Agenda item

Prawf Gwybodaeth Gyrwyr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnwys manylion y weithdrefn ymgeisio gyfredol er mwyn cael trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat, a gofynnodd am gymeradwyaeth i roi Prawf Gwybodaeth i bob ymgeisydd newydd ar waith fesul cam.

 

O dan Adrannau 51 a 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, mae'n ofynnol i awdurdodau trwyddedu sicrhau bod unigolion sy'n derbyn trwyddedau i yrru cerbydau hacni a hurio preifat yn "addas a phriodol", a bod ganddynt y sgiliau a'r gallu priodol i ddarparu gwasanaeth teithio hurio a thalu i'r gymuned gyfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO).

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu fod llawer o'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru eisoes yn gosod prawf gwybodaeth i ymgeiswyr newydd. Mae'r rhain yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Powys, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent.

 

Esboniodd y dylid cynnwys amrywiaeth o feini prawf wrth asesu cymhwysedd gyrwyr. Rhestrir y rheiny yn adran 3.4 o'r adroddiad.

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu fod y cynnig cyfredol ar gyfer cynnwys y Prawf Gwybodaeth i yrwyr tacsi fel a ganlyn:

 

·         Cwestiynau Rhifedd/Llythrennedd

·         Deddfwriaeth Cerbydau Hacni a Hurio Preifat

·         Lleoliad Adeiladau a Lleoedd o Ddiddordeb / Lleoliad Strydoedd yn y Fwrdeistref Sirol

·         Ymwybyddiaeth o Anabledd a Chydraddoldeb

·         Diogelu

·         Llwybrau o fewn y Fwrdeistref Sirol ac i fannau pwysig o ddiddordeb y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol, ee meysydd awyr, lleoliadau diwylliannol a chwaraeon.

 

Esboniodd y byddai deunydd hyfforddi yn cael ei ddarparu yn rhan o'r broses ymgeisio. Dywedodd y byddai nifer o gwestiynau'n cael eu gosod yn gysylltiedig â phob testun.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu adran 4.3 o'r adroddiad i sylw'r aelodau. Roedd yr adran honno'n manylu ar nifer o gynigion yn gysylltiedig â'r prawf gwybodaeth ac yn croesawu unrhyw gwestiynau yn eu cylch.

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol am eglurder ynghylch ffioedd yn adran 4.8 o'r adroddiad. Gofynnodd y Swyddog a oedd ffi sengl o £25 yn cael ei chodi am y prawf, a'r ddau ymgais dilynol, neu a oedd y ffi honno'n gysylltiedig â phob prawf unigol.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod y ffi o £25 yn cael ei chodi am bob prawf a fyddai'n cael ei sefyll, a chytuno i aralleirio'r paragraff hwn er mwyn creu eglurder ynghylch y ffioedd ac osgoi unrhyw ddryswch.

 

Gofynnodd Aelod sut y byddai'r Swyddogion Trwyddedu yn mynd i orfodi'r ffi archebu o £10 pe na bai ymgeisydd yn dod i'r prawf.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu), pe bai'r ymgeisydd yn archebu ail brawf, y byddai'r tâl yn cael ei godi arno bryd hynny. Ychwanegodd, pe bai'r ymgeisydd yn penderfynu nad oedd am fynd rhagddo â'r cais, ee, pe bai'n cael swydd wahanol, ni fyddai unrhyw ffordd syml na chyfleus o godi'r tâl.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'n rhaid i'r ymgeisydd dalu'r ffi archebu o £10 pe bai'n wirioneddol sâl.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y byddai'r achosion hynny'n cael eu cyflwyno i'w hadolygu gerbron y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, er mwyn penderfynu ynghylch achosion dilys o salwch. Byddai'r achosion yn cael eu trin yn deg a gwrthrychol ym mhob achos.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai angen i yrrwr a oedd eisoes wedi sefyll y prawf gwybodaeth/llwyddo ynddo i ailsefyll y prawf ar ôl cyfnod o amser am unrhyw reswm.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i yrwyr sefyll profion dilynol. Ychwanegodd, pe bai'r llwybrau teithio'n newid yn sylweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr/yr ardaloedd cyfagos, neu pe bai'r ddeddfwriaeth yn newid yn sylweddol, gallai hynny fod yn rheswm i gynnal profion ychwanegol. Esboniodd y byddai hyn yn cael ei drafod wrth adolygu'r prawf, fel y nodwyd yn adran 4.7 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cael cyfle i weld y prawf cyn y byddai'n cael ei gyflwyno fel gofyniad safonol ar 1 Tachwedd 2019.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y byddai'r deunydd darllen yn cael ei ddarparu ar wefan y Cyngor. Cytunodd y gallai fod yn fuddiol darparu naill ai deunydd a oedd yn cynnwys cwestiynau enghreifftiol ac/neu adroddiad dilynol i'r Pwyllgor Trwyddedu.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad. Mynegodd bryder ynghylch y sefyllfa bresennol lle na fydd gyrwyr tacsi sydd newydd gael trwydded weithiau'n gyfarwydd â'r llwybrau cyffredin yn ardal Pen-y-bont a'r cyffiniau. Credai y byddai'r prawf gwybodaeth yn arf werthfawr i yrwyr tacsi newydd, yn hytrach na baich.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ymgynghoriad wedi'i gynnal â gweithwyr tacsi presennol.

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu na chynhaliwyd ymgynghoriad â gyrwyr tacsi presennol gan na fyddai'r prawf gwybodaeth yn effeithio arnynt.

 

Cynigiodd Aelod y dylid hysbysu'r cwmnïau tacsi ynghylch y prawf gwybodaeth.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y byddai'r cwmnïau tacsi yn cael gwybod bod y prawf gwybodaeth yn cael ei gyflwyno fel eu bod yn cael yr newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd. Esboniodd y gallent hefyd gyfeirio'r ymgeiswyr newydd i gael hyd i'r deunydd ar-lein.

 

Cadarnhaodd Aelod, pe bai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cael gwybod manylion penodol y prawf gwybodaeth, byddai'r Aelodau'n gallu rhoi mwy o gymorth/arweiniad i'w hetholwyr pe bai ganddynt ymholiad ynghylch gyrrwr tacsi neu daith yr oeddent wedi bod arni.

 

Gofynnodd Aelod beth fyddai ffurf y prawf, a sut y byddai ymgeiswyr yn sefyll y prawf.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) fod pedwar papur wedi'u paratoi ar hyn o bryd. Bydd pob papur yn cynnwys cwestiynau ychydig yn wahanol i'w gilydd, fel bod rhywfaint o amrywiaeth, ond fel bod yr un testunau'n cael eu trafod. Esboniodd y byddai'r prawf ei hun yn cael ei gynnal o dan amodau arholiad traddodiadol, lle byddai'r ymgeiswyr ar eu pen eu hunain mewn ystafell, y byddai uchafswm amser i gwblhau'r prawf, ac na cheid unrhyw ffonau symudol yn yr ystafell ac ati.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r prawf yn unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr, neu a yw yr un peth â'r hyn a ddefnyddir mewn Awdurdodau Lleol eraill.

 

Eglurodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) y byddai arddull y prawf yr un peth a'i strwythur yn debyg, ond y byddai'r cwestiynau'n gysylltiedig â llwybrau teithio yn fwy perthnasol i Ben-y-bont ar Ogwr a'r tueddiadau sy'n cyd-fynd â Phen-y-bont ar Ogwr yn hytrach na dinasoedd fel Caerdydd neu Abertawe.

 

Gofynnodd Aelod a oedd hi'n debygol y ceid llu o geisiadau cyn y dyddiad gweithredu.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm (Trwyddedu) y byddai hynny' anochel gan y byddai llawer o ymgeiswyr yn dymuno ymgeisio i fod yn yrwyr tacsi cyn i'r prawf gwybodaeth fod ar gael, ond ni ragwelwyd y byddai hynny'n destun pryder mawr.

 

Cytunai'r Swyddog Cyfreithiol nad oedd unrhyw ffordd o osgoi hynny rhag digwydd. Dywedodd fod yn rhaid cynllunio cyfnod o amser i weithredu'r prawf gwybodaeth yn gywir ac effeithlon, felly mae'n ddigon posib y bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno'n gyflym cyn i'r prawf fod ar gael.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ofynion o ran llwyddo - canran er enghraifft.

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu y byddai angen cael sgôr o 80% er mwyn llwyddo. Esboniodd nad oedd y prawf i fod yn anodd, ond bod disgwyl i yrwyr astudio'r deunydd a ddarperir. Dywedodd Aelod y byddai o fudd iddynt ddysgu llwybrau teithio cyffredin Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y byddai'r sgôr gofynnol er mwyn llwyddo yn y prawf, ynghyd â chynnwys y prawf, yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau bod y prawf yn dal i fod yn addas o ran lefel anhawster a chynnwys.

 

Gofynnodd Aelod am enghraifft o 'lwybr cyffredin' a allai ymddangos yn y prawf.

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu enghraifft o daith o Orsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr i Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn ôl.

 

Esboniodd fod y llwybr hwnnw'n boblogaidd a bod sawl ffordd o deithio rhwng y ddau le, felly roedd hi'n bwysig i yrwyr tacsi ddeall pa lwybr fyddai orau i'w gymryd er mwyn osgoi codi gormod o dâl gan y cwsmer.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Trwyddedu yn cymeradwyo'r canlynol:

 

Y cynnig i gyflwyno Prawf Gwybodaeth y rhan o'r broses newydd o ymgeisio am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat.

 

Cyflwyno ffi o £25 am bob ymgais i sefyll y prawf, i dalu am yr ymgais gyntaf a'r ddwy ymgais ddilynol (uchafswm o £75);

 

Cyflwyno ffi o £10 am fethu bod yn bresennol mewn prawf a archebwyd heb roi mwy na 48 awr o rybudd;

 

Bod manylion a chynnwys terfynol y Prawf Gwybodaeth yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, a phenderfynu cyflwyno'r Prawf Gwybodaeth o 1 Tachwedd 2019.   

Dogfennau ategol: