PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnau’r Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, fel eu bod yn cymryd cyfrif o gyflwyniadau hwyr a diwygiadau y mae'n ofynnol eu cymryd i ystyriaeth.