Agenda item

Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Cllr Richard Young, Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Zak Shell, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Cymunedol

Guy Smith, Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Kevin Mulcahy, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Priffyrdd

Philip Beaman, Man Gwyrdd a Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth

Andrew Thomas, Rheolwr Gr?p , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gweithredol adroddiad a’i nod oedd cyflwyno i’r Pwyllgor ganlyniad yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer darpariaeth y Cyngor o’r uchod, er mwyn cefnogi darpariaeth fwy cynaliadwy yn ariannol, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynnydd cyfredol gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).      

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol amlinelliad o’r adroddiad ac wedyn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at unrhyw sefydliad annibynnol ar y Cyngor yn dod yn gyfrifol am fannau chwarae plant. Gofynnodd i bawb a oedd yn bresennol a fyddai’r Cyngor yn gwella’r offer mewn mannau chwarae mewn unrhyw ffordd, cyn i unrhyw broses o’r fath gael ei rhoi ar waith.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai pob ardal yn cael sylw fesul achos mewn sefyllfaoedd fel hyn. Ychwanegodd bod rhai Cynghorau Tref/Cymuned wedi/wrthi’n dod yng ngofal mannau chwarae i blant, naill ai’n annibynnol neu drwy TAC. Roedd y Cyngor, lle byddai hynny’n bosibl, eisiau trosglwyddo mannau chwarae gydag offer i blant gyda’r offer yn gynwysedig, yn y cyflwr gorau posibl y gallai fod. I’r diben hwn, gallai unrhyw fân waith cynnal a chadw ar offer o’r fath nad oedd yn ddrud iawn gael ei wneud cyn unrhyw drosglwyddo. Ychwanegodd ymhellach y gallai grwpiau a sefydliadau eraill ddod yn gyfrifol am y cyfleusterau hyn, nid dim ond Cynghorau Tref/Cymuned.

 

Gofynnodd Aelod, pe bai Cyngor Tref/Cymuned yn dod yn gyfrifol am unrhyw fannau chwarae i blant, gydag offer neu fel arall, a fyddai ganddynt bwerau wedyn i wahardd c?n o fannau o’r fath, fel y gallai’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ei wneud. 

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n rhaid iddo holi am y pwynt hwn gyda’r Adran Gyfreithiol.           

 

Dywedodd Aelod, pan mae damwain yn digwydd mewn man chwarae i blant a bod unrhyw esgeulustod yn cael ei brofi, h.y. offer wedi malu ac ati, CBSP sy’n atebol am hyn a gellid gwneud hawliad o bosibl, drwy ei Yswirwyr. Gofynnodd sut byddai hyn yn gweithio pe bai Cyngor Tref/Cymuned yn dod yn gyfrifol am ardal chwarae, oherwydd gallai hyn brofi’n eithaf drud, h.y. sicrhau bod yswiriant digonol yn ei le ar gyfer unrhyw ddamweiniau o’r fath ac unrhyw hawliadau wedyn yn codi o hyn.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol bod materion fel hyn yn cael sylw wrth i unrhyw Ddiddordeb gael ei Fynegi h.y. unrhyw gostau cudd, ac roedd y rhain yn rhan o’r trafodaethau dilynol. Roedd y Cyngor bob amser yn cynnal archwiliad blynyddol ar fannau chwarae gydag offer i blant, i sicrhau bod yr offer mewn cyflwr boddhaol yno. Roedd trosglwyddo’r cyfleusterau hyn yn nod er mwyn i’r Cyngor allu osgoi costau a gwneud yr arbedion angenrheidiol i gyd-fynd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC), felly byddai’r gwaith o gynnal a chadw mannau o’r fath yn y dyfodol yn dod yn gyfrifoldeb y sefydliad a fyddai’n dod i ofalu am y cyfleuster. Pe bai’r offer yn cael ei gadw mewn cyflwr rhesymol dda, byddai hyn yn atal damweiniau o’r fath rhag digwydd ac, yn ei dro, yn cyfyngu ar unrhyw hawliadau o’r fath i sefydliadau sydd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y mannau chwarae.             

 

Roedd y Cadeirydd yn ymwybodol bod 108 o fannau chwarae yn y Fwrdeistref Sirol a gofynnodd faint o’r rhain oedd wedi’u heffeithio gan yr arbedion cyffredinol gofynnol mewn perthynas â Chaeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd yr arbedion yr oedd rhaid eu gwneud yn y meysydd uchod wedi’u rhannu yn feysydd unigol, ond bod cyfanswm yr arbedion i gyd yn £69k yn 2019/20 ac arbediad dynodol pellach o £369k yn 2020/21. Byddai mwyafrif yr arbediad o’r fath yn dod o’r ddarpariaeth chwaraeon yn hytrach na mannau chwarae i blant. Roedd swm sylweddol o’r arbedion i’w gwireddu’n dibynnu ar sefydliadau eraill yn cytuno i ddod yn gyfrifol am y cyfleusterau/ mannau hyn ychwanegodd.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr o ran cynnal a chadw unrhyw rai o’r uchod a’r Cyngor yn ‘prynu yn ôl’ yng nghyswllt hyn bod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn agored i awgrymiadau. Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i ddweud mai dim ond pe bai sawl Cyngor Tref/Cymuned yn dod yn gyfrifol am gyfleusterau o’r fath y gellid edrych ar hyn, yn hytrach nag unrhyw feddiannu unigol gan ddim ond ychydig ohonynt. 

 

Nododd y Cadeirydd bod llai o dorri glaswellt wedi bod mewn caeau chwarae ac ati, yn unol â’r arbedion cyllidebol arfaethedig. Fodd bynnag, roedd yn dymuno nodi nad dim ond torri’r glaswellt oedd ei angen yn y lleoliadau hyn, ond hefyd chwynnu ac ati. Gofynnodd a oedd hyn wedi’i ystyried hefyd yn yr arbedion oedd wedi’u clustnodi. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol eu bod.

 

Gofynnodd Aelod a oedd dadansoddiad o’r costau ar gyfer cynnal a chadw parhaus ar un cae chwarae ar gael.         

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Priffyrdd y gallai ddarparu dadansoddiad ar gyfer hyn i’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod. Fodd bynnag, roedd y gost yn cynnwys gofalu am yr ardal yn ystod y tymor a’r tu allan iddo ac roedd yn cynnwys bwydo, hadu, awyru, torri’r glaswellt a hefyd yr amser a’r costau llafur cysylltiedig. Roedd lefel y gweithgareddau hyn yn dibynnu hefyd ar nifer y timau’n defnyddio’r cae chwaraeon. Roedd cost ychwanegol wedyn ar gyfer cynnal a chadw pafiliynau cysylltiedig, ystafelloedd newid, cawodydd ac unrhyw waith atgyweirio y byddai ei angen ar y rhain, oherwydd fandaliaeth. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau sylw’r rhai a oedd yn bresennol i dudalen 73 yr adroddiad a’r Raddfa Ffioedd a ddangosir yno ar gyfer defnyddio caeau a phafiliynau ac ati, ar gyfer rygbi, pêl droed, criced a bowls. Ychwanegodd mai’r sefyllfa bresennol oedd bod y Cyngor yn cynorthwyo gyda chost llogi’r rhain. Roedd adran uchaf y rhan hon o’r adroddiad yn adlewyrchu beth oedd y Cyngor yn ei dalu’n ôl ar hyn o bryd, pan oedd sefydliadau’n llogi’r ardaloedd hyn. Roedd adran isaf y rhan hon o’r adroddiad yn dangos yr arbedion maint posibl (ar bob achlysur) fel y cynigiwyd, o 1af Ebrill 2020. Ychwanegodd nad oedd y sefyllfa wrth symud ymlaen yn gynaliadwy mwyach a bod rhaid gwneud newidiadau er mwyn cyflawni’r arbedion sy’n cyd-fynd â’r meysydd gwasanaeth hyn.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd gostau blynyddol cynnal a chadw caeau chwarae, fel y manylir yn yr adroddiad, gan ei fod yn teimlo nad oedd y rhain yn ddigon manwl gywir ac yn rhy uchel. Teimlai fod oddeutu £5 i £6k y flwyddyn yn amcangyfrif mwy realistig, gan gynnwys costau parhaus.  

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol ynghylch pwynt cyffredinol, sef nad yw’r Cyngor mewn sefyllfa mwyach i gyllido cyfleusterau, gan gynnwys costau cynnal a chadw caeau chwarae, pafiliynau chwaraeon awyr agored a phafiliynau parciau ac mai’r ffordd orau ymlaen ar gyfer y Cyngor a’r sefydliadau oedd yn dod yn gyfrifol am y rhain oedd drwy TAC. Os na ellid gwneud yr arbedion oedd wedi’u dyrannu yn y gyllideb ar gyfer y rhain, byddai cyfleusterau o’r fath yn dirywio ac yn cael eu cau yn y diwedd. Ni fyddai TAC yn digwydd wedyn a byddai’n rhaid i’r clybiau a’r sefydliadau sy’n defnyddio’r cyfleusterau hyn naill ai wynebu sefyllfa o adfer y gost yn llawn amdanynt neu roi’r gorau i’w defnyddio.     

 

Nododd Aelod os oedd gan unrhyw glwb pêl droed neu rygbi nifer o dimau gwahanol oedd yn hyfforddi ac yn chwarae’n rheolaidd y byddai hyn yn arwain at gost sylweddol ar gyfer llogi cyfleusterau chwaraeon a chaeau chwarae. O ran Clwb Rygbi Tondu, roedd y gost gyffredinol i’r clwb am ddefnyddio’r uchod ym Mharc Pandy, Abercynffig, yn fwy na £40k y tymor, ac roedd yn teimlo bod hwn yn swm sylweddol i un Clwb ei dalu.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno â hyn. Ychwanegodd mai’r opsiwn gwell felly fyddai i’r Clwb geisio TAC ac wedyn dim ond cyllido’r costau rhedeg a fyddai’n profi’n rhatach. Yr unig opsiynau eraill oedd costau cyllido llawn (fel roeddent yn eu talu nawr) neu weld y cyfleusterau maent yn eu defnyddio’n peidio â gweithredu yn y dyfodol. Opsiwn arall fyddai ymarfer rhannu cost ar gyfer defnydd parhaus o gyfleusterau ar y cyd, gyda thîm pêl droed lleol er enghraifft.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 73 yr adroddiad a dywedodd bod graddfa’r ffioedd a ddangosir ar gyfer 2019 o gymharu â’r rhai arfaethedig ar gyfer 2020 wedi’u cyflwyno’n anghyson, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau/defnydd ar gyfer criced a bowls.

 

Cydnabu’r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y pwynt hwn a dywedodd y byddai’n edrych arno eto i roi dadansoddiad cliriach a mwy cyson o’r costau, gan fynegi’r rhain i’r Aelod wedyn, y tu allan i’r cyfarfod. Ychwanegodd nad oedd unrhyw ffioedd i’w talu ar hyn o bryd ar gyfer llogi caeau chwarae ar gyfer bowls, ond gallai hyn newid yn 2020/21, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.

 

Holodd Aelod a oedd y Cyngor wedi cynnal unrhyw ymarfer meincnodi gydag awdurdodau cyfagos eraill, er mwyn sefydlu beth roeddent yn ei gynnig o ran arbedion mewn perthynas â’r meysydd/cyfleusterau hynny sy’n rhan o’r adroddiad, fel rhan o unrhyw arbedion yr oedd rhaid iddynt eu gwneud wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol bod hyn wedi digwydd, yn fwyaf nodedig gyda Chynghorau Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf (ymhlith rhai eraill). Er bod gwahaniaeth barn ymhlith rhai ynghylch sut i godi ffioedd ar Glybiau a Chymdeithasau sy’n defnyddio cyfleusterau o’r fath, roedd y rhan fwyaf o’r awdurdodau hyn, ac eithrio Rhondda Cynon Taf, yn mynd i’r un cyfeiriad â CBSP, oherwydd cyfyngiadau ariannol parhaus.            

 

Anogodd y Cadeirydd rywfaint o ofal wrth symud ymlaen o ran fod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch cynnal a chadw cyfleusterau yn y dyfodol yn cael ei ryddhau o ofal uniongyrchol y Cyngor gan sefydliadau a chymdeithasau eraill h.y. a fyddent yn cael eu cynnal a’u cadw yn addas i bwrpas, ac yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod dim llai na 360 o wahoddiadau wedi mynd allan i sefydliadau allanol yn gofyn am Fynegi Diddordeb mewn cymryd yr awenau gyda rhedeg a/neu gynnal a chadw caeau chwarae a phafiliynau chwaraeon. Os na fyddai ymateb cadarnhaol i’r rhain, byddai rhai pafiliynau chwaraeon a pharciau a phafiliynau ac ati yn cael eu cau yn sicr.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y gallai caeau chwarae ac ati, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yn y dyfodol oherwydd yr arbedion sydd wedi’u clustnodi yn y maes hwn o dan y SATC, barhau i fod yn rhan o Dir y Cyhoedd a’u defnyddio at ddibenion eraill h.y. hamdden gyffredinol yn hytrach na chwaraeon penodol, felly efallai na fydd y defnydd o’r rhain yn dod i ben yn barhaol.

 

Gan fod hyn wedi dod â’r drafodaeth ar yr eitem i ben, gadawodd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fel bod y Pwyllgor yn gallu llunio unrhyw gasgliadau ynghylch yr eitem hon.

 

Sylwadau Cyffredinol:

 

Nododd yr Aelodau yn adran 7.5.2.1 yr ymgynghoriad ganran uchel y defnyddwyr hamdden cyffredinol ar gaeau a/neu bafiliynau chwarae’r Cyngor. Mynegodd yr aelodau bryderon y gallai’r clwb sy’n dod yn gyfrifol am y cyfleuster ddewis ei ffensio ac eithrio’r cyhoedd ohono. Sut bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol os bydd gofod agored cyhoeddus yn cael ei ffensio?

 

Dynododd yr ymgynghoriad ganran uchel o gefnogaeth i gynghorau tref a chymuned gynnal a chadw mannau chwarae, ond yn anffodus nid oedd y cwestiwn hwn yn nodi y gallai hyn arwain at gynyddu’r dreth gyngor leol er mwyn talu costau’r cynnal a chadw. Felly, nid yw’n glir pa mor ddilys fyddai’r gefnogaeth hon pe bai’r cwestiwn wedi cael ei esbonio’n llawnach. 

 

Roedd cefnogaeth gyffredinol i’r gostyngiad arfaethedig yn amledd y torri glaswellt mewn rhai ardaloedd os oedd hynny’n briodol, ond nodwyd nad yw dim ond gadael rhai ardaloedd heb eu torri’n gallu cymryd lle rheoli llai o dorri er mwyn gwella bioamrywiaeth.

 

Holodd Aelod a fyddai’r ardaloedd chwarae’n cael eu hadnewyddu neu eu huwchraddio cyn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref a Chymuned.

 

Mynegwyd pryder ynghylch sut mae safonau cynnal a chadw’n mynd i gael eu monitro yn y dyfodol os bydd sefydliadau amrywiol yn cynnal a chadw’r ardaloedd i safonau amrywiol. Mae perygl y bydd yr ased yn dirywio’n raddol oherwydd cynnal a chadw cyfyngedig neu wael / heb ei gydlynu ac felly efallai y caiff y cyfleuster ei golli i’r gymuned a chenedlaethau’r dyfodol. Pa fesurau diogelu sydd yn eu lle i atal hyn a sut mae hyn yn mynd i weithio gyda llai o staff ac adnoddau yn CBSP?

 

Awgrymodd yr aelodau y gallai opsiwn o brynu gwasanaethau ar y cyd yn ôl gan CBSP ar gyfer cynnal a chadw mannau chwarae gael ei godi yn y dyfodol ar agenda’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd na fyddai gan gynghorau tref/cymuned staff cymwys i ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd a chynnal a chadw. 

 

Nododd yr Aelodau y byddai’r archwiliad blynyddol a’r arolwg annibynnol y mae’n rhaid eu cynnal ar bob man chwarae bob 12 mis yn fwy cost-effeithiol pe bai CBSP yn eu cydlynu, gan ailgodi tâl priodol ar y cyngor tref neu gymuned. 

 

Mynegwyd pryder bod cyfeiriad y symud yn yr adroddiad yn anelu at fodloni’r SATC, ac nad yw hyn yn cyd-fynd yn llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.            

 

Mynegwyd pryder pellach bod yr adroddiad yn anelu tuag at gael gwared ar y cymhorthdal sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer defnyddio caeau chwaraeon, ond nodwyd bod gwasanaethau anstatudol eraill yn gweithredu sydd â lefel cymhorthdal (e.e. Canolfannau Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant) ac a yw’r rhain yn cael sylw yn yr un ffordd hefyd?

 

Gwybodaeth Bellach Ofynnol:   

 

Gofynnodd yr Aelodau am esboniad cyfreithiol ynghylch a ellid gwahardd c?n, pe bai Cyngor tref neu gymuned yn dod yn gyfrifol am redeg Cae Chwarae i Blant. Beth yw’r sefyllfa gyda gweithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar ardaloedd chwarae a chaeau chwaraeon?                     

 

Gofynnodd yr Aelodau am esboniad os nad yw clwb eisiau neu os nad yw’n gallu ysgwyddo cyfrifoldeb am gyfleuster, neu os nad yw’n gallu fforddio’r ffioedd newydd - a fydd y cyfleuster hwnnw’n cau yn y pen draw?

 

Nododd yr Aelodau raddfa’r ffioedd yn Atodiad E yr adroddiad, ond gofynnodd am ddadansoddiad manylach o’r costau. Rhaid dangos y gost cynnal a chadw flynyddol ar gyfer caeau chwaraeon. Roedd rhywfaint o ddryswch hefyd ynghylch beth sy’n digwydd pan mae mwy nag un clwb yn rhannu’r defnydd o gae. A yw’r ddau glwb yn talu’r ffi yn llawn fel yn yr esiampl a roddwyd gan Aelod mewn perthynas â’r caeau chwarae sy’n cael eu defnyddio gan Glwb Rygbi Tondu? Pe bai hyn yn digwydd, gallai arwain at y Clwb yn derbyn bil o tua £40,000 am ddau gae gyda llawer o dimau, sy’n fwy na’r gost gynnal a chadw wirioneddol.    

 

Nodwyd hefyd bod y gymhariaeth rhwng Caeau Chwaraeon (Criced) yn 2019 a 2020 yn dangos cost uned ac wedyn swm blynyddol, gan geisio rhagor o wybodaeth am gostau er mwyn cael cost gymharol o un flwyddyn i’r nesaf.                   

            

Dogfennau ategol: