Agenda item

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad

Gwahoddedigion

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola EchanisPennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Andy Rothwell – Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a soniai wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 am ymateb drafft yr Awdurdod Lleol i'r argymhellion a bennwyd yn ystod arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg llywodraeth leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn gefndir i hyn oll, dywedodd fod Estyn wedi cynnal arolygiad o'r gwasanaethau addysg ym mis Mawrth 2019. Cadarnhaodd fod Estyn, drwy'r broses arolygu, wedi pennu pedwar argymhelliad y bydd gofyn i'r Awdurdod Lleol ymateb iddynt, ac mae'r argymhellion hyn i'w gweld ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofyn i'r Awdurdod Lleol gyflwyno Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad i Estyn erbyn 31 Awst 2019 a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â'r pedwar argymhelliad ac a fyddai’n ystyried y gwendidau a nodwyd drwy'r broses arolygu.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De wedi ystyried yr Adroddiad Arolygu, a oedd yn sail i'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn fanwl iawn a dangoswyd hyn yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad yn manylu ar fwriadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â phedwar prif argymhelliad Estyn, yn ogystal â chynlluniau'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r meysydd i'w datblygu a godwyd yn yr adroddiad. Ystyriwyd bod y rhain yn gyfres o 'is-argymhellion'.

 

Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor na chafwyd llawer o gynnydd wrth gwrdd â'r rhan fwyaf o'r mesurau deilliant a gafwyd yng Ngherdyn Cynnydd Tymhorol y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad. Y prif reswm dros hyn oedd y ffaith i'r Adroddiad Arolygu gael ei gyhoeddi ar 31 Mai 2019 a daeth tymor yr ysgol i ben 7 wythnos yn ddiweddarach. Felly, nid oedd modd bwrw 'mlaen â phethau yn gynt oherwydd y seibiant 6 wythnos dros wyliau'r haf. Yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, byddai modd sicrhau gwell cynnydd yn nhymor yr hydref.

 

Daeth â'i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau y byddai'r Swyddogion yn trefnu bod adroddiadau tymhorol ffurfiol, a fydd yn sôn am y cynnydd yn unol â'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn cael eu hanfon at y Gr?p Gwella Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol hefyd pe gellid rhannu peth o'r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Gr?p Gwella Ysgolion, ynghyd â chanfyddiadau'r Gr?p ei hun, â'r Aelodau ar ddiwedd pob tymor ysgol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gellid ystyried hyn mewn egwyddor.

 

Ychwanegodd mai un o nodau'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad oedd creu cysylltiadau agos â'r broses Trosolwg a Chraffu yn hyn o beth, yn ogystal â pharatoi adroddiadau mwy cryno i'r Pwyllgor(au) yn y dyfodol.

 

Ym marn y Cadeirydd, roedd yr Adroddiad Ôl-Arolygiad hwn yn dda a chadarnhaol iawn ar y cyfan. Roedd felly'n bwysig ei fod yn cael ei rannu â phobl megis plant, rhieni, gofalwyr, athrawon ac â phob cynulleidfa briodol ehangach arall.

 

Casgliad:

 

Roedd y cynigion a gafwyd yn y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad mewn perthynas â'r pedwar prif argymhelliad, ynghyd â'r cynlluniau i fynd i'r afael â'r meysydd i'w datblygu, yn galondid i'r Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r Swyddogion gyflwyno adroddiadau tymhorol mewn perthynas â'r cynnydd yn unol ag amcanion y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad i'r Gr?p Gwella Ysgolion. Gofynnodd hefyd am adroddiadau am y deilliannau hynny ar ddiwedd pob tymor i sicrhau y gweithredir ar yr argymhellion.

    

Dogfennau ategol: