I Gael Cyflwyniad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a ddiweddarai'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â SATC 2020-21 hyd 2023-24. Pwrpas yr adroddiad hefyd oedd hysbysu'r Aelodau ac eraill yngl?n â'r broses ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 er mwyn gwella'r gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.
Rhoddai'r adroddiad beth gwybodaeth gefndirol a chafwyd ynddo gadarnhad mai'r bwriad oedd ymgynghori ar Gyllideb SATC 2019 rhwng 9 Medi 2019 a 3 Tachwedd 2019.
Cafwyd yn adran nesaf yr adroddiad amlinelliad o'r dulliau a ddefnyddid i gynnal yr ymgynghoriad, gan gynnwys ymgynghoriad ar-lein ac ar bapur, yn ogystal â gosod hysbysebion mewn llefydd cyhoeddus.
Cynhelid cyfarfodydd cyhoeddus hefyd a'r bwriad yw ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned, gan eu bod hwy yn ymgyngoreion pwysig iawn.
Yna, rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 gyflwyniad PowerPoint a oedd yn dwyn y teitl, 'Brîff ynghylch Cyllideb y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig'.
Esboniodd fod cyllideb gyfredol y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi'i dyrannu fel a ganlyn:
Cyfarwyddiaeth/Maes Cyllidebol |
Cyllideb 2019-20 £’000 |
Cyfarwyddiaeth |
|
Addysg a Chymorth i Deuluoedd |
21,347 |
Ysgolion |
94,861 |
Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles |
70,894 |
Cymunedau |
25,422 |
Y Prif Weithredwr |
18,667 |
Cyfanswm Cyllideb pob Cyfarwyddiaeth |
231,191 |
Cyllidebau ar draws y Cyngor
|
|
Cyllido Cyfalaf |
7,329 |
Ardollau |
7,134 |
Ardoll Prentisiaethau |
700 |
Cynllun Lleihau’r Dreth Gyngor |
14,854 |
Premiymau Yswiriant |
1,588 |
Cynnal a Chadw Adeiladau |
870 |
Costau sy’n gysylltiedig â Phensiynau |
430 |
Cyllidebau eraill ar draws y Cyngor |
6,713 |
Cyfanswm y Cyllidebau ar Draws y Cyngor |
39,618 |
|
|
Cyfanswm |
270,809 |
Ariennir y rhan fwyaf o'r gyllideb net gan Lywodraeth Cymru a thrwy daliadau'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o’r cyllid o'r Grant Cynnal Refeniw oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond mae'r Cyngor hefyd yn cael cyfran o drethi annomestig / busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'r 2 ddyraniad hyn yn sefydlog ac maent yn cyfrannu tuag at 71% o'r cyllid. Daw'r gweddill o'r Dreth Gyngor. Dyma grynodeb a dadansoddiad o'r dosraniad:-
£ %
Y Grant Cynnal Refeniw 145,354,407 53.67
Trethi Annomestig 46,452,373 17.15
Incwm drwy'r Dreth Gyngor 79,001,854 29.18
Cyfanswm 270,808,634 100%
O ran y cyllid y bydd yn ei gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, bwriad y Cyngor yw cynllunio ar sail 3 senario, h.y. y Senario Orau, y Senario Fwyaf Tebygol a'r Senario Waethaf. Cyfeirir at gyfanswm y Grant Cynnal Refeniw a'r Cyfraddau Annomestig fel Cyllid Allanol Cyfun.
Senarios SATC 2020-21 hyd 2023-24 -%
Newid yn y Cyllid Allanol Cyfun
2020-21 2021-22 2022-23 2023-24
% y Newid % y Newid % y Newid % y Newid
Y Senario Orau -1.0% -1.0% -1.0% -1.0%
Y Senario Fwyaf Tebygol -1.5% -1.5% -1.5% - 1.5%
Y Senario Waethaf - 3.0% -3.0% -3.0% - 3.0%
Cynnydd yn y Dreth Gyngor +4.5% +4.5% +4.5% +4.5%
Effaith y Gwahanol Senarios ar Gyllid y Cyngor:
Cyfanswm y Cyllid Allanol Cyfun y mae'r Cyngor yn ei gael yn 2019/20 yw £191.807 miliwn. Dangosir isod effaith y 3 senario o ran cyllid Llywodraeth Cymru ar gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y Senario Fwyaf Tebygol yn arwain at leihad o £2.8 miliwn yng nghyllid y Cyngor, cyn ystyried unrhyw wasgfeydd ychwanegol.
Senario |
% y lleihad yn y Cyllid Allanol Cyfun |
Lleihad mewn miliynau |
Y Senario Orau |
-1.0% |
£1.918m |
Y Senario Fwyaf Tebygol |
-1.5% |
£2.877m |
Y Senario Waethaf |
-3.0% |
£5.754m |
Effaith Gwahanol Gynnydd yn y Dreth Gyngor
Y Dreth Gyngor gyfartalog ar gyfer eiddo Band D yn 2019/20 yw £1,470.87 ar hyn o bryd. Roedd y 3 senario yn y SATC hefyd yn tybio y byddai'r Dreth Gyngor yn cynyddu 4.5% ac y byddai hynny'n creu £3.5 miliwn, yn rhannol i wneud hyn iawn am y lleihad yn y Cyllid Allanol Cyfun ond hefyd yn rhannol i ysgwyddo'r gwasgfeydd ychwanegol. Mae'r wybodaeth ganlynol yn adlewyrchu'r gostyngiad neu'r cynnydd mewn incwm y gellid ei gasglu gan ddibynnu ar ganran y cynnydd yn y Dreth Gyngor y bydd y Cyngor yn ei chymeradwyo. Os yw'r gyfradd islaw'r 4.5% a dybir yn y SATC, mae'n bosib y bydd angen lleihau rhagor ar y gyllideb er mwyn mantoli'r gyllideb.
Cynnydd yn y Dreth Gyngor Y Dreth Gyngor Ychwanegol a Gesglir
+4.5% Cynnydd Tybiedig
+3.0% -£1.185m
+4.0% -£0.395m
+5.5% +£0.790m
+6.0% +£1.185m
+6.5% +£1.580m
Y Gwasgfeydd Ychwanegol ar y Cyngor
Amlinellir isod y gwahanol wasgfeydd ar y Cyngor, sy'n ychwanegol at y gostyngiad yn y cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.
At ei gilydd, mae'r gwasgfeydd hyn yn gyfystyr â thros £10.6 miliwn. Mae'r dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt wedi arwain at wasgfa ychwanegol ar y gyllideb.
Costau staffio - Effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol ynghyd â'r dyfarniadau cyflog na wyddys amdanynt (2% ar gyfartaledd yn 2019-20).
Cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at bensiynau athrawon.
Gwasgfeydd o ganlyniad i chwyddiant - saif y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar 2% ar hyn o bryd. Cynnydd ym mhrisiau ynni. Effaith Brexit, ac ati.
Gwasgfeydd deddfwriaethol - e.e. Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Senarios SATC 2021-21 hyd 2023-24 a'r effaith ar y toriadau cyllidebol angenrheidiol
Yn seiliedig ar y Senario Fwyaf Tebygol, mae'r Cyngor yn wynebu lleihad o dros £35 miliwn dros y 4 mlynedd nesaf o gyllideb o dros £270 miliwn - mae hyn gyfystyr â 13% o'r gyllideb gyfredol, neu 20% o'r gyllideb ac eithrio ysgolion.
|
2020-21 |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
Cyfanswm |
|
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
Y Senario Orau |
9,773 |
7,584 |
7,398 |
7,204 |
31,959 |
Y Senario Fwyaf Tebygol |
10,732 |
8,519 |
8,309 |
8,093 |
35,654 |
Y Senario Waethaf |
13,609 |
11,267 |
10,932 |
10,595 |
46,403 |
Statws Risg y Cynigion Cyfredol i Leihau'r Gyllideb
Mae'r tabl canlynol yn adlewyrchu cynnydd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i wneud hyd yma wrth sicrhau'r arbedion a ddangosir. Nid yw 83% o'r cynigion sy'n ymwneud ag arbedion, neu £29.5 miliwn o'r £35 miliwn, wedi eu datblygu ar hyn o bryd neu nid ydynt hyd yn oed wedi'u nodi. Yn ogystal â hynny, bydd yn rhaid adolygu'r cynigion hynny sydd eisoes wedi'u nodi a bydd yn rhaid penderfynu a ydynt yn dal i fod yn hyfyw ac a oes modd eu gwireddu. Felly, gallai'r diffyg hwn gynyddu.
Blwyddyn |
GWYRDD: Mae’r cynnig wedi’i ddatblygu ac mae modd ei weithredu |
MELYN : Mae’r cynnig yn cael ei ddatblygu ond mae ei weithredu yn peri risgiau |
COCH: Nid yw’r cynigion wedi’u datblygu’n llawn ac mae eu gweithredu yn peri risgiau sylweddol |
Y toriadau a nodwyd yn y gyllideb hyd yma |
Y toriadau yn y gyllideb nad ydynt wedi’u datblygu hyd yma |
Y cyfanswm angenrheidiol |
|
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
2020-21 |
37 |
1,040 |
2,603 |
3,680 |
7,052 |
10,732 |
2021-22 |
0 |
975 |
584 |
1,559 |
6,960 |
8,519 |
2022-23 |
0 |
900 |
0 |
900 |
7,409 |
8,309 |
2023-24 |
0 |
0 |
0 |
0 |
8,093 |
8,093 |
Cyfanswm |
37 |
2,915 |
3,187 |
6,139 |
29,514 |
35,653 |
Y cyfanswm angenrheidiol mewn canrannau |
0% |
8% |
9% |
17% |
83% |
100% |
Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 y Toriadau Targed ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth hyd 2023-24:-
Cyfarwyddiaeth |
2020-21 |
2021-22 |
2022-23 |
2023-24 |
Cyfanswm |
|
Targed |
Targed |
Targed |
Targed |
Targed |
Addysg a Chymorth i Deuluoedd |
1,911 |
1,465 |
1,423 |
1,379 |
6,178 |
Ysgolion |
949 |
949 |
949 |
949 |
3,794 |
Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles |
2,933 |
2,348 |
2,293 |
2,236 |
9,810 |
Cymunedau |
2,622 |
1,999 |
1,940 |
1,880 |
8,441 |
Y Prif Weithredwr |
2,318 |
1,758 |
1,705 |
1,650 |
7,430 |
|
|
|
|
|
|
CYFANSWM |
10,732 |
8,519 |
8,309 |
8,093 |
35,653 |
Daeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 â'i hadroddiad i ben drwy ddatgan bod gan y Llywodraeth adolygiad gwariant cynhwysfawr yn yr arfaeth a allai gael peth effaith ar y cyllid y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei gael oddi wrth Lywodraeth Cymru. Nid oedd dim sicrwydd eto ynghylch amseru'r adolygiad hwnnw a gallai hynny arwain at y senario waethaf, h.y. ni fyddai modd i'r Cyngor bennu ei SATC tan gyn hwyred â mis Mawrth. Cymharer hyn â'r amser arferol, sef mis Chwefror fel rheol.
Ychwanegodd fod peth ansicrwydd hefyd ynghylch y cyllid ar gyfer dyfarniadau cyflog a phensiynau i staff addysgu. Gallai hynny, ynghyd ag amseru unrhyw gyllid grant, hefyd gael effaith ar waith cwblhau'r SATC. Os caiff hyn ei gadarnhau tua diwedd y flwyddyn, yn hytrach chyn hynny, bydd fel rheol yn rhy hwyr i'w gynnwys yng nghyfrifiadau cyffredinol y gyllideb, a fyddai'n rhoi darlun mwy cywir o sefyllfa ariannol y Cyngor.
Ychwanegodd yr Arweinydd nad oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn gwybod faint fyddai'r Grant Cynnal Refeniw y flwyddyn nesaf. Gan mai'r Grant hwn oedd ffynhonnell incwm fwyaf y Cyngor, a than fod y sefyllfa'n gliriach, nid oedd modd darogan yr union arbedion y byddai gofyn i'r Cyngor eu gwneud.
Yna, gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau a oedd ganddynt gwestiynau ynghylch yr adroddiad esboniadol a'r cyflwyniad ategol.
Dywedodd Aelod ei fod yn galondid gweld bod bwriad i ddefnyddio gwahanol ddulliau ymgynghori ag etholwyr, gan gynnwys ymgysylltu â phobl o wahanol oedrannau, h.y. pobl iau a phobl h?n yn y gymdeithas, a hynny er mwyn cryfhau'r fenter a gyflwynwyd gyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod am grybwyll hyn ac ychwanegodd fod ymgynghori wyneb yn wyneb â'r cyhoedd ar y SATC bellach hefyd yn bosib. Fel arall, gallai pobl gwblhau arolwg ar-lein os oedd yn well ganddynt.
Hysbyddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod rhagor o ymgynghori ar y SATC wedi bod â'r cyhoedd y tu allan i'r awdurdod lleol dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd hyn yn cynnwys y sylwadau a ddaeth i law yngl?n ag ymhle yn union y dylai toriadau ddigwydd. Roedd y Swyddogion (ynghyd ag Aelodau'r Cabinet) bellach yn ymgysylltu â'r cyhoedd at y diben hwn drwy sesiynau mewn llyfrgelloedd lleol a thrwy gyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned. Roedd digwyddiadau ymgynghori hefyd yn digwydd yn ystod y dydd a chyda'r hwyr er mwyn annog pobl sy'n gweithio yn ystod y dydd i fod yn rhan o'r broses ymgynghori. Ychwanegodd y cynhelid y sesiynau mewn gwahanol ardaloedd daearyddol yn y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig ymgysylltu â'r cyhoedd ar gynigion y Cyngor er mwyn esbonio fod y Cyngor yn wynebu heriau anos bob blwyddyn, a hynny â chyllideb a oedd yn crebachu drwy'r amser. Yn ei farn ef, roedd yn bwysig bod etholwyr yn llawn sylweddoli nad oedd modd i'r Awdurdod gyflenwi rhai gwasanaethau allweddol fel y gallai yn y gorffennol gan fod ganddo, yn syml iawn, lai o arian i wneud hynny. Ychwanegodd fod rhai gwasanaethau anstatudol bellach wedi'u diddymu'n llwyr a dywedodd y gallai hyn fod yn dueddiad yn y tymor hirach. Esboniodd y byddai gan y Cyngor lai o staff yn y dyfodol ac y byddai'n rhaid iddo bellach weithio mewn ffordd fwy arloesol er mwyn goresgyn heriau a allai ddod i'w ran yn y dyfodol.
Diolchodd Clerc Cyngor Tref Pencoed i'r Swyddogion am y cyflwyniad heddiw. Serch hynny, ategodd y byddai'n awyddus i ddysgu rhagor am Gyllideb Gyfalaf y Cyngor ynghyd â'r sefyllfa o ran ei Gyllideb Refeniw.
Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai gwybodaeth am Gyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Awdurdod yn cael ei rhannu yn rhan o'r broses ymgynghori. Y bwriad hefyd yw esbonio'r gwahaniaeth rhwng y ddwy gyllideb.
Ategodd yn gyflym fod y cyllid refeniw a ddyrannwyd i'r Cyngor yn ddigon i ysgwyddo'r costau dydd i ddydd, gan gynnwys costau staffio. Yn sicr ddigon, roedd y rhan fwyaf o'r elfen hon o gyllideb y Cyngor yn cael ei gwario ar gostau staffio. Ar y llaw arall, roedd yr Awdurdod yn defnyddio'i gyllid cyfalaf i fuddsoddi yn ei asedau dros nifer o flynyddoedd. Dan y Rhaglen Gyfalaf, roedd modd benthyg i ariannu a/neu fuddsoddi mewn rhai cynlluniau yr oedd yn bwriadu'u cyflwyno. Fodd bynnag, rhaid oedd ad-dalu'r cyllid hwn. Ariennir nifer o gynlluniau penodol sy'n perthyn i'r Rhaglen Gyfalaf drwy grantiau allanol.
Hysbysodd Aelod (Cadeirydd Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb y Cyngor) fod y Panel yn 'cysgodi' sefyllfa ariannol y Cyngor o gychwyn hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol pan osodwyd y SATC, fel rhyw fath o gyfaill beirniadol. Ategodd hefyd fod y panel yn cyflwyno argymhellion i'r Cabinet ar rai cynigion cyllidebol drwy'r broses graffu. Esboniodd fod gan Gynghorau Tref a Chymuned swyddogaeth bwysig wrth gefnogi'r awdurdod lleol, yn arbennig felly wrth ariannu prosiectau cymunedol amrywiol drwy eu praeseptau. Gellid cynyddu'r praeseptau at y diben hwn. Dywedodd ei bod yn bwysig peidio â pharhau i gwtogi ar wasanaethau rheng flaen lle bo hynny'n bosib.
Nododd yr Arweinydd fod Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb yn gwneud gwaith rhagorol wrth roi cyngor ac adborth i weithrediaeth y Cyngor yngl?n â'r SATC. Ategodd fod aelodau'r Panel hwnnw yn cynrychioli holl grwpiau gwleidyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid y pleidiau mwyafrifol yn unig.
Roedd Is-Gadeirydd y Fforwm o'r farn fod cefnogi'r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol presennol yn gynyddol bwysig, a hynny gan fod ei gyllideb yn lleihau bob blwyddyn. Drwy weithio mewn partneriaeth, roedd gan sefydliadau megis Cynghorau Tref a Chymuned swyddogaeth allweddol wrth gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu neu gynnal safleoedd bws, meinciau mewn parciau, llefydd/meysydd chwarae, toiledau cyhoeddus a chyfleusterau tebyg eraill sydd o fudd i'r cyhoedd.
Roedd Aelod o'r farn y byddai'n fuddiol petai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu rhaglen ymhob ward o gynlluniau y gallai helpu i'w datblygu neu eu cynnal, gan gynnwys drwy'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Ychwanegodd y byddai hyn yn cyfrannu i sicrhau arbedion effeithlonrwydd i'r Cyngor.
Cydnabu'r Prif Weithredwr bwysigrwydd ymdrechion fel hyn i gydweithio yn y dyfodol am fod yr awdurdod lleol yn wynebu toriadau parhaus, gan gynnwys toriadau i feysydd gwasanaeth y cwtogwyd arnynt eisoes ar fwy nag un achlysur. Wrth i'r sefyllfa hon barhau, roedd pethau'n mynd yn gynyddol anodd ar y Cyngor.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi colli 400 o swyddi ers i'r toriadau gychwyn, ac roedd hyn yn anochel yn arwain at golli neu leihau gwasanaethau.
Os yw’r un gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y ddwy haen o awdurdod, dywedodd Aelod ei bod yn bwysig fod hyn yn digwydd yn ysbeidiol ac yn brydlon. Enghraifft o hyn oedd torri glaswellt.
Roedd yr Aelod hefyd o'r farn fod angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr barhau i gyfathrebu'n gadarn â Chynghorau Tref a Chymuned. Un ffordd o wneud hyn oedd drwy Aelodau'r Awdurdod hwn a oedd hefyd yn Aelodau o Gynghorau Tref a Chymuned.
Gofynnodd Aelod a oedd trywydd arall yn agored i'r Cyngor petai mewn sefyllfa ariannol anghynaladwy ac ar fin dod yn fethdalwr. Roedd hyn yn wir am o leiaf un Awdurdod yn Lloegr.
Cadarnhaodd yr Arweinydd na fyddai'r Cyngor yn mynd yn fethdalwr pe gallai fantoli'r gyllideb o'r naill flwyddyn i'r llall. Y flaenoriaeth oedd amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed a darparu cymorth parhaus i 59 o ysgolion yr awdurdod, yn ogystal â rhoi dewisiadau a gwasanaethau gofal gwahanol i bobl h?n. Ychwanegodd y byddai'r Cyngor hefyd yn ymdrechu i gynnal ei wasanaethau rheng flaen.
Ychwanegodd yr Arweinydd at y drafodaeth uchod drwy gadarnhau fod y Cyngor yn wynebu rhagor o doriadau heb eu tebyg o'r blaen. Rhaid oedd arbed £10 miliwn yn 2020/21 ac £8 miliwn arall yn 2021/22. Ychwanegodd y byddai'n anodd iawn sicrhau'r arbedion hyn ond rhaid i hyn ddigwydd.
Dywedodd Aelod fod taliadau'r Dreth Gyngor yn cyfrannu tuag at 20% o gyllideb y Cyngor flynyddoedd yn ôl ac ategodd fod y ganran bellach wedi codi i 29%. I lenwi'r bwlch, credai'n gryf y dylai awdurdodau lleol megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael rhagor o gyllid drwy'r Grant Cynnal Refeniw oddi wrth Lywodraeth Ganolog neu Lywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hwn yn fater yr oedd yn ei godi â Llywodraeth Cymru yn aml.
Dywedodd Aelod o Gyngor Tref Porthcawl fod y Cyngor acw wedi cychwyn o leiaf 16 o brosiectau, ond ategodd fod cynnydd y prosiectau hyn yn cael ei lesteirio neu ei rwystro yn bennaf o ganlyniad i anawsterau o ran perchnogaeth eiddo neu dir. Byddai rhai ohonynt yn cael eu prosesu drwy Gynghorau Tref a Chymuned ac roedd Cyngor y Dref wedi crynhoi oddeutu £420,000 i gynorthwyo i weithredu'r cynlluniau hyn. Os nad oedd y rhain wedi gwneud cynnydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol â'r cyllid wedi'i sicrhau'n llawn ar eu cyfer, byddai'r Archwiliwr a benodwyd i wirio'u cyfrifon yn cwestiynu hyn.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wrthi'n symleiddio'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol, er bod pob darn o dir neu safle yn y Fwrdeistref Sirol yn unigryw a'i fod yn peri rhyw fath o anhawster wrth i wahanol fudiadau ddod yn gyfrifol am gyfleuster, neu wrth i adeiladau newydd gael eu codi ar dir ac ati. Golygai hyn bod angen mabwysiadu dulliau gwahanol o weithio wrth gyflwyno gwahanol gynlluniau a phrosiectau, a hynny er mwyn goesgyn anawsterau sy'n ymwneud â pherchnogaeth, prydlesu, cyfamodau a materion cyfreithiol eraill.
Dywedodd Aelod y dylid mynd ati i ystyried cydweithio rhwng Cynghorau Tref a Chymuned cyfagos, fel y trafodwyd ynghynt, o ddifri bellach er mwyn cynorthwyo i ddarparu cymorth ariannol i brosiectau cymunedol, ac ati.
Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar y mater hwn i ben drwy gadarnhau y byddai'r gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned ar y ddau gynnig uchod, ac ar y SATC, wrth i honno ddatblygu a gwneud cynnydd, yn parhau.
PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad a'r cyflwyniad ategol.
Dogfennau ategol: