Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad, a’i ddiben oedd cael enwebiadau’r Cyd-bwyllgor a’u cymeradwyaeth i sefydliadau ar gyfer derbyn cyllid elusennol gan gynllun y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) ar gyfer adennill metelau sy’n deillio o amlosgiadau. a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cydbwyllgor am roddion elusennol a wnaed gan Amlosgfa Llangrallo.
Dywedodd fod Amlosgfa Llangrallo yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol ar gyfer Ailgylchu Metelau, sy'n deillio o'r broses amlosgi. Yna caiff unrhyw arian dros ben ar ôl didynnu costau o werthu metelau ei ddosbarthu i elusennau sy'n gysylltiedig â’r gwasanaethau profedigaeth, drwy'r ICCM.
Roedd paragraff 3.2 yr adroddiad yn rhoi rhai enghreifftiau o elusennau lle cyfrannwyd arian o'r fath o’r blaen.
Cyflwynir enwebiadau o bryd i'w gilydd i'r Cyd-bwyllgor eu hystyried ar gyfer elusennau ddylai gael budd o'r cyllid a gronnodd o werthu metelau, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal. Bydd yr Amlosgfa'n derbyn cais gan yr ICCM i enwebu elusen bob rhyw chwe mis.
Er mwyn sicrhau bod ystod eang o elusennau lleol yn derbyn cyllid, roedd rhestr wedi’i diweddaru o sefydliadau wedi cael ei chynnwys ym mharagraff 4.2 o’r adroddiad, i’r Cyd-bwyllgor ei hystyried. Mae'r elusennau hyn wedi cysylltu â'r Amlosgfa am arian. Dim ond un elusen, ychwanegodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth, y gellir ei henwebu bob tro.
Teimlai Aelod y dylid rhoi rhodd i elusen ar gyfer pobl ifanc o’r enw Eye to Eye, oedd yn cefnogi ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y rhodd ddiwethaf a roddwyd i’r sefydliad hwn yn 2015. Cefnogwyd yr awgrym hwn gan yr Aelodau.
Awgrymwyd a chytunwyd hefyd y dylid rhoi rhodd i Gymdeithas Alzheimer’s a rhoi hwn yn gyntaf ar y rhestr gydag Eye to Eye yn ail, yna’r gweddill fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad, yn cael eu henwebu yn y drefn y’u dangoswyd.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi’r rhoddion elusennol a wnaed gan Amlosgfa Llangrallo.
(2) Cytunodd y Cyd-bwyllgor i enwebu a chefnogi’r rhestr o elusennau addas, i’w cyflwyno am arian gan y Cynllun Ailgylchu Metelau Cenedlaethol yn y drefn a ddangosir yn yr adroddiad, yn dilyn enwebu elusen Cymdeithas Alzheimer yn gyntaf ac Eye to Eye (yn y drefn honno ).