Issue - decisions

Welsh - Medium Capital Grant

06/02/2019 - Welsh - Medium Capital Grant

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chefnogi Teuluoedd gyflwyno diweddariad ar ganlyniad y cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a rhoi cyngor ar y ffordd ymlaen o ran datblygu'r cynllun.

 

Adroddodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi gwneud £30m ar gael dros Gymru ym mis Mawr 2018 ar gyfer prosiectau pwrpasol i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg.  Byddai'r cyllid hwn yn cynorthwyo i gyflawni ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac roedd yn ychwanegol at y dyraniad presennol a gyhoeddwyd ar gyfer Band B y Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Rhoddwyd ystyriaeth i'r ffordd orau i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Fwrdeistref.  Nodwyd fod diffyg darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arweiniodd hyn at benderfyniad i ganolbwyntio cynigion ar ofal sesiynol, gofal plant a gofal cofleidiol cyfrwng Cymraeg. 

 

Adroddodd fod cynnig £2.6m wedi'i gyflwyno i greu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mettws, Cwm Ogwr, Tref Pen-y-bont a Phorthcawl.  Nododd fod gwaith rhagarweiniol wedi dechrau ar ddatblygu pob un o'r prosiectau a bod tîm prosiect a gr?p llywio wedi'u sefydlu.  Bydd tîm y prosiect yn cyflawni'r elfen adeiladu ar y cynllun ac mae gwaith wedi dechrau ar gamau cychwynnol y prosiect yn canolbwyntio ar werthuso opsiynau mewn perthynas â thir datblygadwy.  Diben y gr?p llywio fydd cefnogi gwaith datblygu a chyflawni'r rhaglen cyfalaf cyfrwng Cymraeg. 

 

Wrth ganmol y cynigion dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod llawer o waith cynllunio wedi mynd i nodi'r lleoliadau a'i fod yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau.  Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr awdurdod ac roedd yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi cyfateb eu dyhead a dyhead yr awdurdod wrth ddyfarnu cyllid.

 

DATRYSWYD:          Bod y Cabinet:

 

(1)  Wedi nodi canlyniad y cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cais am grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg; ac

 

(2) Wedi cymeradwyo'r ymagweddu tuag at datblygu'r cynllun.