Agenda item

Adborth Ar Ymadawyr Gofal Sy’n Mynd i Brifysgol

Cofnodion:

Gofynnodd yr Arweinydd am gyflwyno’r eitem hon yn gyntaf gan fod tri ymadäwr gofal wedi’u gwahodd i siarad gyda’r pwyllgor. Cytunodd y pwyllgor i symud yr eitem ymlaen ar yr agenda.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio adroddiad a oedd yn cyflwyno trosolwg i’r pwyllgor mewn perthynas ag ymadawyr gofal sy’n mynychu prifysgol ar hyn o bryd neu a oedd yn bwriadu mynychu prifysgol, eu profiadau a’r gefnogaeth a roddwyd gan yr awdurdod lleol. Hefyd dywedodd wrth yr Aelodau bod tri ymadäwr gofal yn bresennol i gyflwyno eu profiadau o fynychu prifysgol a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio bod y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol wedi derbyn adroddiad ar y 6ed Mawrth 2019 ynghylch y polisi ar Becynnau Cefnogaeth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal, a dderbyniodd gymeradwyaeth y Cabinet wedyn ar 19eg Mawrth 2019. Esboniodd mai un flaenoriaeth allweddol i CBSP oedd sicrhau bod pobl ifanc sydd eisiau mynychu addysg uwch yn gallu cyflawni hyn a bod cefnogaeth yn cael ei darparu. Darparwyd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.  

 

Darparodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio fanylion am y tîm 16+ ym maes Gofal Cymdeithasol Plant a’r gefnogaeth mae’n ei rhoi i ymadawyr gofal yn ystod y cyfnod pontio yn eu bywydadu. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad.         

 

Darparodd fanylion am Brifysgol Caerdydd a Phrosiect Dyfodol Hyderus First Campus a ddefnyddiwyd gan ymadawyr gofal 14 i 19 oed gan geisio gwella dyheadau a hyder. Cynhaliwyd y sesiynau’n fisol rhwng mis Hydref a mis Ebrill yn flynyddol. Roedd manylion pellach yn adran 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio wrth y pwyllgor bod 9 o bobl ifanc yn mynychu cyrsiau Prifysgol ar hyn o bryd, gan gynnwys MSc, MA, BA, HND a TAR. Rhestrwyd ystadegau am bresenoldeb y flwyddyn flaenorol o gymharu â 2019/20 yn 4.6 yr adroddiad.   

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio bod pobl ifanc yn y Brifysgol yn dewis byw yn eu llety annibynnol eu hunain. Fodd bynnag, os oeddent yn dymuno dychwelyd i’w lleoliad y tu allan i’r tymor, bydd y tîm 16+ yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i’r person ifanc, i wneud dewis doeth. 

 

Esboniodd y byddai gan y person ifanc gynghorydd personol sy’n cysylltu ag ef yn rheolaidd i weithio gydag ef a’i gefnogi os oes angen. Dywedodd bod y brifysgol yn lle yn aml lle mae pobl ifanc yn dewis ymddieithrio oddi wrth y tîm 16+ a bod hyn yn aml yn gallu achosi risg i’r person ifanc os bydd yn dechrau cael anawsterau, ac felly mae’r tîm yn ceisio cysylltu’n rheolaidd â’r person ifanc.

 

Darparodd y Rheolwr Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio esiampl i’r pwyllgor o berson ifanc oedd wedi rhoi’r gorau i’w astudiaethau ond a gafodd gefnogaeth gan y tîm i ddychwelyd atynt.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Becky, ymadäwr gofal a oedd wedi dechrau astudio yn y brifysgol yn ddiweddar, rannu ei phrofiadau.

 

Esboniodd Becky ei bod wedi dechrau yn y brifysgol y llynedd. Ei phryderon i ddechrau oedd y llety dros dro ac roedd yn credu y byddai’n cael anhawster gydag addysg bellach. Esboniodd bod y gwasanaeth gofal a roddodd y gefnogaeth yr oedd arni ei hangen i feithrin hyder i fynychu addysg bellach wedi ei helpu gyda nerfau a hyder yn gyffredinol.   

 

Disgrifiodd Becky y gefnogaeth emosiynol ac ariannol gan y tîm gofal fel cefnogaeth amhrisiadwy, gan ddweud na fyddai wedi ymdopi hebddi. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Holly, ymadäwr gofal arall sy’n astudio mewn prifysgol, rannu ei phrofiadau.   

 

Esboniodd Holly ei bod yn ei 3edd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio am gymhwyster Technegydd Treth gan Gymdeithas y Technegwyr Trethiant (ATT). Disgrifiodd y gefnogaeth fel cefnogaeth o gymorth mawr a’i bod yn gwerthfawrogi’r pethau bach gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig help gyda meithrin hyder. Roedd yn bwriadu ymgymryd â’i chymhwyster treth ymgynghorol ar ôl y flwyddyn academaidd hon ac roedd yn ffodus o fod wedi derbyn cynnig o gyllid ar gyfer hyn gan Gyngor Gwlad yr Haf. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Aime, ymadäwr gofal arall sy’n astudio mewn prifysgol, rannu ei phrofiadau.   

 

Esboniodd Aime ei bod yn un am greu helynt yn yr ysgol ac nad oedd o ddifrif gyda’i hastudiaethau bob amser. Esboniodd ei bod wedi gadael yr ysgol yn 16 oed ac, yn fuan wedyn, cafodd blentyn. Esboniodd Aime nad oedd wedi meddwl am waith wedi hyn, ac nad oedd ganddi unrhyw ddyheadau am yrfa, a achosodd ddiffyg hunanhyder yn ei gallu wedyn. Esboniodd Aime bod y gefnogaeth yr oedd wedi’i chael yn hynod fuddiol a’i bod wedi ei sbarduno i wneud mwy. O ganlyniad i’r gefnogaeth a gafodd, mae Aime yn astudio am Radd Meistr yn awr.    

 

Cyfeiriodd y tri ymadäwr gofal at y gefnogaeth gan fynegi eu diolch am yr hyn roeddent wedi’i dderbyn ac roedd y tair yn cytuno na fyddent wedi cyflawni’r hyn roeddent wedi’i wneud hebddi.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i’r ymadawyr gofal gan ofyn iddynt a oedd unrhyw sylwadau neu gyngor y gallent eu rhoi i’r staff. 

 

Esboniodd Becky bod cysondeb y pecynnau oedd yn cael eu cynnig i ymadawyr gofal yn amrywio. Esboniodd na chafodd hi gynnig y lleoliad ‘Pan Rwyf Yn Barod’ i ddechrau allan o amser tymor ei chwrs prifysgol. Cadarnhaodd Holly hefyd bod newidiadau i becynnau a bod rhywfaint o anghysondeb gyda beth oedd yn cael ei gynnig a phryd. Esboniodd Becky

bod rhai problemau cyfathrebu ar adegau, a oedd yn golygu nad oedd llawer o ymadawyr gofal yn deall beth oedd yn digwydd gyda’r newidiadau i’r pecynnau.  

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i’r ymadawyr gofal am eu sylwadau a dywedodd y byddai’n mynd â’r sylwadau yn ôl i’r tîm ac yn sicrhau bod gwybodaeth gliriach yn cael ei bwydo yn ôl i weithwyr cymdeithasol.

 

Ychwanegodd Aelod bod ganddi gefndir mewn gweithio gyda phobl ifanc a’i bod yn deall y profiadau y mae llawer o bobl wedi gorfod mynd drwyddynt. Gwnaeth sylwadau am brofiadau’r ymadawyr gofal gan ddweud ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan eu straeon a’i bod yn falch o weld cymaint o lwyddiant yn cael ei sicrhau. 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd sylwadau o ran ei bod yn ymddangos bod rhagfarn rhywedd yn bodoli, o ran bod llawer llai o fechgyn yn mynd i brifysgol. Gofynnodd a oedd unrhyw reswm hysbys dros hyn. 

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn fwy cyffredin i fechgyn ddewis llwybr prentisiaeth wrth adael yr ysgol. Roedd bechgyn yn dangos mwy o ddiddordeb yn gyffredinol mewn prentisiaethau na mewn prifysgol. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r ymadawyr gofal am rannu eu profiadau â’r pwyllgor ac roedd yn hynod falch o glywed am eu llwyddiant.                       

 

Hefyd diolchodd yr Arweinydd i’w gydweithwyr yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r ymadawyr gofal a fyddent yn gallu cyflwyno eu profiadau i ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, i ddarparu profiadau positif i fyfyrwyr a bod yn fodelau rôl iddynt, a dangos beth sy’n bosib i unrhyw un mewn unrhyw sefyllfa.     

 

PENDERFYNWYD: Bod y pwyllgor yn;

  • Nodi cynnwys yr adroddiad      

Cefnogi’r gwaith oedd wedi cael ei wneud hyd yma yn y maes hwn a pharhau â chefnogaeth yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: