyr presennol y Llyfrgell symudol yn cael eu trosglwyddo i'r gwasanaeth newydd. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd bod y MTFS wedi nodi'r angen i ostwng £150,000 o'r ffi rheoli sy'n ddaliadwy i Awen rhwng 2019 a 2021, yn seiliedig ar adolygu nifer y llyfrgelloedd a hefyd lleihau oriau agor y gwasanaethau.  Tynnodd sylw at enghreifftiau lle mae gwasanaethau cyd-leoliad wedi bod yn gost effeithiol.  Roedd gwaith yn digwydd ar gyfer cyd-leoli cyfleusterau Llyfrgell o fewn ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg ac astudiaeth dichonoldeb cyfleoedd ym Mhorthcawl ar gyfer cyd-leoli. 

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet bod y bartneriaeth gydag Awen wedi bodloni'r targedau arbedion o £625,000 o fewn tair blynedd gyntaf y contract, sy'n cyfateb i 17% o'r cyllid gwreiddiol.  Yn ychwanegol, drwy integreiddio rheoli cyfleusterau Wood B / B Leaf i'r contract, daeth £120,000 o arbedion o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol pwysigrwydd llyfrgelloedd i lesiant pobl ac roedd yn falch o weld buddsoddiad parhaol i gyfleusterau llyfrgell, pan fo nifer o awdurdodau lleol wedi cau eu cyfleusterau.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod gan y Fwrdeistref Sirol wasanaeth llyfrgell ymfalchïo ynddo. 

 

Holodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau am nifer y cerbydau llai y cynigodd Awen eu prynu.  Mae'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am roi gwybod i'r Cabinet nifer y cerbydau llai y bydd yn cael eu prynu ar gyfer y gwasanaeth Llyfrgell symudol.

 

PENDERFYNWYD:                Y Cabinet:

 

  • Cymeradwyo BCBC ac Awen yn ail-leoli'r gwasanaeth Hanes Lleol a Theuluol i'r Llyfni, Maesteg, yn seiliedig ar yr angen i adael adeilad T?'r Ardd ar ôl ei gau.
  • Cymeradwyo'r ail-leoliad term canolig y gwasanaeth Hanes Lleol a Theuluol i Neuadd y Dref Maesteg fel lleoliad mwy addas a chynaliadwy wedi cwblhau'r gwaith buddsoddi cyfalaf sylweddol.
  • Cymeradwyo BCBC ac Awen i barhau â'r cynnig o wasanaeth Llyfrgell symudol yn seiliedig ar wella hyblygrwydd a chymorth a all ei lwyddo a nodi bod y cynnig yn cynnal gwasanaethau llyfrgell symudol. Mae cynnig y gwasanaeth symudol hefyd yn dileu unrhyw angen posibl am fuddsoddiad cyfalaf gan y Cyngor. Bydd y gwasanaeth yn amodol ar adolygiad o fewn cyfnod o 12 mis;

Cymeradwyo BCBC ac Awen i adolygu'r costau dangosol ac arbedion posibl o gyd-leoliad Llyfrgell ychwanegol neu wasanaeth perthnasol arall i bartneriaeth Awen ond hefyd i nodi oblygiadau posibl o leihau cyfleusterau ac oriau agor. Bydd unrhyw gynnig yn amodol ar adroddiad pellach.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z