Agenda item

Cynnig i Addasu Ardal Gwella Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cabinet i;

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r trefniadau ariannol a nodir ynddo.

2)    Dirprwyo awdurdod i arweinydd y cyngor i fwrw pleidleisiau'r Cyngor ym Mhleidlais yr AGB. Roedd yr adroddiad yn argymell i’r awdurdod gytuno i bleidleisio o blaid y bleidlais ddiwygio.

3)    Pe bai pleidlais lwyddiannus i ddiwygio’r AGB, i ddirprwyo awdurdod i'r prif swyddogion perthnasol i gymeradwyo, i gwblhau, ac i weithredu telerau'r weithred i amrywio'r cytundeb gwasanaethau sylfaenol a'r cytundeb gweithredu gyda Chwmni'r AGB.

 

Nododd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai a Mehefin 2016 a oedd yn manylu ar y broses o sefydlu Ardal Gwella Busnes (AGB) Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ardal CF31. Yn sgil pleidlais o blaid, sefydlwyd yr AGB a Chwmni Ardal Gwella Busnes CF31 Cyf ("Cwmni'r AGB") i reoli’r AGB, ac maent wedi bod yn weithredol ers 1 Hydref 2016. 

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod y ddogfen Adnewyddu'r Cais sydd o fewn yr adroddiad wedi cael ei hanfon at berchnogion y hereditamentau a’i bod yn cynnwys manylion am y newidiadau arfaethedig i'r AGB. Roedd y newidiadau arfaethedig fel a ganlyn;

 

  • Ffin -  Ail-lunio ffin yr AGB, mae map o'r ffin fel y byddai pe derbynnir y cynigion i addasu i’w weld yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn. Byddai hyn yn ychwanegu 12 hereditament arall i'r ardal.

 

  • Gwerth ardrethol – Newid gwerth ardrethol yr hereditamentau o fewn y ffin o £6,000 i £5,000.

 

  • Cynyddu’r taliad Ardoll o 1.25% i 1.5%.

 

  • Bydd y tymor AGB arfaethedig yn bum mlynedd, o 1 Hydref 2019 hyd at 30 Medi 2024.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol eglurhad o amserlen y Bleidlais, a oedd yn amlinellu'r Weithred, y Gofynion Rheoleiddio a’r Bleidlais Ddiwygio.    Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol beth oedd y goblygiadau ariannol i'r Cyngor dros gyfnod o 5 mlynedd fel talwyr ardrethi busnes, gan y byddai gan y Cyngor chwe eiddo o fewn ardal yr AGB arfaethedig pe byddai pleidlais o blaid.  

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei gefnogaeth i'r cynigion i ddiwygio'r AGB, a diolchodd i'r Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Eglurodd mai menter masnachwr tref oedd yr AGB yn hytrach na phrosiect y Cyngor. Dywedodd hefyd ei fod yn fodlon â’r tymor arfaethedig o 5 mlynedd, yn hytrach na'r tymor presennol o 3 blynedd, gan mai 5 mlynedd yw’r hyd safonol ar gyfer AGB.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod yr AGB yn helpu i ddarparu gwasanaethau anstatudol, rhai nad oedd modd eu darparu yng nghanol y dref am flynyddoedd lawer, ac ychwanegodd y byddai busnesau nad oeddent yn rhan o'r AGB yn debygol o elwa ohono.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yn falch fod busnesau wedi ymgysylltu’n gadarnhaol, a’i fod yn dangos eu brwdfrydedd dros wella canol y dref, a chynigiodd y dylai'r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r argymhellion.

 

Cefnogwyd y sylwadau hyn gan yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, a mynegodd ei gefnogaeth i'r adroddiad a dywedodd y byddai'r cynnig 5 mlynedd yn rhoi rhagor o amser i ganiatáu effaith fwy.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yn synnu nad oedd Asda wedi ymgysylltu na chefnogi o gwbl, ond credai mai penderfyniad cenedlaethol oedd hynny yn hytrach na phenderfyniad y siop leol.

 

Mynegodd yr Arweinydd ei foddhad bod amrywiaeth eang o fusnesau, gan gynnwys adwerthwyr mawr megis Peacocks a Home Bargains, yn ogystal â nifer o fanwerthwyr annibynnol fel Beth Daniel, Watkins Menswear, a Felicity Jewellers, wedi bod yn rhan o'r broses ac yn gefnogol o’r AGB. Diolchodd i'r bobl fusnes a wirfoddolodd i eistedd ar y Bwrdd am eu harweinyddiaeth, yn enwedig cadeirydd yr AGB, Beth Daniel.

 

Esboniodd y byddai pleidlais yn erbyn yn cael effaith negyddol ar yr asiantaethau ariannu y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu arnynt ar gyfer prosiectau adfywio yng nghanol y dref.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol ei chefnogaeth i'r cynigion, ond holodd pam nad oedd busnesau yn rhan ddeheuol y dref wedi’u cynnwys ar y map.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol fod y map wedi'i seilio ar yr ymgysylltiadau cychwynnol pan welwyd nad oedd y busnesau yn yr ardal a eithriwyd, p’un ai oedden nhw'n talu Ardoll ai peidio, yn defnyddio'r gwasanaethau nac yn cymryd rhan mewn unrhyw ffordd. Am y rhesymau hyn, penderfynwyd gwneud y ffiniau'n llai.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ei gefnogaeth i'r AGB arfaethedig ac roedd yn cefnogi’r argymhellion. Nododd y byddai cost o £23,000 £23,000 ond credai iddo fod yn fuddsoddiad cadarnhaol.

 

Eglurodd Rheolwr Gr?p - Adfywio Strategol iddo gael ei ariannu gan Gyllidebau Adfywio Strategol, ac y byddai'n parhau i gael ei ariannu ganddynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Cabinet wedi:

 

(i)          Nodi bod y cynigion i ddiwygio'r AGB a'r dogfennau atodol wedi'u cyflwyno a’u bod wedi'u cymeradwyo ar ran y Cyngor fel rhai sy'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau.

 

(ii)         Nodi y dylai’r Cyngor, ar ôl derbyn hysbysiad gan Gwmni'r AGB, gyfarwyddo'r Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais ddiwygio AGB, a bod y Cyngor wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Swyddog Canlyniadau gynnal pleidlais ar ddiwygio’r AGB drwy gyfrwng pwerau dirprwyedig.

 

(iii)        Cymeradwyo'r trefniadau ariannol a nodir ym mharagraffau 8.2 a 8.4 yr adroddiad.

 

(iv)        Cytuno i bleidleisio o blaid y cynigion i newid Ardal Gwella Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn y bleidlais ar ddiwygio’r AGB.

 

(v)         Dirprwyo awdurdod i Arweinydd y Cyngor i fwrw pleidleisiau’r Cyngor yn y bleidlais ar ddiwygio’r AGB.

 

(vi)        Pe bai pleidlais lwyddiannus i ddiwygio’r AGB (ac os cynhelir yr hysbysiad ardystio a chyhoeddi perthnasol fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau), rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog Gweithredol, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol a'r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a chwblhau telerau'r weithred i amrywio’r Cytundeb Gwasanaethau Sylfaenol gyda Chwmni'r AGB, ac i drefnu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol weithredu'r weithred i amrywio'r Cytundeb Gwasanaeth Sylfaenol.

 

(vii)       Pe bai pleidlais AGB lwyddiannus (ac os cynhelir yr hysbysiad ardystio a chyhoeddi perthnasol fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau), rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, i gymeradwyo a chwblhau telerau'r Cytundeb Gweithredu gyda Chwmni'r AGB, ac i drefnu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol weithredu'r Cytundeb Gweithredu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10:05am

Dogfennau ategol: