Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC – AGGCC gynt) – Arolygu Cartrefi Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant adroddiad yn amlinellu adroddiadau a chyhoeddiadau cysylltiedig am y Cynlluniau Gweithredu yn dilyn adroddiadau arolygu ynghylch Sunnybank (Rhagfyr 2018), Bakers Way (Ionawr 2019) a Harwood house (Chwefror 2019).

 

Rhoddodd gefndir AGC i’r pwyllgor a hefyd manylu ar y mathau o arolygiadau blynyddol mae’n eu cynnal ar Gartrefi Plant. Rhoddwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad. 

 

Darparodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant grynodeb o’r canfyddiadau am bob un o’r 3 chartref plant a restrwyd yn flaenorol gan hefyd arddangos y meysydd gwelliant. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad a darparwyd yr adroddiadau llawn ar gyfer pob cartref gofal yn Atodiadau 1, 2 a 3.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod meysydd gwelliant mawr i ddechrau ar gyfer Harwood house yn dilyn yr arolygiad fel y rhestrwyd yn 4.10 yr adroddiad. Fodd bynnag, ddiwedd mis Gorffennaf, cynhaliwyd arolygiad pellach yn Harwood house a chadarnhaodd bod y meysydd nad oeddent yn cydymffurfio wedi cael sylw. Esboniodd mai dim ond ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod hwn oedd yr adroddiad drafft ar yr arolygiad hwn wedi’i dderbyn ac felly nid oedd modd ei ddarparu mewn pryd. Esboniodd y dylai’r adroddiad terfynol fod ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant wrth yr Aelodau bod Karl Culpeck, rheolwr rhanbarthol cartref plant Sunny Bank, yn bresennol heddiw i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau.    

 

Crybwyllodd yr Arweinydd ei fod wedi nodi dau gam gweithredu yn yr adroddiad oedd yn barhaus, y ddau ar gyfer Harwood House, a gofynnodd a oedd y materion hyn yn cael sylw. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod yr holl faterion a nodwyd wrthi’n cael sylw.

 

Crybwyllodd Aelod nad oedd cynlluniau personol y cartrefi plant wedi cael eu diweddaru’n rheolaidd ac roedd hon yn ymddangos fel thema gyson. Gofynnodd a oedd hyn wedi cael ei fwydo ymlaen i’r sefydliadau, i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru. 

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant mai Maple Tree House oedd y sefydliad arall yn yr ardal a chadarnhaodd bod pethau yn eu lle i sicrhau bod rheolwyr y sefydliadau’n bodloni ac yn rhannu arferion gorau gyda’i gilydd. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd a gwella. Cadarnhaodd Mr Culpeck bod cyfarfodydd rheolwyr yn cael eu cynnal a’u bod bob amser yn ceisio dysgu oddi wrth ei gilydd. Gofynnodd Aelod am iaith arwyddion - a oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar Signalong yn ogystal â Pecs fel dull cyfathrebu.

 

Cadarnhaodd Mr Culpeck bod Signalong yn ddull cyfathrebu yr oedd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ei gyfer. Mae’r hyfforddiant cychwynnol yn darparu gwybodaeth sylfaen am lawer o ddulliau cyfathrebu, i sicrhau bod gan bawb rywfaint o wybodaeth o’r dechrau.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant bod pryderon cychwynnol tra oedd newidiadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â staff, deddfwriaeth newydd, newidiadau mewn cofrestru ac arolygiadau a newidiadau mewn arolygwyr lleol. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo bod y rhain wedi’u rhoi mewn trefn yn awr.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allai’r Pwyllgor dderbyn diweddariad mewn 6 i 12 mis am y ddau gam gweithredu parhaus hyn oedd wedi’u nodi’n flaenorol.

 

Cytunodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant i ddarparu diweddariad mewn cyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol.

 

Canmolodd yr Aelodau y cynllun gweithredu a’r gwaith caled parhaus sy’n cael ei wneud gan y tîm ac roeddent yn falch o glywed bod y cyswllt â’r staff yn y cartrefi gofal wedi bod yn bositif.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet yn:

(1)  Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu wedi’i ddiweddaru;

Gofyn am ddiweddariad mewn 6 i 12 mis ar y ddau gam gweithredu parhaus oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z