Agenda item

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2019

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, adroddiad, at ddibenion rhoi gwybod i'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau am ganlyniadau'r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) 2019 (wedi ei atodi yn Atodiad 1).

 

Eglurodd bod yr angen am werth 5 mlynedd o dir parod ar gyfer datblygu tai ym mhob Awdurdod Cynllunio Lleol ar draws Cymru yn ofyniad allweddol o bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i'r system gynllunio, drwy'r broses Cynllun Datblygu Lleol, ddarparu'r tir sydd ei angen i alluogi adeiladu cartrefi newydd ac mae gofyn bod Awdurdodau Cynllunio Lleol yn sicrhau bod tir addas ar gael er mwyn darparu cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai.

 

Y JHLAS yw'r mecanwaith mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn ei ddefnyddio i ddangos bod ganddynt werth pum mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai drwy ddarparu datganiad cytunedig o argaeledd tir ar gyfer tai wedi ei osod yn erbyn anghenion tai o Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig.

 

O ran y sefyllfa bresennol, cynghorodd y dylid nodi, fel ar 1 Ebrill 2018, nad oedd 18 o 25 Awdurdod Cynllunio Lleol Cymru yn medru dangos cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y nifer o geisiadau cynllunio tybiannol ar gyfer tai.

 

O ran y broses Rheoli Datblygiad, mae paragraff 6.2 o ganllaw TAN 1 yn cynghori bydd ffigwr cyflenwad tir ar gyfer tai yn cael ei drin fel mater i'w ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Pan fo astudiaeth yn dangos bod cyflenwad yn llai na 5 mlynedd, bydd yr angen i gynyddu cyflenwad yn derbyn cryn bwys wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.

 

Fodd bynnag, ychwanegodd, ym mis Gorffennaf 2018, datgymhwysodd Llywodraeth Cymru baragraff 6.2 o Hysbysiad Cyngor Technegol 1, Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (TAN 1), i ddileu'r cyfeiriad at atodi "cryn" bwysau i ddiffyg cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tair fel mater i'w ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod y safleoedd mwyaf addas ar gyfer tai yn cael eu cyflwyno fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol cyfundrefnol a thrylwyr.

 

Atodwyd JHLAS 2019 diweddaraf Pen-y-bont ar Ogwr i Atodiad 1 yr adroddiad. Wedi ei osod yn erbyn gofynion tai'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, mae'r Astudiaeth yn dangos bod gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gwerth 2.9 mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai (sy'n ostyngiad i ofynion 5 mlynedd y TAN 1) gyda chyfanswm o 3033 uned ar gyfer y cyflenwad tir o fewn cyfnod 5 mlynedd yr astudiaeth.

 

Oherwydd mai 2 flynedd yn unig sydd yn weddill (hyd at 2021) o'r cyfnod Cynllun Datblygu Lleol, sy'n llai na chyfnod 5 mlynedd y JHLAS hyd at 2023, mae dull mathemategol a ragnodwyd gan TAN 1 wedi ei ddefnyddio i gyfrif cyfartaledd blynyddol y gofyniad fel rhan o gyfrifiad y cyflenwad tir dros 5 mlynedd.

 

Yn olaf, cyhoeddodd y byddai canlyniadau'r Astudiaeth hefyd yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiad Monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol, ynghyd â'r rhesymau pam bod gostyngiad yn y cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai gofynnol. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y broses Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

PENDERFYNWYD:                    Y dylid cofnodi'r Gyd-Astudiaeth Tir ar gyfer Tai 2019.

Dogfennau ategol: